Gweithiwr Cymdeithasol

2 weeks ago

Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae'r swydd hon yn cynnwys taliad atodol ar sail y farchnad o £3000 pro-rata yn ychwanegol at y cyflog a nodir a lwfans Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy o £2800 pro-rata lle bo hynny'n berthnasol.

Rydym yn chwilio am Weithiwr Cymdeithasol cofrestredig i ymuno â’n Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol amlddisgyblaethol yn Nhîm Iechyd Meddwl Cymunedol Links yn Adamsdown, Caerdydd.

Mae gweithio yn y Gwasanaethau Oedolion mewn Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol amlddisgyblaethol yn cynnig gwaith ymarferol, prysur a diddorol i ymarferwyr fel y byddech yn ei ddisgwyl mewn prifddinas. Mae Canolfan Links wedi'i lleoli wrth galon cymuned amlddiwylliannol ac mae'n dîm mawr, deinamig sy'n ymdrin ag unigolion sy'n cyflwyno ystod eang o gyflyrau iechyd meddwl, eu gofalwyr a'u teuluoedd.
**Am Y Swydd**
Bydd angen gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu gyfwerth arnoch. Mae dealltwriaeth gynhwysfawr o’r ddeddfwriaeth berthnasol yn hanfodol, ynghyd â phrofiad o weithio gyda phobl ag anawsterau iechyd meddwl. Mae profiad blaenorol o weithio mewn lleoliad iechyd meddwl yn fanteisiol hefyd a dylai fod gennych brofiad o oruchwylio staff. Yn ddelfrydol byddwch yn Weithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy (GPIMC) y mae tâl GPIMC yn daladwy ar ei gyfer, neu’n fodlon dilyn hyfforddiant ar gyfer y rôl GPIMC fel rhan o’ch datblygiad proffesiynol parhaus.
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Byddwch yn gallu asesu anghenion dinasyddion a’u gofalwyr yn hyderus, ac yn gyfarwydd â gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010. Byddwch hefyd yn gallu cynnal asesiadau risg a datblygu cynlluniau gofal cysylltiedig a chynlluniau rheoli risg. Byddwch yn fodlon dilyn hyfforddiant priodol ac yn gallu gweithio dan bwysau.

Bydd angen trwydded yrru ddilys lawn a char i’w ddefnyddio yn ystod oriau gwaith, a thelir lwfans car achlysurol am hyn.

Byddai'r gallu i siarad ieithoedd eraill, yn enwedig y Gymraeg, ac Ieithoedd Cymunedol yn fantais.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae'r swydd hon yn cynnwys ychwanegiad marchnad o £3,000 yn ychwanegol at y cyflog a restrir. Telir lwfans AMHP pellach o £2800 yn ychwanegol at y cyflog ac atodiad y farchnad, os yn berthnasol.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ar ôl darllen y disgrifiad swydd a’r fanyleb person yn llawn cysylltwch â Sarah Skelly, Rheolwr y Tîm Gwaith Cymdeithasol yng nghanolfan iechyd Pentwyn ar (029) 21833650.

Mae’r swydd yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae’r swydd hon yn addas i’w rhannu.

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a'n hysgolion wedi ymrwymo i amddiffyn a diogelu pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn rhoi camau ar waith i ddiogelu eu lles ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy'n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a phob ysgol.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â_ _._

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO03473

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Bydd y rôl hon yn cael Taliad Atodol ar Sail y Farchnad o £3,000 (cyfwerth ag amser llawn) a adolygir yn flynyddol.** Mae'r gwasanaeth Niwroamrywiaeth yn wasanaeth newydd sy'n datblygu ac yn rhan o’r Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion. Byddwn yn gweithio gydag oedolion sydd wedi cael diagnosis o niwroamrywiaeth gan gynnwys...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r gwasanaeth Niwroamrywiaeth yn wasanaeth newydd sy'n datblygu ac yn rhan o Wasanaethau Cymdeithasol Oedolion. Byddwn yn gweithio gydag oedolion sydd â diagnosis o niwroamrywiaeth gan gynnwys Awtistiaeth, Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd a Syndrom Tourette’s sydd ag anghenion gofal a chymorth. Mae'r tîm yn...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru, gan gynnig cyfle i weithwyr cymdeithasol weithio gyda phoblogaeth hynod amrywiol gydag amrywiaeth o anghenion gofal a chymorth. Fel yr awdurdod lleol mwyaf yng Nghymru rydym yn cefnogi bron i 5000 o unigolion i fyw'n dda, gan gynnig strwythur cymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn iddynt i...

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle wedi codi i Weithiwr Cymdeithasol profiadol yn Nhîm Gofal Maeth Gwasanaethau Plant Cyngor Caerdydd. **Manteision a gynigir** Mae Caerdydd yn aml ar frig rhestrau o ddinasoedd gorau'r DU i fyw ynddynt felly ymunwch â ni i weld beth y gallwn ei gynnig. - Hawliad gwyliau blynyddol helaeth yn dechrau gyda 27 diwrnod y flwyddyn i...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru ac yn ddinas sy'n tyfu gyda phoblogaeth amrywiol. Mae plant Caerdydd angen gweithwyr cymdeithasol sy'n gallu ymateb i'r amrywiaeth o anghenion a phrofiadau sydd yn ei dro yn rhoi cyfle i weithwyr cymdeithasol ddatblygu arbenigedd ac i arwain ymarfer yng Nghymru. Mae Caerdydd yn...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru ac yn ddinas sy'n tyfu gyda phoblogaeth amrywiol. Mae plant Caerdydd angen gweithwyr cymdeithasol sy'n gallu ymateb i'r amrywiaeth o anghenion a phrofiadau sydd yn ei dro yn rhoi cyfle i weithwyr cymdeithasol ddatblygu arbenigedd ac i arwain ymarfer yng Nghymru. Mae Caerdydd yn cynnig y...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ydych chi'n Fyfyriwr Gwaith Cymdeithasol yn eich blwyddyn olaf yn y brifysgol? Mae gwasanaethau Plant Cyngor Caerdydd yn cynnig cyfle unigryw i sicrhau swydd Gweithiwr Cymdeithasol parhaol yn barod ar gyfer pan fyddwch yn cymhwyso y flwyddyn nesaf. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw cyflwyno cais; byddwn yn gwarantu cyfweliad i chi yn...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae ein timau Anableddau Dysgu yn rhan o gyfarwyddiaeth Oedolion, Tai a Chymunedau o fewn Cyngor Caerdydd. Fel cyfarwyddiaeth, rydym yn cydnabod bod gweithwyr cymdeithasol yn weithwyr proffesiynol medrus sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a materol i fywydau pobl bob dydd. Mae gennym ddau dîm anableddau dysgu sy'n cwmpasu dwyrain a...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Rydym yn chwilio am weithwyr cymdeithasol cofrestredig i ymuno â’n timau Iechyd Meddwl Cymunedol amlddisgyblaethol yng Nghaerdydd. Mae dwy swydd ar gael ar hyn o bryd - un rhan-amser wedi ei lleoli yn Nhîm Iechyd Meddwl Cymunedol Links yn Adamsdown, Caerdydd ac un llawn amser yn TIMC Pentwyn ym Mhentwyn, Caerdydd. Mae gweithio yn y...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i Weithiwr Cymdeithasol cymwys ymuno â’r Tîm Gofal Maeth fel Gweithiwr Cymdeithasol Asesiadau Pontio GGA (Gorchymyn Gwarcheidiaeth Arbennig). Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â Chaerdydd, sy’n Awdurdod ar daith weithredu sy’n defnyddio’r dull Arwyddion Diogelwch i ganolbwyntio ar gynorthwyo ein...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae ein gwasanaeth yn cynnig gofal iechyd meddwl eilaidd i oedolion sy'n byw gyda dementia a phobl dros 65 oed sydd wedi cael diagnosis o salwch meddwl. Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda'r Gwasanaeth Dementia Cynnar a thimau cymunedol Awdurdodau Lleol. **Am Y Swydd** Os ydych chi am ehangu neu ddatblygu eich dealltwriaeth o salwch...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae ein gwasanaeth yn cynnig gofal iechyd meddwl eilaidd i oedolion sy'n byw gyda dementia a phobl sydd wedi cael diagnosis o salwch meddwl (dros 65 oed). Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda'r Gwasanaeth Dementia Cynnar a thimau cymunedol Awdurdodau Lleol. **Am Y Swydd** Os ydych chi am ehangu neu ddatblygu eich dealltwriaeth o salwch...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Tîm Dyletswydd Argyfwng (EDT) yn darparu gwasanaeth gwaith cymdeithasol brys ar gyfer sefyllfaoedd brys sy'n codi y tu allan i oriau swyddfa arferol ac ni all aros tan y diwrnod gwaith nesaf am asesiad o'r risg a darpariaeth gwasanaethau. Mae’r gwasanaeth ar gael i’r cyhoedd a gweithwyr proffesiynol sy’n byw ac yn gweithio...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ynglŷn â’r Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i Weithiwr Cymdeithasol cymwys i ymuno â’r Tîm Asesiadau Perthynas. Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â Chaerdydd, sy’n Awdurdod ar daith weithredu drwy ddefnyddio’r dull Arwyddion Diogelwch i ganolbwyntio ar gynorthwyo ein plant. **Manteision a gynigir** Mae Caerdydd...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Rydym yn chwilio am Weithiwr Cymdeithasol cofrestredig i ymuno â'n tîm Iechyd Meddwl Cymunedol amlddisgyblaethol yn Gabalfa, a leolir yng Ngogledd Orllewin Caerdydd. Rydym yn dîm mawr, deinamig sy'n delio ag unigolion sy'n cyflwyno ystod eang o gyflyrau iechyd meddwl, eu gofalwyr a'u teuluoedd â dalgylchoedd gwahanol. Mae gennym un...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn chwilio am Brif Weithiwr Cymdeithasol i weithio yn bennaf mewn rôl oruchwyliwr, ynghyd â rheoli achosion o lwyth gwaith cymhleth bach, o fewn un o'n Timau Ardal. Byddai'r ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei gefnogi gan ei Reolwr Tîm a'r Rheolwr Gweithredol. Byddai’n gweithio o fewn tîm o weithwyr cymdeithasol,...

  • Gweithiwr Cymorth

    4 weeks ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru, gan gynnig cyfle i staff weithio gyda phoblogaeth hynod amrywiol gydag amrywiaeth o anghenion gofal a chymorth. Fel yr awdurdod lleol mwyaf yng Nghymru rydym yn cefnogi bron i 5000 o unigolion i fyw'n dda, gan gynnig strwythur cymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn iddynt i sicrhau eu bod...