Arweinydd y Pwynt Cyswllt Cyntaf A’r TÎm

1 month ago

Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â Thîm Gwasanaethau Byw'n Annibynnol (GBA) Caerdydd.

Mae'r Gwasanaeth yn gweithio mewn partneriaeth ag oedolion sy'n agored i niwed i’w cefnogi i fyw’n annibynnol gartref a bod yn gysylltiedig â’u cymunedau eu hunain trwy wybodaeth, cyngor a chefnogaeth wedi'u teilwra - gan alluogi pobl i reoli eu bywydau eu hunain.

Mae'r tîm Byw'n Annibynnol a Lles yn allweddol wrth ddarparu cymorth i oedolion sy'n agored i niwed wrth gyflawni eu nodau lles.

**Am Y Swydd**
Bydd y swydd yn golygu goruchwylio a rheoli gweithredol o ddydd i ddydd y Tîm Cymunedol Pwynt Cyswllt Cyntaf a goruchwylio Swyddog Hyfforddi'r Gwasanaethau Byw'n Annibynnol. Bydd deiliad y swydd yn bennaf gyfrifol am arwain, datblygu, cefnogi a chyfathrebu â’r grŵp staff a bydd yn gweithio'n agos gyda Rheolwr y Gwasanaeth Cymorth Byw’n Annibynnol i ddatblygu darpariaeth gwasanaeth yn barhaus.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd angen i chi fod yn unigolyn cryf iawn eich cymhelliad gydag angerdd am hyrwyddo annibyniaeth drwy ymagwedd sy’n seiliedig ar gryfderau, yn ogystal â bod yn gyfathrebwr rhagorol gyda’r gallu i wrando, gweithredu a hysbysu.

Rydym yn cymryd lles ein holl staff o ddifrif ac rydym yn ymdrechu i ddarparu trefniadau gweithio cadarnhaol sy'n cefnogi ein gweithlu i deimlo eu bod yn cael eu parchu a'u gwerthfawrogi. Dyma rai enghreifftiau o sut rydym yn ceisio cyflawni hyn:

- Hawl i wyliau blynyddol hael
- Trefniadau gweithio y gellir eu haddasu, gyda chynllun hyblyg sy'n eich galluogi i weithio i amserlen sy'n addas i chi ac sy'n bodloni anghenion y gwasanaeth.
- Mynediad at Gronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg sy'n rhan o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), sy'n cynnig cynllun pensiwn diogel, hyblyg, dibynadwy sy’n rhoi tawelwch meddwl.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
**Gwybodaeth ychwanegol**

Mae’r swydd hon yn amodol ar Wiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles, ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a phob ysgol.

Mae'r swydd wag hon yn addas i'w rhannu

Mae'r swydd hon yn un dros dro tan 5 Medi 2025.

Dylai ymgeiswyr mewnol sy’n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar secondiad gael caniatâd cyn ymgeisio trwy lenwi ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y Cyfarwyddwr/Dirprwy Gyfarwyddwr/Prif Swyddog perthnasol neu uwch swyddog arall a enwebwyd, nad ydynt ar raddfa is na RhG2, neu’r Pennaeth/Corff Llywodraethu yn achos staff ysgolion, sy’n gallu cymeradwyo ceisiadau.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Gall y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon gael ei chynnal yn rhithwir gan ddefnyddio llwyfan ar-lein priodol. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â Dawn Harries ar 07976 425955

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO03209

  • Arweinydd TÎm

    3 days ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael i Arweinydd Tîm y Tîm Gofal Cwsmeriaid yn y Gwasanaethau 24/7. Y Tîm Gofal Cwsmeriaid yw'r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau cwsmeriaid sy'n ymwneud â Theleofal Caerdydd a Phryd ar Glud. Mae Pryd ar Glud yn danfon prydau poeth, maethlon i gwsmeriaid ar draws y ddinas ac yn cynnig wyneb...

  • Swyddog Cyswllt

    2 months ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y Gwasanaeth Cymunedau a Thai ar gyfer Swyddog Cyswllt o fewn y Gwasanaethau Byw'n Annibynnol. Mae’r Gwasanaethau Byw’n Annibynnol yn cynorthwyo oedolion sy’n agored i niwed i fyw yn annibynnol gartref a bod yn gysylltiedig yn eu cymunedau eu hunain trwy wybodaeth, cyngor a chefnogaeth wedi'i...

  • Swyddog Cyswllt

    6 days ago

  • Dirprwy Arweinydd Tim

    2 months ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Rhentu Doeth Cymru yn wasanaeth o fewn Cyngor Caerdydd, er mwyn gweinyddu gofynion Rhan 1 Deddf Tai (Cymru) 2014, sy’n rheoleiddio tai sector rhent preifat yng Nghymru drwy ofyn i landlordiaid gofrestru ac un ai ddod yn drwyddedig eu hunain neu roi cyfarwyddyd i asiant trwyddedig i ymgymryd â thasgau gosod a rheoli eiddo. Sefydlwyd...

  • Swyddog Cyswllt

    7 days ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y Gwasanaeth Tai a Chymunedau ar gyfer Swyddog Cyswllt o fewn y Gwasanaethau Byw'n Annibynnol. Mae'r Gwasanaethau Byw'n Annibynnol (GBA) yn cefnogi oedolion agored i niwed i fyw'n annibynnol gartref ac yn gysylltiedig â'u cymunedau, drwy wybodaeth, cyngor a chymorth wedi'u teilwra - gan alluogi pobl i...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Rhentu Doeth Cymru yn wasanaeth o fewn Cyngor Caerdydd, er mwyn gweinyddu gofynion Rhan 1 Deddf Tai (Cymru) 2014, sy’n rheoleiddio tai sector rhent preifat yng Nghymru drwy ofyn i landlordiaid gofrestru ac un ai ddod yn drwyddedig eu hunain neu roi cyfarwyddyd i asiant trwyddedig i ymgymryd â thasgau gosod a rheoli eiddo. Sefydlwyd...

  • Arweinydd Tim

    2 months ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Rhentu Doeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid gofrestru a sicrhau trwydded neu gyflogi asiant trwyddedig ar eu rhan i gyflawni tasgau gosod a rheoli eiddo. Mae Cyngor Caerdydd wedi’i ddynodi fel yr awdurdod trwyddedu sengl i weinyddu’r ddeddfwriaeth hon yng Nghymru. Sefydlwyd y gwasanaeth ym mis Tachwedd 2015. Mae’n...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn Strategaeth ac Angen Tai am Arweinydd Tîm Gosod o fewn yr Uned Gosod ac Ailgartrefu **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn arwain ac yn rheoli’r Tîm Dyraniadau sy’n gyfrifol am ddyrannu tai cymdeithasol y Cyngor i ymgeiswyr ar y Rhestr Aros Tai, gan sicrhau bod llety’r cyngor yn cael...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Rhianta Caerdydd 0-18 yn rhan o wasanaethau Cymorth Cynnar Cyngor Caerdydd, sydd ar gael i’r holl deuluoedd sy'n byw ar draws Caerdydd gyda phlentyn neu berson ifanc dan 18 oed. Mae Rhianta Caerdydd 0-18 yn cael ei ariannu gan grant gan Lywodraeth Cymru ac mae'n ategu'r gwasanaethau rhianta a gynigir yn ardaloedd Dechrau'n Deg...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **Cyf**: 12058 **Teitl y Swydd**: Arweinydd Undeb y Myfyrwyr a Llais y Dysgwr **Cytundeb**: Llawn Amser, Tymor Penodol tan Gorffennaf 2023 **Cyflog**: £28,648 - £30,599 (Pro Rata) **Lleoliad**: Caerdydd a'r Fro** - **pob safle Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn chwilio am Arweinydd Undeb y Myfyrwyr a Llais y Dysgwr i ymuno â’n tîm Bywyd y Myfyriwr...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Rhentu Doeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid gofrestru a sicrhau trwydded neu gyflogi asiant trwyddedig ar eu rhan i gyflawni tasgau gosod a rheoli eiddo. Mae Cyngor Caerdydd wedi’i ddynodi fel yr awdurdod trwyddedu sengl i weinyddu’r ddeddfwriaeth hon yng Nghymru. Sefydlwyd y gwasanaeth ym mis Tachwedd 2015. Mae’n...

  • Cardiff, United Kingdom Network Rail Full time

    Brief Description We’re looking for a passionate, customer-focussed person to join our team and support the delivery of our Contact & Communities objectives, helping us meet our DfT-aligned scorecard targets and champion our neighbours within our overall communications strategy. In equal measure, someone committed to delivering great customer service...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn sefydliad llywodraeth leol sy’n gyfrifol am ddarparu dros 700 o wahanol wasanaethau i’n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled Caerdydd. Mae'n bwysig i ni fod ein gweithlu'n adlewyrchu gwerthoedd ein sefydliad, er mwyn gwasanaethu ein cymunedau'n well. Mae ein hybiau Cymunedol yn cynnig cyfle gwych i ymgeiswyr...

  • Welsh Headings

    2 days ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Swyddog Cyngor Digartrefedd yn y Gwasanaeth Dewisiadau Tai. Mae'r Gwasanaeth Dewisiadau Tai yn rhoi cyngor a chymorth i bobl ag anghenion tai yng Nghaerdydd. **Am Y Swydd** Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd hon gyflawni nifer o swyddi o fewn y gwasanaeth gan gynnwys cynorthwyo â gwaith y Swyddogion Tai gan roi cyngor a chymorth ar y...

  • Arweinydd Adran

    1 month ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn tyfu’n gyflymach nag unrhyw ddinas fawr arall yn y DU y tu allan i Lundain, a disgwylir iddi dyfu’n fwy na phob awdurdod lleol arall yng Nghymru gyda’i gilydd. Mae Papur Gwyn Trafnidiaeth Cyngor Caerdydd yn nodi cynllun 10 mlynedd uchelgeisiol i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, lleihau tagfeydd a gwella...

  • Swyddog Cyswllt

    4 hours ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i Swyddog Cyswllt yn nhîm Therapi Galwedigaethol y Gwasanaethau Byw'n Annibynnol. **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio’n bennaf yn Neuadd y Sir, er y gallai fod angen gweithio gartref weithiau. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio ochr yn ochr â’r Therapydd Galwedigaethol...

  • Cardiff, United Kingdom Cyfoeth Naturiol Cymru Natural Resources Wales Full time

    Tîm / Cyfarwyddiaeth: Gweithrediadau Cyflog cychwynnol: £41,150 yn codi i £46,147 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser) Math o gytundeb: Parhaol  Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor –...

  • Cardiff, United Kingdom Gofal Cymdeithasol Cymru Social Care Wales Full time

    Y Sefydliad Yn Gofal Cymdeithasol Cymru, rydym yn darparu arweinyddiaeth ac arbenigedd ym maes gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru. Ein gweledigaeth yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal a chymorth i blant, oedolion a’u teuluoedd a’u gofalwyr. I wneud hyn, rydym yn arwain ar ddatblygu a rheoleiddio’r gweithlu gofal...