Swyddog Arholiadau a Chymorth Busnes

2 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Ynglŷn â'r gwasanaeth**
Mae'r Tîm Addysgu Cymunedol yn gweithio gyda dysgwyr nad ydynt yn gallu cael mynediad i'r ysgol oherwydd iechyd ac amgylchiadau esgusodol. Mae'r tîm yn gweithio ar draws y ddinas mewn lleoliadau cymunedol ac adeiladau’r cyngor. Mae'r tîm yn gweithio mewn partneriaeth agos â dysgwyr, teuluoedd, ysgolion, darparwyr EOTAS, gweithwyr proffesiynol eraill oddi fewn yr ALl, y Gwasanaeth Iechyd ac asiantaethau statudol a gwirfoddol eraill yng Nghaerdydd.

**Ynglŷn â'r swydd**
Deiliad y swydd fydd gwyneb croesawgar y tîm ac yn bwynt cyswllt cyntaf i bob rhiant, ymwelydd ac aelod o staff. Byddant yn cynllunio ac yn cynnal pob arholiad yn unol â gofynion y JCQ.

Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn ddibynadwy, yn onest, yn hyblyg ac ymddiriedadwy. Byddant yn gallu gweithio mewn amgylchedd prysur gydag oedolion a phlant. Mae hyfedredd yn Saesneg, ar lafar ac yn ysgrifenedig, yn hanfodol fel y mae gwybodaeth dda am becynnau meddalwedd Office. Mae profiad blaenorol o fod yn swyddog arholiadau yn hanfodol. Mae profiad gweinyddol yn y sector addysg a gwybodaeth am SIMS a Capita ONE yn ddymunol.

**Yr hyn yr ydym yn chwilio amdano oddi wrthych**
Fel yr ymgeisydd llwyddiannus, byddwch yn angerddol am systemau a data, gan roi sylw manwl i fanylion. Byddwch yn ddeinamig, yn gweithio'n galed ac yn drefnus iawn, gyda'r gallu i reoli eich amser yn effeithlon a’r gallu i flaenoriaethu nifer o dasgau amrywiol a pharhaus. Gallwch fod yn gweithio gyda defnyddwyr gwasanaeth sy'n profi her a thrawma felly bydd angen fod yn medru dangos empathi, dealltwriaeth ac o fod yn anfeirniadol.

**Gwybodaeth ychwanegol**

Mae'r swydd hon yn rhan-amser a bydd yn gweithio 32.5 awr yr wythnos, yn ystod y tymor yn unig ac un wythnos ym mis Awst pan fydd canlyniadau'r arholiad yn cael eu cyhoeddi. Fodd bynnag, mae'r cyflog a ddangosir yn ymwneud â 37 awr yr wythnos, 52 wythnos y flwyddyn ac felly bydd yn pro-rata yn unol â hynny.

Bydd y swydd wedi'i lleoli yn Nhreganna.

Mae'r swydd hon yn amodol ar wiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd Uwch.

Mae diogelu ac amddiffyn plant yn flaenoriaethau allweddol i'r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion agored i niwed i sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Mae ein gwasanaethau a'n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch ac amddiffyniad pob plentyn ac oedolyn agored i niwed, a byddant yn cymryd camau i ddiogelu eu lles, ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a'r holl ysgolion.

Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a Saesneg. Ni fydd ceisiadau a dderbynnir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

**Sylwch nad yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran wybodaeth ategol eich cais, gwnewch yn siŵr eich bod yn cyfeirio at yr isod ar ein gwefan**:
**Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- **
- Application Guidance
- Behavioural Competency Framework

**Gwybodaeth ychwanegol:

- **
- Employee Charter
- Recruitment of Ex-Offenders
- Privacy Notice

Job Reference: EDU00627


  • Arolygwr (Arholiadau)

    5 hours ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **Swydd Wag Fewnol / Allanol** **Teitl y Swydd**:Arolygwr (Arholiadau)** **Contract**: Rhan-amser, tâl fesul awr** **Oriau**:Yn amrywio fesul Wythnos** **Lleoliad: Campws Canol y Ddinas a Heol Colcot ond gyda'r disgwyliad i gyflenwi yn holl safleoedd CCAF os bydd angen** **Cyflog**:£12.00 yr awr** Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Goruchwyliwr...

  • Swyddog Gweinyddol

    5 hours ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle gwych wedi codi i ymuno â'r tîm yng Nghastell Caerdydd fel swyddog gweinyddol. Mae Castell Caerdydd, sy’n croesawu miloedd o bobl bob blwyddyn, yn un o brif atyniadau treftadaeth Cymru ac yn safle o bwysigrwydd rhyngwladol. **Am Y Swydd** Bydd y Swyddog Gweinyddol yn cynnig gwasanaeth cymorth busnes a gweinyddol effeithiol...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Addysg Gerdd Caerdydd a'r Fro yn darparu hyfforddiant a gweithgareddau i 190 o ysgolion a lleoliadau sy'n gweithio gyda thua 7000 o blant yr wythnos. Mae ein tîm yn cynnwys athrawon brwdfrydig a medrus, ac yn cael cymorth gan ein tîm cymorth busnes sydd wedi'i leoli yng nghanolfan Celfyddydau Chapter yng Nghaerdydd. Rydym yn...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r gyfarwyddiaeth Oedolion, Tai a Chymunedau yn ymgorffori dwy adran Gwasanaethau Oedolion a Thai a Chymunedau ac mae'n cynnwys llawer o wasanaethau rheng flaen pwysig y cyngor. Mae'r tîm Gwella Gwasanaethau a ffurfiwyd yn ddiweddar yn ymroddedig i ddatblygu arferion gwaith o fewn y gyfarwyddiaeth ac yn rhoi cymorth i'w timau...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle llawn amser ar gael o fewn Oedolion, Tai a Chymunedau. **Am Y Swydd** Mae cyfle cyffrous ar gyfer unigolyn ymrwymedig sydd â sgiliau rhyngbersonol gwych. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhoi cyngor ac arweiniad ar sut i sefydlu a rhedeg "Microfenter", sef busnes bach iawn sy'n darparu gofal a chymorth i'r gymuned. Bydd yr...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Sipsiwn a Theithwyr yn rhan o'r Adran Llety ac Asesu â Chymorth ac mae'n darparu llety sy'n briodol yn ddiwylliannol, sy'n addas i anghenion y Gymuned Sipsiwn a Theithwyr. Drwy safleoedd, mae rheoli safleoedd yn cyflawni'r darpariaethau canlynol: - Gwasanaeth rheoli tai pwrpasol - Gwasanaeth atgyweirio a chynnal...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Cyf.**PEO02929 **Swydd**:Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl **Gradd**:6 **Cyflog**:£27,852 - £32,020 **Statws**: parhaol a llawn amser **Ynglŷn â'r gwasanaeth** Mae gennym gyfle cyffrous i Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl weithio gyda rhai o'n plant a'n pobl ifanc mwyaf bregus yng Nghaerdydd. Rydym yn chwilio am Uwch Swyddog...


  • Cardiff, United Kingdom Yolk Recruitment Ltd Full time

    **Business Support Officer** Yolk Recruitment are working with a well-known charity based in Wales who are a Welsh Government Sponsored Body to find a part time business support officer to join their team and assist in the project management of their new capital strategy. We are looking for an independent and original thinker who can bring a fresh...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Sipsiwn a Theithwyr yn rhan o'r Adran Llety ac Asesu â Chymorth ac mae'n darparu llety sy'n briodol yn ddiwylliannol, sy'n addas i anghenion y Gymuned Sipsiwn a Theithwyr. Drwy safleoedd, mae rheoli safleoedd yn cyflawni'r darpariaethau canlynol: - Gwasanaeth rheoli tai pwrpasol - Gwasanaeth atgyweirio a chynnal...

  • Swyddog Cynghori

    5 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Tîm Cyngor Ariannol yn dîm lles a budd-daliadau sy'n gweld tua 1500 o bobl y mis gan nodi cymorth ariannol, grantiau a gostyngiadau a delio â dyledion. Mae'r Tîm yn ehangu oherwydd galw ac angen hanfodol y bobl sy’n ymweld â'r 20+ o leoliadau'r wythnos y mae'r tîm wedi ymrwymo i’w mynychu. **Am Y Swydd** Mae cyfle...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y Gwasanaeth Tai a Chymunedau ar gyfer Swyddog Amserlennu Opti-Time llawn-amser (37 awr yr wythnos) gyda’r Uned Cynnal a Chadw Ymatebol. Mae'r swydd hon dros dro tan 31ain Mawrth 2024 **Am Y Swydd** **Beth Rydym Ei Eisiau Gennych** Bydd gennych sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol, ynghyd â’r gallu...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Crosslands, un o Gartrefi Plant Caerdydd, yn ardal Trelái, Caerdydd. Mae'r cartref yn dŷ ar ben ei hun yn ei erddi ei hun ac mae siopau lleol, canolfannau hamdden ac amwynderau lleol yn gyfleus wrth law. Mae'r cartref hefyd yn agos at ganol y ddinas ac yn hawdd ei gyrraedd o’r holl brif ffyrdd i mewn ac allan o Gaerdydd. Mae...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Gyfarwyddiaeth Adnoddau yn gyfrifol am ystod eang o wasanaethau corfforaethol, gan wasanaethu'r cyngor cyfan, ac mae'n chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gefnogi'r Cyfarwyddiaethau gweithredol wrth ddarparu eu gwasanaethau. Mae'r Adran Llywodraethu Gwybodaeth wedi'i lleoli o fewn y Gyfarwyddiaeth Adnoddau ac mae'n cefnogi...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous yng Ngwasanaethau’r Plant Cyngor Caerdydd, ac rydym yn recriwtio Swyddog Gweinyddol Llawn-amser ar gyfer ein Cartref newydd i Blant dan Asesiad, yn gweithio gyda rhai o'n plant a'n pobl ifanc mwyaf agored i niwed. Mae hwn yn amser cyffrous i ymuno â gwasanaeth sy’n rhoi’r unigolyn wrth wraidd ei waith. Mae'r...

  • Cymorth Busnes

    5 hours ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r Gwasanaethau Plant yn chwilio am unigolyn deinamig, rhagweithiol sydd â phrofiad gweinyddol, a hoffai gynorthwyo tîm yr hyb ymyriadau gan gynnwys gwasanaethau Ar Ffiniau Gofal a Chymorth i Deuluoedd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm prysur yn Stryd Neville, Caerdydd. **Am Y Swydd** Fel rhan o'r rôl Cymorth...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae GTC yn gyfrifol am fflyd o dros 900 o gerbydau a thua 600 darn o offer peirianyddol bach. Mae tua 100 o'r cerbydau hyn yn gerbydau trwyddedig Gweithredwyr, RCVau yn bennaf ac yn cefnogi gweithrediadau glanhau'r ddinas. Er mwyn cefnogi'r holl asedau hyn mae gan y cyngor brif weithdy mawr yn Grangetown a 2 weithdy lloeren llai mewn...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Ardal yn gydweithrediad caffael newydd ar draws y pedwar awdurdod lleol sy'n gwasanaethu pobl a chymunedau Caerdydd, Sir Fynwy, Torfaen a Bro Morgannwg. Caiff mwy na £1 biliwn ei wario bob blwyddyn ar nwyddau, gwasanaethau a gwaith yn y pedwar awdurdod. **Am Y Swydd** Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â'n Tîm Strategaeth a...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle ar gael yn Nhîm Perfformiad a Phartneriaethau'r Cyngor ar gyfer Uwch Swyddog Ymchwil sydd â diddordeb mewn cefnogi agenda ymgynghori ac ymgysylltu'r Cyngor. Bydd y rôl yng Nghanolfan Ymchwil ac Ymgysylltu Caerdydd, sy’n cynnwys arbenigwyr ar ymgynghori ac ymgysylltu ac yn gyfrifol am ddeall barn rhanddeiliaid ar ystod eang...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ydych chi eisiau gweithio mewn rôl ystyrlon yn cefnogi plant i fodloni eu hanghenion unigol a goresgyn heriau gan eu helpu i fyw bywydau llawn a hapus? Yn ogystal â chael effaith gadarnhaol ar fywydau ein plant, mae taliadau chwyddo hael yn cael eu talu am weithio ar nosweithiau, penwythnosau, Gwyliau Banc ac ar gyfer dyletswyddau...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff University Full time

    **Advert** **The ability to work through the medium of Welsh is essential to this role.** **Swyddog Gweinyddol Dysgu Cymraeg Caerdydd** Mae Ysgol y Gymraeg yn chwilio am unigolyn brwdfrydig ymuno gyda thîm gweinyddol Dysgu Cymraeg Caerdydd. Mae'r ddarpariaeth yma yn cynnig gwersi Cymraeg i Oedolion ar draws y rhanbarth. Bydd deiliad y swydd yn rheoli...