Rheolwr Gwasanaeth Mesur Meintiau

3 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Oherwydd ail-strwythuro gwasanaeth mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn y Tîm Dylunio, Adeiladu a Chynnal a Chadw (DAChC) newydd ar gyfer Rheolwr Gwasanaeth Mesur Meintiau cymwys i arwain, rheoli a datblygu tîm o syrfëwr meintiol.

Mae'r Tîm hwn sydd newydd ei sefydlu yn gyfrifol am ddylunio a darparu ystod eang o brosiectau sy’n gysylltiedig ag adeiladau ar draws ystadau ysgol ac adeiladau corfforaethol y Cyngor. Mae'r Tîm yn mabwysiadu dull aml-ddisgyblaeth er mwyn sicrhau bod ystod eang o amcanion polisi'r Cyngor yn cael eu hystyried yn llawn. I’r perwyl hwn, mae nodau cynaliadwyedd, ynni, iechyd a diogelwch, gwastraff a lleihau carbon y Cyngor, ochr yn ochr â’i amcanion cynhwysiant, buddiannau cymunedol, llesiant a hygyrchedd, i gyd yn cael eu hystyried a’u cymhwyso i gyflawni prosiectau ar amser, o fewn eu cyllideb ac i’r ansawdd gofynnol.

**Am Y Swydd**
Prif bwrpas y rôl yw sicrhau yr ymgymerir â gwasanaethau mesur meintiau effeithiol a chwblhau gwasanaethau mesur meintiol proffesiynol i gynorthwyo'n rhagweithiol gyda gwasanaethau dichonoldeb technegol, gwasanaethau asesu a dylunio, a chynorthwyo’n rhagweithiol gyda’r gwaith o gyflawni ystod o brosiectau cysylltiedig ag adeiladu i safon gyson uchel yn unol â gofynion cwsmeriaid.

Bydd deiliad y swydd yn arwain tîm o syrfëwyr meintiol mewnol i gyflawni'r canlyniadau gofynnol, a hefyd lle bo angen yn sgil rhesymau capasiti neu dechnegol, arwain ar gomisiynu allanol gwasanaethau proffesiynol a gwaith adeiladu gan sefydliadau allanol.

Mae'r Cyngor yn cynnig pecyn buddion hael gan gynnwys:

- 27 diwrnod o wyliau blynyddol, gan godi i 32 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth;
- pensiwn cyfrannol hael;
- cynllun ildio cyflog CGY (drwy bartneriaeth ag AVC Wise);
- mynediad am bris gostyngol i rai o Ganolfannau Hamdden y Cyngor;
- tocynnau bws blynyddol am bris gostyngol;
- cefnogaeth ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus ac
- amrywiaeth o rwydweithiau cymorth staff

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Rydym yn chwilio am Reolwr Gwasanaeth Mesur Meintiau (Siartredig neu gyfatebol) gyda phrofiad da o reoli timau peirianneg â chyfrifoldeb dros ddarparu gwasanaethau proffesiynol mewn perthynas â phrosiectau'n gysylltiedig ag adeiladu mewn amryw fathau o adeiladau gan gynnwys ysgolion.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y canlynol hefyd:

- gwybodaeth dda am ganllawiau, safonau, dulliau mesur, ac ati, sy’n berthnasol i waith adeiladu a rheoli gwaith adeiladu;
- gwybodaeth dda am wasanaethau proffesiynol a chontractau adeiladu a'u gweithredu;
- Profiad ymarferol yn prosesu taliadau contract a hawliadau contract;
- sgiliau cyfathrebu da, yn ysgrifenedig ac ar lafar, a
- sgiliau trefnu personol da a’r gallu i reoli llwyth gwaith amrywiol a heriol mewn amgylchedd sy’n newid yn gyson.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Am drafodaeth anffurfiol a rhagor o wybodaeth am y rôl hon, cysylltwch â:
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Mae’r swydd yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: ECO00385



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Oherwydd ail-strwythuro gwasanaeth mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn y Tîm Dylunio, Adeiladu a Chynnal a Chadw (DAChC) newydd ar gyfer Rheolwr Gwasanaeth Mesur Meintiau cymwys i arwain, rheoli a datblygu tîm o syrfëwr meintiol. Mae'r Tîm newydd ei sefydlu yn gyfrifol am ddylunio a chyflawni amrywiaeth eang o brosiectau sy’n...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Bydd y rôl hon yn cael Taliad Atodol ar Sail y Farchnad o £3,000 (cyfwerth ag amser llawn) a adolygir yn flynyddol.** Mae cyfle cyffrous wedi codi i reolwr tîm sydd â chymwysterau addas weithio o fewn Gwasanaethau Oedolion Caerdydd. Mae dwy rôl Rheolwr Tîm ar gael yn y Gwasanaeth Cyswllt ac Asesu sy'n gweithio gyda phobl dros...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous a heriol wedi codi i unigolyn brwdfrydig, ymroddgar ag agwedd gadarnhaol i ymuno â’r Tîm Rheoli o fewn Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd. **Am Y Swydd** Bydd y swydd yn ymuno â'r Tîm Rheolwr ar Ddyletswydd presennol sy'n chwarae rhan lawn wrth ddarparu gweithgareddau dŵr, uchder ac wedi'u seilio ar y tir yn...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Bydd y Rheolwr Cynllun Byw yn y Gymuned yn gyfrifol am ddarparu goruchwyliaeth effeithiol ac effeithlon o'r Bobl Hŷn. **Am Y Swydd** - Yn gyfrifol am redeg yr HYB Pobl Hŷn yn effeithlon ac yn effeithiol drwy Gynlluniau Byw yn y Gymuned. Sicrhau bod cysylltiadau effeithiol yn cael eu datblygu a'u cynnal ag asiantaethau a sefydliadau...

  • Rheolwr Cydymffurfio

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn un o'r dinasoedd sy'n tyfu gyflymaf yn y DU. Mae economi’r ddinas yn tyfu, mae swyddi a busnesau yn cael eu creu ac mae disgwyl i boblogaeth y ddinas barhau i dyfu. Mae'r Gyfarwyddiaeth Tai a Chymunedau yng Nghyngor Caerdydd yn chwarae rhan bwysig ym mywiogrwydd y ddinas ac mae’n ymrwymedig i'r cymunedau y mae'n eu...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid (GCI) Caerdydd yn bartneriaeth amlasiantaethol sydd ar flaen y gad o ran datblygu ymyriadau arloesol i blant a phobl ifanc 10-17 oed sydd wedi troseddu neu mewn perygl o droseddu. **Am Y Swydd** Rydym yn chwilio am rywun i lenwi’r swydd ganlynol yn y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid (GCI) - Swyddog...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymrwymedig ymuno â’n tîm deinamig. **Am Y Swydd** Gan weithio o fewn Is-adran Strategaeth Tai a Gwella Gwasanaethau yr adran Tai a Chymunedau, bydd y swydd Datblygu a Gwella Gwasanaeth yn gyfrifol am ddatblygu ac adolygu gweithdrefnau yn ymwneud â phob agwedd ar Dai, creu canllawiau llif...

  • Rheolwr Tim

    7 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ar hyn o bryd mae'r rôl hon yn denu taliad atodol ar sail y farchnad o £3,000 (pro-rata), a adolygir yn flynyddol. Bydd lwfans Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy o £2800 (pro rata) hefyd yn cael ei dalu os yw'r meini prawf cywir yn cael eu bodloni. Mae cyfleoedd cyffrous wedi codi ar gyfer Rheolwyr Tîm â chymwysterau...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Dydd Caerdydd yn Wasanaeth Dydd arbenigol sy’n cynnig cymorth i oedolion ag anableddau dysgu sydd ag anghenion cymorth cymhleth. Caiff pobl eu cynorthwyo gan y gwasanaeth i fanteisio ar amrywiaeth eang o weithgareddau a chyfleoedd gwerthfawr yn y gymuned leol â’r nod o gyflawni’r canlyniadau a nodwyd. **Am Y...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn sefydliad llywodraeth leol sy’n gyfrifol am ddarparu dros 700 o wahanol wasanaethau i’n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled Caerdydd. Mae Tîm ystadegau Gwasanaethau Cwsmeriaid a Digidol y Cyngor yn cynnig cyfle i ymuno â nhw fel Rheolwr Gweithredu a Chyflenwi gyda’r Gwasanaethau Cwsmeriaid. Mae'r Tîm...

  • Rheolwr Tîm Ardal

    7 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r swydd ar agor i'r rhai sy'n ceisio dychwelyd i Gaerdydd i weithio a'r rhai sydd am weithio i Gaerdydd am y tro cyntaf. Mae ymdeimlad o gyffro o fewn gweithlu'r Gwasanaethau Plant wrth i Gaerdydd symud drwy ei thaith newid gydag arweinyddiaeth gref gan dîm rheoli ymroddedig. Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru ac yn un...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Llety a Reolir yn rhan o'r Adran Tai Arbenigol ac yn darparu llety fforddiadwy hirdymor o ansawdd uchel i'r rheiny sydd wedi wynebu neu brofi digartrefedd. Trwy gyfrwng nifer o leoliadau ledled Caerdydd, mae’r rheolwyr safle yn darparu’r canlynol: - Gwasanaeth rheoli tai pwrpasol - Gwasanaeth atgyweirio a...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i Therapydd Galwedigaethol yn y Gwasanaethau 18.5hrs Byw'n Annibynnol. **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am gynnal asesiadau o angen a chytuno ar ganlyniadau gyda defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr. Mae ymyriadau yn debygol o gynnwys darparu cyfarpar a chyflawni addasiadau mawr. Bydd...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae gan Dîm Comisiynu Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Caerdydd rôl allweddol o ran prynu gwasanaethau a rheoli a monitro'n gyffredinol y gwasanaethau hyn i gefnogi oedolion a phlant sy'n agored i niwed, ar draws y swyddogaeth Gwasanaethau Cymdeithasol. Ar hyn o bryd mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn prynu tua £140 miliwn o...

  • Rheolwr Cofrestredig

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous yng Ngwasanaethau Plant Cyngor Caerdydd, ac rydym yn recriwtio rheolwr ar gyfer ein tri Chartref newydd i Blant dan Asesiad, a fydd yn gweithio gyda rhai o'n plant a'n pobl ifanc mwyaf agored i niwed. Bydd y tri chartref yn dal cyfanswm o bedwar person ifanc ac yn cael eu cefnogi'n llawn gan dimau aml-broffesiynol. Mae...

  • Rheolwr Arlwyo Ardal

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Arlwyo Addysg Caerdydd yn darparu gwasanaeth i oddeutu 120 o ysgolion uwchradd, cynradd ac arbennig yng Nghaerdydd gyda 500 o aelodau o staff yn coginio tua 4 miliwn o brydau bwyd y flwyddyn gan gynnig brecwast, cinio a dietau therapiwtig i ddisgyblion, gwasanaethau gwerthu ac arlwyo ar gyfer cyfarfodydd busnes **Am Y Swydd** Mae'n...

  • Cydlynydd Cynghori

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig sydd â sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol, gwybodaeth Budd-daliadau Lles o safon uchel, profiad rheoli cryf a safon uchel o gyfathrebu i gefnogi gwaith o ddydd i ddydd y Tîm Cyswllt Lles, rhan o’r Gwasanaethau Cynghori. Bydd y cydlynydd yn gweithio ochr yn ochr â'r Cydlynydd...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **About The Service** Deiliad y swydd fydd yn bennaf gyfrifol am reoli o ddydd i ddydd a monitro perfformiad effeithiol y tîm ymweliadau Ymgynghorwyr Helpu Teuluoedd. Bydd yn arwain, datblygu, cefnogi a chyfathrebu â grŵp staff o faint sylweddol sy'n gweithio'n agos gyda rheolwr Porth Teuluoedd a’r Gwasanaethau Cymorth Cynnar i barhau i ddatblygu'r...

  • Rheolwr Datblygu

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â thîm Datblygu Tai’r Cyngor i helpu i lywio’r gwaith o ddarparu tai fforddiadwy ar draws y ddinas. Oherwydd maint ein rhaglen ddatblygu, rydym yn recriwtio Rheolwr Datblygu i helpu i reoli'r rhaglen ddatblygu cyn contract, gan lywio ein prosiectau adeiladu o’r newydd o’r cam dylunio cychwynnol...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig gyda sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol i ymuno â thîm Hyb Rhydypennau/Penylan. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rheoli a chydlynu gwasanaeth wyneb yn wyneb proffesiynol, gan gynnwys darpariaeth llyfrgell lawn a chynllunio digwyddiadau. **Am Y Swydd** Mae'r gwasanaethau a...