Cydlynydd Ymyrraeth Ddwys

2 months ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Caerdydd

Cydlynydd Ymyrraeth Ddwys

Mae Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid (GCI) Caerdydd yn bartneriaeth amlasiantaethol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc 10-17 oed; eu teuluoedd; a dioddefwyr eu hymddygiad er mwyn lleihau'r risg o droseddu ac aildroseddu, diogelu'r cyhoedd ac atgyweirio niwed.

Wrth i ni barhau ar ein taith lwyddiannus i wella, mae swydd wag wedi codi i fod yn rhan o'r tîm staff sy'n helpu i arwain ar greu a gweithredu rhaglenni ymyrraeth ar draws y gwasanaeth

**Am Y Swydd**
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cydlynu'r gwaith o gynllunio a darparu ymyriadau a gweithgareddau effeithiol gan gynnwys ymyriadau Goruchwylio ac Arolygu Dwys (GAD), sy'n anelu at atal troseddu ac aildroseddu mewn plant a phobl ifanc.

Bydd gennych gyfrifoldeb goruchwylio dros weithwyr ymyrraeth a fydd yn gallu ymateb yn gyflym a chefnogi pobl ifanc sydd â'r angen mwyaf am gymorth ychwanegol a dwys. Bydd hyn yn unol â deddfwriaeth, safonau cenedlaethol a lleol a chanllawiau arfer sy’n seiliedig ar egwyddorion arfer effeithiol a rheoli risg, gan gynnwys gorfodi gorchmynion.

Byddwch yn gweithio fel aelod o wasanaeth amlddisgyblaethol, gan wneud y defnydd gorau o’r adnoddau hyn o fewn y gwasanaeth a’r gymuned ehangach, lleihau ffactorau risg ym mywydau plant a phobl ifanc sy’n troseddu a hyrwyddo ffactorau sy’n debygol o’u hamddiffyn rhag troseddu.

Ein nod yw bod yn wasanaeth ymatebol sy'n seiliedig ar gryfderau sy'n gweithio mewn partneriaeth â phlant a phobl ifanc, eu teuluoedd, dioddefwyr a phartneriaid ar draws yr Awdurdod Lleol i ddarparu'r cymorth, yr her a'r cyfleoedd twf gorau i bobl ifanc yn ein gwasanaeth

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus gymwysterau addas i Safon Uwch neu gyfwerth neu ddangos y gallu i weithio ar y lefel hon.

Rydym yn disgwyl dealltwriaeth a brofwyd o’r system cyfiawnder troseddol o ran sut mae'n effeithio ar blant a phobl ifanc (10-17 oed) sy'n troseddu a/neu yn ymddwyn yn wrthgymdeithasol, yn ogystal â dealltwriaeth ymarferol o ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac ymagwedd adferol.

Byddai profiad a brofwyd o oruchwylio o fewn Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid neu faes cysylltiedig yn agos yn ddymunol iawn, er nid yn hanfodol.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Am drafodaeth anffurfiol am y swydd cysylltwch ag Esyllt Richards neu Marie Sweeney - ar 02922 330355.

Mae’r swydd hon yn amodol ar Wiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cynorthwyo plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Maent yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi yn ethos cyffredinol y Cyngor a’r holl ysgolion.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO03010



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Bryn y Deryn yn Uned Cyfeirio Disgyblion (UCD) CA4 ar gyfer 90 o ddisgyblion sydd ag anawsterau ymddygiadol, emosiynol a chymdeithasol ac iechyd meddwl. Rydym ni’n ceisio penodi i rôl Arbenigwr Ymyriadau/ Uwch Gynorthwy-ydd Addysgu **Am Y Swydd** Gweithio dan gyfarwyddwyd y staff addysgu/Cydlynydd ADY/uwch aelodau o staff, o fewn...