Swyddog RHianta Corfforaethol

2 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Caerdydd yw un o'r dinasoedd sy'n tyfu gyflymaf yng ngwledydd Prydain ac mae’n ymrwymedig i ddod yn '_Ddinas sy’n Dda i Blant_' sy'n rhoi hawliau plant a phobl ifanc wrth wraidd ein polisïau a'n strategaethau. Rhieni sy’n cael y dylanwad mwyaf ar blant a’u dyfodol. Yn ein barn ni, mae plant yn cyflawni’r canlyniadau gorau pan gânt eu cynorthwyo i dyfu a llwyddo o fewn eu teuluoedd eu hunain. Y gred hon arweiniodd at ddefnyddio’r dull _‘Ffocws ar y Teulu_’ sy’n ystyried y teulu cyfan ac yn cydlynu cymorth trwy’r gwasanaethau cyhoeddus, wedi’i deilwra i anghenion a chryfderau pob teulu.

Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o ymdrech Caerdydd i fod yn un o'r dinasoedd mwyaf bywiog a llwyddiannus yn y DU sy'n rhoi plant yn gyntaf, gyda'r uchelgais o arwain y ffordd o ran datblygu arfer yng Nghymru, byddem yn falch iawn o glywed gennych.

**Am Y Swydd**
Mae’r Gwasanaethau Plant yn awyddus i recriwtio Swyddog Rhianta Corfforaethol newydd i helpu i gefnogi'r Pwyllgor Cynghori Rhianta Corfforaethol ac i gyfrannu at waith ymchwil, datblygu a gweithredu'r Strategaeth Rhianta Corfforaethol.

Bydd deiliad y swydd yn helpu Ymgynghorwyr y Pwyllgor, gan gynnwys cydlynu ac ysgrifennu briffiau, adroddiadau a chyflwyniadau. Byddwch yn cwblhau dadansoddiad o arfer gorau o ardaloedd eraill yn y DU i lywio Rhianta Corfforaethol yng Nghaerdydd er mwyn sicrhau bod barn a phrofiadau'r plentyn wrth wraidd cyfrifoldeb Rhianta Corfforaethol. Byddwch yn gweithio'n agos ac yn rheoli cysylltiadau ag aelodau etholedig, uwch reolwyr a gweithwyr proffesiynol eraill er mwyn cryfhau'r prosesau a'r cysylltiadau sydd ar waith ar draws ystod eang o sefydliadau. Mae hwn yn gyfle cyffrous i sefydlu a chynnal cydberthnasau mewnol ac allanol sydd o fudd i ystod eang o uwch randdeiliaid yn y sectorau cyhoeddus, preifat a di-elw.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd y rôl yn ceisio cryfhau a llywio profiadau Rhianta Corfforaethol plant a phobl ifanc er mwyn gwella canlyniadau a chynyddu cyfleoedd i blant Cyngor Caerdydd. Mae hwn yn gyfle cyffrous i gefnogi datblygiad prosesau, arferion a'r Strategaeth Rhianta Corfforaethol ar y cyd â phlant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yng Nghaerdydd, ac ar eu rhan.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae’r swydd hon yn destun Gwiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn brif flaenoriaethau i’r Cyngor. Ein nod yw cynorthwyo plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Maent yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi yn ethos cyffredinol y Cyngor a’r holl ysgolion.

Mae’r swydd hon yn addas i’w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg a Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post.

Sylwer nad yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllaw ar Wneud Cais
- Ymgeisio am swyddi gyda ni
- Fframwaith Cymwyseddau Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter Cyflogeion
- Recriwtio Cyn-Droseddwyr

Hysbysiad Preifatrwydd

Job Reference: PEO02724



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Byddwch yn ennill £19,100 y flwyddyn pro-rata yn y rôl Hyfforddai hon gan ein bod yn Gyflogwr Cyflog Byw Gwirfoddol. Mae ein Tîm Hybiau’r De yn gobeithio cyflogi 2 **Hyfforddai Corfforaethol i weithio ar draws Hybiau’r De**: **Hyb Grangetown - **Plas Havelock, Grangetown, Caerdydd CF11 6PE. **Hyb STAR** **-** Heol Muirton, Y...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Dechrau'n Deg yw rhaglen Blynyddoedd Cynnar Llywodraeth Cymru wedi’i dargedu at deuluoedd â phlant dan 4 oed mewn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. Mae elfennau craidd y rhaglen wedi dod o amrywiaeth o opsiynau sydd wedi’u profi i ysgogi canlyniadau gwell i blant a'u teuluoedd. Mae’r rhain yn cynnwys: - Gofal plant rhan...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Perfformiad a Phartneriaethau yn gyfrifol am ystod eang o swyddogaethau corfforaethol sylweddol sy'n cefnogi'r Cyngor cyfan, a'i bartneriaid yn y gwasanaethau cyhoeddus. Mae'n gyfrifol am gefnogi'r Cyngor i gyflawni ei agenda uchelgeisiol drwy drosi blaenoriaethau gwleidyddol yn amcanion sefydliadol a monitro cynnydd yr...

  • Board Secretary

    2 weeks ago


    Cardiff, Cardiff, United Kingdom Amgueddfa Cymru – Museum Wales Full time

    Category: ManagementHours: 21 hours per weekWelsh Language Level Requirement: NoneJob SummaryAbility to communicate through the medium of Welsh or a desire to learn Welsh is desirable.This role is integral to providing direction, advice and support to The Chair and Board of Trustees and the Chief Executive as Accounting officer on Corporate Governance.To...

  • Board Secretary

    2 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Amgueddfa Cymru – Museum Wales Full time

    Category: Management Hours: 21 hours per week Welsh Language Level Requirement: None Job Summary Ability to communicate through the medium of Welsh or a desire to learn Welsh is desirable. This role is integral to providing direction, advice and support to The Chair and  Board of Trustees and the Chief Executive as Accounting officer on Corporate...

  • Arweinydd Grŵp

    6 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth yn helpu i gefnogi'r gwaith o gyflawni blaenoriaethau corfforaethol ehangach megis ymateb i'r argyfwng hinsawdd a chynorthwyo gyda mentrau adfer ar ôl y pandemig. Mae hefyd yn arwain y gwaith o weithredu'r dull o greu lleoedd fel y'i nodwyd gan Lywodraeth Cymru drwy ein swyddogaethau llunio polisïau a Rheoli Datblygu ac...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle wedi codi i weithio gyda'r Tîm Cymorth Busnes i helpu i roi cymorth busnes i dîm rheoli’r Gwasanaethau 24/7. Mae'r gwasanaethau hyn yn cynnwys Teleofal, Pryd ar Glud a'r Ganolfan Derbyn Larymau. **Am Y Swydd** - Helpu i gyflawni rôl weinyddol amlswyddogaethol ar gyfer y Gwasanaeth yn ôl yr angen. - Cynorthwyo â’r...

  • Rheolwr Prosiectau

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymrwymedig ymuno â’n Tîm Cyfranogiad Tenantiaid. Nod y tîm yw dod â chyfleoedd trawsnewid ac ariannu at ei gilydd a defnyddio deallusrwydd a gwybodaeth leol i gynllunio gwasanaethau i ddiwallu anghenion ein dinasyddion. Mae'r Tîm Cyflenwi Partneriaeth Tai yn rheoli amrywiaeth o Grantiau...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r adran TGCh yn rhan o Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cwsmeriaid a Digidol y Cyngor. Prif swyddogaethau’r adran yw: - darparu systemau a chymorth TG o safon uchel, a chynnal a chadw’r systemau TG, ym mhob rhan o’r sefydliad - rhoi cyngor ac arweiniad strategol i’r gwasanaethau a’u cyfarwyddiaethau - cyfrannu at y gwaith o...