Swyddog Technegol

1 month ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Nod Cyngor Caerdydd yw darparu gwasanaeth hygyrch o ansawdd uchel wrth gyflawni ei swyddogaethau i gynnal a chadw 13,808 eiddo domestig y Cyngor a thua 9 adeilad llety â chymorth. Mae hefyd yn gyfrifol am 9 bloc fflatiau uchel, yn ogystal â Chyfadeiladau Byw yn y Gymuned.

Ar hyn o bryd mae 5 swydd wag ar gyfer swyddi Rheolwr Technegol, o fewn yr Uned Cynnal a Chadw Ymatebol.

**Am Y Swydd**
Prif swyddogaeth y rôl yw cynorthwyo'r Rheolwyr Technegol / Rheolwyr Technegol Cymwysedig. Gyda phwyslais ar fod yn rhagweithiol wrth ymdrin ag ymholiadau cwsmeriaid fel archwiliadau tamprwydd a cheisiadau am wasanaeth.

Cynnal arolygon o eiddo yn ôl yr angen gyda thenantiaid yn yr eiddo, a chodi problemau neu waith atgyweirio yn ôl yr angen. Hefyd, cynorthwyo â chydlynu a rheoli'r swyddogaeth atgyweirio ymatebol y gwasanaeth, gan sicrhau bod systemau penodi a rheoli gwaith yn cael eu cynnal.

Bydd deiliad y swydd yn cynorthwyo tenantiaid ac i weld yr eiddo wrth atgyweirio gwaith neu pan fydd yn cael ei gwblhau i drafod unrhyw faterion.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Rhaid i chi ddangos ymrwymiad i ddatblygiad personol a hunan-ddysgu a chael gwybodaeth am faterion sy'n gysylltiedig â thai wrth ymdrin ag atgyweiriadau ymatebol o fewn eiddo.

Dylech hefyd allu gweithio fel aelod o dîm a dilyn gweithdrefnau cymhleth a dylech feddu ar sgiliau cyfathrebu da yn ogystal â phrofiad o ymweld â phobl yn eu cartrefi.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu darparu gwasanaeth gwych i gwsmeriaid a gweithio’n effeithiol gyda phreswylwyr.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
- Am sgwrs anffurfiol, ar ôl darllen y disgrifiad swydd, cysylltwch ag Ellen Curtis ar (029) 2053 7416 neu Damon Colley ar 07799 865782.

Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Nid yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllaw ar Wneud Cais
- Ymgeisio am swyddi gyda ni
- Fframwaith Cymwyseddau Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siartr Cyflogeion
- Recriwtio Cyn-Droseddwyr
- Hysbysiad Preifatrwydd

Bydd y cyfweliad hwn yn cael ei gynnal wyneb yn wyneb mewn Adeilad y Cyngor.

Job Reference: PEO02492


  • Arweinydd Is-adran

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn tyfu’n gyflymach nag unrhyw ddinas fawr arall yn y DU y tu allan i Lundain, a disgwylir iddi dyfu’n fwy na phob awdurdod lleol arall yng Nghymru gyda’i gilydd. Mae Papur Gwyn Trafnidiaeth Cyngor Caerdydd yn nodi cynllun 10 mlynedd uchelgeisiol i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, lleihau tagfeydd a gwella...

  • Cyfrifydd

    6 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r swydd hon yn rhan o’r Is-adran Cyfrifeg o fewn Cyllid. Mae gan yr is-adran Cyfrifeg gyfrifyddion cymwys a phrofiadol sy’n cynnig cyngor ariannol proffesiynol a chymorth cyfrifeg i’r holl gyfarwyddiaethau, ysgolion ac amrywiaeth o gyrff allanol a chydbwyllgorau ynglŷn â chyfrifyddu refeniw a chyfalaf. Bydd yr ymgeisydd...

  • Arweinydd Is-adran

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn tyfu’n gyflymach nag unrhyw ddinas fawr arall yn y DU y tu allan i Lundain, a disgwylir iddi dyfu’n fwy na phob awdurdod lleol arall yng Nghymru gyda’i gilydd. Mae Papur Gwyn Trafnidiaeth Cyngor Caerdydd yn nodi cynllun 10 mlynedd uchelgeisiol i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, lleihau tagfeydd a gwella...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r adran TGCh yn rhan o Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cwsmeriaid a Digidol y Cyngor. Prif swyddogaethau’r adran yw: - darparu systemau a chymorth TG o safon uchel, a chynnal a chadw’r systemau TG, ym mhob rhan o’r sefydliad - rhoi cyngor ac arweiniad strategol i’r gwasanaethau a’u cyfarwyddiaethau - cyfrannu at y gwaith o...