Swyddog Cynnal Tenantiaeth
3 weeks ago
**Am Y Gwasanaeth**
Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymrwymedig ymuno â’n Tîm Cynnal Tenantiaeth.
**Am Y Swydd**
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio'n rhagweithiol i ddarparu gwasanaeth rheoli tai dwys. Bydd y swydd yn cynnwys sicrhau y gall tenantiaid gynnal eu tenantiaethau drwy ymyrraeth uniongyrchol a defnyddio ystod o wasanaethau cymorth i atal camau gorfodi.
Helpu tenantiaid ag anghenion personol cymhleth i gynnal eu tenantiaethau drwy ddarparu gwasanaeth rheoli tai dwys. gan ddefnyddio ymyriadau uniongyrchol a chynnig cyngor priodol wyneb yn wyneb a thros y ffôn.
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am reoli llwyth achos o ddeiliaid contractau ag anghenion cymhleth. Darparu ymyriadau dwys i'w cefnogi i gynnal eu contractau meddiannaeth yn llwyddiannus.
Bydd deiliad y swydd yn mynd ati’n weithredol i nodi cefnogaeth a gwasanaethau priodol ar gyfer deiliaid contract, gan gysylltu ag asiantaethau i sicrhau bod ymagwedd gydlynol yn cael ei darparu.
Byddwn yn cynnig y canlynol i chi:
- Amgylchedd gwaith cyfeillgar a chefnogol.
- Cefnogaeth reolaidd a goruchwyliaeth berthnasol i alluogi deiliad y swydd i gyflawni'r rôl yn effeithiol.
- Mynediad at hyfforddiant a datblygu personol parhaus.
- Cydbwysedd bywyd / gwaith da.
- Cyfle i ddarparu gwasanaeth i ddeiliaid Contract Cyngor Caerdydd sy'n gwneud gwahaniaeth i'w bywydau a'u lles.
Mae'r swydd hon yn cynnwys gweithio hybrid.
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd gofyn i ddeiliad y swydd feddu ar sgiliau gweithio mewn tîm, y gallu i lunio atebion dyfeisgar a bod yn flaengar.
Bydd angen i ddeiliad y swydd sicrhau canlyniadau gwych i ddeiliaid contract ag anghenion cymhleth a darparu gwasanaeth o ansawdd i gwsmeriaid.
Bydd deiliad y swydd yn frwdfrydig, yn empathig, yn llawn cymhelliant ac yn gadarnhaol yn ei ymagwedd.
Byddai profiad o weithio yn y maes cymorth cysylltiedig â thai o fantais.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch ag Arweinydd Tîm Cynnal Tenantiaeth, Ellie Taylor-Norrish, drwy ffonio 02920 537271.
Swydd ran amser yw hon, a bydd y deiliad yn gweithio 22 awr yr wythnos. Fodd bynnag, mae’r cyflog a ddangosir ar gyfer 37 awr yr wythnos, felly caiff ei roi ar sail pro-rata yn unol â hyn.
Swydd dros dro tan 31/12/2024 yw hon.
Rhaid i ymgeiswyr mewnol sy'n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar sail secondiad gael cymeradwyaeth cyn gwneud cais gan ddefnyddio Ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y Cyfarwyddwr/Cyfarwyddwr Cynorthwyol/Prif Swyddog neu uwch swyddog enwebedig perthnasol ar radd nad yw’n is na RhG2, neu yn achos staff mewn ysgolion, y Pennaeth/Corff Llywodraethu, all gymeradwyo ceisiadau.
Mae angen i ymgeiswyr ddangos eu gwybodaeth, eu sgiliau a'u galluoedd yn unol â'r fanyleb person. Sicrhewch fod gwybodaeth ategol ynghlwm ar waelod y ffurflen gais.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â_ _._
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:
- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol
Gwybodaeth Ychwanegol:
- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd
Job Reference: PEO03672
-
Swyddog Tenantiaeth
4 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Nod Cyngor Caerdydd yw darparu gwasanaeth hygyrch o ansawdd uchel. Mae swydd wag ar gael i Swyddog Tenantiaeth yn y Gwasanaethau Landlord o fewn Tai a Chymunedau. **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio mewn tîm prysur o swyddogion tenantiaeth. Byddwch yn gweithio’n rhagweithiol i sicrhau bod tenantiaid a lesddeiliaid...
-
Swyddog Tenantiaeth
4 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymrwymedig ymuno â’n tîm Rheoli Tenantiaeth ar sail contract 2 flynedd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn bwrw ati i sicrhau bod tenantiaid a lesddeiliaid yn cydymffurfio ag amodau eu tenantiaeth neu les, yn cynnig cyngor ac arweiniad i denantiaid a lesddeiliaid ac yn rhoi camau gorfodi...
-
Swyddog Cyllid
5 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**About The Service** Nod Cyngor Caerdydd yw darparu gwasanaeth hygyrch o ansawdd uchel. Ar hyn o bryd, mae gan y gwasanaeth swydd wag amser llawn ar gyfer swyddog cyllid o fewn y tîm cyllid. **About the job** Prif swyddogaeth y swydd yw bod yn gyfrifol am adennill ôl-ddyledion rhent ardal yn y ddinas a chymryd pob cam adfer priodol. **What We Are...
-
Swyddog Preifatrwydd a Sicrwydd
7 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn Nhîm Llywodraethu Gwybodaeth y Cyngor i helpu i gyflawni arferion Llywodraethu Gwybodaeth y Cyngor a’i helpu i ddatblygu yn barod ar gyfer cam nesaf ein hymateb i ddarparu gwasanaethau i’r dinasyddion yr ydym yma i’w helpu. Dewch i ymuno â thîm sy’n tyfu a datblygu drwy weithio ochr yn ochr â...
-
Swyddog Technegol
4 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Nod Cyngor Caerdydd yw darparu gwasanaeth hygyrch o ansawdd uchel wrth gyflawni ei swyddogaethau i gynnal a chadw 13,808 eiddo domestig y Cyngor a thua 9 adeilad llety â chymorth. Mae hefyd yn gyfrifol am 9 bloc fflatiau uchel, yn ogystal â Chyfadeiladau Byw yn y Gymuned. Ar hyn o bryd mae 5 swydd wag ar gyfer swyddi Rheolwr Technegol,...
-
Swyddog Cyllid
4 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Nod Cyngor Caerdydd yw darparu gwasanaeth cyllid tai hygyrch o ansawdd uchel. Ar hyn o bryd mae gan y Gwasanaeth swydd wag amser llawn ar gyfer uwch Swyddog Cyllid graddedig yn y Tîm Cyllid Tai. **Am Y Swydd** Prif swyddogaeth y swydd yw bod yn gyfrifol am adfer ôl-ddyledion rhent ar gyfer ardal o'r ddinas a chymryd yr holl gamau adfer...
-
Swyddog Llety a Reolir
4 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Llety a Reolir yn rhan o'r Adran Tai Arbenigol ac yn darparu llety fforddiadwy hirdymor o ansawdd uchel i'r rheiny sydd wedi wynebu neu brofi digartrefedd. Trwy gyfrwng nifer o leoliadau ledled Caerdydd, mae’r rheolwyr safle yn darparu’r canlynol: - Gwasanaeth rheoli tai pwrpasol - Gwasanaeth atgyweirio a...
-
Swyddog Iechyd a Lles
4 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer 2 unigolyn ymrwymedig â sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid gwych i ymuno â’r Tîm Lles, gan weithio o Hybiau Cymunedol, Llyfrgelloedd a lleoliadau eraill ledled y ddinas. **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cydlynu a chynorthwyo i gyflwyno Cyngor Arbenigol Heneiddio'n Dda a gweithgareddau...
-
Swyddog Cyllid Masnachfraint
7 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time**Swydd Wag Fewnol / Allanol** **Cyf**:12036** **Teitl y Swydd**:Swyddog Cyllid Masnachfraint** **Contract: Cyfnod Penodol tan Gorffennaf 2024, Llawn Amser** **Oriau: 37 yr wythnos** **Cyflog: £28,648 - £30,599 pro rata** Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Swyddog Cyllid Masnachfraint o fewn adran MIS Coleg Caerdydd a'r Fro. Bydd y swydd hon...
-
Swyddog Cymorth Busnes
5 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Drwy bartneriaethau ag ysgolion, cyflogwyr, cymunedau a sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach, mae Addewid Caerdydd yn ceisio sicrhau cyfleoedd sy'n creu uchelgais ac yn cyflwyno sgiliau i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed, ac sy’n eu cefnogi i symud ymlaen i Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant. Mae Addewid Caerdydd yn chwilio am...
-
Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol a Marchnata
4 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Careers Wales Full time**Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol a Marchnata **(Rhan Amser)** **Gradd Cyflog 2: cyflog cychwynnol yw £13,575, pro-rata i £22,625.** **Mae Career Choices Dewis Gyrfa Cyf (CCDG) yn is-gwmni sydd ym mherchnogaeth lwyr Llywodraeth Cymru.** **Rydym yn darparu gwasanaeth cyfarwyddyd ac anogaeth gyrfaoedd hanfodol sy’n annibynnol, yn ddiduedd ac yn...
-
Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl
4 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Cyf.**PEO02929 **Swydd**:Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl **Gradd**:6 **Cyflog**:£27,852 - £32,020 **Statws**: parhaol a llawn amser **Ynglŷn â'r gwasanaeth** Mae gennym gyfle cyffrous i Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl weithio gyda rhai o'n plant a'n pobl ifanc mwyaf bregus yng Nghaerdydd. Rydym yn chwilio am Uwch Swyddog...
-
Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl
4 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Cyf.**PEO02929 **Swydd**:Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl **Gradd**:6 **Cyflog**:£27,852 - £32,020 **Statws**: parhaol a llawn amser **Ynglŷn â'r gwasanaeth** Mae gennym gyfle cyffrous i Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl weithio gyda rhai o'n plant a'n pobl ifanc mwyaf bregus yng Nghaerdydd. Rydym yn chwilio am Uwch Swyddog...
-
Swyddog Hyfforddiant Lluosi
5 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig â sgiliau gofal cwsmeriaid ardderchog ymuno â'n Tîm Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn rhan o'n Prosiect Lluosi, sy'n rhan o'r Tîm Llwybr i Mewn i Waith. Nod Prosiect Lluosi yw cefnogi dinasyddion anodd eu cyrraedd i uwchsgilio, gan ganolbwyntio ar...
-
Swyddog Datblygu'r Ganolfan Achredu
4 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn gwasanaethau Cymorth Cynnar Tai a Chymunedau ar gyfer Swyddog Datblygu’r Ganolfan Achredu Byddwch yn aelod o dîm Datblygu’r Gweithlu a’r Ganolfan Achredu sefydledig sy’n meddu ar brofiad o gyflwyno a chefnogi rhaglenni hyfforddi i amrywiaeth o weithwyr proffesiynol a’r teuluoedd y mae ein...
-
Swyddog Storfa
4 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae Tîm Cyd-Wasanaeth Offer Caerdydd a'r Fro (CWO) yn awyddus i gyflogi Swyddog Storfa wedi'i leoli yn ein warws, Unedau 2 a 3 Lambourne Crescent, Parc Busnes Caerdydd, Llanisien, Caerdydd, CF14 5GF. Mae tîm CWO y Cyngor yn rhoi offer i bobl yng Nghaerdydd a’r Fro. Rydym yn archebu, yn dosbarthu, yn casglu ac yn cynnal amrywiaeth...
-
Swyddog Arholiadau a Chymorth Busnes
4 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Ynglŷn â'r gwasanaeth** Mae'r Tîm Addysgu Cymunedol yn gweithio gyda dysgwyr nad ydynt yn gallu cael mynediad i'r ysgol oherwydd iechyd ac amgylchiadau esgusodol. Mae'r tîm yn gweithio ar draws y ddinas mewn lleoliadau cymunedol ac adeiladau’r cyngor. Mae'r tîm yn gweithio mewn partneriaeth agos â dysgwyr, teuluoedd, ysgolion, darparwyr EOTAS,...
-
Swyddog Asesu
4 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Ynglŷn â’r Gwasanaeth** **Ynglŷn â’r swydd** Bydd Swyddogion Asesu yn cynnal asesiadau digartrefedd ar sail argyfwng, ac yn cwblhau atgyfeiriadau ar gyfer llety fel y bo'n briodol. Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd gynnal ymchwiliadau ac asesiadau ar gleientiaid sy'n dweud eu bod yn ddigartref ar y diwrnod, a rhoi cyngor ac atebion tai pwrpasol...
-
Cynorthwy-ydd Hyb
4 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer unigolyn ymrwymedig gyda sgiliau gofal cwsmeriaid gwych i ymuno â thîm yr Hybiau Cymunedol ledled y ddinas. **Am Y Swydd** Mae’r tîm yn cefnogi cwsmeriaid sy'n defnyddio ein Hybiau a’n Llyfrgelloedd, gyda’r nod i ateb ymholiadau ar bwynt cyswllt cyntaf. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn...
-
Swyddog Seiberddiogelwch
7 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae’r adran TGCh yn rhan o Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cwsmeriaid a Digidol y Cyngor. Prif swyddogaethau’r adran yw: - darparu systemau a chymorth TG o safon uchel, a chynnal a chadw’r systemau TG, ym mhob rhan o’r sefydliad - rhoi cyngor ac arweiniad strategol i’r gwasanaethau a’u cyfarwyddiaethau - cyfrannu at y gwaith o...