Swyddog Tenantiaeth

2 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Ynglŷn â'r Gwasanaeth**
Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymrwymedig ymuno â’n tîm Rheoli Tenantiaeth ar sail contract 2 flynedd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn bwrw ati i sicrhau bod tenantiaid a lesddeiliaid yn cydymffurfio ag amodau eu tenantiaeth neu les, yn cynnig cyngor ac arweiniad i denantiaid a lesddeiliaid ac yn rhoi camau gorfodi ar waith pan fo angen.

**Ynglŷn â’r swydd**
Bydd gennych brofiad o weithio ym maes tai, gan gynnwys gorfodi amodau tenantiaeth drwy gamau cyfreithiol. Mae defnyddio technoleg newydd a phrofiad o weithio gyda chwsmeriaid ac ymweld â nhw yn eu cartrefi eu hunain hefyd yn hanfodol.

**Yr hyn rydym yn ei ddisgwyl gennych chi**
Bydd gennych sgiliau cyfathrebu a gofal cwsmeriaid da a byddwch yn gallu delio ag anghydfodau mewn modd cadarnhaol ac adeiladol. Byddwch yn gweithio’n dda mewn tîm ac yn gallu gweithio o’ch pen a’ch pastwn eich hun

**Gwybodaeth ychwanegol**
Swydd dros dro yw hon tan 30ain Mehefin 2024.

Rhaid i ymgeiswyr mewnol sy'n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar sail secondiad gael cymeradwyaeth cyn gwneud cais gan ddefnyddio Ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y canlynol sy’n gallu cymeradwyo ceisiadau: y Cyfarwyddwr / Cyfarwyddwr Cynorthwyol / Prif Swyddog neu’r Uwch Swyddog Enwebedig perthnasol, nad yw ar raddfa is na RhG2, neu, yn achos staff ysgolion, y Pennaeth / Corff Llywodraethu.

Mae’r swydd yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post.

O ganlyniad i’r amgylchiadau COVID-19 presennol, bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal yn rhithwir trwy ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, am drafodaeth anffurfiol, ar ôl darllen y disgrifiad swydd a’r fanyleb person, cysylltwch â Sian Kirby (029) 2053 7492, Stuart Clarke (029) 2053 7563 neu Lee Jenkins (029) 2053 7545

Sylwer nad yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllaw ar Wneud Cais
- Ymgeisio am swyddi gyda ni
- Fframwaith Cymwyseddau Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter Cyflogeion
- Recriwtio Cyn-droseddwyr

Hysbysiad Preifatrwydd

Job Reference: PEO02954



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymrwymedig ymuno â’n Tîm Cynnal Tenantiaeth. **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio'n rhagweithiol i ddarparu gwasanaeth rheoli tai dwys. Bydd y swydd yn cynnwys sicrhau y gall tenantiaid gynnal eu tenantiaethau drwy ymyrraeth uniongyrchol a defnyddio ystod o wasanaethau...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Sipsiwn a Theithwyr yn rhan o'r Adran Llety ac Asesu â Chymorth ac mae'n darparu llety sy'n briodol yn ddiwylliannol, sy'n addas i anghenion y Gymuned Sipsiwn a Theithwyr. Drwy safleoedd, mae rheoli safleoedd yn cyflawni'r darpariaethau canlynol: - Gwasanaeth rheoli tai pwrpasol - Gwasanaeth atgyweirio a chynnal...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Sipsiwn a Theithwyr yn rhan o'r Adran Llety ac Asesu â Chymorth ac mae'n darparu llety sy'n briodol yn ddiwylliannol, sy'n addas i anghenion y Gymuned Sipsiwn a Theithwyr. Drwy safleoedd, mae rheoli safleoedd yn cyflawni'r darpariaethau canlynol: - Gwasanaeth rheoli tai pwrpasol - Gwasanaeth atgyweirio a chynnal...