Gweithiwr Cymorth Ffoaduriaid

3 weeks ago

Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae nifer o gyfleoedd cyffrous ar gael ar hyn o bryd yn nhîm Polisi a Gwasanaethau Ymfudo Cyngor Caerdydd. Mae'r rhain yn rolau newydd wrth i ni ehangu ein tîm presennol a thyfu ein cynnig gwasanaeth lleol i gefnogi newydd-ddyfodiaid yn y ddinas.

Mae'r Tîm Polisi a Gwasanaethau Ymfudo wedi'i leoli yn yr adran Polisi a Phartneriaethau, yn yr uned Diogelwch Cymunedol a Chydlyniant.

Mae'r tîm yn gweithio mewn partneriaeth agos ag amrywiaeth o randdeiliaid lleol i gynllunio, cydlynu a gweithredu gwaith lleol ar adsefydlu ffoaduriaid a'n gwaith ymfudo ehangach, megis cefnogi Gwladolion yr UE, ceiswyr lloches a'r rhai sy'n cyrraedd trwy lwybrau fisa penodol.

**Am Y Swydd** PWYSIG: Darllenwch yr adran gwybodaeth ychwanegol i gael arweiniad ar sut i wneud cais am y rolau hyn er mwyn sicrhau bod eich datganiad ategol yn cael ei gyflwyno yn y fformat cywir**

Rydym yn recriwtio ar gyfer sawl swydd newydd i gefnogi ein hymateb uniongyrchol i argyfwng Wcráin.

Byddwch yn un pwynt cyswllt ar gyfer gwladolion o Wcráin sydd newydd gyrraedd a'u noddwyr yng Nghaerdydd, gan gefnogi eu taith groeso a'u helpu i gael mynediad at y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt.

Yn y rôl Gweithiwr Cymorth Ffoaduriaid, byddwch yn darparu gwasanaeth croesawu cefnogol a chydweithredol. Bydd hyn yn cynnwys cynnig gwasanaeth cymorth a arweinir gan anghenion i gleientiaid sy'n ffoaduriaid sydd ag anghenion cymhleth ac amrywiol, gan gynnwys y rhai sydd wedi cyrraedd o ardaloedd o wrthdaro yn ddiweddar ac sydd wedi cael eu dadleoli.

Byddwch yn rheoli llwyth achosion o deuluoedd sy’n ffoaduriaid, gan sicrhau bod asesiadau cyfannol yn cael eu gwneud i ddeall ac ymateb i'w hanghenion a chreu cynlluniau gweithredu tymor byr, canolig a hirdymor priodol ar gyfer pob teulu, gan gynnwys eu noddwr, gwasanaethau lleol a chymdeithas sifil fel y bo'n briodol.

Byddwch yn ffynhonnell cymorth a chyngor parhaus i'r unigolyn neu'r teulu drwy bob cam o'u llwybr croeso, cymorth ac integreiddio ac yn gweithredu fel eu heiriolwr, gan flaenoriaethu eu diogelwch a'u lles bob amser.

Bydd deiliad y swydd yn dangos sgiliau datrys problemau a rheoli achosion rhagorol; bydd yn hyderus wrth weithio o fewn tîm amlddisgyblaethol; ac yn arddangos cymhwysedd wrth weithio mewn amgylchedd cyflym a heriol.

Byddwch yn derbyn hyfforddiant llawn i lwyddo yn y rôl a byddwch yn ymuno â thîm cefnogol a fydd yn eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau'n gyflym a gwneud cyfraniad sylweddol i waith y tîm drwy ddarparu gwasanaeth cymorth effeithiol.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd gennych agwedd gadarnhaol a byddwch yn frwdfrydig dros sicrhau'r canlyniadau gorau i bobl sy'n agored i niwed.

Byddwch yn llawn cymhelliant ac yn gallu gweithio'n annibynnol mewn gwahanol safleoedd heb fawr o oruchwyliaeth.

Mae hwn yn amgylchedd deinamig a chyflym felly mae'n rhaid i chi fod yn drefnus a gallu blaenoriaethu tasgau a chynnal eich proffesiynoldeb.

Dylech fod yn wrandäwr ac yn gyfathrebwr da, yn gyfarwydd â rôl llywodraeth leol o ran darparu gwasanaeth adsefydlu a chymorth ffoaduriaid i bobl sydd wedi'u dadleoli, yn cydnabod ffiniau priodol a'ch bod yn gallu cofnodi eich ymgysylltiad â chleientiaid a noddwyr yn gywir.

Bydd gennych hefyd sgiliau rhifedd da, byddwch yn rhoi sylw i fanylion, ac yn gallu defnyddio rhaglenni Microsoft fel Excel, Sharepoint a Teams.

Mae gan ein tîm ymrwymiad cryf i ddatblygiad personol, a byddwch yn cael eich annog i gymryd rhan mewn hyfforddiant perthnasol, meithrin eich sgiliau a gwella eich arbenigedd i lwyddo yn y rôl hon a chyflawni eich dyheadau gyrfaol.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth o gefndiroedd proffesiynol gan gynnwys y rhai sydd am drosglwyddo o'r sectorau preifat a gwirfoddol i wasanaeth cyhoeddus.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
- Yn eich datganiad ategol i wneud cais am y rôl hon, atebwch y cwestiynau canlynol, hyd at uchafswm o 500 o eiriau fesul cwestiwn. Ar gyfer cwestiynau 2-4 rhowch eich enghraifft gan ddefnyddio'r fformat Sefyllfa, Tasg, Gweithredu, Canlyniad
- **Disgrifiwch eich profiad blaenorol o gefnogi pobl ag anghenion cymhleth, ac unrhyw brofiad sydd gennych yn gweithio gyda ffoaduriaid, ceiswyr lloches neu ymfudwyr sy’n agored i niwed.**
- **Rhowch enghraifft o adeg pan wnaethoch gwblhau tasg dan bwysau.**

***Rhowch enghraifft o adeg pan wnaethoch ddefnyddio'ch sgiliau cyfathrebu i ddatrys problem.**

**Disgrifiwch adeg pan wnaethoch chi weithio'n effeithiol mewn tîm i gyflawni nod a rennir**Oherwydd ein trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio drwy'r post. Ni allwn ychwaith dderbyn ffurflenni cais trwy'r post.

Fel cyflogwr cyfle cyfartal, rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Felly, er nad yw’n ofyniad ar gyfer gwneud cais, rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan unigolion nad oes ganddynt gynrychiolaeth ddigonol, sef y rhai:

- sydd dan 25 oed;
- nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant;
- o’n cymunedau lleol, gan g

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnig ystod o ddarpariaethau ar gyfer pobl ifanc 11 i 25 oed ac mae’n cynnwys tîm o weithwyr ieuenctid proffesiynol ymroddgar sy’n gweithredu ledled y ddinas. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys canolfannau ieuenctid, darpariaethau arbenigol, timau mentora ieuenctid a gwaith ieuenctid stryd ac mae pob...

  • Gweithiwr Cymorth

    1 month ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru, gan gynnig cyfle i staff weithio gyda phoblogaeth hynod amrywiol gydag amrywiaeth o anghenion gofal a chymorth. Fel yr awdurdod lleol mwyaf yng Nghymru rydym yn cefnogi bron i 5000 o unigolion i fyw'n dda, gan gynnig strwythur cymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn iddynt i sicrhau eu bod...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru, gan gynnig cyfle i weithwyr cymdeithasol weithio gyda phoblogaeth hynod amrywiol gydag amrywiaeth o anghenion gofal a chymorth. Fel yr awdurdod lleol mwyaf yng Nghymru rydym yn cefnogi bron i 5000 o unigolion i fyw'n dda, gan gynnig strwythur cymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn iddynt i...

  • Gweithiwr Cymorth

    2 days ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle wedi codi i ymuno â'r Tîm Byw â Chymorth Caerdydd. Rydym yn chwilio am weithwyr cymorth i roi cymorth i unigolion ag anabledd dysgu. Rydym yn ymrwymedig i gynnig gwasanaeth o safon uchel sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae gweithio yn y Gwasanaethau Oedolion yn cynnig gwaith prysur a diddorol y byddech yn ei ddisgwyl mewn...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru, gan gynnig cyfle i weithwyr cymdeithasol weithio gyda phoblogaeth hynod amrywiol gydag amrywiaeth o anghenion gofal a chymorth. Fel yr awdurdod lleol mwyaf yng Nghymru rydym yn cefnogi bron i 5000 o unigolion i fyw'n dda, gan gynnig strwythur cymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn iddynt i...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **About The Service** Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnig ystod o ddarpariaethau ar gyfer pobl ifanc 11 i 25 oed ac mae’n cynnwys tîm o weithwyr ieuenctid proffesiynol ymroddgar sy’n gweithredu ledled y ddinas. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys canolfannau ieuenctid, darpariaethau arbenigol, timau mentora ieuenctid a gwaith ieuenctid stryd ac mae...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru, gan gynnig cyfle i weithwyr cymdeithasol weithio gyda phoblogaeth hynod amrywiol gydag amrywiaeth o anghenion gofal a chymorth. Fel yr awdurdod lleol mwyaf yng Nghymru rydym yn cefnogi bron i 5000 o unigolion i fyw'n dda, gan gynnig strwythur cymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn iddynt i...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Dydd Caerdydd yn Wasanaeth Dydd arbenigol sy’n cynnig cymorth i oedolion ag anableddau dysgu sydd ag anghenion cymorth cymhleth. Caiff pobl eu cynorthwyo gan y gwasanaeth i fanteisio ar amrywiaeth eang o weithgareddau a chyfleoedd gwerthfawr yn y gymuned leol â’r nod o gyflawni’r canlyniadau a nodwyd. **Am Y...

    **Am Y Gwasanaeth** Ydych chi'n Fyfyriwr Gwaith Cymdeithasol yn eich blwyddyn olaf yn y brifysgol? Mae gwasanaethau Plant Cyngor Caerdydd yn cynnig cyfle unigryw i sicrhau swydd Gweithiwr Cymdeithasol parhaol yn barod ar gyfer pan fyddwch yn cymhwyso y flwyddyn nesaf. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw cyflwyno cais; byddwn yn gwarantu cyfweliad i chi yn...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r gwasanaeth Niwroamrywiaeth yn wasanaeth newydd sy'n datblygu ac yn rhan o Wasanaethau Cymdeithasol Oedolion. Byddwn yn gweithio gydag oedolion sydd â diagnosis o niwroamrywiaeth gan gynnwys Awtistiaeth, Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd a Syndrom Tourette’s sydd ag anghenion gofal a chymorth. Mae'r tîm yn...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r swydd hon yn cynnwys atodiad marchnad gwerth £3,000 yn ychwanegol at y cyflog rhestredig. Mae'r gwasanaeth Niwroamrywiaeth yn wasanaeth newydd sy'n datblygu ac yn rhan o Wasanaethau Cymdeithasol Oedolion. Byddwn yn gweithio gydag oedolion sydd â diagnosis o niwroamrywiaeth gan gynnwys Awtistiaeth, Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Bydd y rôl hon yn cael Taliad Atodol ar Sail y Farchnad o £3,000 (cyfwerth ag amser llawn) a adolygir yn flynyddol.** Mae'r gwasanaeth Niwroamrywiaeth yn wasanaeth newydd sy'n datblygu ac yn rhan o’r Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion. Byddwn yn gweithio gydag oedolion sydd wedi cael diagnosis o niwroamrywiaeth gan gynnwys...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru ac yn ddinas sy'n tyfu gyda phoblogaeth amrywiol. Mae plant Caerdydd angen gweithwyr cymdeithasol sy'n gallu ymateb i'r amrywiaeth o anghenion a phrofiadau sydd yn ei dro yn rhoi cyfle i weithwyr cymdeithasol ddatblygu arbenigedd ac i arwain ymarfer yng Nghymru. Mae Caerdydd yn cynnig y...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnig ystod o ddarpariaethau ar gyfer pobl ifanc 11 i 25 oed ac mae’n cynnwys tîm o weithwyr ieuenctid proffesiynol ymroddgar sy’n gweithredu ledled y ddinas. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys canolfannau ieuenctid, darpariaethau arbenigol, timau mentora ieuenctid a gwaith ieuenctid stryd ac mae pob...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Rydym wrth ein bodd yn cyflwyno cyfle newydd cyffrous o fewn y gwasanaethau plant yng Nghaerdydd. Rydym yn lansio tîm y tu allan i oriau sy'n chwilio am weithwyr ymyrraeth pwrpasol i ddarparu cefnogaeth hanfodol i blant a theuluoedd yn ystod cyfnodau o angen. Rydym yn deall y gall heriau godi ar unrhyw adeg, ac mae angen eich help arnom...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnig amrywiaeth o ddarpariaethau ledled y ddinas i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed. Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnwys tîm dawnus a brwdfrydig o weithwyr ieuenctid proffesiynol a gweithwyr cymorth ieuenctid sy’n gweithredu ledled y ddinas. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys canolfannau...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae ein timau Anableddau Dysgu yn rhan o gyfarwyddiaeth Oedolion, Tai a Chymunedau o fewn Cyngor Caerdydd. Fel cyfarwyddiaeth, rydym yn cydnabod bod gweithwyr cymdeithasol yn weithwyr proffesiynol medrus sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a materol i fywydau pobl bob dydd. Mae gennym ddau dîm anableddau dysgu sy'n cwmpasu dwyrain a...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r swydd hon yn cynnwys ychwanegiad marchnad o £3,000 yn ychwanegol at y cyflog a restrir. Telir lwfans AMHP pellach o £2800 yn ychwanegol at y cyflog ac atodiad y farchnad, os yn berthnasol. Rydym yn chwilio am weithwyr cymdeithasol cofrestredig i ymuno â’n timau Iechyd Meddwl Cymunedol amlddisgyblaethol yng Nghaerdydd. Mae dwy...