Swyddog Tenantiaeth

1 week ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymrwymedig ymuno â’n tîm Rheoli Tenantiaeth ar sail contract 2 flynedd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn bwrw ati i sicrhau bod tenantiaid a lesddeiliaid yn cydymffurfio ag amodau eu tenantiaeth neu les, yn cynnig cyngor ac arweiniad i denantiaid a lesddeiliaid ac yn rhoi camau gorfodi ar waith pan fo angen.

**Am Y Swydd**
Bydd gennych brofiad o weithio ym maes tai, gan gynnwys gorfodi amodau tenantiaeth drwy gamau cyfreithiol. Mae defnyddio technoleg newydd a phrofiad o weithio gyda chwsmeriaid ac ymweld â nhw yn eu cartrefi eu hunain hefyd yn hanfodol.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd gennych sgiliau cyfathrebu a gofal cwsmeriaid da a byddwch yn gallu delio ag anghydfodau mewn modd cadarnhaol ac adeiladol. Byddwch yn gweithio’n dda mewn tîm ac yn gallu gweithio o’ch pen a’ch pastwn eich hun.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Swydd dros dro yw hon tan 31 Awst 2024.

Rhaid i ymgeiswyr mewnol sy'n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar sail secondiad gael cymeradwyaeth cyn gwneud cais gan ddefnyddio Ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y Cyfarwyddwr / Cyfarwyddwr Cynorthwyol / Prif Swyddog neu uwch swyddog enwebedig perthnasol ar radd nad yw’n is na RhG2, neu yn achos staff mewn ysgolion, y Pennaeth / Corff Llywodraethu, all gymeradwyo ceisiadau.

Mae’r swydd hon yn amodol ar Wiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post.

I gael sgwrs anffurfiol, ar ôl darllen y disgrifiad swydd a’r fanyleb person, cysylltwch â Stuart Clarke (029) 2053 7563 neu Lee Jenkins (029) 2053 7545

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO03121



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymrwymedig ymuno â’n Tîm Cynnal Tenantiaeth. **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio'n rhagweithiol i ddarparu gwasanaeth rheoli tai dwys. Bydd y swydd yn cynnwys sicrhau y gall tenantiaid gynnal eu tenantiaethau drwy ymyrraeth uniongyrchol a defnyddio ystod o wasanaethau...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Sipsiwn a Theithwyr yn rhan o'r Adran Llety ac Asesu â Chymorth ac mae'n darparu llety sy'n briodol yn ddiwylliannol, sy'n addas i anghenion y Gymuned Sipsiwn a Theithwyr. Drwy safleoedd, mae rheoli safleoedd yn cyflawni'r darpariaethau canlynol: - Gwasanaeth rheoli tai pwrpasol - Gwasanaeth atgyweirio a chynnal...