Swyddog Seiberddiogelwch

3 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**

Mae’r adran TGCh yn rhan o Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cwsmeriaid a Digidol y Cyngor.

Prif swyddogaethau’r adran yw:

- darparu systemau a chymorth TG o safon uchel, a chynnal a chadw’r systemau TG, ym mhob rhan o’r sefydliad
- rhoi cyngor ac arweiniad strategol i’r gwasanaethau a’u cyfarwyddiaethau
- cyfrannu at y gwaith o gyflawni ymgyrch Dewis Digidol y Cyngor

Mae’r Gwasanaeth TGCh yn ymdrin â sawl swyddogaeth, gan gynnwys:

- y Ddesg Gymorth
- timoedd Systemau Menter a Data, sy’n gyfrifol am ddatblygu, rhoi cymorth a chynnal a chadw rhaglenni a ddatblygwyd yn fewnol yn ogystal â rhaglenni trydydd parti
- timoedd Gwasanaethau TGCh sy’n darparu gwasanaethau sy’n ymwneud â ’r rhwydwaith, y gweinydd a’r defnyddwyr olaf
- Diogelwch a Chydymffurfiaeth
- Pensaernïaeth Menter

**Am Y Swydd**

**Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau**
- Datblygu, rheoli a monitro’r rhaglen sicrwydd diogelwch a chydymffurfiaeth TGCh ar gyfer Seiberddiogelwch, sy'n cwmpasu bygythiadau cyfredol ac sy’n esblygu i dechnoleg ar draws y cyngor, yr awdurdod addysg lleol ac ysgolion unigol.
- Cydlynu a dogfennu'n effeithiol y gofynion cydymffurfio Seiberddiogelwch ar gyfer ysgolion, yn ôl y galw ac yn unol â pholisïau sefydliadol, safonau'r cyngor, deddfwriaeth, cydymffurfiaeth a rhwymedigaethau cytundebol, ac arfer gorau'r diwydiant.
- Gweithio'n rhagweithiol gydag uwch swyddogion gan gynnwys y Pennaeth, swyddogion TGCh a Llywodraethu Gwybodaeth, a rhanddeiliaid perthnasol eraill ar draws y sefydliad i sicrhau bod gofynion Seiberddiogelwch yn cael eu diffinio, a’u cadw atynt a bod asesiad blynyddol a phroses sicrwydd yn cael eu cwblhau a'u hadrodd ymlaen.
- Adolygu'n rhagweithiol sicrwydd Seiberddiogelwch ar draws ysgolion Caerdydd, gan ddogfennu ac amlygu unrhyw fylchau neu risgiau a, lle bo'n bosibl, gweithredu gwaith adfer neu argymhellion.
- Ymateb i ddigwyddiadau diogelwch TG gan ymchwilio a dadansoddi, dogfennu digwyddiadau a gwneud argymhellion i sicrhau nad ydynt yn digwydd eto.
- Monitro am dôr-diogelwch, ymosodiadau, ymyraethau neu weithgareddau anarferol eraill gan gynnwys hunaniaeth a rheoli mynediad a chamddefnydd posibl o ganiatâd gan ddefnyddwyr system awdurdodedig.
- Bod yn brif bwynt cyswllt i'r Cyngor mewn perthynas â gofynion sicrwydd a chydymffurfiaeth Seiberddiogelwch i holl ysgolion Caerdydd, cymryd cyfrifoldeb personol i gael y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw newidiadau yn y dirwedd a deddfwriaeth Seiberddiogelwch a sicrhau bod unrhyw ddogfennau, cyngor a chanllawiau yn gyfredol ac yn cynnwys yr holl wybodaeth berthnasol sy'n gysylltiedig â gofynion cyfredol a rhai sy'n dod i'r amlwg.
- Cynnal profion a dadansoddi caledwedd / meddalwedd gan ddefnyddio technegau priodol a gweithdrefnau profi i sicrhau cydymffurfiaeth Seiberddiogelwch o ran atebion technoleg ar draws seilwaith TGCh Ysgolion.
- Profi a gwerthuso cynhyrchion diogelwch a, lle bo angen, dylunio a gweithredu systemau diogelwch newydd neu uwchraddio'r rhai presennol.
- Datrys problemau perfformiad, diffygion, a namau cysylltiedig o ran diogelwch.

Ymateb i broblemau a cheisiadau gan gynnwys y rheiny a gyflwynir trwy Ddesg Gymorth yr adran TGCh, gan flaenoriaethu a rhoi sylw i’r manylion perthnasol er mwyn galluogi ymchwiliadau effeithiol.
- Sicrhau bod rhwydweithiau'n cael eu diogelu rhag maleiswedd a feirysau, gan nodi meysydd a allai fod dan fygythiad a meysydd lle gellir gwella diogelwch, gan sicrhau y meddir ar y wybodaeth ddiweddaraf am seiber-fygythiadau sy'n newid yn barhaus.
- Rhoi cyngor ac arweiniad ar gamau cynllunio prosiectau TGCh i sicrhau bod yr holl ofynion Seiberddiogelwch yn cael eu bodloni.
- Cefnogi gweithgareddau a mentrau gwella gwasanaeth a chyfrannu atynt.
- Cyfrannu at berfformiad, amcanion, targedau a chyflawni safonau ansawdd y Gwasanaeth.
- Cynnal perthnasoedd effeithiol â staff technegol a staff cymorth i sicrhau bod gofynion systemau a gwybodaeth yn cael eu nodi a’u bodloni.
- Datblygu, adolygu a chynnal cynlluniau, polisïau, prosesau a gweithdrefnau’r gwasanaeth.
- Cymryd cyfrifoldeb personol am eich iechyd a’ch diogelwch a hyrwyddo cydymffurfiaeth gan sicrhau amgylchedd gwaith diogel.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
- Hanes o ddarparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid.
- Profiad o reoli Seiberddiogelwch gan gynnwys atal, monitro a chanfod digwyddiadau, ymosodiadau, ymyraethau a gweithgareddau anarferol, anawdurdodedig neu anghyfreithlon eraill.
- Gwybodaeth a phrofiad o adfer trychinebau a gwaith cynllunio wrth gefn a rheoli digwyddiadau mewn ymateb i achosion o dôr-diogelwch
- Y gallu i adnabod gwendidau posibl mewn gwasanaethau a systemau TGCh a gweithredu mesurau amddiffynnol.
- Profiad o ymchwilio i rybuddion, digwyddiadau neu achosion o dôr-diogelwch a darparu ymatebion, argymhellion a gwaith adfer.
- Gwybodaeth a phrofiad o ddylunio, profi, gosod, cefnogi a chynnal cynhyrchion diogelwch TGCh.
- Hanes o ddarparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid.