Hysbyseb Swydd Gweithiwr Cymorth Ieuenctid

3 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnig amrywiaeth o ddarpariaethau ledled y ddinas i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed.

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnwys tîm dawnus a brwdfrydig o weithwyr ieuenctid proffesiynol a gweithwyr cymorth ieuenctid sy’n gweithredu ledled y ddinas. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys canolfannau ieuenctid, darpariaethau arbenigol, timau mentora ieuenctid a thimau gwaith ieuenctid ar y stryd gyda phob un ohonynt yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd a phrofiadau creadigol sy’n annog cyfranogiad a datblygiad pobl ifanc mewn cymunedau.

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn hyrwyddo cysylltiad cryf rhwng gwaith ieuenctid penodol a chyffredinol sy’n sicrhau y cynigir cymorth cyson i bobl ifanc pan fo angen hynny arnynt.

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn annog pobl ifanc i gyflawni eu potensial unigol ac yn eu cefnogi ar eu taith i ddod yn ddinasyddion gweithredol cadarnhaol.

**Am Y Swydd**
Bydd deiliad y swydd yn dod yn rhan o dîm o weithwyr ieuenctid yng Nghlwb Ieuenctid Llanrhymni sy’n cynllunio, darparu ac yn gwerthuso cwricwlwm o weithgareddau er mwyn ymgysylltu â phobl ifanc 14-19 oed.

Mae'r rôl hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus sefydlu a chynnal perthynas waith gadarnhaol a chynhyrchiol gyda phobl ifanc a chyfrannu at y broses o gyflwyno cwricwlwm ffurfiol ac anffurfiol ar y cyd.

Oherwydd natur gwaith ieuenctid, a chefnogi rhaglen a arweinir gan berson ifanc, bydd angen cefnogi digwyddiadau / tripiau preswyl / ymweliadau y tu allan i’r oriau penodedig. Caiff y rhain eu trafod yn ôl yr angen.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am gefnogi pobl ifanc i ddatblygu yn eu cyfanrwydd, gan weithio gyda nhw i hwyluso eu datblygiad personol, cymdeithasol ac addysgol, ac i’w galluogi i ddatblygu eu llais, eu dylanwad a’u lle yn y gymdeithas ac i gyrraedd eu llawn botensial.

Rydym yn chwilio am weithwyr ieuenctid brwdfrydig a deinamig a fydd yn annog creadigrwydd ac arloesedd i ysbrydoli ac ysgogi pobl ifanc yn ddyddiol.

Rydym yn chwilio am weithwyr ieuenctid sydd ag agweddau cadarnhaol a gwydnwch i allu effeithio’n gadarnhaol ar fywydau pobl ifanc.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar gymhwyster proffesiynol perthnasol mewn gwaith ieuenctid a bydd ganddo hanes o weithio gyda phobl ifanc i sicrhau canlyniadau cadarnhaol.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae hon yn swydd ran amser a bydd deiliad y swydd yn gweithio 3 awr yr wythnos yn ystod y tymor yn unig. Fodd bynnag, mae’r cyflog a ddangosir ar gyfer 37 awr yr wythnos, felly caiff ei roi ar sail pro-rata yn unol â hyn.

Mae’r swyddi hyn yn amodol ar Wiriadau Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a’r gallu i gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cynorthwyo plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Maent yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi yn ethos cyffredinol y Cyngor a’r holl ysgolion.

Swydd dros dro yw hon tan 31 Mawrth 2023.

Rhaid i ymgeiswyr mewnol sy'n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar sail secondiad gael cymeradwyaeth cyn gwneud cais gan ddefnyddio Ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y canlynol sy’n gallu cymeradwyo ceisiadau: y Cyfarwyddwr / Cyfarwyddwr Cynorthwyol / Prif Swyddog neu’r Uwch Swyddog Enwebedig perthnasol, nad yw ar raddfa is na RhG2, neu, yn achos staff ysgolion, y Pennaeth/Corff Llywodraethu.

Fel cyflogwr cyfle cyfartal, rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Felly, er nad yw’n ofyniad ar gyfer gwneud cais, rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan unigolion nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol, gan gynnwys y rhai:

- dan 25 oed
- nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant;
- o’n cymunedau lleol gan gynnwys yn benodol unigolion anabl, gofalwyr a phobl o gymuned pobl dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a chymuned LHDT+ Caerdydd
- sy’n gallu cyfathrebu’n rhugl drwy gyfrwng y Gymraeg.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs

Job Reference: EDU00529



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnig ystod o ddarpariaethau ar gyfer pobl ifanc 11 i 25 oed ac mae’n cynnwys tîm o weithwyr ieuenctid proffesiynol ymroddgar sy’n gweithredu ledled y ddinas. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys canolfannau ieuenctid, darpariaethau arbenigol, timau mentora ieuenctid a gwaith ieuenctid stryd ac mae pob...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnig amrywiaeth o ddarpariaethau ledled y ddinas i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed. Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnwys tîm dawnus a brwdfrydig o weithwyr ieuenctid proffesiynol a gweithwyr cymorth ieuenctid sy’n gweithredu ledled y ddinas. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys canolfannau...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnig amrywiaeth o ddarpariaethau ledled y ddinas i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed. Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnwys tîm ymroddedig o weithwyr ieuenctid proffesiynol sy’n gweithredu ledled y ddinas. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys canolfannau ieuenctid, darpariaethau arbenigol, timau...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid (GCI) Caerdydd yn bartneriaeth amlasiantaethol sydd ar flaen y gad o ran datblygu ymyriadau arloesol i blant a phobl ifanc 10-17 oed sydd wedi troseddu neu mewn perygl o droseddu. **Am Y Swydd** Rydym yn chwilio am rywun i lenwi’r swydd ganlynol yn y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid (GCI) - Swyddog...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Dydd Caerdydd yn Wasanaeth Dydd arbenigol sy’n cynnig cymorth i oedolion ag anableddau dysgu sydd ag anghenion cymorth cymhleth. Caiff pobl eu cynorthwyo gan y gwasanaeth i fanteisio ar amrywiaeth eang o weithgareddau a chyfleoedd gwerthfawr yn y gymuned leol â’r nod o gyflawni’r canlyniadau a nodwyd. **Am Y...

  • Gweithiwr Cymorth

    2 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle wedi codi i ymuno â'r Tîm Byw â Chymorth Caerdydd. Rydym yn chwilio am weithwyr cymorth i roi cymorth i unigolion ag anabledd dysgu. Rydym yn ymrwymedig i gynnig gwasanaeth o safon uchel sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae gweithio yn y Gwasanaethau Oedolion yn cynnig gwaith prysur a diddorol y byddech yn ei ddisgwyl mewn...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru, gan gynnig cyfle i weithwyr cymdeithasol weithio gyda phoblogaeth hynod amrywiol gydag amrywiaeth o anghenion gofal a chymorth. Fel yr awdurdod lleol mwyaf yng Nghymru rydym yn cefnogi bron i 5000 o unigolion i fyw'n dda, gan gynnig strwythur cymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn iddynt i...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Dydd Caerdydd yn Wasanaeth Dydd arbenigol sy’n cynnig cymorth i oedolion ag anableddau dysgu sydd ag anghenion cymorth cymhleth. Caiff pobl eu cynorthwyo gan y gwasanaeth i fanteisio ar amrywiaeth eang o weithgareddau a chyfleoedd gwerthfawr yn y gymuned leol â’r nod o gyflawni’r canlyniadau a nodwyd. **Am Y...

  • Youth Mentor

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnig ystod o ddarpariaethau ar gyfer pobl ifanc 11 i 25 oed ac mae’n cynnwys tîm o weithwyr ieuenctid proffesiynol ymroddgar sy’n gweithredu ledled y ddinas. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys canolfannau ieuenctid, darpariaethau arbenigol, timau mentora ieuenctid a gwaith ieuenctid stryd ac mae pob...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru, gan gynnig cyfle i weithwyr cymdeithasol weithio gyda phoblogaeth hynod amrywiol gydag amrywiaeth o anghenion gofal a chymorth. Fel yr awdurdod lleol mwyaf yng Nghymru rydym yn cefnogi bron i 5000 o unigolion i fyw'n dda, gan gynnig strwythur cymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn iddynt i...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid (GCI) Caerdydd yn parhau ei daith wella, lle rydym yn ymdrechu i sicrhau canlyniadau rhagorol bob amser i bob plentyn a pherson ifanc yn ein gwasanaeth. I’n helpu i barhau â'n cynnydd cadarnhaol hyd yn hyn, rydym yn chwilio am ymarferydd GCI brwdfrydig, hunangymhellol a phrofiadol. Cynigir y swydd...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru, gan gynnig cyfle i weithwyr cymdeithasol weithio gyda phoblogaeth hynod amrywiol gydag amrywiaeth o anghenion gofal a chymorth. Fel yr awdurdod lleol mwyaf yng Nghymru rydym yn cefnogi bron i 5000 o unigolion i fyw'n dda, gan gynnig strwythur cymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn iddynt i...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r swydd hon yn cynnwys atodiad marchnad gwerth £3,000 yn ychwanegol at y cyflog rhestredig. Mae'r gwasanaeth Niwroamrywiaeth yn wasanaeth newydd sy'n datblygu ac yn rhan o Wasanaethau Cymdeithasol Oedolion. Byddwn yn gweithio gydag oedolion sydd â diagnosis o niwroamrywiaeth gan gynnwys Awtistiaeth, Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r gwasanaeth Niwroamrywiaeth yn wasanaeth newydd sy'n datblygu ac yn rhan o Wasanaethau Cymdeithasol Oedolion. Byddwn yn gweithio gydag oedolion sydd â diagnosis o niwroamrywiaeth gan gynnwys Awtistiaeth, Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd a Syndrom Tourette’s sydd ag anghenion gofal a chymorth. Mae'r tîm yn...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru, gan gynnig cyfle i weithwyr cymdeithasol weithio gyda phoblogaeth hynod amrywiol gydag amrywiaeth o anghenion gofal a chymorth. Fel yr awdurdod lleol mwyaf yng Nghymru rydym yn cefnogi bron i 5000 o unigolion i fyw'n dda, gan gynnig strwythur cymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn iddynt i...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn brifddinas fywiog, amrywiol a chyffrous i bawb. Nid nepell o lan y môr, y cymoedd a’r mynyddoedd, siopa penigamp a bywyd nos neu leoliadau pentrefol llonydd. Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â Chaerdydd, sy’n Awdurdod ar daith weithredu drwy ddefnyddio’r dull Arwyddion Diogelwch i ganolbwyntio ar gynorthwyo ein...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ydych chi'n Fyfyriwr Gwaith Cymdeithasol yn eich blwyddyn olaf yn y brifysgol? Mae gwasanaethau Plant Cyngor Caerdydd yn cynnig cyfle unigryw i sicrhau swydd Gweithiwr Cymdeithasol parhaol yn barod ar gyfer pan fyddwch yn cymhwyso y flwyddyn nesaf. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw cyflwyno cais; byddwn yn gwarantu cyfweliad i chi yn...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Fel Cyfarwyddiaeth, rydym yn cydnabod bod gweithwyr cymdeithasol yn weithwyr proffesiynol medrus sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a materol i fywydau pobl bob dydd. Rydym am ddatblygu ein gwasanaethau a chryfhau ein dull o ymdrin ag arferion gwaith cymdeithasol yng Nghaerdydd. Mae Tîm Gwaith Cymdeithasol Canol y Ddinas yn rhan o...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Bydd y rôl hon yn cael Taliad Atodol ar Sail y Farchnad o £3,000 (cyfwerth ag amser llawn) a adolygir yn flynyddol.** Mae'r gwasanaeth Niwroamrywiaeth yn wasanaeth newydd sy'n datblygu ac yn rhan o’r Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion. Byddwn yn gweithio gydag oedolion sydd wedi cael diagnosis o niwroamrywiaeth gan gynnwys...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru ac yn ddinas sy'n tyfu gyda phoblogaeth amrywiol. Mae plant Caerdydd angen gweithwyr cymdeithasol sy'n gallu ymateb i'r amrywiaeth o anghenion a phrofiadau sydd yn ei dro yn rhoi cyfle i weithwyr cymdeithasol ddatblygu arbenigedd ac i arwain ymarfer yng Nghymru. Mae Caerdydd yn cynnig y...