Hysbyseb Swydd Swyddog Cyswllt Cyflogwr/lleoli

2 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae'r Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith yn rhoi cymorth i bobl sydd wrthi'n chwilio am waith neu'n ceisio gwella'u sgiliau. Mae'r tîm yn gallu cynnig cymorth a mentora dwys drwy broject a ariennir yn allanol a chyfleoedd gwirfoddoli.

Mae'r Tîm Cyswllt Cyflogwyr, sy'n rhan o'r Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith, yn rhoi pecyn cyn-gyflogi cyflawn i fusnesau lleol. Mae'r tîm yn gallu paru ceiswyr gwaith addas a medrus â chyfleoedd gwaith gyda'r busnesau lleol.

**Am Y Swydd**
Bydd rôl y Swyddog Cyswllt Cyflogwr/Lleoli Gwaith yn nodi cyfleoedd cyflogaeth i gwsmeriaid I Mewn i Waith drwy adeiladu a chynnal perthnasoedd gwaith â microfusnesau, unig fasnachwyr a chyflogwyr eraill.

Bydd y rôl yn gyfrifol am gysylltu â chyflogwyr i gyrchu swyddi a chyfleoedd yn ogystal â darparu cymorth yn y gwaith.

Bydd y rôl yn gyfrifol am nodi a sefydlu cysylltiadau â chyflogwyr lleol drwy weithgareddau allgymorth a marchnata arloesol i hyrwyddo gwaith y Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith.

Bydd y rôl hefyd yn gyfrifol am sicrhau lleoliadau gwaith o fewn y Cyngor a gyda sefydliadau partner, ar gyfer pobl ifanc sydd ar y rhaglen Dechrau Disglair (pobl ifanc â phrofiad o ofal).

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Gwybodaeth drylwyr a chyfredol am faterion cyflogaeth a budd-daliadau a dealltwriaeth o ddiwygio lles a'r goblygiadau i gyfranogwyr.
- Profiad o drafod a chydlynu cyflogaeth sy'n cefnogi cyfleoedd gyda sefydliadau mewn gwahanol sectorau.
- Profiad o drefnu digwyddiadau recriwtio i gyflogwyr lleol.
- Y gallu i ddatblygu dull creadigol a chydweithredol o ddarparu lleoliadau gwaith, gwirfoddoli, rhaglenni hyfforddi, prentisiaethau a chyfleoedd eraill i gefnogi cyflogadwyedd.
- Profiad o ddod o hyd i gyfleoedd gwaith newydd a bod yn ymwybodol o dueddiadau llafur cyfredol yn y farchnad leol.
- Profiad o weithio gyda chleientiaid sy’n cael profiad o dlodi a rhwystrau i gyflogaeth a dealltwriaeth o anghenion cymorth pobl sy’n ddi-waith yn hirdymor, pob sy’n economaidd anweithgar, pobl ifanc, teuluoedd a chwsmeriaid sengl.
- Dealltwriaeth o'r economi a sut i nodi cyfleoedd sy'n cefnogi recriwtio i sectorau twf.
- Sgiliau ardderchog o ran rheoli amser a gallu amlwg i gwrdd â therfynau amser a chyflawni nodau.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Bydd gofyn i ddeiliad y swydd weithio o nifer o leoliadau gwahanol, gan gynnwys Neuadd y Sir, Hyb y Llyfrgell Ganolog ac adeiladau eraill sy'n Hybiau Cymunedol.

Swydd dros dro yw hon tan 31 Mawrth 2024.

Mae’n rhaid i ymgeiswyr mewnol sy'n dymuno gwneud cais am y swydd ar secondiad gael caniatâd cyn gwneud cais gan ddefnyddio Ffurflen SEC1 (4.C.081). Bydd angen caniatâd gan y Cyfarwyddwr / Cyfarwyddwr Cynorthwyol / Prif Swyddog perthnasol neu uwch swyddog arall a enwebwyd, ar raddfa RhG2 o leiaf, neu gan y Pennaeth / Corff Llywodraethu yn achos staff ysgolion.

Mae’r swydd hon yn addas i’w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO03152


  • Swyddog Cyswllt

    7 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y Gwasanaeth Cymunedau a Thai ar gyfer Swyddog Cyswllt o fewn y Gwasanaethau Byw'n Annibynnol. Mae’r Gwasanaethau Byw’n Annibynnol yn cynorthwyo oedolion sy’n agored i niwed i fyw yn annibynnol gartref a bod yn gysylltiedig yn eu cymunedau eu hunain trwy wybodaeth, cyngor a chefnogaeth wedi'i...

  • Swyddog Cyswllt

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i Swyddog Cyswllt yn nhîm Therapi Galwedigaethol y Gwasanaethau Byw'n Annibynnol. **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio’n bennaf yn Neuadd y Sir, er y gallai fod angen gweithio gartref weithiau. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio ochr yn ochr â’r Therapydd Galwedigaethol...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnig amrywiaeth o ddarpariaethau ledled y ddinas i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed. Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnwys tîm dawnus a brwdfrydig o weithwyr ieuenctid proffesiynol a gweithwyr cymorth ieuenctid sy’n gweithredu ledled y ddinas. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys canolfannau...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **Swydd Wag Fewnol / Allanol** **Cyf**:12036** **Teitl y Swydd**:Swyddog Cyllid Masnachfraint** **Contract: Cyfnod Penodol tan Gorffennaf 2024, Llawn Amser** **Oriau: 37 yr wythnos** **Cyflog: £28,648 - £30,599 pro rata** Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Swyddog Cyllid Masnachfraint o fewn adran MIS Coleg Caerdydd a'r Fro. Bydd y swydd hon...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **Swydd Wag Fewnol / Allanol** **Cyf**:BCC2023001** **Teitl y Swydd**:Cydlynydd Cwricwlwm Busnes** **Contract: Parhaol, Llawn Amser** **Oriau: 37** **Cyflog: £31,828 - £33,948 y flwyddyn** Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Cydlynydd Cwricwlwm Busnes yn adran Gwasanaethau Masnachol Coleg Caerdydd a'r Fro. Bydd y swydd hon wedi’i lleoli ar Gampws...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y Gwasanaeth Tai a Chymunedau ar gyfer Swyddog Amserlennu Opti-Time llawn-amser (37 awr yr wythnos) gyda’r Uned Cynnal a Chadw Ymatebol **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cynnig rheolaeth amserlennu effeithiol ac yn gweithredu fel pwynt cyswllt ar gyfer ymholiadau a phroblemau. **Beth...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Sipsiwn a Theithwyr yn rhan o'r Adran Llety ac Asesu â Chymorth ac mae'n darparu llety sy'n briodol yn ddiwylliannol, sy'n addas i anghenion y Gymuned Sipsiwn a Theithwyr. Drwy safleoedd, mae rheoli safleoedd yn cyflawni'r darpariaethau canlynol: - Gwasanaeth rheoli tai pwrpasol - Gwasanaeth atgyweirio a...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Gan fod y rôl hon yn rhan o ailstrwythuro, rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr Cyngor Caerdydd gan gynnwys gweithwyr Caerdydd ar Waith a gweithwyr asiantaeth eraill sy'n gweithio i'r Cyngor.** Mae'r Gwasanaeth Sipsiwn a Theithwyr yn rhan o'r Adran Llety ac Asesu â Chymorth ac mae'n darparu llety sy'n briodol yn...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y Gwasanaeth Tai a Chymunedau ar gyfer Swyddog Amserlennu Opti-Time llawn-amser (37 awr yr wythnos) gyda’r Uned Cynnal a Chadw Ymatebol. **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cynnig rheolaeth amserlennu effeithiol ac yn gweithredu fel pwynt cyswllt ar gyfer ymholiadau a phroblemau. **Beth...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn awyddus i recriwtio Swyddog Adolygu Annibynnol profiadol a pharhaol i ymuno â'n gwasanaethau ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion ifanc, gwasanaethau sy’n tyfu gennym.** Byddwch yn ymuno â thîm deinamig a sefydledig i barhau â'r gwaith da yn y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol. Bydd gennych o leiaf 6 mis o...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn Nhîm Llywodraethu Gwybodaeth y Cyngor i helpu i gyflawni arferion Llywodraethu Gwybodaeth y Cyngor a’i helpu i ddatblygu yn barod ar gyfer cam nesaf ein hymateb i ddarparu gwasanaethau i’r dinasyddion yr ydym yma i’w helpu. Dewch i ymuno â thîm sy’n tyfu a datblygu drwy weithio ochr yn ochr â...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r gwasanaeth** Mae'r Tîm Addysgu Cymunedol yn gweithio gyda dysgwyr nad ydynt yn gallu cael mynediad i'r ysgol oherwydd iechyd ac amgylchiadau esgusodol. Mae'r tîm yn gweithio ar draws y ddinas mewn lleoliadau cymunedol ac adeiladau’r cyngor. Mae'r tîm yn gweithio mewn partneriaeth agos â dysgwyr, teuluoedd, ysgolion, darparwyr EOTAS,...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Byddwch yn gweithio i un o'r cyflogwyr mwyaf yng Nghymru, gan ymuno â grŵp profiadol a brwdfrydig o Swyddogion o fewn y Gwasanaeth Cynllunio sy'n ffurfio rhan o'r gyfarwyddiaeth Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd. Mae gwneud gwahaniaeth cadarnhaol a chyflawni canlyniadau go iawn ar lawr gwlad yn bwysig iawn i’r tîm. **Am Y...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â Thîm Gwasanaethau Byw'n Annibynnol (GBA) Caerdydd. Mae'r Gwasanaeth yn gweithio mewn partneriaeth ag oedolion sy'n agored i niwed i’w cefnogi i fyw’n annibynnol gartref a bod yn gysylltiedig â’u cymunedau eu hunain trwy wybodaeth, cyngor a chefnogaeth wedi'u teilwra - gan alluogi pobl i...

  • Welsh Headings

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Swyddog Cyngor Digartrefedd yn y Gwasanaeth Dewisiadau Tai. Mae'r Gwasanaeth Dewisiadau Tai yn rhoi cyngor a chymorth i bobl ag anghenion tai yng Nghaerdydd. **Am Y Swydd** Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd hon gyflawni nifer o swyddi o fewn y gwasanaeth gan gynnwys cynorthwyo â gwaith y Swyddogion Tai gan roi cyngor a chymorth ar y...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â’r Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Llety â Chymorth ac Adran Asesu Cyngor Caerdydd yn cynnig llety, cyngor a chymorth i unigolion a theuluoedd agored i niwed y mae angen tai arnynt. Mae ein gwasanaethau yn rhedeg 24/7 365 diwrnod y flwyddyn. Oherwydd pandemig Covid19, bu'n rhaid i'n gwasanaeth wneud newidiadau mawr a bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r Ganolfan Gyswllt arobryn ac uchel ei pharch, yn cynnig ymateb sy’n canolbwyntio ar y cwsmer i ymholiadau ynghylch ystod o wasanaethau’r Cyngor gan drigolion Caerdydd a defnyddwyr gwasanaeth eraill drwy sawl cyfrwng gan gynnwys dros y ffôn, cyswllt dros y we, sgyrsiau ar y we, SgyrsBot, e-bost, negeseuon llais a thestun. Os...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Rhentu Doeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid gofrestru a sicrhau trwydded neu gyflogi asiant trwyddedig ar eu rhan i gyflawni tasgau gosod a rheoli eiddo. Mae Cyngor Caerdydd wedi’i ddynodi fel yr awdurdod trwyddedu sengl i weinyddu’r ddeddfwriaeth hon yng Nghymru. Sefydlwyd y gwasanaeth ym mis Tachwedd 2015. Ymysg...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Cyf.**PEO02929 **Swydd**:Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl **Gradd**:6 **Cyflog**:£27,852 - £32,020 **Statws**: parhaol a llawn amser **Ynglŷn â'r gwasanaeth** Mae gennym gyfle cyffrous i Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl weithio gyda rhai o'n plant a'n pobl ifanc mwyaf bregus yng Nghaerdydd. Rydym yn chwilio am Uwch Swyddog...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Cyf.**PEO02929 **Swydd**:Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl **Gradd**:6 **Cyflog**:£27,852 - £32,020 **Statws**: parhaol a llawn amser **Ynglŷn â'r gwasanaeth** Mae gennym gyfle cyffrous i Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl weithio gyda rhai o'n plant a'n pobl ifanc mwyaf bregus yng Nghaerdydd. Rydym yn chwilio am Uwch Swyddog...