Rheolwr Prosiect

1 month ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae’r Tîm Cyflawni Newid, sydd wedi'i leoli o fewn y Gyfarwyddiaeth Adnoddau, yn cynnwys Rheolwyr Prosiect ac Uwch Ddadansoddwyr Busnes ac mae'n chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gyflawni prosiectau a mentrau newid busnes ar draws y Cyngor.

**Am Y Swydd**
Rydym yn awyddus i recriwtio Rheolwr Prosiect i weithio o fewn y tîm hwn. Bydd deiliad y swydd yn arwain, yn cynllunio ac yn rheoli prosiectau cymhleth a/neu ar raddfa fawr yn llwyddiannus er mwyn gallu cyflawni'r canlyniadau prosiect gofynnol a datblygu sgiliau a galluoedd rheoli prosiectau o fewn y gymuned rheoli prosiectau ehangach.

Byddwch yn gweithio'n agos gydag uwch reolwyr ar draws y Cyngor i gyflawni newid a sicrhau adroddiadau priodol ar gynnydd prosiectau i fyrddau prosiect perthnasol.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus:

- yn meddu ar brofiad o arwain a rheoli tîm prosiect.
- yn meddu ar brofiad manwl o lywodraethu prosiectau, datblygu briffiau prosiect a gwerthuso achosion busnes.
- yn meddu ar brofiad o reoli rhanddeiliaid gan gynnwys cyfathrebu gweledigaeth, rhesymeg dros newid a datrys gwrthdaro.
- yn fedrus wrth ddefnyddio offer a meddalwedd cynllunio prosiect a gallant ddangos y gallu i baratoi cynlluniau prosiect manwl.

**Gwybodaeth Ychwanegol**

Mae'r Cyngor wedi mabwysiadu arferion gweithio hybrid sy'n berthnasol i'r rôl hon, sy’n golygu bod modd gwneud gwaith yn y swyddfa, gartref neu mewn lleoliad addas arall.

Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: RES01107


  • Rheolwr Prosiect

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i gefnogi Strategaeth Ddata a Fframwaith Cynllunio a Pherfformiad Cyngor Caerdydd drwy gyflwyno cyfres o brosiectau gwybodaeth busnes. Nod y prosiectau hyn yw defnyddio data fel ased strategol ac ymgorffori penderfyniadau a arweinir gan dystiolaeth ar draws y sefydliad. **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeisydd...


  • Cardiff, United Kingdom Gofal Cymdeithasol Cymru Social Care Wales Full time

    Y Sefydliad Yn Gofal Cymdeithasol Cymru, rydym yn darparu arweinyddiaeth ac arbenigedd ym maes gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru. Ein gweledigaeth yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal a chymorth i blant, oedolion a’u teuluoedd a’u gofalwyr. I wneud hyn, rydym yn arwain ar ddatblygu a rheoleiddio’r gweithlu gofal...

  • Project Manager

    3 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Sustrans Full time

    £32,145 y flwyddyn (pro rata ar gyfer oriau rhan-amser) Oriau Llawn-amser 37.5 awr yr wythnos – yn fodlon trafod gweithio’n hyblyg. Cytundeb llawn amser hyd fis Mawrth 2027, gydag estyniad posibl yn dibynnu arariannu. Lleoliad: Hwb Caerdydd, o fewn polisi gweithio hybrid. Ynglŷn â’r rôl  Mae gennym gyfle newydd gwerth chweil i Reolwr Prosiect...

  • Project Manager

    24 hours ago


    Cardiff, United Kingdom Sustrans Remote Work Freelance Full time

    Project Manager (Wales) £32,145 per annum (pro rata for part time hours) (Ref: SUS4245) Full Time 37.5 hours per week – happy to talk flexible working.  FTC to March 2027, with possible extension depending on funding. Base: Cardiff Hwb, within a hybrid working policy. About the role We have a new and worthwhile opportunity as a Project...

  • Prif Beiriannydd

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle wedi codi i Brif Beiriannydd weithio o fewn yr Adran Dylunio, Contractau a Chyflenwi, gan ddarparu cefnogaeth i'r arweinydd tîm drwy arwain a chefnogi’r adran wrth ddarparu amrywiaeth o brosiectau seilwaith ledled Caerdydd.** **Am Y Swydd** Mae Contractau, Dylunio a Chyflenwi yn dîm sy'n ehangu'n gyflym ac maen nhw'n...


  • Cardiff, United Kingdom The Learned Society of Wales Full time

    Cymraeg: Rydym yn Cyflogi: Swyddog Cymrodoriaeth - The Learned Society of Wales (cymdeithasddysgedig.cymru) Ydych chi'n chwilio am rôl sy'n cyfuno eich sgiliau rhyngbersonol rhagorol gyda'ch arbenigedd o ran trefnu a rheoli prosiect? Rydym yn chwilio am rywun sy'n drefnus iawn, gyda sgiliau cyfathrebu rhagorol - sy'n gallu rhedeg a...

  • Swyddog Cymrodoriaeth

    7 hours ago


    Cardiff, Cardiff, United Kingdom The Learned Society of Wales Full time

    Cymraeg:Rydym yn Cyflogi: Swyddog Cymrodoriaeth - The Learned Society of Wales )Ydych chi'n chwilio am rôl sy'n cyfuno eich sgiliau rhyngbersonol rhagorol gyda'ch arbenigedd o ran trefnu a rheoli prosiect? Rydym yn chwilio am rywun sy'n drefnus iawn, gyda sgiliau cyfathrebu rhagorol - sy'n gallu rhedeg a gwella proses sefydledig yn effeithiol, ar yr un pryd...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Tîm Diogelwch Cymunedol (TDC) Cyngor Dinas Caerdydd yn cydweithio â sefydliadau statudol ac anstatudol i nodi, a lliniaru trosedd, anhrefn, ac ymddygiad gwrthgymdeithasol gyda'r amcan o leihau troseddu, cefnogi'r rheini sy'n agored i niwed, a chynyddu diogelwch y gymuned. Mae'r Tîm Diogelwch Cymunedol wrthi'n canolbwyntio ar y...