Gweithiwr Gwasanaeth Tîm Troseddau Ieuenctid

2 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Caerdydd ar daith wella yn dilyn arolygiad Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi, lle rydym yn ymdrechu i sicrhau canlyniadau rhagorol i bob plentyn a pherson ifanc yn ein gwasanaeth.

Er mwyn ein helpu i barhau â'n cynnydd cadarnhaol hyd yma, rydym yn chwilio am Weithiwr Cymdeithasol neu Swyddog Prawf brwdfrydig, hunan-gymhellol a phrofiadol i ymuno â'r gwasanaeth. Cynigir y swydd ar sail lawn amser** b**arhaol a bydd ei deiliad yn rhan o'r Tîm Rheoli Achosion.

**Am Y Swydd**
Mae gennym swyddi gwag llawn amser a rhan amser ar gael.

Bydd gennych ddealltwriaeth o’r system cyfiawnder troseddol fel y mae’n effeithio ar blant a phobl ifanc (10 - 17 oed) sy’n troseddu; a dealltwriaeth ymarferol o egwyddorion cyfiawnder adferol a dulliau adferol, a bydd gennych brofiad o weithio gyda phlant a phobl ifanc sydd wedi’u dadrithio. Byddwch yn gallu creu perthynas gadarnhaol gyda phobl ifanc.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd gennych brofiad o gynnal asesiadau a rheoli achosion cymhleth, yn ogystal â chynllunio ymyriadau priodol wedi'u targedu i leihau'r risg o droseddu/aildroseddu. Byddwch hefyd yn gallu ysgrifennu adroddiadau o ansawdd uchel gan gynnwys paratoi cynigion dedfrydu a byddwch yn cyflwyno gwybodaeth i'r Llysoedd pan fo angen.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y swydd hon, cysylltwch â Esyllt Richards, Marie Sweeney a Greg Nicholas yn GCI Caerdydd ar 029 22 330355.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae’r swydd hon yn destun Gwiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Yn rhan o’r swydd hon, rhaid i chi fod wedi’ch cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cynorthwyo plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Maent yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi yn ethos cyffredinol y Cyngor a’r holl ysgolion.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO03141



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnig ystod o ddarpariaethau ar gyfer pobl ifanc 11 i 25 oed ac mae’n cynnwys tîm o weithwyr ieuenctid proffesiynol ymroddgar sy’n gweithredu ledled y ddinas. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys canolfannau ieuenctid, darpariaethau arbenigol, timau mentora ieuenctid a thimau gwaith ieuenctid ar y stryd...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnig amrywiaeth o ddarpariaethau ledled y ddinas i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed. Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnwys tîm ymroddedig o weithwyr ieuenctid proffesiynol sy’n gweithredu ledled y ddinas. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys canolfannau ieuenctid, darpariaethau arbenigol, timau...


  • Cardiff, United Kingdom British Red Cross Full time

    **Gweithiwr Cymorth Gwasanaeth Achlysurol - Adran Achosion Brys** **Lleoliad: Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd** **Math o gontract: Achlysurol** **Oriau'r wythnos: Mae'r swydd ar gyfer gwyliau blynyddol a salwch. Nid oes unrhyw oriau dan gontract nac isafswm oriau. Mae hwn yn sero awr.** **Cyflog: £10.90 yr awr** **Gofyniad Gyrru: Trwydded Yrru Lawn y DU â...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnig amrywiaeth o ddarpariaethau ledled y ddinas i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed. Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnwys tîm dawnus a brwdfrydig o weithwyr ieuenctid proffesiynol a gweithwyr cymorth ieuenctid sy’n gweithredu ledled y ddinas. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys canolfannau...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae gan y Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid gyfle cyffrous i Gynorthwyydd Gweinyddol brwdfrydig a phrofiadol ymuno â'r gwasanaeth. Cynigir y swydd fel swydd barhaol a bydd yn rhan o'r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid. **Am Y Swydd** Goruchwylio staff gweinyddol a helpu i redeg y Ganolfan o ddydd i ddydd er mwyn darparu gwasanaeth effeithlon...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnig amrywiaeth o ddarpariaethau ledled y ddinas i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed. Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnwys tîm dawnus a brwdfrydig o weithwyr ieuenctid proffesiynol a gweithwyr cymorth ieuenctid sy’n gweithredu ledled y ddinas. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys canolfannau...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae gan Wasanaethau Plant Caerdydd Bartneriaeth a Gwasanaeth Diogelu Pobl Ifanc rhag Camfanteisio (SAFE) sy'n goruchwylio ei waith sy'n gysylltiedig â Chamfanteisio ar Blant, Plant Coll a Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol y Swyddfa Gartref ar gyfer Masnachu Pobl a Chaethwasiaeth Fodern. Mae Mynd i'r Afael â Chamfanteisio ar Bobl Ifanc...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Partneriaeth amlasiantaethol yw Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Caerdydd sy’n datblygu ymyriadau arloesol i blant a phobl ifanc 10-17 oed sydd wedi troseddu neu sydd mewn perygl o droseddu. Mae gennym gyfle cyffrous i Gydlynydd Gwirfoddolwyr weithio ar draws y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid. Mae'r swydd yn un a ariennir gan grant...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r swydd hon yn cynnwys ychwanegiad marchnad o £3,000 yn ychwanegol at y cyflog a restrir. Ynglŷn â’r Gwasanaeth Mae Tîm Alcohol a Chyffuriau Caerdydd yn rhan o'r Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion. Mae'r Tîm yn cydweithio â nifer o asiantaethau camddefnyddio sylweddau partner yn y Ddinas yn y sector statudol a'r trydydd...

  • Welsh Headings

    2 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnig ystod o ddarpariaethau ar gyfer pobl ifanc 11 i 25 oed ac mae’n cynnwys tîm o weithwyr ieuenctid proffesiynol ymroddgar sy’n gweithredu ledled y ddinas. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys canolfannau ieuenctid, darpariaethau arbenigol, timau mentora ieuenctid a gwaith ieuenctid stryd ac mae pob...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru, gan gynnig cyfle i weithwyr cymdeithasol weithio gyda phoblogaeth hynod amrywiol gydag amrywiaeth o anghenion gofal a chymorth. Fel yr awdurdod lleol mwyaf yng Nghymru rydym yn cefnogi bron i 5000 o unigolion i fyw'n dda, gan gynnig strwythur cymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn iddynt i...


  • Cardiff, United Kingdom British Red Cross Full time

    **Teitl: Cynorthwyydd Gweinyddol Gwasanaeth** **Lleoliad: Cartref gydag o leiaf 2 ymweliad y mis â’r swyddfa (9 Village Way, Parc Busnes Greenmeadow Springs, Tongwynlais, CF15 7NE)** **Cyflog: £6,801.60 y flwyddyn am 12 awr yr wythnos, gyda phosibilrwydd o estyniad** **Math o Gontract: Contract Cyfnod Penodol tan 31 Ionawr 2024.** A allech chi...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae sawl cyfle cyffrous ar gael ar hyn o bryd o fewn Tîm Gwasanaethau Tai Cyngor Bro Morgannwg. Mae'r rhain yn rolau newydd wrth i ni ehangu ein tîm presennol a thyfu ein cynnig gwasanaeth lleol i gefnogi newydd-ddyfodiaid yn y ddinas. Mae'r tîm yn gweithio mewn partneriaeth agos ag amrywiaeth o randdeiliaid lleol i gynllunio, cydlynu...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae nifer o gyfleoedd cyffrous ar gael ar hyn o bryd yn nhîm Polisi a Gwasanaethau Ymfudo Cyngor Caerdydd. Mae'r rhain yn rolau newydd wrth i ni ehangu ein tîm presennol a thyfu ein cynnig gwasanaeth lleol i gefnogi newydd-ddyfodiaid yn y ddinas. Mae'r Tîm Polisi a Gwasanaethau Ymfudo wedi'i leoli yn yr adran Polisi a Phartneriaethau,...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn Strategaeth ac Angen Tai am Arweinydd Tîm Gosod o fewn yr Uned Gosod ac Ailgartrefu **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn arwain ac yn rheoli’r Tîm Dyraniadau sy’n gyfrifol am ddyrannu tai cymdeithasol y Cyngor i ymgeiswyr ar y Rhestr Aros Tai, gan sicrhau bod llety’r cyngor yn cael...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i Weithiwr Cymdeithasol cymwys ymuno â’r Tîm Gofal Maeth fel Gweithiwr Cymdeithasol Asesiadau. Byddai hyn yn cynnwys cwblhau asesiadau Gwarcheidiaeth Arbennig ac Asesiadau Unigolion Cysylltiedig gan gynnwys asesiadau pontio ar gyfer y gofalwyr hynny sy'n dilyn trefniant Gwarcheidiaeth Arbennig. Mae hwn yn...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r swydd hon yn cynnwys taliad atodol ar sail y farchnad o £3000 pro-rata yn ychwanegol at y cyflog a nodir a lwfans Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy o £2800 pro-rata lle bo hynny'n berthnasol. Rydym yn chwilio am Weithiwr Cymdeithasol cofrestredig i ymuno â’n Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol amlddisgyblaethol yn Nhîm...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Oherwydd ail-strwythuro gwasanaeth mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn y Tîm Dylunio, Adeiladu a Chynnal a Chadw (DAChC) newydd ar gyfer Rheolwr Gwasanaeth Mesur Meintiau cymwys i arwain, rheoli a datblygu tîm o syrfëwr meintiol. Mae'r Tîm hwn sydd newydd ei sefydlu yn gyfrifol am ddylunio a darparu ystod eang o brosiectau sy’n...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r Ganolfan Gyswllt arobryn ac uchel ei pharch, yn cynnig ymateb sy’n canolbwyntio ar y cwsmer i ymholiadau ynghylch ystod o wasanaethau’r Cyngor gan drigolion Caerdydd a defnyddwyr gwasanaeth eraill drwy sawl cyfrwng gan gynnwys dros y ffôn, cyswllt dros y we, sgyrsiau ar y we, SgyrsBot, e-bost, negeseuon llais a thestun. Os...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r swydd hon yn cynnwys taliad atodol ar sail y farchnad o £3000 pro-rata yn ychwanegol at y cyflog a nodir a lwfans Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy o £2800 pro-rata lle bo hynny'n berthnasol. Rydym yn chwilio am Weithiwr Cymdeithasol cofrestredig i ymuno â’n Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol amlddisgyblaethol yn Nhîm...