Swyddog Effro Dros NOS

2 months ago

Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae cyfle cyffrous wedi codi yng Ngwasanaethau Plant Cyngor Caerdydd ac rydym yn recriwtio Swyddog Staff Effro Dros Nos llawn-amser ar gyfer Tŷ Storrie, sy’n gyfleuster seibiant byr, yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd ag anghenion cymhleth ac anableddau.

Ar hyn o bryd rydym yn recriwtio am 1 swydd llawn amser ac 1 swydd ran-amser (24.5 awr).

Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â gwasanaeth sy’n rhoi’r unigolyn wrth wraidd ein gwaith. Mae hwn yn gyfle i weithio mewn ffordd sy’n deall anghenion y grŵp pwysig hwn o bobl ifanc. Bydd tîm Tŷ Storrie yn gweithio ar sail dull sy’n seiliedig ar gryfderau ac yn seiliedig ar drawma i fodloni anghenion plant, pobl ifanc a’u teuluoedd.

Mae manteision gwych i’w cael wrth weithio i Gyngor Caerdydd ac mae gwyliau blynyddol hael, lwfans shifftiau a datblygiad personol parhaus yn ddim ond rhai ohonynt.

**Am Y Swydd**
Gan weithio yn unol â’n datganiad o ddiben, byddwch yn cymryd cyfrifoldeb am redeg y sefydliad yn esmwyth a diogel gan sicrhau bod pobl ifanc yn cael gwasanaeth sensitif sy'n bodloni eu hanghenion cymdeithasol, hiliol, seicolegol, addysgol, diwylliannol ac o ran eu hunaniaeth gorfforol a'u hanghenion gofal iechyd.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn rhan o dîm hanfodol sy’n cynnig gwasanaeth cynhwysfawr i bobl ifanc rhwng 6-18 oed, mewn cartref plant seibiant byr gan sicrhau gofal a datblygiad corfforol, cymdeithasol ac emosiynol y bobl ifanc.

Byddwch yn effro ar ddyletswydd ar bob adeg drwy’r nos i fonitro ac ymateb i anghenion unigol pobl ifanc a gofynion/cyfarwyddyd Rheolwyr ar alw.

Bydd gennych brofiad o weithio gyda phobl ifanc mewn lleoliad gofal plant preswyl, yn ogystal â’r gallu i gwblhau Fframwaith Sefydlu Gofal Cymdeithasol Cymru o fewn 6 mis i’ch penodiad. Mae angen sgiliau cyfathrebu ardderchog ar gyfer y rôl hon, yn ogystal â natur ofalgar a chyfeillgar i ddiwallu anghenion y bobl ifanc.

Byddwch yn deall pwysigrwydd diogelu ac amddiffyn plant a'ch cyfrifoldeb dros hynny, a sut i uwchgyfeirio pryderon yn briodol os ydynt yn codi.

Mae hon yn rôl gorfforol, weithgar ac emosiynol heriol sy'n gofyn i chi allu ymateb i'r heriau hynny.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
I gael rhagor o wybodaeth neu sgwrs anffurfiol am y cyfle hwn, cysylltwch â Siân Herdman-Tucker ar 029 20591392.

Mae’r swydd hon yn amodol ar Wiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn brif flaenoriaethau i’r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a'n hysgolion wedi ymrwymo i amddiffyn a diogelu pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn rhoi camau ar waith i ddiogelu eu lles ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy'n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a phob ysgol.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r po

Nid yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllaw ar Wneud Cais
- Ymgeisio am swyddi gyda ni
- Fframwaith Cymwyseddau Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter Cyflogeion
- Recriwtio Cyn-Droseddwyr
- Hysbysiad Preifatrwydd

Job Reference: PEO03234

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous yng Ngwasanaethau Plant Cyngor Caerdydd, ac rydym yn recriwtio Staff Effro Dros Nos ar gyfer ein Cartref newydd i Blant dan Asesiad, yn gweithio gyda rhai o'n plant a'n pobl ifanc mwyaf agored i niwed. Mae hwn yn amser cyffrous i ymuno â gwasanaeth sy’n rhoi’r unigolyn wrth wraidd ei waith. Mae'r ddarpariaeth...

  • Swyddog Effro’r NOS

    2 months ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ydych chi eisiau gweithio mewn rôl ystyrlon yn cefnogi plant i fodloni eu hanghenion unigol a goresgyn heriau gan eu helpu i fyw bywydau llawn a hapus? Yn ogystal â chael effaith gadarnhaol ar fywydau ein plant, mae taliadau chwyddo hael yn cael eu talu am weithio ar nosweithiau, penwythnosau, Gwyliau Banc ac ar gyfer dyletswyddau...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ydych chi eisiau gweithio mewn rôl ystyrlon yn cefnogi plant i fodloni eu hanghenion unigol a goresgyn heriau gan eu helpu i fyw bywydau llawn a hapus? Yn ogystal â chael effaith gadarnhaol ar fywydau ein plant, mae taliadau chwyddo hael yn cael eu talu am weithio ar nosweithiau, penwythnosau, Gwyliau Banc ac ar gyfer dyletswyddau...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Crosslands, un o Gartrefi Plant Caerdydd, yn ardal Trelái, Caerdydd. Mae'r cartref yn dŷ ar ben ei hun yn ei erddi ei hun ac mae siopau lleol, canolfannau hamdden ac amwynderau lleol yn gyfleus wrth law. Mae'r cartref hefyd yn agos at ganol y ddinas ac yn hawdd ei gyrraedd o’r holl brif ffyrdd i mewn ac allan o Gaerdydd. Mae...

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â'r Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith Mae'r Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith yn cefnogi unigolion sy'n chwilio am waith neu sydd am uwchsgilio. Mae'r tîm wedi'i wasgaru ar draws y ddinas yn cefnogi cwsmeriaid sydd angen cymorth un i un wedi’i bersonoli, ym maes cyflogaeth, hyfforddiant, dysgu neu...

  • Swyddog Cynghori

    1 month ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Tîm Cyngor Ariannol yn dîm lles a budd-daliadau sy'n gweld tua 1500 o bobl y mis gan nodi cymorth ariannol, grantiau a gostyngiadau a delio â dyledion. Mae'r Tîm yn ehangu oherwydd galw ac angen hanfodol y bobl sy’n ymweld â'r 20+ o leoliadau'r wythnos y mae'r tîm wedi ymrwymo i’w mynychu. **Am Y Swydd** Mae cyfle...

  • Swyddog Prosiect

    1 day ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae tîm Archifau Morgannwg yn casglu, cadw ac yn sicrhau bod dogfennau yn ymwneud â hanes Morgannwg o’r 12fed ganrif hyd heddiw ar gael i’r cyhoedd. Mae dros 12 mil o ddogfennau wedi eu cadw mewn ystafelloedd diogel yn y cyfleuster a adeiladwyd yn bwrpasol. Rydym am gyflogi Swyddog Prosiect yn Archifau Morgannwg, Clos Parc...

  • Uwch Swyddog Cyngor

    1 month ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Tîm Cyngor Ariannol yn dîm lles a budd-daliadau sy'n gweld tua 1500 o bobl y mis gan nodi cymorth ariannol, grantiau a gostyngiadau a delio â dyledion. Mae'r Tîm yn ehangu oherwydd galw ac angen hanfodol y bobl sy’n ymweld â'r 20+ o leoliadau'r wythnos y mae'r tîm wedi ymrwymo i’w mynychu. **Am Y Swydd** Mae cyfle...

  • Swyddog Llety

    1 week ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â’r Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig ymuno â thîm o Swyddogion Llety sy'n helpu cleientiaid y mae angen Llety Dros Dro ac â Chymorth arnynt. Mae hwn yn wasanaeth heriol a chyflym - mae'r tîm yn ymdrin â heriau dyddiol i sicrhau y darperir llety i gleientiaid sy'n agored i niwed. Mae'r Tîm Llety yn cynnwys...

  • Swyddog Gweinyddol

    1 month ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle gwych wedi codi i ymuno â'r tîm yng Nghastell Caerdydd fel swyddog gweinyddol. Mae Castell Caerdydd, sy’n croesawu miloedd o bobl bob blwyddyn, yn un o brif atyniadau treftadaeth Cymru ac yn safle o bwysigrwydd rhyngwladol. **Am Y Swydd** Bydd y Swyddog Gweinyddol yn cynnig gwasanaeth cymorth busnes a gweinyddol effeithiol...

  • Swyddog Gweinyddol

    2 days ago

  • Swyddog RHestr Aros

    1 month ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Nod Cyngor Caerdydd yw darparu Uned Dyraniadau ac Ailgartrefu hygyrch o ansawdd uchel. Mae gan y Gwasanaeth swydd wag ar gyfer un Swyddog Rhestr Aros dros dro llawn amser ar hyn o bryd. **Am Y Swydd** Prif swyddogaethau’r swydd fydd cynorthwyo â gweinyddu’r Rhestr Aros Gyffredin ar gyfer tai cymdeithasol, gan fewnbynnu ac asesu...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Cyf.**PEO02929 **Swydd**:Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl **Gradd**:6 **Cyflog**:£27,852 - £32,020 **Statws**: parhaol a llawn amser **Ynglŷn â'r gwasanaeth** Mae gennym gyfle cyffrous i Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl weithio gyda rhai o'n plant a'n pobl ifanc mwyaf bregus yng Nghaerdydd. Rydym yn chwilio am Uwch Swyddog...

  • Swyddog Tenantiaeth

    1 month ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymrwymedig ymuno â’n tîm Rheoli Tenantiaeth ar sail contract 2 flynedd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn bwrw ati i sicrhau bod tenantiaid a lesddeiliaid yn cydymffurfio ag amodau eu tenantiaeth neu les, yn cynnig cyngor ac arweiniad i denantiaid a lesddeiliaid ac yn rhoi camau gorfodi ar waith...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith yn rhoi cymorth i bobl sydd wrthi'n chwilio am waith neu'n ceisio gwella eu sgiliau. Mae'r tîm yn gallu cynnig cymorth a mentora dwys trwy gyfleoedd gwirfoddoli a phrojectau a ariennir yn allanol. Mae’r Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith yn rheoli nifer o brojectau cyflogadwyedd a ariennir yn...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig sydd â sgiliau TG rhagorol i ymuno â'r Tîm Trawsnewid Digidol fel Swyddog Cymorth Systemau yn y gwasanaeth Oedolion, Tai a Chymunedau. **Am Y Swydd** Bydd y Swyddog Cymorth Systemau yn gyfrifol am ddatblygu a gweithredu systemau TG yn effeithiol ac am ddarparu gwybodaeth ystadegol...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn gwasanaethau Cymorth Cynnar Tai a Chymunedau ar gyfer Hyfforddwr Datblygu’r Gweithlu. Swydd dros dro i gyflenwi dros gyfnod mamolaeth yw hon, tan 31 Mawrth 2024, neu tan i ddeiliad parhaol y swydd ddychwelyd. Byddwch yn aelod o dîm Datblygu’r Gweithlu a’r Ganolfan Achrededig sefydledig sy’n...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y Gwasanaeth Tai a Chymunedau ar gyfer Swyddog Amserlennu Opti-Time parhaol llawn-amser (37 awr yr wythnos) gyda’r Uned Cynnal a Chadw Ymatebol. Mae pedwar swydd ar gael, x2 parhaol a x2 dros dro, i gyd yn gweithio 37.00 awr yr wythnos. **Mae’r dau swydd dros dro yn parhau tan y 1af o Dachwedd 2024...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Tîm Diogelwch Cymunedol (TDC) Cyngor Dinas Caerdydd yn cydweithio â sefydliadau statudol ac anstatudol i nodi, a lliniaru trosedd, anhrefn, ac ymddygiad gwrthgymdeithasol gyda'r amcan o leihau troseddu, cefnogi'r rheini sy'n agored i niwed, a chynyddu diogelwch y gymuned. Mae'r Tîm Diogelwch Cymunedol wrthi'n canolbwyntio ar y...