Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl

2 weeks ago

Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Ydych chi eisiau gweithio mewn rôl ystyrlon yn cefnogi plant i fodloni eu hanghenion unigol a goresgyn heriau gan eu helpu i fyw bywydau llawn a hapus?

Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thŷ Storrie, ein Cartref Preswyl, sy'n darparu llety seibiant byr i bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.

Yn ogystal â chael effaith gadarnhaol ar fywydau ein plant, mae taliadau chwyddo hael yn cael eu talu am weithio ar nosweithiau, penwythnosau, Gwyliau Banc ac ar gyfer dyletswyddau cysgu dros nos, yn ychwanegol at eich cyflog.

Byddwch yn derbyn taliad chwyddo cyflog ychwanegol o 30% ar ôl 8pm yn ystod yr wythnos, 50% ar benwythnosau a £38 ar gyfer dyletswyddau cysgu dros nos.

**Am Y Swydd**
Mae'n cymryd math arbennig o berson i neilltuo ei yrfa i gefnogi eraill. Byddai eich amynedd, eich empathi a'ch natur ofalgar yn eich gwneud yn berson delfrydol i gefnogi unigolion sy'n defnyddio ein cartref seibiant byr yn Nhŷ Storrie. Os ydych chi'n teimlo mai dyma'r math o berson ydych chi, yna chi yw'r person yr ydym yn chwilio amdano.

Byddwch yn gweithio mewn tîm sy'n cefnogi plant a phobl ifanc i gyflawni canlyniadau cadarnhaol, meithrin perthnasau priodol a chael hwyl, bod yna bob cam o’u datblygiad. Mae angen i chi fod yn barod i ddysgu a rhannu profiadau, meddu ar sgiliau a gwybodaeth tra hefyd yn rhoi plant a phobl ifanc wrth wraidd eich rôl.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus wedi cwblhau cymhwyster Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gwasanaeth Plant a Phobl Ifanc yn unol â gofynion Gofal Cymdeithasol Cymru ac yn gallu cyflawni a dod yn gymwys yn holl ofynion hyfforddi a datblygu’r swydd. At hynny, bydd gennych brofiad o weithio gyda phobl ifanc ag anghenion emosiynol, corfforol, cymdeithasol, ymddygiadol a chymhleth ac o leiaf 2 flynedd o brofiad mewn rôl ym maes Gofal Plant preswyl.

Fel Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl, byddwch yn chwarae rhan hanfodol wrth ddarparu gofal uniongyrchol a chymorth effeithiol i bobl ifanc yn ein cartref seibiant byr i'w galluogi i gyflawni canlyniadau cadarnhaol yn unol â'u cynllun personol gofal plant.

Mae pob diwrnod yn wahanol, a byddwch yn wynebu heriau newydd, mae arnom angen aelodau o staff sydd ag agwedd gadarnhaol, sy'n barod i fynd y filltir ychwanegol i'r bobl ifanc yn eu gofal.

Mae angen i’n tîm helpu i gydnabod a hyrwyddo unigoliaeth, natur unigryw ac anghenion amrywiol pobl ifanc tra'n darparu amgylchedd meithringar a chadarnhaol.

**Yn gyfnewid am eich sgiliau a'ch ymrwymiad byddwch yn derbyn**:

- Hawliau i wyliau blynyddol cystadleuol a chynlluniau pensiwn.
- Anogir a chefnogir datblygiad proffesiynol parhaus a chynnydd o fewn y proffesiwn a chynigir cyfleoedd hyfforddi rheolaidd.
- Cyfleoedd hyfforddi i ddysgwyr Cymraeg ddatblygu eu sgiliau ymhellach.
- Darperir goruchwyliaeth ffurfiol ac anffurfiol.
- Mynediad at wasanaethau lles staff CareFirst.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd a’r fanyleb person wrth ymgeisio am y swydd uchod.

Mae’r swyddi hyn yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Yn rhan o’r swydd hon, rhaid i chi fod wedi’ch cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cynorthwyo plant a phlant sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn a pherson ifanc, a byddant yn gweithredu i ddiogelu ei les. Maent yn cydnabod bod gan blant a phobl ifanc yr hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi yn ethos cyffredinol Cyngor Caerdydd.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post.

Nid yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllaw ar Wneud Cais
- Ymgeisio am swyddi gyda ni
- Fframwaith Cymwyseddau Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siartr Cyflogeion
- Recriwtio Cyn-Droseddwyr
- Hysbysiad Preifatrwydd

Job Reference: PEO02627

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Cyf.**PEO02929 **Swydd**:Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl **Gradd**:6 **Cyflog**:£27,852 - £32,020 **Statws**: parhaol a llawn amser **Ynglŷn â'r gwasanaeth** Mae gennym gyfle cyffrous i Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl weithio gyda rhai o'n plant a'n pobl ifanc mwyaf bregus yng Nghaerdydd. Rydym yn chwilio am Uwch Swyddog...

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous yng Ngwasanaethau Plant Cyngor Caerdydd, ac rydym yn recriwtio tîm newydd o weithwyr Gofal Plant Preswyl ar gyfer ein cartref newydd i Blant dan Asesiad, yn gweithio gyda rhai o'n plant a'n pobl ifanc mwyaf agored i niwed. Mae hwn yn amser cyffrous i ymuno â gwasanaeth sy’n rhoi’r unigolyn wrth wraidd ei waith....

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yng Ngwasanaeth Cymorth Cynnar Tai a Chymunedau i recriwtio Swyddog Cymorth Busnes Gofal Plant. Mae'r swydd ran amser, dros dro hon yn cael ei hariannu tan 31. Mai 2025 ar hyn o bryd. Byddwch yn rhan o Dîm Cymorth Busnes Gofal Plant sefydledig sy'n rhoi cyngor, cymorth ac arweiniad...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ydych chi eisiau gweithio mewn rôl ystyrlon yn cefnogi plant i ddiwallu eu hanghenion unigol a goresgyn heriau sy'n eu helpu i fyw bywydau llawn a hapus? Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thŷ Storrie, ein Cartref Preswyl, sy'n darparu llety seibiant byr i bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Yn ogystal â chael effaith...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ydych chi eisiau gweithio mewn rôl ystyrlon yn cefnogi plant i fodloni eu hanghenion unigol a goresgyn heriau gan eu helpu i fyw bywydau llawn a hapus? Yn ogystal â chael effaith gadarnhaol ar fywydau ein plant, mae taliadau chwyddo hael yn cael eu talu am weithio ar nosweithiau, penwythnosau, Gwyliau Banc ac ar gyfer dyletswyddau...

    **Am Y Gwasanaeth** Ynglŷn â’r Rôl** Gan weithio yn unol â’n datganiad o ddiben, byddwch yn cymryd cyfrifoldeb am redeg y sefydliad yn esmwyth a diogel gan sicrhau bod pobl ifanc yn cael gwasanaeth sensitif sy'n bodloni eu hanghenion cymdeithasol, hiliol, seicolegol, addysgol, diwylliannol ac o ran eu hunaniaeth gorfforol a'u hanghenion gofal...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae gennym lawer o swyddi/oriau ar gael**: **37 awr parhaol** **18.5 awr parhaol** **24 awr parhaol** **37 awr dros dro tan fis Mawrth 2023.** Mae’r Cartref Plant yng Nghaerdydd. Rhoi gofal o ansawdd uchel i blant a phobl ifanc. Gweithio mewn ffordd sy'n seiliedig ar drawma. Fframwaith Arwyddion Diogelwch wedi'i ymwreiddio mewn...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ydych chi eisiau gweithio mewn rôl ystyrlon yn cefnogi plant i ddiwallu eu hanghenion unigol a goresgyn heriau sy'n eu helpu i fyw bywydau llawn a hapus? Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thŷ Storrie, ein Cartref Preswyl, sy'n darparu llety seibiant byr i bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Yn ogystal â chael effaith...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn awyddus i recriwtio Swyddog Adolygu Annibynnol/Cadeirydd Cynhadledd Amddiffyn Plant profiadol a pharhaol i ymuno â'n gwasanaethau sy’n tyfu gennym ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion ifanc.** Byddwch yn ymuno â thîm deinamig a sefydledig i barhau â'r gwaith da yn y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol. Bydd...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Dechrau'n Deg yw rhaglen Blynyddoedd Cynnar Llywodraeth Cymru wedi’i dargedu at deuluoedd â phlant dan 4 oed mewn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. Mae elfennau craidd y rhaglen wedi dod o amrywiaeth o opsiynau sydd wedi’u profi i ysgogi canlyniadau gwell i blant a'u teuluoedd. Mae’r rhain yn cynnwys: - Gofal plant rhan...

  • Swyddog Effro’r NOS

    4 weeks ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ydych chi eisiau gweithio mewn rôl ystyrlon yn cefnogi plant i fodloni eu hanghenion unigol a goresgyn heriau gan eu helpu i fyw bywydau llawn a hapus? Yn ogystal â chael effaith gadarnhaol ar fywydau ein plant, mae taliadau chwyddo hael yn cael eu talu am weithio ar nosweithiau, penwythnosau, Gwyliau Banc ac ar gyfer dyletswyddau...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â’r Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Llety â Chymorth ac Adran Asesu Cyngor Caerdydd yn cynnig llety, cyngor a chymorth i unigolion a theuluoedd agored i niwed y mae angen tai arnynt. Mae ein gwasanaethau yn rhedeg 24/7 365 diwrnod y flwyddyn. Oherwydd pandemig Covid19, bu'n rhaid i'n gwasanaeth wneud newidiadau mawr a bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg yn cyd-weithio i ddarparu Canolfan Adnoddau i Bobl Ifanc (CABI) / Gwasanaeth ar Ymylon Gofal newydd ag arloesol ar gyfer unigolion 11-17 oed. Drwy weithio mewn dull sy’n seiliedig ar gryfderau, ein nod yw gweithio mewn modd cyd-gynhyrchiol gyda theuluoedd er mwyn gwella perthnasau a galluogi...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn awyddus i recriwtio Swyddog Adolygu Annibynnol profiadol a pharhaol i ymuno â'n gwasanaethau ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion ifanc, gwasanaethau sy’n tyfu gennym.** Byddwch yn ymuno â thîm deinamig a sefydledig i barhau â'r gwaith da yn y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol. Bydd gennych o leiaf 6 mis o...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r Gwasanaethau Plant wedi creu tîm newydd i ganolbwyntio ar ehangu a chryfhau'r gweithlu presennol a gweithlu’r dyfodol. **Am Y Swydd** Bydd deiliad y swydd yn dylunio ac yn darparu amrywiaeth eang o raglenni hyfforddi gan gynnwys platfformau E-Ddysgu sy'n diwallu anghenion hyfforddi a datblygu timau'r Gwasanaethau Plant. Bydd...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Llety â Chymorth Cyngor Caerdydd yn cynnig llety, cyngor a chymorth i unigolion a theuluoedd sy’n agored i niwed y mae ganddynt anghenion tai. Mae ein gwasanaethau ar gael 24/7 365 diwrnod y flwyddyn. Bu'n rhaid i'n gwasanaeth wneud newidiadau mawr a bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cyfrannu at y gwaith o ehangu’r...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yng Ngwasanaethau Plant Cyngor Caerdydd ac rydym yn recriwtio Swyddog Staff Effro Dros Nos llawn-amser ar gyfer Tŷ Storrie, sy’n gyfleuster seibiant byr, yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd ag anghenion cymhleth ac anableddau. Ar hyn o bryd rydym yn recriwtio am 1 swydd llawn amser ac 1 swydd...

  • Uwch Swyddog Cyngor

    4 weeks ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Tîm Cyngor Ariannol yn dîm lles a budd-daliadau sy'n gweld tua 1500 o bobl y mis gan nodi cymorth ariannol, grantiau a gostyngiadau a delio â dyledion. Mae'r Tîm yn ehangu oherwydd galw ac angen hanfodol y bobl sy’n ymweld â'r 20+ o leoliadau'r wythnos y mae'r tîm wedi ymrwymo i’w mynychu. **Am Y Swydd** Mae cyfle...