Uwch Weithiwr Cymorth Ymyriadau

2 months ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae Cyngor Caerdydd yn recriwtio ar gyfer rôl newydd gyffrous yn ein Tîm y Tu Allan i Oriau newydd.

**Y buddion a gynigir**

Mae Caerdydd yn aml ar frig rhestrau o ddinasoedd gorau'r DU i fyw ynddynt, felly ymunwch â ni i weld beth y gallwn ei gynnig.
- Gwyliau blynyddol hael yn dechrau ar 27 diwrnod y flwyddyn i uchafswm o 32 diwrnod y flwyddyn ar ôl 5 mlynedd gydag opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol o hyd at 10 diwrnod.
- Mae ein diwylliant gweithio yn hyblyg, gyda chynllun fflecsi yn eich galluogi i weithio i amserlen sy'n addas i chi.
- Mynediad at Gronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwgsy'n rhan o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), sy'n cynnig cynllun pensiwn diogel, hyblyg, dibynadwy sy’n rhoi tawelwch meddwl.

Caerdydd yw un o'r dinasoedd sy'n tyfu gyflymaf yng ngwledydd Prydain ac mae’n ymrwymedig i ddod yn _'Ddinas sy’n Dda i Blant'_ sy'n rhoi hawliau plant a phobl ifanc wrth wraidd ein polisïau a'n strategaethau. Rhieni sy’n cael y dylanwad mwyaf ar blant a’u dyfodol. Yn ein barn ni, mae plant yn cyflawni’r canlyniadau gorau pan gânt eu cynorthwyo i dyfu a llwyddo o fewn eu teuluoedd eu hunain. Y gred hon arweiniodd at ddefnyddio’r dull _‘Ffocws ar _y Teulu’, sy’n ystyried y teulu cyfan ac yn cydlynu cymorth ar draws y gwasanaethau cyhoeddus, wedi’i deilwra i anghenion a chryfderau pob teulu.

Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o ymdrech Caerdydd i fod yn un o'r dinasoedd mwyaf bywiog a llwyddiannus yn y DU, sy'n rhoi plant yn gyntaf, gyda'r uchelgais o arwain y ffordd o ran datblygu arfer yng Nghymru, byddem yn falch iawn o glywed gennych.

**Am Y Swydd**
Mae'r Hyb Ymyriadau yn hanfodol i helpu teuluoedd i gael y cymorth iawn ar yr adeg iawn. Dyna pam rydym yn creu tîm cymorth y tu allan i oriau yn y Gwasanaethau Plant. Bydd hyn yn galluogi plant, pobl ifanc a theuluoedd sy'n agored i niwed i gael cymorth brys y tu allan i oriau swyddfa arferol.

Bydd gan y tîm swyddogaeth ddeuol o ran darparu cymorth i deuluoedd a chymorth preswyl yn unol â'r model Lle Cywir.

Bydd yr Uwch Weithwyr Cymorth Ymyriadau yn gyfrifol am ddirprwyo ar ran arweinydd y tîm ac yn darparu goruchwyliaeth a chefnogaeth i'r Gweithwyr Cymorth.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Dylech feddu ar brofiad goruchwylio mewn lleoliad perthnasol, y gallu i reoli staff ac ymgymryd â goruchwyliaeth. Dylai fod gennych brofiad o weithio gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd, a dylech fod yn ymroddedig i weithio gyda theuluoedd i wella eu gallu i fagu plant a gwella cyfleoedd bywyd plant a phobl ifanc.

Fel Uwch Swyddog bydd angen i chi weithio'n annibynnol a bod yn hyderus wrth wneud penderfyniadau a darparu arweiniad.

Bydd yn ofynnol yn y rôl hon i allu cwblhau Fframwaith Sefydlu Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru Gyfan o fewn 6 mis o ddyddiad y penodiad.

Dylech allu gweithio’n hyblyg. Bydd hyn yn cynnwys gweithio shifftiau 12 awr.

(8am - 8pm) neu (8pm i 8am)

**Bydd angen trwydded yrru ddilys lawn a’r defnydd unigol o gar arnoch.**

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae’r swydd hon yn amodol ar Wiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles, ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a phob ysgol.

Mae’r swydd hon yn addas i’w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post.

Nodwch nad yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllaw ar Wneud Cais
- Ymgeisio am swyddi gyda ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter Cyflogeion
- Recriwtio Cyn-Droseddwyr
- Hysbysiad Preifatrwydd

Job Reference: PEO03295



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â Gwasanaeth Byw â Chymorth Mewnol Caerdydd wrth iddo gychwyn ar raglen o wella a moderneiddio. Mae prifddinas fywiog Cymru yn cynnig y cyfle i chi weithio o fewn cymuned fwyaf a mwyaf amrywiol Cymru. Mae ein Gwasanaeth Byw â Chymorth bach ar hyn o bryd yn cefnogi 18 o unigolion ac yn cynnig...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaethau Rhianta Caerdydd yn cael eu harwain yn strategol gan Uwch Seicolegydd Addysg ac yn cynnwys timau sy'n darparu rhaglenni rhianta grwp ac unigol ac ymyriadau. Mae Gwasanaethau Rhianta Caerdydd yn rhan o Cymorth Cynnar Caerdydd. Mae Rhieni yn Gyntaf yn wasanaeth rhianta a arweinir gan seicoleg o fewn Cymorth Cynnar...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn recriwtio ar gyfer Prif Weithiwr Cymdeithasol i weithredu fel cyswllt allweddol rhwng CAMHS a'r Gwasanaethau Plant. **Y buddion a gynigir** Mae Caerdydd yn aml ar frig rhestrau o ddinasoedd gorau'r DU i fyw ynddynt, felly ymunwch â ni i weld beth y gallwn ei gynnig. - Gwyliau blynyddol hael yn dechrau ar 27...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid (GCI) Caerdydd yn bartneriaeth amlasiantaethol sydd ar flaen y gad o ran datblygu ymyriadau arloesol i blant a phobl ifanc 10-17 oed sydd wedi troseddu neu mewn perygl o droseddu. **Am Y Swydd** Rydym yn chwilio am rywun i lenwi’r swydd ganlynol yn y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid (GCI) - Swyddog...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn ceisio adeiladu ar lwyddiant recriwtio gweithwyr cymdeithasol drwy sicrhau bod gennym y prif weithwyr cymdeithasol gorau i hyfforddi a chefnogi ein gweithwyr, gan eu galluogi i dyfu a datblygu. Wrth fynd ar drywydd hyn, rydym wedi cynyddu nifer y prif weithwyr cymdeithasol ac yn ceisio recriwtio gweithwyr parhaol gydag...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg yn cydweithio i ddarparu Canolfan Adnoddau Pobl Ifanc (CAPI) / Gwasanaeth Ar Ffiniau Gofal newydd arloesol i bobl ifanc 11-17 oed. Gan seilio ein gwaith ar gryfderau, ein nod yw cydweithio â theuluoedd i wella perthnasau a galluogi pobl ifanc i barhau i fyw yn eu cartref teuluol. Mae CAPI wedi...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn recriwtio ar gyfer rôl newydd gyffrous fel rhan o'n Hyb Ymyriadau. Ynglŷn â’r gwasanaeth **Y manteision a gynigir** Mae Caerdydd yn aml ar frig rhestrau o ddinasoedd gorau'r DU i fyw ynddynt, felly ymunwch â ni i weld beth y gallwn ei gynnig. - Gwyliau blynyddol hael yn dechrau ar 27 diwrnod y flwyddyn i...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Bryn y Deryn yn Uned Cyfeirio Disgyblion (UCD) CA4 ar gyfer 90 o ddisgyblion sydd ag anawsterau ymddygiadol, emosiynol a chymdeithasol ac iechyd meddwl. Rydym ni’n ceisio penodi i rôl Arbenigwr Ymyriadau/ Uwch Gynorthwy-ydd Addysgu **Am Y Swydd** Gweithio dan gyfarwyddwyd y staff addysgu/Cydlynydd ADY/uwch aelodau o staff, o fewn...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn recriwtio ar gyfer rôl newydd gyffrous yn ein Hyb Ymyriadau. Rydym yn chwilio am Weithiwr Cymdeithasol profiadol i arwain ar brosiect newydd yn cefnogi timau statudol sy’n gweithio gydag achosion lle mae trais domestig yn bresennol. **Amdanom NI** Y manteision a gynigir Mae Caerdydd yn aml ar frig rhestrau o...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ydych chi'n Gynorthwy-ydd Therapi Galwedigaethol brwdfrydig a phrofiadol neu'n Weithiwr Cymorth Therapi Galwedigaethol, neu’n dod o gefndir gwaith tebyg ac yn barod i ddatblygu eich gyrfa? Mae cyfle unigryw wedi codi i Uwch Gynorthwy-ydd Therapi Galwedigaethol ymuno â'r Tîm ThG Cymunedol sydd wedi'i leoli yn y Ganolfan Rhyddhau...

  • Cymorth Busnes

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r Gwasanaethau Plant yn chwilio am unigolyn deinamig, rhagweithiol sydd â phrofiad gweinyddol, a hoffai gynorthwyo tîm yr hyb ymyriadau gan gynnwys gwasanaethau Ar Ffiniau Gofal a Chymorth i Deuluoedd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm prysur yn Stryd Neville, Caerdydd. **Am Y Swydd** Fel rhan o'r rôl Cymorth...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Os oes diddordeb gennych i gael bod yn rhan o ymdrech Caerdydd i fod yn un o'r dinasoedd mwyaf bywiog a llwyddiannus yn y Deyrnas Gyfunol sy'n rhoi plant yn gyntaf, gyda'r uchelgais o arwain y ffordd o ran datblygu ymarfer yng Nghymru, byddem yn falch iawn o glywed gennych. Caerdydd yw un o'r dinasoedd sy'n tyfu gyflymaf yng ngwledydd...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ar hyn o bryd mae'r rôl hon yn denu Taliad Atodol ar Sail y Farchnad o £3,000 (pro-rata), a adolygir yn flynyddol, lwfans Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy o £2800 (pro-rata) a lwfansau sifftiau oriau anghymdeithasol. Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â'n Tîm Dyletswydd Argyfwng (TDA) fel Prif Weithiwr...

  • Gweithiwr Cymorth

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle wedi codi i ymuno â'r Tîm Byw â Chymorth Caerdydd. Rydym yn chwilio am weithwyr cymorth i roi cymorth i unigolion ag anabledd dysgu. Rydym yn ymrwymedig i gynnig gwasanaeth o safon uchel sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae gweithio yn y Gwasanaethau Oedolion yn cynnig gwaith prysur a diddorol y byddech yn ei ddisgwyl mewn...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn aml ar frig rhestrau o ddinasoedd gorau'r DU i fyw ynddynt, felly ymunwch â ni i weld beth y gallwn ei gynnig. - Gwyliau blynyddol hael yn dechrau ar 28 diwrnod y flwyddyn i uchafswm o 33 diwrnod y flwyddyn ar ôl 5 mlynedd gydag opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol o hyd at 10 diwrnod. - Mae ein diwylliant...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Y cyflog ar gyfer y rôl hon yw hyd at £46,591 gan gynnwys taliad atodol ar sail y farchnad. Mae Cyngor Caerdydd yn chwilio am Brif Weithiwr Cymdeithasol i weithio yn bennaf mewn rôl oruchwyliwr, ynghyd â rheoli achosion o lwyth gwaith cymhleth bach, o fewn un o'n Timau Ardal. Byddai'r ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei gefnogi gan ei...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn chwilio am Brif Weithiwr Cymdeithasol i weithio yn bennaf mewn rôl oruchwyliwr, ynghyd â rheoli achosion o lwyth gwaith cymhleth bach, o fewn un o'n Timau Ardal. Byddai'r ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei gefnogi gan ei Reolwr Tîm a'r Rheolwr Gweithredol. Byddai’n gweithio o fewn tîm o weithwyr cymdeithasol,...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn chwilio am Brif Weithiwr Cymdeithasol i weithio yn bennaf mewn rôl oruchwyliwr, ynghyd â rheoli achosion o lwyth gwaith cymhleth bach, o fewn un o'n Timau Ardal. Byddai'r ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei gefnogi gan ei Reolwr Tîm a'r Rheolwr Gweithredol. Byddai’n gweithio o fewn tîm o weithwyr cymdeithasol,...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru, gan gynnig cyfle i weithwyr cymdeithasol weithio gyda phoblogaeth hynod amrywiol gydag amrywiaeth o anghenion gofal a chymorth. Fel yr awdurdod lleol mwyaf yng Nghymru rydym yn cefnogi bron i 5000 o unigolion i fyw'n dda, gan gynnig strwythur cymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn iddynt i...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Dydd Caerdydd yn Wasanaeth Dydd arbenigol sy’n cynnig cymorth i oedolion ag anableddau dysgu sydd ag anghenion cymorth cymhleth. Caiff pobl eu cynorthwyo gan y gwasanaeth i fanteisio ar amrywiaeth eang o weithgareddau a chyfleoedd gwerthfawr yn y gymuned leol â’r nod o gyflawni’r canlyniadau a nodwyd. **Am Y...