Rheolwr Cyflwyno RHaglen Brentisiaeth Cymru

3 weeks ago


Cardiff, United Kingdom The Open University UK Full time

**Unit**: Business Development Unit
**Salary**: £35,333 - £42,155
**Location**: Cardiff
**Please quote reference**: 20576
Permanent, Full-Time post
**Closing Date**: 20 January, 2023 - 12:00

Noder mai rôl gweithio Hybrid yw'r hon gydag un diwrnod yr wythnos o leiaf yn Swyddfa Caerdydd. Mae angen teithio ledled Cymru hefyd.

**Newid eich gyrfa, newid bywydau**

Y Brifysgol Agored yw prifysgol fwyaf y DU, ac mae'n arweinydd llwyddiannus mewn addysg ran-amser hyblyg, gan gyfuno cenhadaeth i ehangu mynediad at addysg uwch â rhagoriaeth ym maes ymchwil, gan drawsnewid bywydau drwy addysg.

Bydd Rheolwr Cyflwyno'r Rhaglen Brentisiaeth yn rhan o dîm gweithrediadau'r brentisiaeth gyda'r Uned Datblygu Busnes, ond bydd wedi'i leoli yn Y Brifysgol Agored yng Nghymru yn ein swyddfeydd yng Nghaerdydd.

**Y rôl**

Mae'r Brifysgol Agored yn recriwtio gweithiwr proffesiynol profiadol i ysgogi twf a chefnogi'r gwaith o gyflwyno Prentisiaethau Gradd yng Nghymru. Byddwch yn datblygu'r busnes drwy feithrin cydberthnasau cadarn a dynamig â'ch cyfrifon, drwy ddeall yr heriau y maent yn eu hwynebu o ran pobl/gallu a thrwy sicrhau bod rhaglenni prentisiaeth y Brifysgol yn helpu i'w goresgyn.

Mewn rôl sy'n delio'n uniongyrchol â chwsmeriaid, bydd gofyn i chi weithredu'n annibynnol â rhanddeiliaid sy'n gleientiaid lefel uchel mewn amgylcheddau cwsmeriaid mawr a chymhleth. Byddwch yn rhan o dîm ehangach sy'n darparu cymorth datblygu busnes, cymorth gweinyddol a chymorth gweithredol i gyflwyno prentisiaethau, ac yn cydweithio'n agos ag eraill sy'n ymgysylltu â rhanddeiliaid mewn cyfadrannau.

Os gallwch fod yn rhan o'r tîm sy'n cyflwyno prentisiaethau mewn ffordd sy'n ennyn diddordeb, yn ysbrydoli ac yn arwain at gyflawniad uchel, yna byddwch yn llwyddiannus yn Y Brifysgol Agored.

**Sgiliau a phrofiad**

Ydych chi'n ymrwymedig i ddarparu rhaglenni prentisiaeth llwyddiannus o ansawdd uchel?

Oes gennych chi'r sgiliau a'r ymddygiadau i weithio gyda chyflogwyr o sefydliadau rhyngwladol cymhleth i ficrofusnesau, er mwyn helpu i gefnogi ac arwain y gwaith o gyflwyno eu rhaglenni prentisiaeth?

Oes gennych chi brofiad o weithio mewn rôl debyg ar gyfer darparwr hyfforddiant prentisiaeth gyda gwybodaeth gynhwysfawr am raglenni Prentisiaeth Lefel Uwch a Lefel Gradd, y fanyleb dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru a'r Ardoll Prentisiaethau?

Oes gennych chi ddealltwriaeth o raglen hyfforddi sy'n seiliedig ar waith “o'r dechrau i'r diwedd” gan gynnwys; recriwtio, sefydlu, gweithdai ac adolygiadau dysgwyr, ac ati?

Ydych chi'n deall y dirwedd weithredol a pholisi ar gyfer dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru?

Os gallwch ateb y cwestiynau hyn yn gadarnhaol, hoffem glywed gennych.

Bydd gofyn i ymgeiswyr llwyddiannus gwblhau gwiriad DBS

Gellir cael rhagor o wybodaeth yn y Disgrifiad Swydd.

**Yr hyn a gewch yn ôl**

Mae gennym ymrwymiad cadarn i ddarparu hyfforddiant a chyfleoedd datblygu fel rhan o'ch rôl bresennol a thu hwnt. Mae hyn yn cynnwys proses sefydlu drylwyr yn y sefydliad ac adolygiadau rheolaidd o'ch anghenion hyfforddiant a datblygu.

Rydym hefyd yn cynnig amrywiaeth wych o fuddiannau sy'n cefnogi ein cyflogeion a'u teuluoedd yn yr hirdymor. Mae'r buddiannau staff yn cynnwys cynnig pensiwn deniadol, 33 diwrnod o wyliau y flwyddyn pro rata yn ogystal â Gwyliau'r Banc a chyfnod y Nadolig.

**Sut i wneud cais**

Oni nodir fel arall yn yr hysbyseb, **caiff pob cais ei gwblhau ar-lein drwy dudalen Swyddi'r Brifysgol Agored. Dylid dilyn y cyfarwyddiadau isod a chlicio ar y ddolen “GWNEWCH GAIS NAWR” isod.**

Ni chaiff ceisiadau a gyflwynir drwy wefannau trydydd parti eu hystyried.

Mae manylion mynediad ar gyfer ymgeiswyr anabl ar gael gan yr Hwb Adnoddau, rhif ffôn: 01908 655544, gan ddyfynnu cyfeirnod y swydd ‘20576’.

**I wneud cais am y rôl hon, dylech gyflwyno'r canlynol**:

- **CV**:

- **Datganiad personol, **_hyd at 1,000 o eiriau_**. Y**n eich datganiad, dylech egluro pam y mae gennych ddiddordeb yn y rôl hon, gan nodi enghreifftiau lle mae eich sgiliau a'ch profiadau yn cyfateb i gymwyseddau gofynnol y rôl hon fel y nodir yn y disgrifiad swydd a manyleb y person.

**Bydd angen cyflwyno'r dogfennau uchod fel un atodiad yn ystod y broses o wneud cais, felly dylech gynnwys y datganiad personol, ac wedyn y CV yn y ddogfen hon.**

Er mwyn sicrhau y caiff eich ffeil ei lanlwytho i'n system yn gywir, gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw'r ddogfen gan roi’r enw canlynol iddi, fel sy'n briodol i'r swydd wag rydych yn gwneud cais amdani: _cyfeirnod, _cyfenw,_ llythyren gyntaf eich enw cyntaf._

Bydd angen i'ch dogfennau fod yn barod cyn i chi gyflwyno'r cais electronig.

Wrth gyflwyno eich cais, gwnewch yn siŵr bod eich gohebiaeth yn cynnwys y canlynol yn y llinell destun: “APPLICATION - APDM Wales - BDU - 20576

GWNEWCH GAIS NAWR

**Disgwylir i'r cyfweliadau ar gyfer y rôl hon fynd rhagddynt ar 31st Ionawr 2023.**
- Noder: Os na fyddwch wedi clywed gennym o fewn pythefnos i ddyddiad cau'r cais, dylec


  • Rheolwr Prosiect

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a'r Fro yn dwyn ynghyd ystod o bartneriaid strategol o'r sector statudol, y trydydd sector a’r sector annibynnol. Mae hwn yn gyfle cyffrous i helpu i drawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg drwy oruchwylio dyluniad a darpariaeth rhaglen gyfalaf ar y...

  • Rheolwr Cyflogadwyedd

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom The Open University UK Full time

    **Unit**: The Open University in Wales **Salary**: £35,333 - £42,155 y flwyddyn (Gradd 7) **Location**: Cardiff **Please quote reference**: 20515 Cyfnod penodol tan 31 Gorffennaf 2023, 37 awr yr wythnos **Closing Date**: 5 January, 2023 - 12:00 **Uned**: Brifysgol Agored yng Nghymru **Cyflog**:£35,333- £42,155 y flwddyn (Gradd 7) **Lleoliad**:Gweithio...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn un o ddinasoedd gwyrddaf y Deyrnas Unedig, ac mae ein rhwydwaith helaeth o barciau a mannau gwyrdd y mae gan ein trigolion gysylltiad agos â llunio’i chymeriad, gan roi blas ar ein prifddinas. Mae'r Cyngor yn cydnabod y cyfraniad y mae'r mannau hyn yn ei wneud i les amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol y ddinas, y...

  • Swyddog Ymgysylltu

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **Swydd Wag Fewnol / Allanol** **Cyf**:12331** **Teitl y Swydd**:Swyddog Ymgysylltu (Rhaglen Multiply)** **Contract: Contract Cyfnod Penodol tan fis Mawrth 2025, Llawn Amser** **Lleoliad: Heol Colcot, Y Barri** **Oriau: 37** **Cyflog: £27,227 - £29,551 pro rata (yn ddibynnol ar brofiad)** Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Swyddog Ymgysylltu i...

  • Rheolwr Project

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer unigolyn ymroddgar sydd â hanes llwyddiannus o reoli projectau wedi eu cyllido ac o fod yn rheolwr llinell ar dîm. Mae'r Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith yn rhoi cymorth i bobl sydd wrthi'n chwilio am waith neu'n ceisio gwella'u sgiliau. Mae'r tîm yn gallu cynnig cymorth a mentora dwys...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **Swydd Wag Fewnol / Allanol** **Cyf**:BCC2023001** **Teitl y Swydd**:Cydlynydd Cwricwlwm Busnes** **Contract: Parhaol, Llawn Amser** **Oriau: 37** **Cyflog: £31,828 - £33,948 y flwyddyn** Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Cydlynydd Cwricwlwm Busnes yn adran Gwasanaethau Masnachol Coleg Caerdydd a'r Fro. Bydd y swydd hon wedi’i lleoli ar Gampws...

  • Rheolwr Cofrestredig

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Gwasanaethau Plant - Preswyl** **Rheolwr Cofrestredig** Mae disgwyl i recriwtio i gartref plant newydd Caerdydd agor ym mis Ionawr 2024 Mae cyfle cyffrous yng Ngwasanaethau Plant Cyngor Caerdydd, ac rydym yn recriwtio rheolwr ar gyfer ein tri Chartref newydd i Blant dan Asesiad, a fydd yn gweithio gyda rhai o'n plant a'n pobl ifanc...

  • Digital Manager

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Social Care Wales Full time

    **Rheolwr Digidol** Caerdydd neu Lanelwy (gyda gwaith hybrid) **Y cwmni** Yn Gofal Cymdeithasol Cymru, rydym yn darparu arweinyddiaeth genedlaethol ac arbenigedd mewn gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar yng Nghymru. Ein gweledigaeth yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal a chymorth i blant, oedolion a’u teuluoedd a’u gofalwyr. I wneud hyn, rydym yn...


  • Cardiff, United Kingdom Mind Full time

    **Fixed term until end of March 2025** **About Mind Cyrmu** We're Mind Cymru, the mental health charity. We're here to make sure no one has to face a mental health problem alone. We provide advice and support to empower anyone experiencing a mental health problem. We campaign to improve services, raise awareness and promote understanding. We won't give up...

  • Arweinydd Tîm

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r Tîm Cymorth Diogelu Iechyd (Profi, Olrhain a Diogelu gynt) yn wasanaeth a gafodd ei greu i gynorthwyo â’r pandemig byd-eang a brofwyd yn 2020 o ganlyniad i Covid 19. Ers hynny, mae’r gwasanaeth wedi ehangu gan, bellach, ymdrin â nifer o glefydau trosglwyddadwy a gwaith cymorth diogelu iechyd ehangach. Cynhelir y gwasanaeth...


  • Cardiff, United Kingdom Early Years Wales Full time

    **Pwrpas y rôl**: - Hyrwyddo Camau a chefnogi cyfranogwyr yng nghyrsiau Camau yn ymgorffori'r sgiliau iaith i'w harferion yn y lleoliadau gofal plant ac yn sicrhau bod hyfforddiant yn dylanwadu ar ymarfer - Datblygu a chyflwyno cyfres o raglen modelu iaith a hyfforddiant dysgu sesiynol Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan uchelgais i gael miliwn o siaradwyr...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **Swydd Wag Fewnol / Allanol** **Cyf**: 12302 **Teitl y Swydd**: Cynorthwyydd Gwasanaethau Gwybodaeth (Arholiadau) **Contract**: Llawn Amser, Cyflenwi Cyfnod Mamolaeth hyd at fis Chwefror 2025 **Lleoliad**: Caerdydd a'r Fro **Cyflog**: £23,152 - £23,930 y flwyddyn Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Cynorthwyydd Gwasanaethau Gwybodaeth yn yr Adran...


  • Cardiff, United Kingdom Careers Wales Full time

    **Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol a Marchnata **(Rhan Amser)** **Gradd Cyflog 2: cyflog cychwynnol yw £13,575, pro-rata i £22,625.** **Mae Career Choices Dewis Gyrfa Cyf (CCDG) yn is-gwmni sydd ym mherchnogaeth lwyr Llywodraeth Cymru.** **Rydym yn darparu gwasanaeth cyfarwyddyd ac anogaeth gyrfaoedd hanfodol sy’n annibynnol, yn ddiduedd ac yn...


  • Cardiff, United Kingdom Play Wales | Chwarae Cymru Full time

    **JOB DESCRIPTION** JOB TITLE: Administrative Assistant RESPONSIBLE TO: Operations Manager PENSION SCHEME: Option to join local authority scheme. MAIN AREA OF RESPONSIBILITY: To provide quality administrative support, across Play Wales, through effective planning and organisation. **Main tasks** - To liaise with callers (in person and by telephone) and...


  • Cardiff, United Kingdom Network Rail Full time

    Brief Description An exciting opportunity has arisen to join the HEAM Buildings and Structures CEFA/CAFA Programme team as it embarks upon the next stage of expansion. W&W HEAM B&S CEFA/CAFA programme team carries out work region wide from Fishgaurd in the West Wales, through the major cities of Cardiff, Swindon, Reading, London and Plymouth down to...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **Swydd Wag Fewnol ac Allanol** **Teitl y Swydd**:Swyddog Llesiant Gweithredol (Prentisiaid Iau)** **Contract**:Llawn amser, Tymor Penodol hyd at Gorffennaf 2024** **Cyflog: £25,930 - £28,143 y flwyddyn** **Lleoliad: Caerdydd a'r Fro** Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn chwilio am Swyddog Llesiant Gweithredol wedi'i leoli o fewn y tîm Diogelu a Llesiant...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **Swydd Wag Fewnol / Allanol** **Teitl y Swydd**: Cynorthwyydd Gwasanaethau Gwybodaeth x 2 **Contract**: Llawn amser, Parhaol **Lleoliad**: Caerdydd a'r Fro **Cyflog**: £21,030 - £22,469 y flwyddyn Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Cynorthwyydd Gwasanaethau Gwybodaeth o fewn yr Adran Gwasanaethau Gwybodaeth yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro. Bydd y...

  • Rheolwr Prosiectau

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymrwymedig ymuno â’n Tîm Cyfranogiad Tenantiaid. Nod y tîm yw dod â chyfleoedd trawsnewid ac ariannu at ei gilydd a defnyddio deallusrwydd a gwybodaeth leol i gynllunio gwasanaethau i ddiwallu anghenion ein dinasyddion. Mae'r Tîm Cyflenwi Partneriaeth Tai yn rheoli amrywiaeth o Grantiau...

  • Rheolwr Cofrestredig

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous yng Ngwasanaethau Plant Cyngor Caerdydd, ac rydym yn recriwtio rheolwr ar gyfer ein tri Chartref newydd i Blant dan Asesiad, a fydd yn gweithio gyda rhai o'n plant a'n pobl ifanc mwyaf agored i niwed. Bydd y tri chartref yn dal cyfanswm o bedwar person ifanc ac yn cael eu cefnogi'n llawn gan dimau aml-broffesiynol. Mae...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **Swydd Wag Fewnol / Allanol** **Cyf**:SCHOOL2401** **Teitl y Swydd**:Tiwtor TGAU Mathemateg i Brentisiaid Iau** **Contract: Contract Llawn Amser (cyfwerth â llawn amser) - Cyfnod Penodol hyd at Orffennaf 2025** **Oriau: 37 awr yr wythnos** **Cyflog: £22,905 - £45,079** Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Tiwtor Saesneg i Brentisiaid Iau ar ein...