Prif Gyfreithiwr Cymuned

2 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Caerdydd yw un o’r dinasoedd mwyaf medrus ac sy’n tyfu gyflymaf ym Mhrydain gyda Gwasanaeth Cyfreithiol mewnol ag achrediad Lexcel. Mae gennym gyfle gwych i ymarferydd cyfreithiol diwyd, hyblyg a llawn cymhelliant ymuno â Gwasanaeth Cyfreithiol Cyngor Caerdydd yn Neuadd y Sir yng nghanol Bae Caerdydd gyda chysylltiadau trafnidiaeth a chyfleusterau parcio da.

Rydym yn Wasanaeth Cyfreithiol mewnol llwyddiannus ag achrediad Lexcel sy'n cyflogi cyfreithwyr arbenigol mewn gwaith ymgyfreitha, caffael, eiddo, cynllunio, llywodraethu, gofal plant a gwasanaethau cymdeithasol oedolion. Fel Cyfarwyddiaeth Llywodraethu a Gwasanaethau Cyfreithiol, rydym yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr ar draws gwasanaethau'r Cyngor, gan ddarparu gwasanaeth ardderchog a chynhwysfawr i'n cleientiaid. Roedd ein harolwg cleientiaid diweddaraf yn dangos bod 88.9% o'n cleientiaid yn fodlon neu'n fwy na bodlon ar ein gwasanaeth.

Mae gennym gyfreithwyr arbenigol sy’n ymgymryd â gwaith ymgyfreitha, caffael, eiddo, cynllunio, llywodraethu, gofal plant a gwasanaethau cymdeithasol i oedolion, a’n nod yw darparu gwasanaeth rhagorol a chynhwysol i’n cleientiaid.

Mae'r gwasanaeth yn gweithredu model gweithio hybrid sy'n galluogi gweithwyr i weithio’n hyblyg o gartref neu mewn swyddfa, yn dibynnu ar ofynion y gwasanaeth. Mae gennym system rheoli achosion modern, llyfrgell gyfreithiol ar-lein a thîm cymorth busnes bach.

**Am Y Swydd**
Cyfreithiwr neu Fargyfreithiwr profiadol (neu gyfwerth) i fod yn aelod allweddol o dîm cyfreithiol cymunedol y Cyngor, rheoli rhan o'r tîm, bod yn aelod o Dîm Rheoli’r Gyfarwyddiaeth a chyfrannu ato, dirprwyo ar gyfer y Rheolwr Gweithredol ac ar adegau y Cyfarwyddwr Cyfreithiol a Llywodraethu ac ymgymryd ag ystod eang o waith y Gwasanaethau Plant a’r Gwasanaethau Oedolion. Bydd y swydd yn cynnwys rhoi cyngor a pharatoi ceisiadau i’r Llys a bydd yn cynnwys eiriolaeth.

Rhaid bod gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad o waith gofal plant llywodraeth leol a’r gallu i ysgogi a rheoli staff a datblygu systemau a phrosesau gwaith gyda’r tîm.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Rydym yn chwilio am ymgeiswyr o safon uchel sydd â diddordeb mewn llywodraeth leol, profiad perthnasol, y gallu i reoli staff a chynghori uwch swyddogion a gwleidyddion ac sy'n gallu delio â llwyth gwaith amrywiol a heriol.

Rydym yn disgwyl i unigolion a benodir gymryd cyfrifoldeb personol i gyflawni mewn ffordd ragorol, gweithio gydag eraill i gyrraedd y canlyniadau gorau posibl, i addasu i newid a manteisio ar gyfleoedd newydd, defnyddio’r adnoddau sydd ar gael yn y modd gorau posibl ac i feddwl a gweithredu er budd gorau’r Cyngor.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Nid yw polisi amser hyblyg y Cyngor yn berthnasol; fodd bynnag, mae’r swydd yn agored i unigolion sy’n dymuno bod â phatrymau gwaith hyblyg, yn amodol ar fodloni anghenion ein cleientiaid a dangos ystyriaeth i drefniadau gwaith aelodau presennol y tîm.

Mae’r swydd hon yn gyfyngedig yn wleidyddol.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post.

Y bwriad yw cynnal cyfweliadau ym mis Chwefror / Mawrth.

Job Reference: RES00980



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r tîm Cyfleoedd Dydd yn cefnogi pobl hŷn ac oedolion sy'n byw gyda namau corfforol i gysylltu â'u cymuned leol lle gallent fod wedi'u hynysu'n gymdeithasol. **Am Y Swydd** Bydd y tîm yn defnyddio sgiliau cyfweld ysgogiadol i weithio gyda phobl hŷn ac oedolion â namau corfforol, sydd wedi mynd yn ynysig yn gymdeithasol, gan helpu...


  • Cardiff, United Kingdom Crown Prosecution Service Full time

    **Details**: **Reference number**: - 310324**Salary**: - £62,030- £62,030 - £65,450 (Cenedlaethol)- A Civil Service Pension with an average employer contribution of 27%**Job grade**: - Grade 7- CA - Gradd 7**Contract type**: - Permanent**Business area**: - National**Type of role**: - Legal Services**Working pattern**: - Flexible working, Full-time,...


  • Cardiff, United Kingdom Sport Wales Full time

    **AM Y SWYDD WAG YMA** **ADRAN A CHYFLOG** **Adran** - Buddsoddiadau **Cyflog** - £34,083.00 - £36,695.36 **Oriau Gwaith** - 37 awr (bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i rannu swydd / gweithio llai o oriau yn unol â’n polisi gweithio hyblyg) **PWY YDYM NI** Chwaraeon Cymru yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu a hybu chwaraeon a...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnig ystod o ddarpariaethau ar gyfer pobl ifanc 11 i 25 oed ac mae’n cynnwys tîm o weithwyr ieuenctid proffesiynol ymroddgar sy’n gweithredu ledled y ddinas. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys canolfannau ieuenctid, darpariaethau arbenigol, timau mentora ieuenctid a gwaith ieuenctid stryd ac mae pob...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **About The Service** Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnig ystod o ddarpariaethau ar gyfer pobl ifanc 11 i 25 oed ac mae’n cynnwys tîm o weithwyr ieuenctid proffesiynol ymroddgar sy’n gweithredu ledled y ddinas. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys canolfannau ieuenctid, darpariaethau arbenigol, timau mentora ieuenctid a gwaith ieuenctid stryd ac mae...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnig ystod o ddarpariaethau ar gyfer pobl ifanc 11 i 25 oed ac mae’n cynnwys tîm o weithwyr ieuenctid proffesiynol ymroddgar sy’n gweithredu ledled y ddinas. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys canolfannau ieuenctid, darpariaethau arbenigol, timau mentora ieuenctid a gwaith ieuenctid stryd ac mae pob...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Metropolitan University Full time

    Job Description Associate Tutor in Photography - English.pdf Job Description Associate Tutor in Photography - Welsh.pdf Package: Casual  Contractual hours: 0 Job category/type: Academic Job description In 2020, the University was named The Sunday Times ‘Welsh University of the Year 2021’; in 2021 it became the Times Higher Education ‘UK and Ireland...


  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Metropolitan University Full time

    Job Description Associate Tutor in Photography - Job Description Associate Tutor in Photography - Package: Casual Contractual hours: 0Job category/type: AcademicJob descriptionIn 2020, the University was named The Sunday Times 'Welsh University of the Year 2021'; in 2021 it became the Times Higher Education 'UK and Ireland University of the Year 2022'; and...