Gweithiwr Cymorth I Deuluoedd

2 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae Caerdydd yn brifddinas fywiog, amrywiol a chyffrous i bawb. Nid nepell o lan y môr, y cymoedd a’r mynyddoedd, siopa penigamp a bywyd nos neu leoliadau pentrefol llonydd.

Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â Chaerdydd, sy’n Awdurdod ar daith weithredu drwy ddefnyddio’r dull Arwyddion Diogelwch i ganolbwyntio ar gynorthwyo ein plant. Rydym yn credu y dylai plant, pobl ifanc a’u teuluoedd gael y math cywir o gymorth ar yr adeg y mae arnynt ei angen.

**Am Y Swydd**
Dewch i ymuno â ni i fod yn rhan o dîm newydd ei sefydlu sy’n canolbwyntio ar gymorth cynnar ac atal. Mae’r Tîm Cefnogaeth i Deuluoedd yn hanfodol o ran helpu teuluoedd i gael y cymorth cywir ar yr adeg gywir. Dyna pam rydym yn datblygu ein gwasanaethau atal ac ymyrryd yn gynnar i sicrhau y gall teuluoedd ddefnyddio ystod o wasanaethau a chymorth ar wahanol lefelau i osgoi’r angen am ymyrraeth gwaith cymdeithasol statudol.

Gan weithio yn y Gwasanaethau Cymorth i Deuluoedd, byddwch yn cynnig cymorth trwy’r isadran, yn gweithio ar y cyd a chydweithwyr a’r holl bartneriaid ac yn rhoi cymorth ymarferol sy’n galluogi dull person canolog o gynllunio a pharatoi at bontio.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd gennych brofiad o weithio gyda phlant a phobl ifanc, profiad o weithio gyda gweithwyr proffesiynol aml-asiantaeth, sgiliau asesu a chynllunio ac agwedd hyblyg wrth i’r gwasanaeth ddatblygu. Byddai’n fantais deall deddfwriaeth berthnasol am blant, gan gynnwys trosolwg o’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant ac ychydig o wybodaeth am Arwyddion Diogelwch.

Byddwch yn gallu asesu anghenion unigolion ar sail risg, trwy ddefnyddio systemau i gofnodi gwybodaeth a chynnig cynlluniau gofal. Byddwch yn gyfrifol am adolygu ansawdd gofal a sefydlu cynlluniau sy’n canolbwyntio ar y person ac sy’n galluogi. Dylech fod yn barod i ddilyn hyfforddiant priodol i’ch cefnogi yn eich rôl a gallu gweithio mewn tîm.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
I gael sgwrs anffurfiol ynglŷn â’r swydd hon, cysylltwch â Luke Harrison drwy ffonio: 029 20873830

Mae’r swyddi yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn brif flaenoriaethau i’r Cyngor. Ein nod yw cynorthwyo plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Maent yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi yn ethos cyffredinol y Cyngor a’r holl ysgolion.

Mae’r swyddi hyn yn addas i’w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg a Saesneg. Ni chaiff ceisiadau a dderbynnir yn Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â_ _._

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO03739



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnig ystod o ddarpariaethau ar gyfer pobl ifanc 11 i 25 oed ac mae’n cynnwys tîm o weithwyr ieuenctid proffesiynol ymroddgar sy’n gweithredu ledled y ddinas. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys canolfannau ieuenctid, darpariaethau arbenigol, timau mentora ieuenctid a thimau gwaith ieuenctid ar y stryd...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae sawl cyfle cyffrous ar gael ar hyn o bryd o fewn Tîm Gwasanaethau Tai Cyngor Bro Morgannwg. Mae'r rhain yn rolau newydd wrth i ni ehangu ein tîm presennol a thyfu ein cynnig gwasanaeth lleol i gefnogi newydd-ddyfodiaid yn y ddinas. Mae'r tîm yn gweithio mewn partneriaeth agos ag amrywiaeth o randdeiliaid lleol i gynllunio, cydlynu...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae nifer o gyfleoedd cyffrous ar gael ar hyn o bryd yn nhîm Polisi a Gwasanaethau Ymfudo Cyngor Caerdydd. Mae'r rhain yn rolau newydd wrth i ni ehangu ein tîm presennol a thyfu ein cynnig gwasanaeth lleol i gefnogi newydd-ddyfodiaid yn y ddinas. Mae'r Tîm Polisi a Gwasanaethau Ymfudo wedi'i leoli yn yr adran Polisi a Phartneriaethau,...


  • Cardiff, United Kingdom British Red Cross Full time

    **Gweithiwr Cymorth Gwasanaeth Achlysurol - Adran Achosion Brys** **Lleoliad: Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd** **Math o gontract: Achlysurol** **Oriau'r wythnos: Mae'r swydd ar gyfer gwyliau blynyddol a salwch. Nid oes unrhyw oriau dan gontract nac isafswm oriau. Mae hwn yn sero awr.** **Cyflog: £10.90 yr awr** **Gofyniad Gyrru: Trwydded Yrru Lawn y DU â...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn recriwtio ar gyfer rôl newydd gyffrous fel rhan o'n Hyb Ymyriadau. Ynglŷn â’r gwasanaeth **Y manteision a gynigir** Mae Caerdydd yn aml ar frig rhestrau o ddinasoedd gorau'r DU i fyw ynddynt, felly ymunwch â ni i weld beth y gallwn ei gynnig. - Gwyliau blynyddol hael yn dechrau ar 27 diwrnod y flwyddyn i...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru, gan gynnig cyfle i weithwyr cymdeithasol weithio gyda phoblogaeth hynod amrywiol gydag amrywiaeth o anghenion gofal a chymorth. Fel yr awdurdod lleol mwyaf yng Nghymru rydym yn cefnogi bron i 5000 o unigolion i fyw'n dda, gan gynnig strwythur cymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn iddynt i...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnig amrywiaeth o ddarpariaethau ledled y ddinas i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed. Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnwys tîm dawnus a brwdfrydig o weithwyr ieuenctid proffesiynol a gweithwyr cymorth ieuenctid sy’n gweithredu ledled y ddinas. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys canolfannau...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn brifddinas fywiog, amrywiol a chyffrous i bawb. Ddim yn bell o lan y môr, y cymoedd a’r mynyddoedd, siopa penigamp a bywyd nos neu leoliadau pentrefol. Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â Chaerdydd, sy’n Awdurdod ar y daith weithredu ac sy’n defnyddio’r dull Arwyddion Diogelwch i ganolbwyntio ar gynorthwyo ein...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru ac yn ddinas sy'n tyfu gyda phoblogaeth amrywiol. Mae plant Caerdydd angen gweithwyr cymdeithasol sy'n gallu ymateb i'r amrywiaeth o anghenion a phrofiadau sydd yn ei dro yn rhoi cyfle i weithwyr cymdeithasol ddatblygu arbenigedd ac i arwain ymarfer yng Nghymru. Mae Caerdydd yn...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous ar gael yn ein lleoliad Gofal Plant Dechrau'n Deg, i weithio dan ddarpariaethau gofal plant Cyngor Caerdydd. Rydym yn chwilio am tri Gynorthwyydd Chwarae i ymuno â'n tîm yn Twinkle Stars. Mae lleoliad gofal plant Dechrau'n Deg, Twinkle Stars, yn gwasanaethu cymunedau’r Sblot, Tremorfa, Adamsdown a'r Rhath. Rydym yn...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wahanol wasanaethau i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y Ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i ddarparu ein gwasanaethau hanfodol bob dydd a, ph'un a yw ein gweithwyr wedi’u cyflogi mewn rôl sy'n delio â chwsmeriaid, rôl dechnegol, masnachol...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â’r Gwasanaeth** Dyma mae defnyddwyr gwasanaeth yn ei ddweud _'Cafodd fy mab ei eni yn ystod y pandemig, felly ni chafodd lawer o gyfle i ryngweithio â phlant eraill. Mae bron yn 2 oed ac mae ei araith wedi gwella cymaint ers i ni fod yn mynychu Aros a Chwarae, mae'n dweud bod brawddegau llawnach yn cyfathrebu ei anghenion yn dda iawn ac mae...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r swydd hon yn cynnwys ychwanegiad marchnad o £3,000 yn ychwanegol at y cyflog a restrir. Ynglŷn â’r Gwasanaeth Mae Tîm Alcohol a Chyffuriau Caerdydd yn rhan o'r Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion. Mae'r Tîm yn cydweithio â nifer o asiantaethau camddefnyddio sylweddau partner yn y Ddinas yn y sector statudol a'r trydydd...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnig amrywiaeth o ddarpariaethau ledled y ddinas i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed. Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnwys tîm dawnus a brwdfrydig o weithwyr ieuenctid proffesiynol a gweithwyr cymorth ieuenctid sy’n gweithredu ledled y ddinas. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys canolfannau...

  • Cymorth Busnes

    6 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r Gwasanaethau Plant yn chwilio am unigolyn deinamig, rhagweithiol sydd â phrofiad gweinyddol, a hoffai gynorthwyo tîm yr hyb ymyriadau gan gynnwys gwasanaethau Ar Ffiniau Gofal a Chymorth i Deuluoedd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm prysur yn Stryd Neville, Caerdydd. **Am Y Swydd** Fel rhan o'r rôl Cymorth...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Rydym yn chwilio am weithwyr cymdeithasol cofrestredig i ymuno â’n timau Iechyd Meddwl Cymunedol amlddisgyblaethol yng Nghaerdydd. Mae dwy swydd ar gael ar hyn o bryd - un rhan-amser wedi ei lleoli yn Nhîm Iechyd Meddwl Cymunedol Links yn Adamsdown, Caerdydd ac un llawn amser yn TIMC Pentwyn ym Mhentwyn, Caerdydd. Mae gweithio yn y...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnig ystod o ddarpariaethau ar gyfer pobl ifanc 11 i 25 oed ac mae’n cynnwys tîm o weithwyr ieuenctid proffesiynol ymroddgar sy’n gweithredu ledled y ddinas. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys canolfannau ieuenctid, darpariaethau arbenigol, timau mentora ieuenctid a gwaith ieuenctid stryd ac mae pob...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer unigolion ymroddgar i weithio yn y Gwasanaeth Dewisiadau Tai i helpu cleientiaid sydd mewn perygl o ddigartrefedd. Y prif amcan fydd atal digartrefedd a chefnogi unigolion a theuluoedd i sicrhau llety. **Am Y Swydd** - Gweithio gyda landlordiaid y sector preifat ac asiantau gosod i adeiladu...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae ein timau Anableddau Dysgu yn rhan o gyfarwyddiaeth Oedolion, Tai a Chymunedau o fewn Cyngor Caerdydd. Fel cyfarwyddiaeth, rydym yn cydnabod bod gweithwyr cymdeithasol yn weithwyr proffesiynol medrus sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a materol i fywydau pobl bob dydd. Mae gennym ddau dîm anableddau dysgu sy'n cwmpasu dwyrain a...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r Tîm ar rota dyletswydd am un o bob tair wythnos, sy’n golygu eich bod yn cael y cyfle i gynllunio a chofnodi eich gwaith mewn ffordd strwythuredig a threfnus. **Am Y Swydd** Mae’r swyddi yn rhai parhaol ac wedi’u lleoli yn y Tîm Ymateb Cychwynnol, yn Derbyn ac Asesu. Gallai Gweithwyr Cymdeithasol fod yn rhan o achosion...