Gweithiwr Cefnogi Ieuenctid

1 month ago

Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnig ystod o ddarpariaethau ar gyfer pobl ifanc 11 i 25 oed ac mae’n cynnwys tîm o weithwyr ieuenctid proffesiynol ymroddgar sy’n gweithredu ledled y ddinas. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys canolfannau ieuenctid, darpariaethau arbenigol, timau mentora ieuenctid a gwaith ieuenctid stryd ac mae pob un ohonynt yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd a phrofiadau creadigol sy’n annog cyfranogiad a datblygiad pobl ifanc mewn cymunedau.

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn hyrwyddo cysylltiad cryf rhwng gwaith ieuenctid targedig a chynhwysol sy’n sicrhau y cynigir cymorth cyson i bobl ifanc pan fo angen hynny arnynt. Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn annog pobl ifanc i wireddu eu potensial unigol ac yn eu cefnogi ar eu siwrne i ddod yn ddinasyddion gweithredol cadarnhaol.

**Am Y Swydd**
Mae cyfle cyffrous ar gael yn y Gwasanaeth Ieuenctid ar gyfer Gweithiwr Cymorth Ieuenctid Cynorthwyol. Mae’r swydd hon wedi’i lleoli o fewn y Tîm Cynhwysiant Actif.

Byddwch yn rhan o dîm deinamig a brwdfrydig sy’n gweithio â phobl ifanc ag anghenion cymhleth ar hyd y ddinas. Nod eich rôl fydd darparu projectau a rhaglenni o safon uchel i bobl ifanc rhwng 11-25 oed ac arwain y gwaith o gynllunio a datblygu darpariaeth ieuenctid.

Mae profiad o weithio gyda phobl ifanc yn hanfodol ar gyfer y rôl hon. Mae ffocws ar arferion sy’n canolbwyntio ar gryfderau ac yn rhoi’r person ifanc yn gyntaf hefyd yn hanfodol. Mae’r tîm yn ymrwymedig i ddull therapi sy’n canolbwyntio ar ddatrysiad byr ac mae hyn wedi’i adlewyrchu mewn gwaith cynllunio, darparu a gwerthuso yn ogystal ag yn y model goruchwylio a chymorth.

Bydd gan y rôl hon ffocws ar Hawliau Plant, yn benodol Erthygl 12 ac 13 yr UNCRC, a sicrhau bod ystod eang o leisiau pobl ifanc yn cael eu clywed.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Cymhwyster gwaith ieuenctid cydnabyddedig ar lefel 3 neu uwch.

Rydym yn chwilio am weithwyr ieuenctid brwdfrydig a deinamig a fydd yn annog creadigrwydd ac arloesedd i ysbrydoli a chymell pobl ifanc trwy waith ieuenctid mynediad agored uniongyrchol.

Rydym yn chwilio am weithwyr ieuenctid sydd ag agweddau cadarnhaol a gwydnwch i allu cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl ifanc ac annog cynnydd.

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus naill ai wedi cymhwyso i lefel 3 gweithiwr cymorth ieuenctid o leiaf neu'n gweithio tuag at yr hyfforddiant hwn neu'n barod i wneud hynny o fewn cyfnod o amser y cytunwyd arno.

Rydym yn chwilio am weithwyr ieuenctid sydd â phrofiad o asesu anghenion pobl ifanc ac ymateb yn briodol drwy weithgarwch, cefnogaeth ac arweiniad gwaith ieuenctid.

Rydym yn chwilio am unigolion rhagweithiol sydd â diddordeb amlwg mewn gweithio i gefnogi pobl ifanc i ddatblygu a ffynnu fel unigolion a chyfrannu'n gadarnhaol at eu cymuned.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Cyflog: £29,603 y flwyddyn PRO RATA (T00 Lefel 15)

Mae hon yn swydd ran amser a bydd deiliad y swydd yn gweithio 15 awr yr wythnos, 39 wythnos y flwyddyn. Fodd bynnag, mae’r cyflog a ddangosir ar gyfer 37 awr yr wythnos, felly caiff ei roi ar sail pro-rata yn unol â hyn.

Mae’r swyddi yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn brif flaenoriaethau i’r Cyngor. Ein nod yw cynorthwyo plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Maent yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi yn ethos cyffredinol y Cyngor a’r holl ysgolion.

Rhaid i ymgeiswyr mewnol sy'n dymuno gwneud cais am y swydd ar secondiad gael caniatâd cyn gwneud cais gan ddefnyddio Ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y canlynol sy’n gallu cymeradwyo ceisiadau: y Cyfarwyddwr/Cyfarwyddwr Cynorthwyol/Prif Swyddog neu Uwch Swyddog Enwebedig perthnasol, nad yw ar raddfa is na RhG2, neu, yn achos staff ysgol, y Pennaeth/Corff Llywodraethu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg a Saesneg. Ni chaiff ceisiadau a dderbynnir yn Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

**Oherwydd ein trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio drwy'r post. Ni allwn ychwaith dderbyn ffurflenni cais drwy'r post.**

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: EDU00623

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnig ystod o ddarpariaethau ar gyfer pobl ifanc 11 i 25 oed ac mae’n cynnwys tîm o weithwyr ieuenctid proffesiynol ymroddgar sy’n gweithredu ledled y ddinas. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys canolfannau ieuenctid, darpariaethau arbenigol, timau mentora ieuenctid a gwaith ieuenctid stryd ac mae pob...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnig ystod o ddarpariaethau ar gyfer pobl ifanc 11 i 25 oed ac mae’n cynnwys tîm o weithwyr ieuenctid proffesiynol ymroddgar sy’n gweithredu ledled y ddinas. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys canolfannau ieuenctid, darpariaethau arbenigol, timau mentora ieuenctid a thimau gwaith ieuenctid ar y stryd...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnig amrywiaeth o ddarpariaethau ledled y ddinas i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed. Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnwys tîm ymroddedig o weithwyr ieuenctid proffesiynol sy’n gweithredu ledled y ddinas. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys canolfannau ieuenctid, darpariaethau arbenigol, timau...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnig amrywiaeth o ddarpariaethau ledled y ddinas i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed. Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnwys tîm dawnus a brwdfrydig o weithwyr ieuenctid proffesiynol a gweithwyr cymorth ieuenctid sy’n gweithredu ledled y ddinas. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys canolfannau...

  • Cardiff, United Kingdom British Red Cross Full time

    **Gweithiwr Cymorth Gwasanaeth Achlysurol - Adran Achosion Brys** **Lleoliad: Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd** **Math o gontract: Achlysurol** **Oriau'r wythnos: Mae'r swydd ar gyfer gwyliau blynyddol a salwch. Nid oes unrhyw oriau dan gontract nac isafswm oriau. Mae hwn yn sero awr.** **Cyflog: £10.90 yr awr** **Gofyniad Gyrru: Trwydded Yrru Lawn y DU â...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru, gan gynnig cyfle i weithwyr cymdeithasol weithio gyda phoblogaeth hynod amrywiol gydag amrywiaeth o anghenion gofal a chymorth. Fel yr awdurdod lleol mwyaf yng Nghymru rydym yn cefnogi bron i 5000 o unigolion i fyw'n dda, gan gynnig strwythur cymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn iddynt i...

  • Gweithiwr Cymdeithasol

    2 months ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r gwasanaeth Niwroamrywiaeth yn wasanaeth newydd sy'n datblygu ac yn rhan o Wasanaethau Cymdeithasol Oedolion. Byddwn yn gweithio gydag oedolion sydd â diagnosis o niwroamrywiaeth gan gynnwys Awtistiaeth, Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd a Syndrom Tourette’s sydd ag anghenion gofal a chymorth. Mae'r tîm yn...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru, gan gynnig cyfle i weithwyr cymdeithasol weithio gyda phoblogaeth hynod amrywiol gydag amrywiaeth o anghenion gofal a chymorth. Fel yr awdurdod lleol mwyaf yng Nghymru rydym yn cefnogi bron i 5000 o unigolion i fyw'n dda, gan gynnig strwythur cymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn iddynt i...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru, gan gynnig cyfle i weithwyr cymdeithasol weithio gyda phoblogaeth hynod amrywiol gydag amrywiaeth o anghenion gofal a chymorth. Fel yr awdurdod lleol mwyaf yng Nghymru rydym yn cefnogi bron i 5000 o unigolion i fyw'n dda, gan gynnig strwythur cymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn iddynt i...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r swydd hon yn cynnwys atodiad marchnad gwerth £3,000 yn ychwanegol at y cyflog rhestredig. Mae'r gwasanaeth Niwroamrywiaeth yn wasanaeth newydd sy'n datblygu ac yn rhan o Wasanaethau Cymdeithasol Oedolion. Byddwn yn gweithio gydag oedolion sydd â diagnosis o niwroamrywiaeth gan gynnwys Awtistiaeth, Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid (GCI) Caerdydd yn parhau ei daith wella, lle rydym yn ymdrechu i sicrhau canlyniadau rhagorol bob amser i bob plentyn a pherson ifanc yn ein gwasanaeth. I’n helpu i barhau â'n cynnydd cadarnhaol hyd yn hyn, rydym yn chwilio am ymarferydd GCI brwdfrydig, hunangymhellol a phrofiadol. Cynigir y swydd...

  • Welsh Headings

    4 weeks ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnig ystod o ddarpariaethau ar gyfer pobl ifanc 11 i 25 oed ac mae’n cynnwys tîm o weithwyr ieuenctid proffesiynol ymroddgar sy’n gweithredu ledled y ddinas. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys canolfannau ieuenctid, darpariaethau arbenigol, timau mentora ieuenctid a gwaith ieuenctid stryd ac mae pob...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Fel Cyfarwyddiaeth, rydym yn cydnabod bod gweithwyr cymdeithasol yn weithwyr proffesiynol medrus sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a materol i fywydau pobl bob dydd. Rydym am ddatblygu ein gwasanaethau a chryfhau ein dull o ymdrin ag arferion gwaith cymdeithasol yng Nghaerdydd. Mae Tîm Gwaith Cymdeithasol Canol y Ddinas yn rhan o...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r swydd hon yn cynnwys ychwanegiad marchnad o £3,000 yn ychwanegol at y cyflog a restrir. Ynglŷn â’r Gwasanaeth Mae Tîm Alcohol a Chyffuriau Caerdydd yn rhan o'r Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion. Mae'r Tîm yn cydweithio â nifer o asiantaethau camddefnyddio sylweddau partner yn y Ddinas yn y sector statudol a'r trydydd...

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r swydd hon yn cynnwys taliad atodol ar sail y farchnad o £3000 pro-rata yn ychwanegol at y cyflog a nodir a lwfans Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy o £2800 pro-rata lle bo hynny'n berthnasol. Rydym yn chwilio am Weithiwr Cymdeithasol cofrestredig i ymuno â’n Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol amlddisgyblaethol yn Nhîm...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru ac yn ddinas sy'n tyfu gyda phoblogaeth amrywiol. Mae plant Caerdydd angen gweithwyr cymdeithasol sy'n gallu ymateb i'r amrywiaeth o anghenion a phrofiadau sydd yn ei dro yn rhoi cyfle i weithwyr cymdeithasol ddatblygu arbenigedd ac i arwain ymarfer yng Nghymru. Mae Caerdydd yn...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae ein timau Anableddau Dysgu yn rhan o gyfarwyddiaeth Oedolion, Tai a Chymunedau o fewn Cyngor Caerdydd. Fel cyfarwyddiaeth, rydym yn cydnabod bod gweithwyr cymdeithasol yn weithwyr proffesiynol medrus sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a materol i fywydau pobl bob dydd. Mae gennym ddau dîm anableddau dysgu sy'n cwmpasu dwyrain a...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Bydd y rôl hon yn cael Taliad Atodol ar Sail y Farchnad o £3,000 (cyfwerth ag amser llawn) a adolygir yn flynyddol. Rydym yn chwilio am weithiwr cymdeithasol cofrestredig i ymuno â'n timau Iechyd Meddwl Cymunedol amlddisgyblaethol yng Nghaerdydd. Mae gweithio yn y Gwasanaethau Oedolion mewn tîm iechyd meddwl cymunedol integredig...

  • Cardiff, United Kingdom St Giles Trust Full time

    **Job Summary**: Are you a dynamic, collaborative and highly organised individual with a proven record of delivering projects relating to education, employment or training with participants aged 16 - 35? Looking for an exciting and highly rewarding new career opportunity? If so, join St Giles as a **Youth Engagement Worker**, where you will play a key role...