Gweithiwr Cymdeithasol
1 month ago
**Am Y Gwasanaeth**
Mae'r swydd hon yn cynnwys atodiad marchnad gwerth £3,000 yn ychwanegol at y cyflog rhestredig.
Mae'r gwasanaeth Niwroamrywiaeth yn wasanaeth newydd sy'n datblygu ac yn rhan o Wasanaethau Cymdeithasol Oedolion. Byddwn yn gweithio gydag oedolion sydd â diagnosis o niwroamrywiaeth gan gynnwys Awtistiaeth, Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd a Syndrom Tourette’s sydd ag anghenion gofal a chymorth.
Mae'r tîm yn ddatblygiad newydd yn y Gwasanaethau Oedolion ac mae'r ddwy swydd yma, Gweithiwr Cymdeithasol Gradd 8 a Gweithiwr Cymdeithasol Gradd 7 yn cynnig cyfle i lywio ein darpariaeth gwasanaeth yn y dyfodol. Byddwn ni'n cynnal asesiadau gydag oedolion sydd â diagnosis o niwroamrywiaeth a allai fod ag anghenion gofal a chymorth ac yn trefnu pecynnau gofal a chymorth sy'n briodol i ddiwallu'r canlyniadau a ddymunir gan yr unigolion. Bydd y Tîm hefyd yn cynnal asesiadau pontio ar gyfer y bobl ifanc hynny sydd â diagnosis o niwroamrywiaeth ag anghenion gofal a chymorth sy’n pontio i’r Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion. Bydd y tîm yn rhan bwysig o sicrhau bod y Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion yn cyflawni eu cyfrifoldebau statudol o dan y Cod Ymarfer ar ddarparu gwasanaethau awtistiaeth (2021).
Bydd y gwasanaeth sy'n cael ei sefydlu yn cynnwys dau weithiwr cymdeithasol a fydd yn gweithio ochr yn ochr â’r Gweithiwr Cymdeithasol Pontio i Bobl Ifanc sydd wedi'i leoli yn y Tîm Amlddisgyblaethol Digartrefedd a'r Cynorthwy-ydd Gwaith Cymdeithasol Pontio sy'n gweithio gyda Phlant Sy'n Derbyn Gofal sy’n pontio i’r Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion. Mae’r Tîm yn cael ei reoli gan y Rheolwr Tîm sydd â chyfrifoldeb dros gamddefnyddio sylweddau (Tîm Alcohol a Chyffuriau Caerdydd), digartrefedd a phontio ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal yn y Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion.
Mae'r tîm hefyd yn ymrwymedig i ymarfer gwaith cymdeithasol sy’n seiliedig ar gryfderau, a chewch gyfle i ddatblygu'r sgiliau hyn. Mae’r Tîm yn ymrwymedig i feithrin diwylliant lle mae gweithwyr yn cael eu gwerthfawrogi, eu cefnogi a'u hannog i gyrraedd eu llawn botensial.
**Am Y Swydd**
Yr hyn y byddwn yn ei gynnig i chi:
Gwasanaeth sy'n gwerthfawrogi gweithwyr cymdeithasol proffesiynol ac sy'n cefnogi eu hymarfer.
Dull sefydledig o ymdrin â gwaith cymdeithasol sy’n seiliedig ar gryfderau gyda grwpiau mentor i annog trafodaeth a dysgu proffesiynol mewn sesiynau gwarchodedig.
Cyfle i ddatblygu eich defnydd o ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau a mentora.
Goruchwyliaeth reolaidd o ansawdd i gefnogi a chynnal ymarferwyr.
Dull rhagweithiol o sicrhau ansawdd o fewn y gwasanaeth, gan geisio hyrwyddo'r ymarfer rhagorol a welwn gan ein gweithwyr cymdeithasol.
Rhaglen hyfforddi eang a helaeth gyda chyfleoedd i hyfforddi mewn meysydd penodol a mynediad at ddiweddariadau cyfreithiol ac ymarfer rheolaidd.
Mae ein systemau a'n technoleg yn galluogi ac yn hyrwyddo gweithio hybrid a hyblyg ac mae gan Gyngor Caerdydd amrywiaeth o bolisïau cefnogol i'w weithwyr.
Gwerthfawrogir ein Gweithwyr Cymdeithasol oherwydd y sgiliau a’r wybodaeth y maen nhw’n cyfrannu at y gwasanaeth. Maen nhw’n allweddol i'r arfer parhaus o ddulliau gwaith cymdeithasol sy’n seiliedig ar gryfderau yng Nghaerdydd.
Bydd y rôl wedi'i lleoli gyda gweithwyr Pontio ac wedi'i lleoli ochr yn ochr â Thîm Alcohol a Chyffuriau Caerdydd a Thîm Gwaith Cymdeithasol Canol y Ddinas (Digartrefedd). Fel Gweithiwr Cymdeithasol, byddwch yn cynnal asesiadau, yn llunio cynlluniau gofal a chymorth gydag unigolion yn nodi eu canlyniadau ac yn comisiynu gofal a chymorth. Bydd gofyn i chi hefyd reoli llwyth achosion prysur.
Fel Gweithiwr Cymdeithasol byddwch yn derbyn goruchwyliaeth reolaidd a phan fyddwch yn meddu ar gymwysterau priodol bydd disgwyl i chi oruchwylio cydweithwyr tîm heb gymwysterau. Mae disgwyl i Weithwyr Cymdeithasol Gradd 8 oruchwylio cydweithwyr Gradd 7 a staff anghymwys yn ôl y galw. Byddwch yn cefnogi gweithrediad parhaus arferion sy'n seiliedig ar gryfderau ac yn cyfrannu at Sicrwydd Ansawdd yn y Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion.
Mae'r gwasanaeth Niwroamrywiaeth yn wasanaeth newydd sy’n datblygu a bydd disgwyl iddo roi cyngor a chymorth i unigolion, eu teuluoedd a gweithwyr proffesiynol eraill. Bydd disgwyl i chi ddatblygu eich gwybodaeth am y materion sy'n effeithio ar y rhai sy'n niwroamrywiol. Byddwch hefyd yn cael eich cefnogi i ddefnyddio arfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth gydag unigolion.
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
- Profiad o weithio gydag oedolion a chynnal asesiadau gyda'r unigolion hynny sydd angen gwasanaethau cymorth.
- Ymrwymiad i arfer rhagorol gydag unigolion, teuluoedd, Gofalwyr a Chymunedau.
- Sgiliau asesu a dealltwriaeth glir o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
- Hyder a gwybodaeth o ran gweithredu o fewn fframwaith cyfreithiol y Ddeddf Galluedd Meddyliol. Ar gyfer y swydd Gradd 8 mae profiad o waith a phrosesau’r Llys Gwarchod yn fantais.
- Disgwy
-
Gweithiwr Cymdeithasol
2 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae'r gwasanaeth Niwroamrywiaeth yn wasanaeth newydd sy'n datblygu ac yn rhan o Wasanaethau Cymdeithasol Oedolion. Byddwn yn gweithio gydag oedolion sydd â diagnosis o niwroamrywiaeth gan gynnwys Awtistiaeth, Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd a Syndrom Tourette’s sydd ag anghenion gofal a chymorth. Mae'r tîm yn...
-
Gweithiwr Cymdeithasol
1 month ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru, gan gynnig cyfle i weithwyr cymdeithasol weithio gyda phoblogaeth hynod amrywiol gydag amrywiaeth o anghenion gofal a chymorth. Fel yr awdurdod lleol mwyaf yng Nghymru rydym yn cefnogi bron i 5000 o unigolion i fyw'n dda, gan gynnig strwythur cymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn iddynt i...
-
Gweithiwr Cymdeithasol
4 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru, gan gynnig cyfle i weithwyr cymdeithasol weithio gyda phoblogaeth hynod amrywiol gydag amrywiaeth o anghenion gofal a chymorth. Fel yr awdurdod lleol mwyaf yng Nghymru rydym yn cefnogi bron i 5000 o unigolion i fyw'n dda, gan gynnig strwythur cymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn iddynt i...
-
Gweithiwr Cymdeithasol
1 month ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru, gan gynnig cyfle i weithwyr cymdeithasol weithio gyda phoblogaeth hynod amrywiol gydag amrywiaeth o anghenion gofal a chymorth. Fel yr awdurdod lleol mwyaf yng Nghymru rydym yn cefnogi bron i 5000 o unigolion i fyw'n dda, gan gynnig strwythur cymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn iddynt i...
-
Gweithiwr Cymdeithasol
1 month ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Fel Cyfarwyddiaeth, rydym yn cydnabod bod gweithwyr cymdeithasol yn weithwyr proffesiynol medrus sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a materol i fywydau pobl bob dydd. Rydym am ddatblygu ein gwasanaethau a chryfhau ein dull o ymdrin ag arferion gwaith cymdeithasol yng Nghaerdydd. Mae Tîm Gwaith Cymdeithasol Canol y Ddinas yn rhan o...
-
Gweithiwr Cymdeithasol Ardal
1 month ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru ac yn ddinas sy'n tyfu gyda phoblogaeth amrywiol. Mae plant Caerdydd angen gweithwyr cymdeithasol sy'n gallu ymateb i'r amrywiaeth o anghenion a phrofiadau sydd yn ei dro yn rhoi cyfle i weithwyr cymdeithasol ddatblygu arbenigedd ac i arwain ymarfer yng Nghymru. Mae Caerdydd yn...
-
Gweithiwr Cymdeithasol Goruchwylio Maethu
2 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle wedi codi i Weithiwr Cymdeithasol profiadol yn Nhîm Gofal Maeth Gwasanaethau Plant Cyngor Caerdydd. **Manteision a gynigir** Mae Caerdydd yn aml ar frig rhestrau o ddinasoedd gorau'r DU i fyw ynddynt felly ymunwch â ni i weld beth y gallwn ei gynnig. - Hawliad gwyliau blynyddol helaeth yn dechrau gyda 27 diwrnod y flwyddyn i...
-
Gweithiwr Cymdeithasol
1 week ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Bydd y rôl hon yn cael Taliad Atodol ar Sail y Farchnad o £3,000 (cyfwerth ag amser llawn) a adolygir yn flynyddol. Rydym yn chwilio am weithiwr cymdeithasol cofrestredig i ymuno â'n timau Iechyd Meddwl Cymunedol amlddisgyblaethol yng Nghaerdydd. Mae gweithio yn y Gwasanaethau Oedolion mewn tîm iechyd meddwl cymunedol integredig...
-
Gweithiwr Cymdeithasol
2 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Rydym yn chwilio am weithwyr cymdeithasol cofrestredig i ymuno â’n timau Iechyd Meddwl Cymunedol amlddisgyblaethol yng Nghaerdydd. Mae dwy swydd ar gael ar hyn o bryd - un rhan-amser wedi ei lleoli yn Nhîm Iechyd Meddwl Cymunedol Links yn Adamsdown, Caerdydd ac un llawn amser yn TIMC Pentwyn ym Mhentwyn, Caerdydd. Mae gweithio yn y...
-
Gweithiwr Cymdeithasol Asesiadau Pontio Gga
2 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i Weithiwr Cymdeithasol cymwys ymuno â’r Tîm Gofal Maeth fel Gweithiwr Cymdeithasol Asesiadau Pontio GGA (Gorchymyn Gwarcheidiaeth Arbennig). Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â Chaerdydd, sy’n Awdurdod ar daith weithredu sy’n defnyddio’r dull Arwyddion Diogelwch i ganolbwyntio ar gynorthwyo ein...
-
Gweithiwr Cymdeithasol
1 month ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae'r swydd hon yn cynnwys taliad atodol ar sail y farchnad o £3000 pro-rata yn ychwanegol at y cyflog a nodir a lwfans Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy o £2800 pro-rata lle bo hynny'n berthnasol. Rydym yn chwilio am Weithiwr Cymdeithasol cofrestredig i ymuno â’n Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol amlddisgyblaethol yn Nhîm...
-
Gweithiwr Cymdeithasol
1 month ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae'r swydd hon yn cynnwys ychwanegiad marchnad o £3,000 yn ychwanegol at y cyflog a restrir. Ynglŷn â’r Gwasanaeth Mae Tîm Alcohol a Chyffuriau Caerdydd yn rhan o'r Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion. Mae'r Tîm yn cydweithio â nifer o asiantaethau camddefnyddio sylweddau partner yn y Ddinas yn y sector statudol a'r trydydd...
-
Gweithiwr Cymdeithasol
1 month ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae'r swydd hon yn cynnwys ychwanegiad marchnad o £3,000 yn ychwanegol at y cyflog a restrir. Ynglŷn â’r Gwasanaeth Mae Tîm Alcohol a Chyffuriau Caerdydd yn rhan o'r Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion. Mae'r Tîm yn cydweithio â nifer o asiantaethau camddefnyddio sylweddau partner yn y Ddinas yn y sector statudol a'r trydydd...
-
Gweithiwr Cymdeithasol
1 month ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae'r swydd hon yn cynnwys taliad atodol ar sail y farchnad o £3000 pro-rata yn ychwanegol at y cyflog a nodir a lwfans Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy o £2800 pro-rata lle bo hynny'n berthnasol. Rydym yn chwilio am Weithiwr Cymdeithasol cofrestredig i ymuno â’n Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol amlddisgyblaethol yn Nhîm...
-
Gweithiwr Cymdeithasol Asesiadau
1 month ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i Weithiwr Cymdeithasol cymwys ymuno â’r Tîm Gofal Maeth fel Gweithiwr Cymdeithasol Asesiadau. Byddai hyn yn cynnwys cwblhau asesiadau Gwarcheidiaeth Arbennig ac Asesiadau Unigolion Cysylltiedig gan gynnwys asesiadau pontio ar gyfer y gofalwyr hynny sy'n dilyn trefniant Gwarcheidiaeth Arbennig. Mae hwn yn...
-
Gweithiwr Cymdeithasol
1 month ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae ein timau Anableddau Dysgu yn rhan o gyfarwyddiaeth Oedolion, Tai a Chymunedau o fewn Cyngor Caerdydd. Fel cyfarwyddiaeth, rydym yn cydnabod bod gweithwyr cymdeithasol yn weithwyr proffesiynol medrus sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a materol i fywydau pobl bob dydd. Mae gennym ddau dîm anableddau dysgu sy'n cwmpasu dwyrain a...
-
Gweithiwr Cymdeithasol
4 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae'r swydd hon yn cynnwys taliad atodol ar sail y farchnad o £3000 pro-rata yn ychwanegol at y cyflog a nodir a lwfans Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy o £2800 pro-rata lle bo hynny'n berthnasol. Rydym yn chwilio am Weithiwr Cymdeithasol cofrestredig i ymuno â’n Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol amlddisgyblaethol yn Nhîm...
-
Gweithiwr Cymdeithasol
2 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Bydd y rôl hon yn cael Taliad Atodol ar Sail y Farchnad o £3,000 (cyfwerth ag amser llawn) a adolygir yn flynyddol. Rydym yn chwilio am weithwyr cymdeithasol sy'n angerddol am hawliau pobl ag anableddau dysgu ac sydd am fod yn rhan o wasanaeth sy'n darparu cefnogaeth o ansawdd uchel sy'n galluogi pobl i fyw bywydau llawn ac...
-
Gweithiwr Cymdeithasol
1 month ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae'r swydd hon yn cynnwys ychwanegiad marchnad o £3,000 yn ychwanegol at y cyflog a restrir. Telir lwfans AMHP pellach o £2800 yn ychwanegol at y cyflog ac atodiad y farchnad, os yn berthnasol. Rydym yn chwilio am weithwyr cymdeithasol cofrestredig i ymuno â’n timau Iechyd Meddwl Cymunedol amlddisgyblaethol yng Nghaerdydd. Mae dwy...
-
Gweithiwr Cymdeithasol
1 month ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full timeAm Y Gwasanaeth Mae'r swydd hon yn cynnwys ychwanegiad marchnad o £3,000 yn ychwanegol at y cyflog a restrir. Telir lwfans AMHP pellach o £2800 yn ychwanegol at y cyflog ac atodiad y farchnad, os yn berthnasol. Rydym yn chwilio am weithwyr cymdeithasol cofrestredig i ymuno â’n timau Iechyd Meddwl Cymunedol amlddisgyblaethol yng Nghaerdydd. Mae dwy...