Rheolwr Gweithredol

3 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â thîm Datblygu Cyngor Caerdydd. Rydym yn ymateb yn uniongyrchol i angen tai Caerdydd drwy weithredu rhaglen adeiladu newydd fawr lwyddiannus sydd â’r gallu i ddarparu 4,000 o gartrefi newydd a buddsoddi'n sylweddol yn ein cymunedau presennol. I wneud hyn mae gennym Gyllideb Cyfalaf gwerth dros £800 miliwn a phiblinell ddatblygu o dros 60 o safleoedd. Rydym yn darparu cartrefi cyngor newydd, cartrefi i’w gwerthu a chartrefi newydd i brynwyr tro cyntaf sydd ar gael drwy ein cynllun Cartrefi Cyntaf Caerdydd, ynghyd â phrosiectau adfywio a buddsoddi lleol.

Gan ddefnyddio datrysiadau arloesol, cofleidio dulliau Modern o Adeiladu a symud yn gyflym tuag at safon carbon isel rydym yn darparu cartrefi newydd ar raddfa a chyflymder. Mae angen y bobl gywir sydd â phrofiad datblygu i ymuno â'n tîm a helpu i wireddu ein dyheadau. Rydym yn frwd dros adeiladu cartrefi gwych, creu cymunedau cynaliadwy a sicrhau bod seilwaith gwyrdd, dylunio trefol a chreu lleoedd o safon wrth wraidd yr hyn a wnawn.

Oherwydd swydd wag newydd o fewn y tîm, rydym yn recriwtio ar gyfer Rheolwr Gweithredol i fwrw ymlaen â Chynllun adfywio Trem y Môr. Mae'r prosiect cyffrous hwn yn un o'r cynigion mwyaf i ailddatblygu ystadau ers degawdau a bydd yn darparu cartrefi newydd o ansawdd uchel, ynni effeithlon a charbon isel i'r gymuned bresennol.

**Am Y Swydd**
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ategu ein Uwch Dîm Datblygu presennol ac yn darparu cyfeiriad strategol ar gyfer prosiect Trem y Môr. Yn rheoli tîm presennol Trem y Môr (2 swyddog) a rhoi'r adnodd a'r arbenigedd ychwanegol sydd ei angen arnom ar lefel uwch i sicrhau bod ein prosiect datblygu cyffrous hwn yn symud ymlaen.

Bydd y swydd yn goruchwylio’r gwaith o gaffael partner datblygu - o gyhoeddi’r pecyn tendro, ymdrin ag eglurhadau a drwodd i werthuso'r ceisiadau. Pan benodir y partner Datblygu bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rheoli adeiladu cam 1 a'r datblygiad dylunio, cyflwyno cynllunio a chais grant, ar gyfer camau'r prosiect yn y dyfodol ynghyd ag ymgysylltu manwl â phreswylwyr a chyflwyno pecyn mawr o werth cymdeithasol.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus gyfle gwirioneddol i helpu i lunio ein rhaglen ddatblygu a sicrhau ein bod yn parhau i ddarparu cartrefi o safon, yn cael effaith gadarnhaol o fewn ein cymunedau ac yn gadael gwaddol parhaol.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus hanes o ran datblygu tai cymdeithasol a rheoli swyddogion datblygu. Bydd gennych hanes profedig o gyflawni cynlluniau adeiladu newydd yn llwyddiannus o fewn hyfywedd cadarn a pharamedrau rhaglennu. Rhaid cael gwybodaeth weithiol fanwl am ofynion tai cymdeithasol yng Nghymru, prosesau ymgeisio'r Grant Tai Cymdeithasol a rheoli contractau adeiladu. Bydd disgwyl i chi ddatblygu dogfennau Gofynion Cyflogwyr, gan gynnwys manylebau, a meddu ar brofiad manwl o gaffael contractwyr.

Byddwch yn rhannu ein hangerdd a'n brwdfrydedd dros gyflawni prosiectau arloesol a chyffrous, creu cartrefi sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n trigolion a gosod safonau newydd ar gyfer cynaliadwyedd, creu lleoedd a dylunio trefol.

Byddwch yn brofiadol o ymgysylltu â'r gymuned/preswylwyr ac wrth ddarparu gwerth cymdeithasol ar raddfa.

Rhaid i chi fodloni'r fanyleb person er mwyn darparu’r sgiliau sydd eu hangen arnom i gyflawni prosiectau tai newydd yn unol â'n rhaglen arfaethedig, gan sicrhau bod manylebau'n cael eu bodloni, bod safonau ansawdd yn cael eu dilyn a bod y contractau'n cael eu gweithredu'n llwyddiannus i gwblhau a throsglwyddo prosiectau.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
O ganlyniad i’r amgylchiadau COVID-19 presennol, bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y swydd ar ôl darllen y Disgrifiad Swydd, cysylltwch â David Jaques, Rheolwr Gweithredol ar 07779 314071.

Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO02912


  • Rheolwr Busnes Adnodd

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Yolk Recruitment Full time

    **Y Cyfle** Mae Adnodd yn gwmni newydd sydd wedi'i greu gan Lywodraeth Cymru i sicrhau adnoddau addysgol dwyieithog i ddysgwyr ac athrawon yng Nghymru. Gweledigaeth Adnodd yw bod pob dysgwr ac ymarferydd yn cael mynediad at adnoddau addysgol diddorol, arloesol o ansawdd uchel, yn y Gymraeg a'r Saesneg, sy'n cefnogi'r Cwricwlwm i Gymru ac yn galluogi dysgu...

  • Rheolwr Gweithredol

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mewn ymgynghoriad â thrigolion y ddinas, arbenigwyr iechyd a thrafnidiaeth, mae Cynllunio, Trafnidiaeth a'r Amgylchedd wedi llunio cynllun deng mlynedd uchelgeisiol i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, lleihau tagfeydd a gwella ansawdd aer ym Mhrifddinas Cymru. Bydd y rôl hon yn gyfle cyffrous ac unigryw i gefnogi a chydlynu'r...


  • Cardiff, United Kingdom The Open University UK Full time

    **Unit**: Business Development Unit **Salary**: £35,333 - £42,155 **Location**: Cardiff **Please quote reference**: 20576 Permanent, Full-Time post **Closing Date**: 20 January, 2023 - 12:00 Noder mai rôl gweithio Hybrid yw'r hon gydag un diwrnod yr wythnos o leiaf yn Swyddfa Caerdydd. Mae angen teithio ledled Cymru hefyd. **Newid eich gyrfa, newid...

  • Arweinydd Is-adran

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn tyfu’n gyflymach nag unrhyw ddinas fawr arall yn y DU y tu allan i Lundain, a disgwylir iddi dyfu’n fwy na phob awdurdod lleol arall yng Nghymru gyda’i gilydd. Mae Papur Gwyn Trafnidiaeth Cyngor Caerdydd yn nodi cynllun 10 mlynedd uchelgeisiol i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, lleihau tagfeydd a gwella...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i weithio o fewn y Tîm Strategaeth a Lles Cymunedol fel Swyddog Gwella Iechyd i arwain gwaith sy'n ceisio lleihau anghydraddoldebau iechyd mewn partneriaeth ag asiantaethau allweddol a chymunedau lleol. Disgwylir i ddeiliad y swydd weithio o dan gyfarwyddyd ac arweiniad Rheolwr Gweithredol y Strategaeth...

  • Welsh Headings

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Perfformiad a Phartneriaethau yn gyfrifol am ystod eang o swyddogaethau corfforaethol sy'n cynorthwyo'r Cyngor cyfan, a'i bartneriaid yn y gwasanaethau cyhoeddus. Mae'n gyfrifol am gynorthwyo'r Cyngor i gyflawni ei agenda uchelgeisiol trwy drosi blaenoriaethau gwleidyddol yn amcanion sefydliadol gyda ffocws ar gefnogi...

  • Workplace Coordinator

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Integral UK Full time

    **Mae'n adeg gyffrous i ddechrau gyrfa gyda Integral UK LTD gan mai ni yw'r cwmni mwyaf (sy'n tyfu gyflymaf) sy'n darparu gwasanaethau peirianegol a chynnal a chadw cynhwysfawr o ansawdd uchel ar gyfer adeiladau masnachol ac adeiladau yn y sector cyhoeddus ym Mhrydain. Rydym hefyd yn darparu gwasanaethau cynnal a chadw ataliol ac adweitheddol i dros 1600 o...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r Gwasanaethau Plant yn chwilio am unigolyn deinamig, rhagweithiol sydd â phrofiad o reoli prosiectau a diddordeb mewn cefnogi'r ystod o ddatblygiadau sy'n mynd rhagddynt yng ngwasanaeth rhanbarthol Ar Ffiniau Gofal ARC. Byddai'r rôl yn canolbwyntio ar ddarpariaeth Bro Morgannwg ac yn cynorthwyo gyda'r gwaith o oruchwylio a...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **Swydd Wag Fewnol / Allanol** **Ref**: 11784 **Teitl y Swydd**: Aseswr Plymio a Gwresogi **Contract**: Llawn amser, Parhaol **Cyflog**: £30,313 - £32,331 y flwyddyn*** **Lleoliad**: Caerdydd a'r Fro Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a fydd yn cefnogi dysgwyr o fewn y gweithle i gyflawni fframweithiau perthnasol. Mae’r rôl yn ymwneud ag...

  • Arweinydd Tîm

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn un o'r dinasoedd sy'n tyfu gyflymaf yng ngwledydd Prydain. Mae economi’r ddinas yn tyfu, mae swyddi a busnesau yn cael eu creu ac mae disgwyl i boblogaeth y ddinas barhau i dyfu. Mae buddsoddi yn y Ddinas yn golygu bod canol y ddinas yn cael ei adfywio'n helaeth. Mae gan y Cyngor dîm o beirianwyr priffyrdd proffesiynol...

  • Arweinydd Is-adran

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn tyfu’n gyflymach nag unrhyw ddinas fawr arall yn y DU y tu allan i Lundain, a disgwylir iddi dyfu’n fwy na phob awdurdod lleol arall yng Nghymru gyda’i gilydd. Mae Papur Gwyn Trafnidiaeth Cyngor Caerdydd yn nodi cynllun 10 mlynedd uchelgeisiol i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, lleihau tagfeydd a gwella...

  • Dirprwy Reolwr Tîm

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Yn weithredol o 1 Ebrill 2023, bydd y rôl hon yn cael Taliad Atodol ar Sail y Farchnad o £5,000 (cyfwerth ag amser llawn). Adolygir y taliad hwn bob 12 mis.** Mae Cyngor Caerdydd yn chwilio am Brif Weithiwr Cymdeithasol i weithio yn bennaf mewn rôl oruchwyliwr, ynghyd â rheoli achosion o lwyth gwaith cymhleth bach, o fewn un o'n...