Gweithiwr Cymorth Ymyriadau

2 months ago

Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Rydym wrth ein bodd yn cyflwyno cyfle newydd cyffrous o fewn y gwasanaethau plant yng Nghaerdydd. Rydym yn lansio tîm y tu allan i oriau sy'n chwilio am weithwyr ymyrraeth pwrpasol i ddarparu cefnogaeth hanfodol i blant a theuluoedd yn ystod cyfnodau o angen. Rydym yn deall y gall heriau godi ar unrhyw adeg, ac mae angen eich help arnom i gynnig cefnogaeth gynhwysfawr a all wneud gwahaniaeth go iawn.

Mae ymuno â'r tîm hwn yn dod â nifer o fanteision. Yn ogystal ag effeithio'n gadarnhaol ar fywydau plant a theuluoedd, rydym yn cynnig taliadau ychwanegol hael gyda'r nos, ar y penwythnos, dros ŵyl y banc, a dyletswyddau cysgu dros nos achlysurol, ar ben eich cyflog. Byddwch yn derbyn taliad chwyddo cyflog ychwanegol o 30% ar ôl 8pm yn ystod yr wythnos, sy’n cynyddu i 50% ar benwythnosau. Mae dyletswyddau cysgu dros nos yn cynnig £40.80 yn ychwanegol, gan ddarparu potensial enillion rhagorol.

Fel rhan o'r tîm y tu allan i oriau, bydd gennych sylfaen weithio ddiogel a'r cyfle i weithio mewn lleoliadau cymunedol a phreswyl. Mae'r profiad unigryw hwn yn eich galluogi i ennill sgiliau gwerthfawr mewn gwahanol amgylcheddau tra'n cydweithio ag amrywiol weithwyr proffesiynol o fewn y gwasanaethau plant.

Rydym yn frwd dros gyflogi tîm eithriadol o weithwyr ac rydym yn ymroddedig i ddarparu'r sgiliau, y wybodaeth a'r hyfforddiant angenrheidiol i chi ffynnu yn y rôl hon.

Rydym hefyd yn cynnig oriau gweithio hyblyg, p'un a ydych yn chwilio am waith rhan-amser neu lawn-amser i ffitio o amgylch eich ffordd o fyw bersonol. Rydym yn deall pwysigrwydd cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a'n nod yw darparu ar gyfer ein gweithwyr cystal ag y gallwn tra’n diwallu anghenion y gwasanaeth.
**Am Y Swydd**
Bydd ein gweithwyr ymyrraeth tosturiol a meithringar yn darparu cymorth brys i blant, pobl ifanc a theuluoedd sy'n agored i niwed yn ystod oriau swyddfa arferol a’r tu allan i oriau swyddfa. Ein nod yw sicrhau gofal cynhwysfawr yn unol â'r model lle cywir, gan greu gwasanaeth sy'n ddibynadwy ac yn ymatebol bob amser.

Mae cyfrifoldebau'r tîm yn cynnwys darparu cymorth therapiwtig ac ymyrraeth uniongyrchol i rieni, eu helpu i adeiladu ar eu cryfderau a sicrhau canlyniadau cadarnhaol yn unol â'u cynllun gofal plant personol (CGCh, DP a PDG).

Ein nod yw darparu gwasanaethau o safon sy’n galluogi rhieni â phlant y nodwyd eu bod yn anghenus i wella a hybu iechyd a datblygiad eu plant. Bydd hynny’n cael ei wneud unol â’n dyletswydd statudol ac mewn partneriaeth â gwasanaethau eraill, asiantaethau a defnyddwyr gwasanaeth.

Byddwch yn wynebu heriau newydd yn y swydd hon, felly mae angen aelodau o staff arnom sydd ag agwedd gadarnhaol ac sy'n barod i fynd yr ail filltir i'r bobl ifanc a’r teuluoedd yn eu gofal. Mae eich gallu i ymateb i argyfyngau a chefnogi teuluoedd i gryfhau perthnasoedd yn hanfodol.

Byddwch hefyd yn darparu cymorth i blant mewn unedau preswyl sy'n cael anawsterau, gan ddefnyddio'ch sgiliau a'ch hyfforddiant i ddarparu cymorth therapiwtig a chreu amgylchedd diogel ar eu cyfer.

Byddwch yn cael eich cefnogi gan reolwyr a bydd gennych gyfleoedd i dyfu a datblygu.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Mae'r rôl yn cynnwys gweithio gyda theuluoedd yn eu cartrefi a'u cymunedau eu hunain a datblygu pecynnau cymorth ymatebol wedi'u teilwra yn seiliedig ar anghenion a asesir ac a nodwyd. Byddwch yn gweithio gydag aelodau o'r teulu a phlant i bennu nodau realistig a chynaliadwy ar gyfer newid fel aelod o dîm amlasiantaeth. Bydd y ffocws ar feithrin gwydnwch teuluol i wella canlyniadau tymor hir i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd ynghyd â darparu cymorth preswyl i blant a phobl ifanc mewn lleoliadau brys pwrpasol. Mae'r cyfle hwn yn gyffrous ac yn arloesol a bydd yn eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau mewn ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth.

Rydym yn chwilio am rywun sy'n cyd-fynd â'n gwerthoedd ac sy'n gallu dangos empathi, tosturi, amynedd ac agweddau anfeirniadol.

Bydd rhaid i chi gwblhau Fframwaith Sefydlu Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru Gyfan o fewn 6 mis o ddyddiad y penodiad.

**BYDD ANGEN TRWYDDED YRRU DDILYS LAWN ARNOCH A DEFNYDD UNIGOL O GAR.**

Yn gyfnewid am eich sgiliau a'ch ymrwymiad byddwch yn derbyn:

- Gwyliau blynyddol hael yn dechrau ar 28 diwrnod y flwyddyn i uchafswm o 33 diwrnod y flwyddyn ar ôl 5 mlynedd gydag opsiwn i brynu hyd at 10 diwrnod o wyliau blynyddol ychwanegol.
- Mae ein diwylliant gwaith yn hyblyg, gyda chynllun hyblyg sy’n eich galluogi i weithio i amserlen sy'n addas i chi - Gweithio’n hybrid - eich cefnogi i gyflawni'ch rôl yn hyblyg p'un ai ar ymweliadau, o swyddfa neu eich cartref - Mynediad i Gronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg sy'n rhan o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), gan gynnig cynllun pensiwn dibynadwy, diogel a hyblyg ar gyfer tawelwch meddwl.
- Cymorth a chefnogaeth i gwblhau Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan (Gofal Cymdeithasol Cymru).
- Cyfleoedd i gwblhau cymwysterau a ariennir yn llawn.
- Cyfleoedd hy

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnig ystod o ddarpariaethau ar gyfer pobl ifanc 11 i 25 oed ac mae’n cynnwys tîm o weithwyr ieuenctid proffesiynol ymroddgar sy’n gweithredu ledled y ddinas. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys canolfannau ieuenctid, darpariaethau arbenigol, timau mentora ieuenctid a thimau gwaith ieuenctid ar y stryd...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnig ystod o ddarpariaethau ar gyfer pobl ifanc 11 i 25 oed ac mae’n cynnwys tîm o weithwyr ieuenctid proffesiynol ymroddgar sy’n gweithredu ledled y ddinas. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys canolfannau ieuenctid, darpariaethau arbenigol, timau mentora ieuenctid a gwaith ieuenctid stryd ac mae pob...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn recriwtio ar gyfer rôl newydd gyffrous fel rhan o'n Hyb Ymyriadau. Ynglŷn â’r gwasanaeth **Y manteision a gynigir** Mae Caerdydd yn aml ar frig rhestrau o ddinasoedd gorau'r DU i fyw ynddynt, felly ymunwch â ni i weld beth y gallwn ei gynnig. - Gwyliau blynyddol hael yn dechrau ar 27 diwrnod y flwyddyn i...

  • Cardiff, United Kingdom British Red Cross Full time

    **Gweithiwr Cymorth Gwasanaeth Achlysurol - Adran Achosion Brys** **Lleoliad: Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd** **Math o gontract: Achlysurol** **Oriau'r wythnos: Mae'r swydd ar gyfer gwyliau blynyddol a salwch. Nid oes unrhyw oriau dan gontract nac isafswm oriau. Mae hwn yn sero awr.** **Cyflog: £10.90 yr awr** **Gofyniad Gyrru: Trwydded Yrru Lawn y DU â...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn aml ar frig rhestrau o ddinasoedd gorau'r DU i fyw ynddynt, felly ymunwch â ni i weld beth y gallwn ei gynnig. - Gwyliau blynyddol hael yn dechrau ar 28 diwrnod y flwyddyn i uchafswm o 33 diwrnod y flwyddyn ar ôl 5 mlynedd gydag opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol o hyd at 10 diwrnod. - Mae ein diwylliant...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg yn cydweithio i ddarparu Canolfan Adnoddau Pobl Ifanc (CAPI) / Gwasanaeth Ar Ffiniau Gofal newydd arloesol i bobl ifanc 11-17 oed. Gan seilio ein gwaith ar gryfderau, ein nod yw cydweithio â theuluoedd i wella perthnasau a galluogi pobl ifanc i barhau i fyw yn eu cartref teuluol. Mae CAPI wedi...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae sawl cyfle cyffrous ar gael ar hyn o bryd o fewn Tîm Gwasanaethau Tai Cyngor Bro Morgannwg. Mae'r rhain yn rolau newydd wrth i ni ehangu ein tîm presennol a thyfu ein cynnig gwasanaeth lleol i gefnogi newydd-ddyfodiaid yn y ddinas. Mae'r tîm yn gweithio mewn partneriaeth agos ag amrywiaeth o randdeiliaid lleol i gynllunio, cydlynu...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae nifer o gyfleoedd cyffrous ar gael ar hyn o bryd yn nhîm Polisi a Gwasanaethau Ymfudo Cyngor Caerdydd. Mae'r rhain yn rolau newydd wrth i ni ehangu ein tîm presennol a thyfu ein cynnig gwasanaeth lleol i gefnogi newydd-ddyfodiaid yn y ddinas. Mae'r Tîm Polisi a Gwasanaethau Ymfudo wedi'i leoli yn yr adran Polisi a Phartneriaethau,...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn recriwtio ar gyfer rôl newydd gyffrous yn ein Tîm y Tu Allan i Oriau newydd. **Y buddion a gynigir** Mae Caerdydd yn aml ar frig rhestrau o ddinasoedd gorau'r DU i fyw ynddynt, felly ymunwch â ni i weld beth y gallwn ei gynnig. - Gwyliau blynyddol hael yn dechrau ar 27 diwrnod y flwyddyn i uchafswm o 32 diwrnod...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru, gan gynnig cyfle i weithwyr cymdeithasol weithio gyda phoblogaeth hynod amrywiol gydag amrywiaeth o anghenion gofal a chymorth. Fel yr awdurdod lleol mwyaf yng Nghymru rydym yn cefnogi bron i 5000 o unigolion i fyw'n dda, gan gynnig strwythur cymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn iddynt i...

  • Gweithiwr Cymorth

    2 weeks ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle wedi codi i ymuno â'r Tîm Byw â Chymorth Caerdydd. Rydym yn chwilio am weithwyr cymorth i roi cymorth i unigolion ag anabledd dysgu. Rydym yn ymrwymedig i gynnig gwasanaeth o safon uchel sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae gweithio yn y Gwasanaethau Oedolion yn cynnig gwaith prysur a diddorol y byddech yn ei ddisgwyl mewn...

  • Cymorth Busnes

    1 month ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r Gwasanaethau Plant yn chwilio am unigolyn deinamig, rhagweithiol sydd â phrofiad gweinyddol, a hoffai gynorthwyo tîm yr hyb ymyriadau gan gynnwys gwasanaethau Ar Ffiniau Gofal a Chymorth i Deuluoedd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm prysur yn Stryd Neville, Caerdydd. **Am Y Swydd** Fel rhan o'r rôl Cymorth...

  • Gweithiwr Cymdeithasol

    2 months ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru, gan gynnig cyfle i weithwyr cymdeithasol weithio gyda phoblogaeth hynod amrywiol gydag amrywiaeth o anghenion gofal a chymorth. Fel yr awdurdod lleol mwyaf yng Nghymru rydym yn cefnogi bron i 5000 o unigolion i fyw'n dda, gan gynnig strwythur cymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn iddynt i...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru, gan gynnig cyfle i weithwyr cymdeithasol weithio gyda phoblogaeth hynod amrywiol gydag amrywiaeth o anghenion gofal a chymorth. Fel yr awdurdod lleol mwyaf yng Nghymru rydym yn cefnogi bron i 5000 o unigolion i fyw'n dda, gan gynnig strwythur cymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn iddynt i...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru ac yn ddinas sy'n tyfu gyda phoblogaeth amrywiol. Mae plant Caerdydd angen gweithwyr cymdeithasol sy'n gallu ymateb i'r amrywiaeth o anghenion a phrofiadau sydd yn ei dro yn rhoi cyfle i weithwyr cymdeithasol ddatblygu arbenigedd ac i arwain ymarfer yng Nghymru. Mae Caerdydd yn...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru ac yn ddinas sy'n tyfu gyda phoblogaeth amrywiol. Mae plant Caerdydd angen gweithwyr cymdeithasol sy'n gallu ymateb i'r amrywiaeth o anghenion a phrofiadau sydd yn ei dro yn rhoi cyfle i weithwyr cymdeithasol ddatblygu arbenigedd ac i arwain ymarfer yng Nghymru. Mae Caerdydd yn cynnig y...

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Dydd Caerdydd yn Wasanaeth Dydd arbenigol sy’n cynnig cymorth i oedolion ag anableddau dysgu sydd ag anghenion cymorth cymhleth. Caiff pobl eu cynorthwyo gan y gwasanaeth i fanteisio ar amrywiaeth eang o weithgareddau a chyfleoedd gwerthfawr yn y gymuned leol â’r nod o gyflawni’r canlyniadau a nodwyd. **Am Y...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn brifddinas fywiog, amrywiol a chyffrous i bawb. Nid nepell o lan y môr, y cymoedd a’r mynyddoedd, siopa penigamp a bywyd nos neu leoliadau pentrefol llonydd. Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â Chaerdydd, sy’n Awdurdod ar daith weithredu drwy ddefnyddio’r dull Arwyddion Diogelwch i ganolbwyntio ar gynorthwyo ein...