Gweithiwr Cymdeithasol

2 months ago

Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru, gan gynnig cyfle i weithwyr cymdeithasol weithio gyda phoblogaeth hynod amrywiol gydag amrywiaeth o anghenion gofal a chymorth. Fel yr awdurdod lleol mwyaf yng Nghymru rydym yn cefnogi bron i 5000 o unigolion i fyw'n dda, gan gynnig strwythur cymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn iddynt i sicrhau eu bod yn gallu diwallu eu hanghenion a'u canlyniadau eu hunain.

Mae ein **Gwasanaethau Cymorth Arbenigol ac Iechyd Meddwl** yn cefnogi amrywiaeth o unigolion sy’n profi anawsterau iechyd meddwl, problemau gyda chyffuriau ac alcohol, a digartrefedd. Mae'r timau'n gweithio gyda phartneriaid gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro (BIPCaF) a sefydliadau yn y trydydd sector i ddarparu gwasanaethau i unigolion a theuluoedd i'w helpu gyda'r heriau y maen nhw’n eu profi a rhoi cymorth parhaus pan fo angen hynny.

Mae'r timau o fewn ein gwasanaeth yn cynnwys:

- Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol (TIMC)
- Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Bobl Hŷn (GIMBH)
- Tîm Dyletswydd Argyfwng
- Tîm Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid
- Tîm Fforensig
- Y Tîm Niwroseiciatreg
- Tîm Alcohol a Chyffuriau Caerdydd/ Tîm Gwaith Cymdeithasol Canol y Ddinas, Gwasanaeth Pontio/ Tîm Niwroamrywiol
- Tîm Dydd Tŷ Canna

**Am Y Swydd**
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â Thîm Gwaith Cymdeithasol Gwasanaethau Oedolion Caerdydd.

Mae prifddinas fywiog Cymru yn cynnig cyfle i chi weithio o fewn y gymuned fwyaf ei phoblogaeth a’i hamrywiaeth yng Nghymru. Mae ein timau Gwasanaethau Oedolion yn cefnogi dros 5000 o unigolion ac yn cynnig ystod eang o gyfleoedd proffesiynol i weithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso a phrofiadol.

Byddwch yn ymuno â thîm sy'n arbenigo mewn cefnogi pobl ifanc sy'n byw mewn llety digartrefedd yn y ddinas. Byddwch yn rhan o’r Tîm Cymorth Arbenigol sydd wedi ymrwymo i waith cymdeithasol ataliol sy'n seiliedig ar gryfderau, gan gefnogi pobl i fyw bywydau llawn ac i aros mor annibynnol â phosibl.

Fel Gweithiwr Cymdeithasol Caerdydd, bydd gennych fynediad at ystod gynhwysfawr o adnoddau a chymorth i barhau â'ch datblygiad proffesiynol ac i’ch helpu i fod y gweithiwr cymdeithasol gorau posibl.

Mae hon yn swydd newydd, a byddwch wedi'ch lleoli gyda'r Tîm Amlddisgyblaethol Digartrefedd Pobl Ifanc (TA PI) fel rhan o'r Tîm Cymorth Arbenigol Gwasanaethau Oedolion. Mae'r TA PI yn gweithio ar y cyd â nifer o asiantaethau partner yn y ddinas gan gynnwys rhai statudol ac o’r trydydd sector ac yn gweithio gyda phobl ifanc ag anghenion cymhleth sydd mewn llety digartrefedd.

Byddwch yn cynnal asesiadau gyda phobl ifanc sydd ag anghenion cymhleth sy'n profi digartrefedd ac sy'n byw mewn darpariaeth digartrefedd yn y ddinas ac yn rhoi cyngor ac arweiniad ynghylch iechyd meddwl i gydweithwyr yn y TA PI. Bydd y swydd yn cael ei rheoli gan Reolwr Tîm y Gwasanaethau Cymorth Arbenigol. Mae Timau’r Gwasanaethau Cymorth Arbenigol yn ymrwymedig i Ymarfer Gwaith Cymdeithasol sy'n Seiliedig ar Gryfderau ac yn cydweithio ag unigolion i gyflawni eu canlyniadau a nodwyd ac i wneud y mwyaf o'u hannibyniaeth a'u lles.

Mae'r tîm hefyd wedi ymrwymo i weithio drwy ddull Gwella Trawma gydag unigolion, a chewch gyfle i ddatblygu'r sgiliau hyn ochr yn ochr â'n hymarfer sy'n Seiliedig ar Gryfderau. Mae’r Tîm wedi ymrwymo i feithrin diwylliant lle mae gweithwyr yn cael eu gwerthfawrogi, eu cefnogi a'u hannog i gyflawni eu llawn botensial.

Rydym yn cymryd lles ein staff o ddifrif ac rydym yn ymdrechu i ddarparu trefniadau gweithio cadarnhaol sy'n cefnogi ein gweithlu i deimlo eu bod yn cael eu parchu a'u gwerthfawrogi.

Mae Cyngor Caerdydd hefyd yn cynnig buddion gwych i staff, gan gynnwys:

- Gwyliau blynyddol hael yn dechrau ar 27 diwrnod y flwyddyn i uchafswm o 32 diwrnod y flwyddyn ar ôl 5 mlynedd gydag opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol o hyd at 10 diwrnod.
- Yn weithredol o 1 Ebrill 2023, mae'r rôl hon yn cynnig Taliad Atodol ar Sail y Farchnad o £3,000 (cyfwerth ag amser llawn). Adolygir y taliad hwn bob 12 mis.
- Mae ein diwylliant gwaith yn hyblyg, gyda chynllun hyblyg yn eich galluogi i weithio i amserlen sy'n addas i chi, gan gynnwys mynediad at safleoedd swyddfa ledled y ddinas.
- Mynediad at Gronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwgsy'n rhan o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), sy'n cynnig cynllun pensiwn diogel, hyblyg, dibynadwy sy’n rhoi tawelwch meddwl.
- Cyfleoedd hyfforddiant a datblygu
- Cymorth a gynigir drwy fentoriaeth gyda chymorth gan uwch reolwyr

(I gael rhagor o wybodaeth am weithio fel gweithiwr cymdeithasol yng Nghaerdydd, edrychwch ar ein Gwefan Gwaith Cymdeithasol lle gallwch ddarllen mwy am yr hyn y gallwch ddisgwyl wrth weithio i Gaerdydd a mwy am yr hyn sydd gennym i'w gynnig: Hafan - Gwaith Cymdeithasol Caerdydd : Gwaith Cymdeithasol Caerdydd)
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Rydym yn chwilio am Weithwyr Cymdeithasol cymwys i gael profiad pellach o fewn Cyngor Caerdydd. Fel yr ymgeisydd llwyddia

  • Gweithiwr Cymdeithasol

    2 months ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r gwasanaeth Niwroamrywiaeth yn wasanaeth newydd sy'n datblygu ac yn rhan o Wasanaethau Cymdeithasol Oedolion. Byddwn yn gweithio gydag oedolion sydd â diagnosis o niwroamrywiaeth gan gynnwys Awtistiaeth, Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd a Syndrom Tourette’s sydd ag anghenion gofal a chymorth. Mae'r tîm yn...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru, gan gynnig cyfle i weithwyr cymdeithasol weithio gyda phoblogaeth hynod amrywiol gydag amrywiaeth o anghenion gofal a chymorth. Fel yr awdurdod lleol mwyaf yng Nghymru rydym yn cefnogi bron i 5000 o unigolion i fyw'n dda, gan gynnig strwythur cymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn iddynt i...

    **Am Y Gwasanaeth** Fel Cyfarwyddiaeth, rydym yn cydnabod bod gweithwyr cymdeithasol yn weithwyr proffesiynol medrus sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a materol i fywydau pobl bob dydd. Rydym am ddatblygu ein gwasanaethau a chryfhau ein dull o ymdrin ag arferion gwaith cymdeithasol yng Nghaerdydd. Mae Tîm Gwaith Cymdeithasol Canol y Ddinas yn rhan o...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r swydd hon yn cynnwys atodiad marchnad gwerth £3,000 yn ychwanegol at y cyflog rhestredig. Mae'r gwasanaeth Niwroamrywiaeth yn wasanaeth newydd sy'n datblygu ac yn rhan o Wasanaethau Cymdeithasol Oedolion. Byddwn yn gweithio gydag oedolion sydd â diagnosis o niwroamrywiaeth gan gynnwys Awtistiaeth, Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru ac yn ddinas sy'n tyfu gyda phoblogaeth amrywiol. Mae plant Caerdydd angen gweithwyr cymdeithasol sy'n gallu ymateb i'r amrywiaeth o anghenion a phrofiadau sydd yn ei dro yn rhoi cyfle i weithwyr cymdeithasol ddatblygu arbenigedd ac i arwain ymarfer yng Nghymru. Mae Caerdydd yn...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle wedi codi i Weithiwr Cymdeithasol profiadol yn Nhîm Gofal Maeth Gwasanaethau Plant Cyngor Caerdydd. **Manteision a gynigir** Mae Caerdydd yn aml ar frig rhestrau o ddinasoedd gorau'r DU i fyw ynddynt felly ymunwch â ni i weld beth y gallwn ei gynnig. - Hawliad gwyliau blynyddol helaeth yn dechrau gyda 27 diwrnod y flwyddyn i...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Bydd y rôl hon yn cael Taliad Atodol ar Sail y Farchnad o £3,000 (cyfwerth ag amser llawn) a adolygir yn flynyddol. Rydym yn chwilio am weithiwr cymdeithasol cofrestredig i ymuno â'n timau Iechyd Meddwl Cymunedol amlddisgyblaethol yng Nghaerdydd. Mae gweithio yn y Gwasanaethau Oedolion mewn tîm iechyd meddwl cymunedol integredig...

  • Gweithiwr Cymdeithasol

    2 months ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Rydym yn chwilio am weithwyr cymdeithasol cofrestredig i ymuno â’n timau Iechyd Meddwl Cymunedol amlddisgyblaethol yng Nghaerdydd. Mae dwy swydd ar gael ar hyn o bryd - un rhan-amser wedi ei lleoli yn Nhîm Iechyd Meddwl Cymunedol Links yn Adamsdown, Caerdydd ac un llawn amser yn TIMC Pentwyn ym Mhentwyn, Caerdydd. Mae gweithio yn y...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i Weithiwr Cymdeithasol cymwys ymuno â’r Tîm Gofal Maeth fel Gweithiwr Cymdeithasol Asesiadau Pontio GGA (Gorchymyn Gwarcheidiaeth Arbennig). Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â Chaerdydd, sy’n Awdurdod ar daith weithredu sy’n defnyddio’r dull Arwyddion Diogelwch i ganolbwyntio ar gynorthwyo ein...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r swydd hon yn cynnwys taliad atodol ar sail y farchnad o £3000 pro-rata yn ychwanegol at y cyflog a nodir a lwfans Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy o £2800 pro-rata lle bo hynny'n berthnasol. Rydym yn chwilio am Weithiwr Cymdeithasol cofrestredig i ymuno â’n Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol amlddisgyblaethol yn Nhîm...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r swydd hon yn cynnwys ychwanegiad marchnad o £3,000 yn ychwanegol at y cyflog a restrir. Ynglŷn â’r Gwasanaeth Mae Tîm Alcohol a Chyffuriau Caerdydd yn rhan o'r Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion. Mae'r Tîm yn cydweithio â nifer o asiantaethau camddefnyddio sylweddau partner yn y Ddinas yn y sector statudol a'r trydydd...

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i Weithiwr Cymdeithasol cymwys ymuno â’r Tîm Gofal Maeth fel Gweithiwr Cymdeithasol Asesiadau. Byddai hyn yn cynnwys cwblhau asesiadau Gwarcheidiaeth Arbennig ac Asesiadau Unigolion Cysylltiedig gan gynnwys asesiadau pontio ar gyfer y gofalwyr hynny sy'n dilyn trefniant Gwarcheidiaeth Arbennig. Mae hwn yn...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae ein timau Anableddau Dysgu yn rhan o gyfarwyddiaeth Oedolion, Tai a Chymunedau o fewn Cyngor Caerdydd. Fel cyfarwyddiaeth, rydym yn cydnabod bod gweithwyr cymdeithasol yn weithwyr proffesiynol medrus sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a materol i fywydau pobl bob dydd. Mae gennym ddau dîm anableddau dysgu sy'n cwmpasu dwyrain a...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r swydd hon yn cynnwys taliad atodol ar sail y farchnad o £3000 pro-rata yn ychwanegol at y cyflog a nodir a lwfans Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy o £2800 pro-rata lle bo hynny'n berthnasol. Rydym yn chwilio am Weithiwr Cymdeithasol cofrestredig i ymuno â’n Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol amlddisgyblaethol yn Nhîm...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Bydd y rôl hon yn cael Taliad Atodol ar Sail y Farchnad o £3,000 (cyfwerth ag amser llawn) a adolygir yn flynyddol. Rydym yn chwilio am weithwyr cymdeithasol sy'n angerddol am hawliau pobl ag anableddau dysgu ac sydd am fod yn rhan o wasanaeth sy'n darparu cefnogaeth o ansawdd uchel sy'n galluogi pobl i fyw bywydau llawn ac...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r swydd hon yn cynnwys ychwanegiad marchnad o £3,000 yn ychwanegol at y cyflog a restrir. Telir lwfans AMHP pellach o £2800 yn ychwanegol at y cyflog ac atodiad y farchnad, os yn berthnasol. Rydym yn chwilio am weithwyr cymdeithasol cofrestredig i ymuno â’n timau Iechyd Meddwl Cymunedol amlddisgyblaethol yng Nghaerdydd. Mae dwy...