Swyddog Mynegai

2 months ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd yn wasanaeth arloesol a blaengar yn y gyfarwyddiaeth Oedolion, Tai a Chymunedau yng Nghyngor Caerdydd. Mae’r gwasanaeth, a enillodd Wobr Ansawdd Teuluoedd yn Gyntaf yn ddiweddar, yn rhoi gwybodaeth, cyngor a chymorth o ansawdd i blant, pobl ifanc, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol ledled y ddinas.

Mae'r gwasanaeth yn defnyddio dull sy'n canolbwyntio ar y teulu, yn seiliedig ar gryfderau, ac yn gynhwysol i nodi’r gefnogaeth fwyaf priodol a fydd yn bodloni anghenion unigolion a’u teuluoedd. Mae'r tîm yn cydweithio gydag ystod o weithwyr proffesiynol a phartneriaid i sicrhau bod cefnogaeth ar y lefel iawn ac ar yr adeg iawn.

**Am Y Swydd**
Rydym yn ceisio penodi Swyddog Mynegai i rannu swydd 2 ddiwrnod yr wythnos (y dyddiau rheolaidd yw Dydd Iau a Dydd Gwener) ochr yn ochr â'r Swyddog Mynegai presennol.

Mae'r Mynegai Anabledd yn sicrhau bod teuluoedd plant a phobl ifanc ag anableddau neu anghenion ychwanegol yn cael y wybodaeth ddiweddaraf sy'n berthnasol ac yn fuddiol iddynt. Yn ogystal, mae'n cynorthwyo'r gwaith o gynllunio a chydgysylltu gwasanaethau sy'n cefnogi'r plant a’r bobl ifanc hynny, yn ogystal â'u teuluoedd.

Bydd deiliad y swydd yn allweddol i ddatblygiad parhaus y Mynegai a bydd yn gweithio i nodi anghenion gwybodaeth a chymorth plant a phobl ifanc sydd ag anableddau neu anghenion ychwanegol a'u teuluoedd.

Bydd angen i ymgeiswyr feddu ar gymwysterau priodol, profiad, sgiliau cyfathrebu ardderchog a’r gallu i baratoi gwaith o safon uchel yn gyson.

Byddwn yn cynnig y canlynol i chi:

- Amgylchedd gwaith cyfeillgar a chefnogol.
- Cefnogaeth a goruchwyliaeth reolaidd i'ch cefnogi yn eich gwaith.
- Rhaglen hyfforddiant eang a helaeth gyda chyfleoedd i hyfforddi mewn meysydd penodol.
- Systemau a thechnoleg sy’n galluogi ac yn hyrwyddo gweithio hybrid.
- Cyfle i ddarparu gwasanaeth i blant bach, plant, pobl ifanc a’u rhieni/gofalwyr sy’n gwneud gwahaniaeth iddyn nhw a’u lles.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Rydym yn chwilio am bobl â’r nodweddion canlynol:

- Brwdfrydedd, cymhelliant a phositifrwydd.
- Gwydnwch a gallu ymateb yn gadarnhaol dan bwysau.
- Brwd dros wneud gwahaniaeth i fywydau teuluoedd ledled y ddinas.
- Gallu i ymgynghori ac ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaeth i adnabod angen.
- Gallu i fynd ati i wrando, dadansoddi a chyfleu gwybodaeth a chyngor cywir i bobl yn glir ac yn syml.
- Parodrwydd i gynnig a derbyn adborth gyda'r nod o wella'r gwasanaeth a roddir.
- Gallu i flaenoriaethu ac addasu i anghenion y gwasanaeth.
- Gwybodaeth fanwl a chyfredol am wasanaethau sy’n cefnogi teuluoedd.
- y gallu i reoli eu gwaith ei hun,
- y gallu i gyfathrebu’n glir,
- dealltwriaeth o'r amrywiaeth o wasanaethau cymorth a therminoleg anabl neu anghenion ychwanegol a ddefnyddir i ddatblygu a chyflwyno'r Mynegai,
- y gallu i weithio’n agos ac ar y cyd ag ystod o sefydliadau partner,
- y gallu i gynnal perthynas broffesiynol dda â'r defnyddwyr gwasanaeth.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
For further information or an informal conversation about this post, please contact Jason Townsend, Family Gateway Information Officer on 07875 547518.
- Aged under 25.
- Not in employment, education or training.
- From our local communities including in particular disabled individuals, carers and those from the Cardiff BAME and LGBT+ communities.
- Ability to communicate fully in Welsh

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO03247