Gweithiwr Cefnogaeth Ieuenctid

4 weeks ago

Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnig amrywiaeth o ddarpariaethau ledled y ddinas i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed.

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnwys tîm ymroddedig o weithwyr ieuenctid proffesiynol sy’n gweithredu ledled y ddinas. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys canolfannau ieuenctid, darpariaethau arbenigol, timau mentora ieuenctid a thimau gwaith ieuenctid ar y stryd gyda phob un ohonynt yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd a phrofiadau creadigol sy’n annog cyfranogiad a datblygiad pobl ifanc mewn cymunedau.

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn hyrwyddo cysylltiad cryf rhwng gwaith ieuenctid penodol a chyffredinol sy’n sicrhau y cynigir cymorth cyson i bobl ifanc pan fo angen hynny arnynt. Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn annog pobl ifanc i gyflawni eu potensial unigol ac yn eu cefnogi ar eu taith i ddod yn ddinasyddion gweithredol cadarnhaol.

**Am Y Swydd**

Bydd deiliad y swydd yn dod yn rhan o dîm o weithwyr ieuenctid sydd wedi'u lleoli yng Nghlwb Ieuenctid Llaneirwg sy'n cynllunio, cyflwyno a gwerthuso cwricwlwm o weithgareddau i ymgysylltu â phobl ifanc 14-19 oed.

Mae'r rôl hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus sefydlu a chynnal perthynas waith gadarnhaol a chynhyrchiol gyda phobl ifanc a chyfrannu at y broses o gyflwyno cwricwlwm ffurfiol ac anffurfiol ar y cyd.

Oherwydd natur gwaith ieuenctid, a chefnogi rhaglen a arweinir gan berson ifanc, bydd angen cefnogi digwyddiadau/tripiau preswyl/ymweliadau y tu allan i’r oriau penodedig. Caiff y rhain eu trafod yn ôl yr angen.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am gefnogi pobl ifanc i ddatblygu yn eu cyfanrwydd, gan weithio gyda nhw i hwyluso eu datblygiad personol, cymdeithasol ac addysgol, ac i’w galluogi i ddatblygu eu llais, eu dylanwad a’u lle yn y gymdeithas ac i gyrraedd eu llawn botensial.

Rydym yn chwilio am weithwyr ieuenctid brwdfrydig a deinamig a fydd yn annog creadigrwydd ac arloesedd i ysbrydoli ac ysgogi pobl ifanc yn ddyddiol.

Rydym yn chwilio am weithwyr ieuenctid sydd ag agweddau cadarnhaol a gwydnwch i allu effeithio’n gadarnhaol ar fywydau pobl ifanc.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar gymhwyster proffesiynol perthnasol mewn gwaith ieuenctid a bydd ganddo hanes o weithio gyda phobl ifanc i sicrhau canlyniadau cadarnhaol.

Mae'r swydd hon yn rhan amser a bydd yn gweithio 3 awr yr wythnos ar nos Wener (44 wythnos o'r flwyddyn). Fodd bynnag, mae’r cyflog a ddangosir ar gyfer 37 awr yr wythnos, felly caiff ei roi ar sail pro-rata yn unol â hyn

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae’r swyddi hyn yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cynorthwyo plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Maent yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi yn ethos cyffredinol y Cyngor a’r holl ysgolion.

Rhaid i ymgeiswyr mewnol sy'n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar sail secondiad gael cymeradwyaeth cyn gwneud cais gan ddefnyddio Ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y canlynol sy’n gallu cymeradwyo ceisiadau: y Cyfarwyddwr/Cyfarwyddwr Cynorthwyol/Prif Swyddog neu Uwch Swyddog Enwebedig perthnasol, nad yw ar raddfa is na RhG2, neu, yn achos staff ysgolion, y Pennaeth/Corff Llywodraethu.

Fel cyflogwr cyfle cyfartal, rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Felly, er nad yw’n ofyniad ar gyfer gwneud cais, rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan unigolion nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol, gan gynnwys y rheini:

- dan 25 oed
- nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant;
- o’n cymunedau lleol gan gynnwys yn benodol unigolion anabl, gofalwyr a phobl o gymuned pobl dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a chymuned LHDT+ Caerdydd
- sy’n gallu cyfathrebu’n rhugl drwy gyfrwng y Gymraeg.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: EDU00552

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnig ystod o ddarpariaethau ar gyfer pobl ifanc 11 i 25 oed ac mae’n cynnwys tîm o weithwyr ieuenctid proffesiynol ymroddgar sy’n gweithredu ledled y ddinas. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys canolfannau ieuenctid, darpariaethau arbenigol, timau mentora ieuenctid a gwaith ieuenctid stryd ac mae pob...

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnig amrywiaeth o ddarpariaethau ledled y ddinas i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed. Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnwys tîm dawnus a brwdfrydig o weithwyr ieuenctid proffesiynol a gweithwyr cymorth ieuenctid sy’n gweithredu ledled y ddinas. Mae’r Gwasanaeth yn cynnwys canolfannau...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **About The Service** Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnig ystod o ddarpariaethau ar gyfer pobl ifanc 11 i 25 oed ac mae’n cynnwys tîm o weithwyr ieuenctid proffesiynol ymroddgar sy’n gweithredu ledled y ddinas. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys canolfannau ieuenctid, darpariaethau arbenigol, timau mentora ieuenctid a gwaith ieuenctid stryd ac mae...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnig ystod o ddarpariaethau ar gyfer pobl ifanc 11 i 25 oed ac mae’n cynnwys tîm o weithwyr ieuenctid proffesiynol ymroddgar sy’n gweithredu ledled y ddinas. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys canolfannau ieuenctid, darpariaethau arbenigol, timau mentora ieuenctid a gwaith ieuenctid stryd ac mae pob...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnig amrywiaeth o ddarpariaethau ledled y ddinas i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed. Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnwys tîm dawnus a brwdfrydig o weithwyr ieuenctid proffesiynol a gweithwyr cymorth ieuenctid sy’n gweithredu ledled y ddinas. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys canolfannau...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid (GCI) Caerdydd yn parhau ei daith wella, lle rydym yn ymdrechu i sicrhau canlyniadau rhagorol bob amser i bob plentyn a pherson ifanc yn ein gwasanaeth. I’n helpu i barhau â'n cynnydd cadarnhaol hyd yn hyn, rydym yn chwilio am ymarferydd GCI brwdfrydig, hunangymhellol a phrofiadol. Cynigir y swydd...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Caerdydd ar daith wella yn dilyn arolygiad Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi, lle rydym yn ymdrechu i sicrhau canlyniadau rhagorol i bob plentyn a pherson ifanc yn ein gwasanaeth. Er mwyn ein helpu i barhau â'n cynnydd cadarnhaol hyd yma, rydym yn chwilio am Weithiwr Cymdeithasol neu Swyddog Prawf...

  • Gweithiwr Cymorth

    4 weeks ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru, gan gynnig cyfle i staff weithio gyda phoblogaeth hynod amrywiol gydag amrywiaeth o anghenion gofal a chymorth. Fel yr awdurdod lleol mwyaf yng Nghymru rydym yn cefnogi bron i 5000 o unigolion i fyw'n dda, gan gynnig strwythur cymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn iddynt i sicrhau eu bod...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ydych chi'n Fyfyriwr Gwaith Cymdeithasol yn eich blwyddyn olaf yn y brifysgol? Mae gwasanaethau Plant Cyngor Caerdydd yn cynnig cyfle unigryw i sicrhau swydd Gweithiwr Cymdeithasol parhaol yn barod ar gyfer pan fyddwch yn cymhwyso y flwyddyn nesaf. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw cyflwyno cais; byddwn yn gwarantu cyfweliad i chi yn...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru ac yn ddinas sy'n tyfu gyda phoblogaeth amrywiol. Mae plant Caerdydd angen gweithwyr cymdeithasol sy'n gallu ymateb i'r amrywiaeth o anghenion a phrofiadau sydd yn ei dro yn rhoi cyfle i weithwyr cymdeithasol ddatblygu arbenigedd ac i arwain ymarfer yng Nghymru. Mae Caerdydd yn...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru ac yn ddinas sy'n tyfu gyda phoblogaeth amrywiol. Mae plant Caerdydd angen gweithwyr cymdeithasol sy'n gallu ymateb i'r amrywiaeth o anghenion a phrofiadau sydd yn ei dro yn rhoi cyfle i weithwyr cymdeithasol ddatblygu arbenigedd ac i arwain ymarfer yng Nghymru. Mae Caerdydd yn cynnig y...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Rydym wrth ein bodd yn cyflwyno cyfle newydd cyffrous o fewn y gwasanaethau plant yng Nghaerdydd. Rydym yn lansio tîm y tu allan i oriau sy'n chwilio am weithwyr ymyrraeth pwrpasol i ddarparu cefnogaeth hanfodol i blant a theuluoedd yn ystod cyfnodau o angen. Rydym yn deall y gall heriau godi ar unrhyw adeg, ac mae angen eich help arnom...

  • Cardiff, United Kingdom St Davids Catholic Sixth Form College Full time

    **Uwch Swyddog Iechyd Meddwl ac Anghenion Cymhleth** **Dros Dro - Caerdydd** Coleg Dosbarth Chwech poblogaidd a gor-danysgrifedig yw Coleg Dewi Sant, sy’n darparu addysg o safon uchel i fyfyrwyr 16-19 mlwydd oed o fewn Caerdydd a Bro Morgannwg. Yn ein harolygiad Estyn yn 2019, cawsom radd ‘rhagorol’ ym maes arolygu un ar gyfer safonau, ac ym maes...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Cyf.**PEO02929 **Swydd**:Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl **Gradd**:6 **Cyflog**:£27,852 - £32,020 **Statws**: parhaol a llawn amser **Ynglŷn â'r gwasanaeth** Mae gennym gyfle cyffrous i Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl weithio gyda rhai o'n plant a'n pobl ifanc mwyaf bregus yng Nghaerdydd. Rydym yn chwilio am Uwch Swyddog...