Cyfrifydd

2 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae’r swydd hon yn rhan o’r Is-adran Cyfrifeg o fewn Cyllid. Mae gan yr is-adran Cyfrifeg gyfrifyddion cymwys a phrofiadol sy’n cynnig cyngor ariannol proffesiynol a chymorth cyfrifeg i’r holl gyfarwyddiaethau, ysgolion ac amrywiaeth o gyrff allanol a chydbwyllgorau ynglŷn â chyfrifyddu refeniw a chyfalaf.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio yn y tim Cyfrifeg sydd yn cynnal gwaith I cefnogi nifer o wasanaethau ariannol I gyfarwyddiaethau Gwasanaeth Plant ac Addysg a Dysgu oes.

**Am Y Swydd**
Bydd gofyn i'r ymgeisydd ddarparu gwasanaeth monitro cyllideb o ansawdd, sy'n effeithiol ac yn bwrpasol, tra hefyd yn darparu cyngor ariannol sy'n helpu i wneud penderfyniadau. Yn ystod y flwyddyn bydd y swyddog yn rheoli meysydd cyfrifon sy'n dod o fewn ei gylch gwaith yn effeithiol, gan alluogi a sicrhau bod cyfrifon yn cael eu cau’n effeithiol ac yn gywir ar ddiwedd y flwyddyn.

Bydd yn cefnogi agweddau ar gyllideb y Cyngor a’r broses CATC, gan gydlynu gwaith cyllidebol o fewn meysydd gwasanaeth a gwneud cyfrifiadau a rhagamcanion technegol.

Bydd y swydd yn cynnwys gweithio’n agos gyda chwsmeriaid o bob Gwasanaeth, yn y Tîm Cyllid a chydag archwilwyr allanol er mwyn cyflawni amcanion.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Dylai ymgeiswyr feddu ar gymhwyster ariannol perthnasol e.e. CCAB, AAT neu’n rhannol gymwysedig mewn CCAB ac yn meddu ar wybodaeth dda o gyllid llywodraeth leol ynghyd ag awydd am ddatblygu’n barhaus.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â_._

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: RES01230