Gweithiwr Cymdeithasol

4 weeks ago

Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae'r swydd hon yn cynnwys taliad atodol ar sail y farchnad o £3000 pro-rata yn ychwanegol at y cyflog a nodir a lwfans Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy o £2800 pro-rata lle bo hynny'n berthnasol.

Rydym yn chwilio am Weithiwr Cymdeithasol cofrestredig i ymuno â’n Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol amlddisgyblaethol yn Nhîm Iechyd Meddwl Cymunedol Links yn Adamsdown, Caerdydd.

Mae gweithio yn y Gwasanaethau Oedolion mewn Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol amlddisgyblaethol yn cynnig gwaith ymarferol, prysur a diddorol i ymarferwyr fel y byddech yn ei ddisgwyl mewn prifddinas. Mae Canolfan Links wedi'i lleoli wrth galon cymuned amlddiwylliannol ac mae'n dîm mawr, deinamig sy'n ymdrin ag unigolion sy'n cyflwyno ystod eang o gyflyrau iechyd meddwl, eu gofalwyr a'u teuluoedd.

**Am Y Swydd**
Swydd dros dro ran amser yw hon, am 18.5 awr yr wythnos. Bydd y swydd yn cyflenwi cyfnod sabothol tan 31 Mawrth 2024.

Bydd angen gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu gyfwerth arnoch. Mae dealltwriaeth gynhwysfawr o’r ddeddfwriaeth berthnasol yn hanfodol, ynghyd â phrofiad o weithio gyda phobl ag anawsterau iechyd meddwl. Mae profiad blaenorol o weithio mewn lleoliad iechyd meddwl yn fanteisiol hefyd a dylai fod gennych brofiad o oruchwylio staff. Yn ddelfrydol byddwch yn Weithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy (GPIMC) y mae tâl GPIMC yn daladwy ar ei gyfer, neu’n fodlon dilyn hyfforddiant ar gyfer y rôl GPIMC fel rhan o’ch datblygiad proffesiynol parhaus.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
- Rydym yn awyddus i recriwtio Gweithiwr Cymdeithasol profiadol. Rydym yn chwilio am bobl sydd wedi ymrwymo i roi ein dinasyddion wrth wraidd y gwaith a wnawn ac sydd am weithio mewn maes gwaith cyflym, deinamig ac amrywiol.
- Byddwch yn Weithiwr Cymdeithasol cymwys a phrofiadol ac wedi'ch cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
- Bydd gennych wybodaeth gadarn am y fframwaith deddfwriaethol sydd ar waith.
- Byddwch yn hyderus wrth asesu anghenion dinasyddion a’u gofalwyr ac yn gyfarwydd â gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010.
- Byddwch hefyd yn hyderus wrth gynnal asesiadau risg a datblygu cynlluniau gofal cysylltiedig a chynlluniau rheoli risg.
- Byddwch yn gallu ymarfer o safbwynt sy'n seiliedig ar gryfder.
- Byddwch yn ymrwymedig i ymgymryd â hyfforddiant i gynorthwyo gyda'ch datblygiad proffesiynol ac i'r broses oruchwylio.
- Byddwch am weithio ym mhrifddinas Cymru mewn gwasanaethau lle rydym yn cefnogi ein gilydd ac yn gweithio gyda'n gilydd â chydweithwyr, gweithwyr proffesiynol a sefydliadau eraill.
- Bydd angen trwydded yrru ddilys lawn a char i’w ddefnyddio yn ystod oriau gwaith, a thelir lwfans car achlysurol am hyn.

Mae'r swydd hon yn cynnwys taliad atodol ar sail y farchnad o £3000 pro-rata yn ychwanegol at y cyflog a nodir a lwfans Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy o £2800 pro-rata lle bo hynny'n berthnasol.

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau ar ôl darllen y disgrifiad swydd a’r fanyleb person yn llawn cysylltwch â Sarah Skelly, Rheolwr y Tîm Gwaith Cymdeithasol yng Nghanolfan Links ar (029) 20335555 (dydd Iau i ddydd Gwener) neu drwy Dîm Iechyd Meddwl Cymunedol Pentwyn ar (029) 218833650 (dydd Llun i ddydd Mawrth).

Fel rhan o’r swydd hon, rhaid i chi fod wedi’ch cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.

Mae’r swydd yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae’r swydd hon yn addas i’w rhannu.

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles, ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a phob ysgol.

**Gwybodaeth Ychwanegol**

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Rhaid i ymgeiswyr mewnol sy'n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar sail secondiad gael cymeradwyaeth cyn gwneud cais gan ddefnyddio ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y canlynol sy’n gallu cymeradwyo ceisiadau: y Cyfarwyddwr / Cyfarwyddwr Cynorthwyol / Prif Swyddog neu’r Uwch Swyddog Enwebedig perthnasol, nad yw ar raddfa is na RhG2, neu, yn achos staff ysgolion, y Pennaeth / Corff Llywodraethu.

Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post.

O ganlyniad i’r amgylchiadau COVID-19 presennol, gall y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon cael ei chynnal yn rhithwir gan ddefnyddio Microsoft Teams. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn cyfweliad rhithwir neu os hoffech gael trafodaeth anffurfiol ar ôl darllen y disgrifiad swydd a’

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r gwasanaeth Niwroamrywiaeth yn wasanaeth newydd sy'n datblygu ac yn rhan o Wasanaethau Cymdeithasol Oedolion. Byddwn yn gweithio gydag oedolion sydd â diagnosis o niwroamrywiaeth gan gynnwys Awtistiaeth, Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd a Syndrom Tourette’s sydd ag anghenion gofal a chymorth. Mae'r tîm yn...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru, gan gynnig cyfle i weithwyr cymdeithasol weithio gyda phoblogaeth hynod amrywiol gydag amrywiaeth o anghenion gofal a chymorth. Fel yr awdurdod lleol mwyaf yng Nghymru rydym yn cefnogi bron i 5000 o unigolion i fyw'n dda, gan gynnig strwythur cymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn iddynt i...

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle wedi codi i Weithiwr Cymdeithasol profiadol yn Nhîm Gofal Maeth Gwasanaethau Plant Cyngor Caerdydd. **Manteision a gynigir** Mae Caerdydd yn aml ar frig rhestrau o ddinasoedd gorau'r DU i fyw ynddynt felly ymunwch â ni i weld beth y gallwn ei gynnig. - Hawliad gwyliau blynyddol helaeth yn dechrau gyda 27 diwrnod y flwyddyn i...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru ac yn ddinas sy'n tyfu gyda phoblogaeth amrywiol. Mae plant Caerdydd angen gweithwyr cymdeithasol sy'n gallu ymateb i'r amrywiaeth o anghenion a phrofiadau sydd yn ei dro yn rhoi cyfle i weithwyr cymdeithasol ddatblygu arbenigedd ac i arwain ymarfer yng Nghymru. Mae Caerdydd yn cynnig y...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru ac yn ddinas sy'n tyfu gyda phoblogaeth amrywiol. Mae plant Caerdydd angen gweithwyr cymdeithasol sy'n gallu ymateb i'r amrywiaeth o anghenion a phrofiadau sydd yn ei dro yn rhoi cyfle i weithwyr cymdeithasol ddatblygu arbenigedd ac i arwain ymarfer yng Nghymru. Mae Caerdydd yn...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ydych chi'n Fyfyriwr Gwaith Cymdeithasol yn eich blwyddyn olaf yn y brifysgol? Mae gwasanaethau Plant Cyngor Caerdydd yn cynnig cyfle unigryw i sicrhau swydd Gweithiwr Cymdeithasol parhaol yn barod ar gyfer pan fyddwch yn cymhwyso y flwyddyn nesaf. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw cyflwyno cais; byddwn yn gwarantu cyfweliad i chi yn...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Rydym yn chwilio am weithwyr cymdeithasol cofrestredig i ymuno â’n timau Iechyd Meddwl Cymunedol amlddisgyblaethol yng Nghaerdydd. Mae dwy swydd ar gael ar hyn o bryd - un rhan-amser wedi ei lleoli yn Nhîm Iechyd Meddwl Cymunedol Links yn Adamsdown, Caerdydd ac un llawn amser yn TIMC Pentwyn ym Mhentwyn, Caerdydd. Mae gweithio yn y...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae ein timau Anableddau Dysgu yn rhan o gyfarwyddiaeth Oedolion, Tai a Chymunedau o fewn Cyngor Caerdydd. Fel cyfarwyddiaeth, rydym yn cydnabod bod gweithwyr cymdeithasol yn weithwyr proffesiynol medrus sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a materol i fywydau pobl bob dydd. Mae gennym ddau dîm anableddau dysgu sy'n cwmpasu dwyrain a...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i Weithiwr Cymdeithasol cymwys ymuno â’r Tîm Gofal Maeth fel Gweithiwr Cymdeithasol Asesiadau Pontio GGA (Gorchymyn Gwarcheidiaeth Arbennig). Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â Chaerdydd, sy’n Awdurdod ar daith weithredu sy’n defnyddio’r dull Arwyddion Diogelwch i ganolbwyntio ar gynorthwyo ein...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae ein gwasanaeth yn cynnig gofal iechyd meddwl eilaidd i oedolion sy'n byw gyda dementia a phobl dros 65 oed sydd wedi cael diagnosis o salwch meddwl. Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda'r Gwasanaeth Dementia Cynnar a thimau cymunedol Awdurdodau Lleol. **Am Y Swydd** Os ydych chi am ehangu neu ddatblygu eich dealltwriaeth o salwch...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae ein gwasanaeth yn cynnig gofal iechyd meddwl eilaidd i oedolion sy'n byw gyda dementia a phobl sydd wedi cael diagnosis o salwch meddwl (dros 65 oed). Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda'r Gwasanaeth Dementia Cynnar a thimau cymunedol Awdurdodau Lleol. **Am Y Swydd** Os ydych chi am ehangu neu ddatblygu eich dealltwriaeth o salwch...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Tîm Dyletswydd Argyfwng (EDT) yn darparu gwasanaeth gwaith cymdeithasol brys ar gyfer sefyllfaoedd brys sy'n codi y tu allan i oriau swyddfa arferol ac ni all aros tan y diwrnod gwaith nesaf am asesiad o'r risg a darpariaeth gwasanaethau. Mae’r gwasanaeth ar gael i’r cyhoedd a gweithwyr proffesiynol sy’n byw ac yn gweithio...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ynglŷn â’r Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i Weithiwr Cymdeithasol cymwys i ymuno â’r Tîm Asesiadau Perthynas. Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â Chaerdydd, sy’n Awdurdod ar daith weithredu drwy ddefnyddio’r dull Arwyddion Diogelwch i ganolbwyntio ar gynorthwyo ein plant. **Manteision a gynigir** Mae Caerdydd...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Rydym yn chwilio am Weithiwr Cymdeithasol cofrestredig i ymuno â'n tîm Iechyd Meddwl Cymunedol amlddisgyblaethol yn Gabalfa, a leolir yng Ngogledd Orllewin Caerdydd. Rydym yn dîm mawr, deinamig sy'n delio ag unigolion sy'n cyflwyno ystod eang o gyflyrau iechyd meddwl, eu gofalwyr a'u teuluoedd â dalgylchoedd gwahanol. Mae gennym un...

  • Gweithiwr Cymorth

    4 weeks ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru, gan gynnig cyfle i staff weithio gyda phoblogaeth hynod amrywiol gydag amrywiaeth o anghenion gofal a chymorth. Fel yr awdurdod lleol mwyaf yng Nghymru rydym yn cefnogi bron i 5000 o unigolion i fyw'n dda, gan gynnig strwythur cymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn iddynt i sicrhau eu bod...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r Tîm ar rota dyletswydd am un o bob tair wythnos, sy’n golygu eich bod yn cael y cyfle i gynllunio a chofnodi eich gwaith mewn ffordd strwythuredig a threfnus. **Am Y Swydd** Mae’r swyddi yn rhai parhaol ac wedi’u lleoli yn y Tîm Ymateb Cychwynnol, yn Derbyn ac Asesu. Gallai Gweithwyr Cymdeithasol fod yn rhan o achosion...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â Chaerdydd, sy’n Awdurdod ar daith weithredu sy’n defnyddio’r dull Arwyddion Diogelwch i ganolbwyntio ar gefnogi ein plant. Mae’r Tîm ar rota dyletswydd am un o bob tair wythnos, sy’n golygu eich bod yn cael y cyfle i gynllunio a chofnodi eich gwaith mewn ffordd strwythuredig a...