Swyddog Ymyriadau Dwys

2 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid (GCI) Caerdydd yn bartneriaeth amlasiantaethol sydd ar flaen y gad o ran datblygu ymyriadau arloesol i blant a phobl ifanc 10-17 oed sydd wedi troseddu neu mewn perygl o droseddu.

**Am Y Swydd**
Rydym yn chwilio am rywun i lenwi’r swydd ganlynol yn y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid (GCI) - Swyddog Ymyriadau Dwys.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu gweithgareddau ac ymyriadau ar sail tystiolaeth i bobl ifanc ar draws y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid (GCI) cyfan, gan gynnwys pecynnau mwy dwys o gymorth i unrhyw bobl ifanc ar orchmynion Goruchwylio ac Arolygu Dwys (GAD) statudol.

Bydd deiliad y swydd yn hyrwyddo hawliau CCUHP y plentyn, gan sicrhau bod gweithgareddau’n cwmpasu amrywiaeth ac yn darparu cyfleoedd i ymatal.

Byddai dealltwriaeth o'r system cyfiawnder troseddol fel y mae’n effeithio ar blant a phobl ifanc yn fantais benodol yn ogystal â phrofiad o ddarparu ymyriadau a mabwysiadu Dull Seiliedig ar Drawma.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
- Am drafodaeth anffurfiol mewn perthynas â'r swydd hon cysylltwch â Marie Sweeny, Uwch Swyddog Datblygu Ymarfer, ar (029) 2233 355.

Mae’r swydd yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

***Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn brif flaenoriaethau i’r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a'n hysgolion wedi ymrwymo i amddiffyn a diogelu pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn rhoi camau ar waith i ddiogelu eu lles ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy'n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a phob ysgol.

Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

***Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post.

Nid yw'r Cyngor yn derbyn CVau. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllaw ar Wneud Cais
- Ymgeisio am swyddi gyda ni
- Fframwaith Cymwyseddau Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siartr Cyflogeion
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Hysbysiad Preifatrwydd

Job Reference: PEO02823


  • Swyddog Cyswllt

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i Swyddog Cyswllt yn nhîm Therapi Galwedigaethol y Gwasanaethau Byw'n Annibynnol. **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio’n bennaf yn Neuadd y Sir, er y gallai fod angen gweithio gartref weithiau. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio ochr yn ochr â’r Therapydd Galwedigaethol...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith yn rhoi cymorth i bobl sydd wrthi'n chwilio am waith neu'n ceisio gwella eu sgiliau. Mae'r tîm yn gallu cynnig cymorth a mentora dwys trwy gyfleoedd gwirfoddoli a phrojectau a ariennir yn allanol. Mae’r Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith yn rheoli nifer o brojectau cyflogadwyedd a ariennir yn...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid (GCI) Caerdydd yn bartneriaeth amlasiantaethol sydd ar flaen y gad o ran datblygu ymyriadau arloesol i blant a phobl ifanc 10-17 oed sydd wedi troseddu neu mewn perygl o droseddu. **Am Y Swydd** Rydym yn chwilio am rywun i lenwi’r swydd ganlynol yn y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid (GCI) - Swyddog...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd yn wasanaeth arloesol a blaengar yn y gyfarwyddiaeth Oedolion, Tai a Chymunedau yng Nghyngor Caerdydd. Mae’r gwasanaeth, a enillodd Wobr Ansawdd Teuluoedd yn Gyntaf yn ddiweddar, yn rhoi gwybodaeth, cyngor a chymorth o ansawdd i blant, pobl ifanc, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol ledled y...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Caerdydd Cydlynydd Ymyrraeth Ddwys Mae Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid (GCI) Caerdydd yn bartneriaeth amlasiantaethol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc 10-17 oed; eu teuluoedd; a dioddefwyr eu hymddygiad er mwyn lleihau'r risg o droseddu ac aildroseddu, diogelu'r cyhoedd ac atgyweirio niwed. Wrth...


  • Cardiff, United Kingdom St Davids Catholic Sixth Form College Full time

    **Uwch Swyddog Iechyd Meddwl ac Anghenion Cymhleth** **Dros Dro - Caerdydd** Coleg Dosbarth Chwech poblogaidd a gor-danysgrifedig yw Coleg Dewi Sant, sy’n darparu addysg o safon uchel i fyfyrwyr 16-19 mlwydd oed o fewn Caerdydd a Bro Morgannwg. Yn ein harolygiad Estyn yn 2019, cawsom radd ‘rhagorol’ ym maes arolygu un ar gyfer safonau, ac ym maes...

  • Cydlynydd Ymgysylltu

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith yn rhoi cymorth i bobl ledled y ddinas sydd wrthi'n chwilio am waith neu'n ceisio gwella'u sgiliau; mae'r tîm yn gallu cynnig cymorth a mentora dwys drwy brosiect a ariennir yn allanol, cyfleoedd gwirfoddoli a mynediad i gyrsiau digidol a hyfforddiant sgiliau gwaith am ddim. Mae'r Gwasanaeth Cyngor...

  • Mentor Ieuenctid

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnig ystod o ddarpariaethau ar gyfer pobl ifanc 11 i 25 oed ac mae’n cynnwys tîm o weithwyr ieuenctid proffesiynol ymroddgar sy’n gweithredu ledled y ddinas. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys canolfannau ieuenctid, darpariaethau arbenigol, timau mentora ieuenctid a gwaith ieuenctid stryd ac mae pob...

  • Rheolwr Project

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer unigolyn ymroddgar sydd â hanes llwyddiannus o reoli projectau wedi eu cyllido ac o fod yn rheolwr llinell ar dîm. Mae'r Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith yn rhoi cymorth i bobl sydd wrthi'n chwilio am waith neu'n ceisio gwella'u sgiliau. Mae'r tîm yn gallu cynnig cymorth a mentora dwys...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i Therapydd Galwedigaethol yn y Gwasanaethau 18.5hrs Byw'n Annibynnol. **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am gynnal asesiadau o angen a chytuno ar ganlyniadau gyda defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr. Mae ymyriadau yn debygol o gynnwys darparu cyfarpar a chyflawni addasiadau mawr. Bydd...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Caerdydd ar daith wella yn dilyn arolygiad Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi, lle rydym yn ymdrechu i sicrhau canlyniadau rhagorol i bob plentyn a pherson ifanc yn ein gwasanaeth. Er mwyn ein helpu i barhau â'n cynnydd cadarnhaol hyd yma, rydym yn chwilio am Weithiwr Cymdeithasol neu Swyddog Prawf...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Rydym yn chwilio am weithwyr cymdeithasol cofrestredig i ymuno â’n timau Iechyd Meddwl Cymunedol amlddisgyblaethol yng Nghaerdydd. Mae dwy swydd ar gael ar hyn o bryd - un rhan-amser wedi ei lleoli yn Nhîm Iechyd Meddwl Cymunedol Links yn Adamsdown, Caerdydd ac un llawn amser yn TIMC Pentwyn ym Mhentwyn, Caerdydd. Mae gweithio yn y...