Swyddog Hyfforddiant Lluosi

3 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig â sgiliau gofal cwsmeriaid ardderchog ymuno â'n Tîm Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith.

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn rhan o'n Prosiect Lluosi, sy'n rhan o'r Tîm Llwybr i Mewn i Waith. Nod Prosiect Lluosi yw cefnogi dinasyddion anodd eu cyrraedd i uwchsgilio, gan ganolbwyntio ar gynyddu sgiliau rhifedd fel rhan o gynllun ledled y DU.

Mae'r Tîm Llwybr yn cynnwys ein darpariaeth Dysgu Oedolion, Gwasanaeth Cymorth Digidol a rhaglen Gwirfoddoli Caerdydd. Bydd Prosiect Lluosi yn gweithio ochr yn ochr â'r ddarpariaeth bresennol i ychwanegu gwerth ac achrediad lle bynnag y bo modd.

**Am Y Swydd**
Bydd y Swyddogion Hyfforddiant Lluosi yn cynnig ystod eang o hyfforddiant achrededig a heb achrediad ledled Caerdydd i grwpiau/unigolion anodd eu cyrraedd a'r rhai heb unrhyw gymwysterau.

Bydd y rôl yn cynnwys datblygu a gweithredu deunyddiau hyfforddi newydd, a nodi hyfforddiant newydd a fyddai'n datblygu ac yn gwella'r ddarpariaeth bresennol.

Bydd y Swyddogion Hyfforddiant Lluosi yn gweithio'n agos gyda'n tîm Ansawdd a Pherfformiad i sicrhau bod safonau achredu'n cael eu cynnal, bod dulliau adrodd yn cael eu dilyn yn gywir a bod achrediadau’n cael eu cyflawni lle bynnag y bo modd.

Bydd angen i chi gydlynu’r gwaith gweinyddol sy’n ofynnol gan gyrff archwilio a’r darparwyr ariannu allanol i fodloni gofynion y Safon Ansawdd, fydd yn cynnwys goruchwylio arholiadau.

Byddwch yn darparu adborth i gyfranogwyr ar eu cynnydd / datblygiad ac yn defnyddio'r Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith ehangach er mwyn i gyfranogwyr dderbyn cymorth pellach.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd gennych brofiad o weithio mewn amgylchedd sy’n gysylltiedig â chwilio am swyddi a bydd gennych sylfaen wybodaeth dda o’r cwricwlwm Dysgu Oedolion. Bydd gennych brofiad o weithio gyda Chyrff Dyfarnu i sicrhau bod cyrsiau sy'n cael eu darparu yn bodloni'r safonau cywir.

Byddai’n fuddiol meddu ar brofiad blaenorol o gyflwyno sgiliau sylfaenol (rhifedd a llythrennedd) a chyrsiau seiliedig ar gyflogaeth.

Bydd gennych sgiliau cyfathrebu ardderchog a’r gallu i addasu i wahanol sefyllfaoedd. Byddwch yn gallu datrys anghydfodau mewn modd cadarnhaol ac adeiladol. Byddwch yn gweithio'n dda mewn tîm ac yn gallu addasu i ymdrin â phynciau newydd pan fo angen.

Bydd rhaid i chi deithio ar draws y ddinas i ddarparu hyfforddiant ar adegau penodol. Bydd lleoliad gwaith yn amrywio bob dydd.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Swydd dros dro tan 31/03/2024 yw hon.

Mae’r swydd yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Efallai bydd angen gweithio rhywfaint gyda’r nos a/neu’r penwythnos.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Rhaid i ymgeiswyr mewnol sy'n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar sail secondiad gael cymeradwyaeth cyn gwneud cais gan ddefnyddio Ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y Cyfarwyddwr / Cyfarwyddwr Cynorthwyol / Prif Swyddog neu uwch swyddog enwebedig perthnasol ar radd nad yw’n is nag RhG2, neu yn achos staff mewn ysgolion, y Pennaeth / Corff Llywodraethu, all gymeradwyo ceisiadau.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO02978



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r Gwasanaethau Plant wedi creu tîm newydd i ganolbwyntio ar ehangu a chryfhau'r gweithlu presennol a gweithlu’r dyfodol. **Am Y Swydd** Bydd deiliad y swydd yn dylunio ac yn darparu amrywiaeth eang o raglenni hyfforddi gan gynnwys platfformau E-Ddysgu sy'n diwallu anghenion hyfforddi a datblygu timau'r Gwasanaethau Plant. Bydd...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn gwasanaethau Cymorth Cynnar Tai a Chymunedau ar gyfer Hyfforddwr Datblygu’r Gweithlu. Swydd dros dro i gyflenwi dros gyfnod mamolaeth yw hon, tan 31 Mawrth 2024, neu tan i ddeiliad parhaol y swydd ddychwelyd. Byddwch yn aelod o dîm Datblygu’r Gweithlu a’r Ganolfan Achrededig sefydledig sy’n...

  • Swyddog Cefnogi

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r tîm yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth rheng flaen. Rydym yn darparu amrywiaeth o fentrau diogelwch ffyrdd a theithio llesol i blant, pobl ifanc ac oedolion sy’n byw, yn gweithio neu’n astudio yng Nghaerdydd. **Am Y Swydd** Pwrpas y swydd yw cynllunio, cefnogi a darparu hyfforddiant Streetwise i blant yng Nghaerdydd....


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith yn rhoi cymorth i bobl sydd wrthi'n chwilio am waith neu'n ceisio gwella eu sgiliau. Mae'r tîm yn gallu cynnig cymorth a mentora dwys trwy gyfleoedd gwirfoddoli a phrojectau a ariennir yn allanol. Mae’r Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith yn rheoli nifer o brojectau cyflogadwyedd a ariennir yn...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Ardal yn gydweithrediad caffael newydd ar draws y pedwar awdurdod lleol sy'n gwasanaethu pobl a chymunedau Caerdydd, Sir Fynwy, Torfaen a Bro Morgannwg. Caiff mwy na £1 biliwn ei wario bob blwyddyn ar nwyddau, gwasanaethau a gwaith yn y pedwar awdurdod. **Am Y Swydd** Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â'n Tîm Strategaeth a...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Drwy bartneriaethau ag ysgolion, cyflogwyr, cymunedau a sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach, mae Addewid Caerdydd yn ceisio sicrhau cyfleoedd sy'n creu uchelgais ac yn cyflwyno sgiliau i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed, ac sy’n eu cefnogi i symud ymlaen i Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant. Dilynwch Addewid Caerdydd ar Facebook,...

  • Swyddog Cynghori

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Tîm Cyngor Ariannol yn dîm lles a budd-daliadau sy'n gweld tua 1500 o bobl y mis gan nodi cymorth ariannol, grantiau a gostyngiadau a delio â dyledion. Mae'r Tîm yn ehangu oherwydd galw ac angen hanfodol y bobl sy’n ymweld â'r 20+ o leoliadau'r wythnos y mae'r tîm wedi ymrwymo i’w mynychu. **Am Y Swydd** Mae cyfle...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Cyfeirnod**: PEO03735 **Swydd**:Swyddog Gwybodaeth Reoli / Dadansoddwr Data (Gradd 5)** **Lleoliad**: Caerdydd - Canolfan John Kane (hybrid) **Cyflog**: £25,979 - £29,777 (gan ddibynnu ar brofiad a hyd gwasanaeth) **Oriau**: Llawn-amser Dyddiad cau: 13 Chwefror 2024 Mae gennym gyfle cyffrous ar gyfer Dadansoddwr Data i gyfrannu at...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Crosslands, un o Gartrefi Plant Caerdydd, yn ardal Trelái, Caerdydd. Mae'r cartref yn dŷ ar ben ei hun yn ei erddi ei hun ac mae siopau lleol, canolfannau hamdden ac amwynderau lleol yn gyfleus wrth law. Mae'r cartref hefyd yn agos at ganol y ddinas ac yn hawdd ei gyrraedd o’r holl brif ffyrdd i mewn ac allan o Gaerdydd. Mae...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Sipsiwn a Theithwyr yn rhan o'r Adran Llety ac Asesu â Chymorth ac mae'n darparu llety sy'n briodol yn ddiwylliannol, sy'n addas i anghenion y Gymuned Sipsiwn a Theithwyr. Drwy safleoedd, mae rheoli safleoedd yn cyflawni'r darpariaethau canlynol: - Gwasanaeth rheoli tai pwrpasol - Gwasanaeth atgyweirio a chynnal...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Gyfarwyddiaeth Adnoddau yn gyfrifol am ystod eang o wasanaethau corfforaethol, gan wasanaethu'r cyngor cyfan, ac mae'n chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gefnogi'r Cyfarwyddiaethau gweithredol wrth ddarparu eu gwasanaethau. Mae'r Adran Llywodraethu Gwybodaeth wedi'i lleoli o fewn y Gyfarwyddiaeth Adnoddau ac mae'n cefnogi...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Cyf.**PEO02929 **Swydd**:Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl **Gradd**:6 **Cyflog**:£27,852 - £32,020 **Statws**: parhaol a llawn amser **Ynglŷn â'r gwasanaeth** Mae gennym gyfle cyffrous i Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl weithio gyda rhai o'n plant a'n pobl ifanc mwyaf bregus yng Nghaerdydd. Rydym yn chwilio am Uwch Swyddog...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **Swydd Wag Fewnol / Allanol** **Cyf**:12197** **Teitl y Swydd**:Swyddog Cefnogi Prosiectau** **Contract: Cyfnod Penodol hyd at Orffennaf 2024, Llawn Amser** **Oriau: 37 yr wythnos** **Cyflog: £27,227 - £29,551 pro rata** Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Swyddog Cefnogi Prosiectau yn adran Prosiectau a Chyllid Coleg Caerdydd a'r Fro. Bydd y...

  • Welsh Headings

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous gennym ar hyn o bryd ar gyfer hyfforddwr profiadol i ymuno â’n Tîm Gwasanaethau 24/7. Mae gwasanaethau 24/7 yn cynnig cyfle cyffrous i gefnogi pobl i fyw bywydau llawn ac annibynnol yn eu cymunedau, gan ymrymuso pobl i aros yn annibynnol gartref trwy ddatblygu a darparu ystod o Wasanaethau Atal. Ar ben hynny,...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Sipsiwn a Theithwyr yn rhan o'r Adran Llety ac Asesu â Chymorth ac mae'n darparu llety sy'n briodol yn ddiwylliannol, sy'n addas i anghenion y Gymuned Sipsiwn a Theithwyr. Drwy safleoedd, mae rheoli safleoedd yn cyflawni'r darpariaethau canlynol: - Gwasanaeth rheoli tai pwrpasol - Gwasanaeth atgyweirio a chynnal...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymrwymedig ymuno â’n Tîm Cynnal Tenantiaeth. **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio'n rhagweithiol i ddarparu gwasanaeth rheoli tai dwys. Bydd y swydd yn cynnwys sicrhau y gall tenantiaid gynnal eu tenantiaethau drwy ymyrraeth uniongyrchol a defnyddio ystod o wasanaethau...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith yn rhoi cymorth i bobl sydd wrthi'n chwilio am waith neu'n ceisio gwella'u sgiliau. Mae'r tîm yn gallu cynnig cymorth a mentora dwys drwy broject a ariennir yn allanol a chyfleoedd gwirfoddoli. Mae'r Tîm Cyswllt Cyflogwyr, sy'n rhan o'r Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith, yn rhoi pecyn...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Cyf. **PEO02930*** **Swydd Dirprwy Swyddog Cyfrifol** **Gradd 7**: - £33,945 - £38,223** **Mae gennym gyfle cyffrous ar gyfer Dirprwy Swyddog Cyfrifol, i weithio gyda rhai o'n plant a'n pobl ifanc mwyaf agored i niwed yng Nghaerdydd. Rydym yn chwilio am Ddirprwy Reolwr hyderus, annibynnol ac effeithiol ar gyfer ein Cartref Plant...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle wedi codi ar gyfer Swyddog Arweiniol, yn gweithio o fewn yr Adran Dylunio, Contractau a Darparu. **Am Y Swydd** Mae Dylunio, Contractau a Darparu yn dîm sy'n ehangu'n gyflym ac mae’n allweddol o ran cynllunio a chyflawni prosiectau seilwaith yng Nghaerdydd. Bydd angen i ddeiliad y swydd ddarparu cymorth technegol ac AutoCad...

  • Swyddog Hyb

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn sefydliad llywodraeth leol sy’n gyfrifol am ddarparu dros 700 o wahanol wasanaethau i’n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled Caerdydd. Mae'n bwysig i ni fod ein gweithlu'n adlewyrchu gwerthoedd ein sefydliad, er mwyn gwasanaethu ein cymunedau'n well. Mae ein hybiau Cymunedol yn cynnig cyfle gwych i ymgeiswyr...