Cynorthwyydd Gweinyddol

3 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae gan y Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid gyfle cyffrous i Gynorthwyydd Gweinyddol brwdfrydig a phrofiadol ymuno â'r gwasanaeth. Cynigir y swydd fel swydd barhaol a bydd yn rhan o'r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid.

**Am Y Swydd**
Goruchwylio staff gweinyddol a helpu i redeg y Ganolfan o ddydd i ddydd er mwyn darparu gwasanaeth effeithlon o safon yn unol ag anghenion cwsmeriaid, Polisïau'r Cyngor Sir, Gweithdrefnau'r Gwasanaeth a Deddfwriaeth Gofal Plant. Cadw cofnodion ariannol cywir a rhoi cymorth i ddeiliaid cyllidebau er mwyn sicrhau y caiff cyllidebau eu rheoli’n effeithiol.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd gennych brofiad o weithio mewn swyddfa, profiad o gynnal cronfa ddata a phrofiad o weithio gyda ffigurau. Byddwch yn gallu blaenoriaethu gwaith, bodloni terfynau amser a gwneud cyfraniad cadarnhaol i'r tîm.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am y swydd, cysylltwch â:
Mae’r swydd hon yn amodol ar Wiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cynorthwyo plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Maent yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi yn ethos cyffredinol y Cyngor a’r holl ysgolion.

Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO03312



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae CDL Caerdydd yn rhan o’r Gwasanaethau 24/7, ac mae'n gweithredu fel Canolfan Derbyn Larymau ac ystafell reoli teledu cylch cyfyng y Cyngor, gyda'r nod o gadw ein trigolion yn ddiogel yn eu hardaloedd lleol. Byddwch yn gweithio gyda’r Tîm Prosiect CDL sy'n cydlynu a hwyluso mentrau newydd yn yr uned. **Am Y Swydd** Bydd eich...


  • Cardiff, United Kingdom Play Wales | Chwarae Cymru Full time

    **JOB DESCRIPTION** JOB TITLE: Administrative Assistant RESPONSIBLE TO: Operations Manager PENSION SCHEME: Option to join local authority scheme. MAIN AREA OF RESPONSIBILITY: To provide quality administrative support, across Play Wales, through effective planning and organisation. **Main tasks** - To liaise with callers (in person and by telephone) and...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **Swydd Wag Fewnol / Allanol** **Cyf**:BCC2023001** **Teitl y Swydd**:Cydlynydd Cwricwlwm Busnes** **Contract: Parhaol, Llawn Amser** **Oriau: 37** **Cyflog: £31,828 - £33,948 y flwyddyn** Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Cydlynydd Cwricwlwm Busnes yn adran Gwasanaethau Masnachol Coleg Caerdydd a'r Fro. Bydd y swydd hon wedi’i lleoli ar Gampws...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion Cyngor Caerdydd yn chwilio am 5 Cynorthwyydd Adnoddau Gwaith Cymdeithasol llawn amser ar gontractau o 12 mis. Mae'r swyddi yn rhan o'r gwasanaeth Pobl Hŷn ac Anableddau Corfforol ac yn helpu i sicrhau bod dinasyddion yn ddiogel ac yn byw'n dda yn eu cymunedau. Mae Gwasanaethau Oedolion Cyngor...