Swyddog Tenantiaeth

2 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Nod Cyngor Caerdydd yw darparu gwasanaeth hygyrch o ansawdd uchel. Mae swydd wag ar gael i Swyddog Tenantiaeth yn y Gwasanaethau Landlord o fewn Tai a Chymunedau.
**Am Y Swydd**
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio mewn tîm prysur o swyddogion tenantiaeth. Byddwch yn gweithio’n rhagweithiol i sicrhau bod tenantiaid a lesddeiliaid yn cydymffurfio ag amodau eu tenantiaeth neu les, yn cynnig cyngor ac arweiniad i denantiaid a lesddeiliaid ac yn cymryd camau gorfodi lle bo angen
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd gennych brofiad o weithio ym maes tai ac o ddefnyddio technoleg newydd; byddai profiad o weithio gyda chwsmeriaid ac ymweld â nhw yn eu cartrefi eu hunain o fantais.

Bydd angen sgiliau cyfathrebu a gofal cwsmeriaid da arnoch a byddwch yn gallu delio ag anghydfodau mewn modd cadarnhaol ac adeiladol. Dylech hefyd feddu ar y gallu i weithio fel rhan o dîm a dilyn gweithdrefnau cymhleth.

Byddai gwybodaeth am gyfraith tai a phrofiad o orfodi amodau tenantiaeth a/neu les drwy gamau cyfreithiol yn fanteisiol ond nid yn hanfodol.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae’r swydd hon yn amodol ar Wiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â Stuart Clarke ar (029) 20537563 neu Abdi Ahmed (029) 20537501

**Nid yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, gwnewch yn siŵr eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein **gwefan**:
**Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais**:

- Canllaw ar Wneud Cais
- Ymgeisio am swyddi gyda ni
- Fframwaith Cymwyseddau Ymddygiadol

**Gwybodaeth Ychwanegol:

- **
- Siartr Cyflogeion
- Recriwtio Cyn-Droseddwyr

Hysbysiad Preifatrwydd

Job Reference: PEO03881



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymrwymedig ymuno â’n Tîm Cynnal Tenantiaeth. **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio'n rhagweithiol i ddarparu gwasanaeth rheoli tai dwys. Bydd y swydd yn cynnwys sicrhau y gall tenantiaid gynnal eu tenantiaethau drwy ymyrraeth uniongyrchol a defnyddio ystod o wasanaethau...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Sipsiwn a Theithwyr yn rhan o'r Adran Llety ac Asesu â Chymorth ac mae'n darparu llety sy'n briodol yn ddiwylliannol, sy'n addas i anghenion y Gymuned Sipsiwn a Theithwyr. Drwy safleoedd, mae rheoli safleoedd yn cyflawni'r darpariaethau canlynol: - Gwasanaeth rheoli tai pwrpasol - Gwasanaeth atgyweirio a chynnal...