Gweithiwr Cymorth I Deuluoedd

4 weeks ago

Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae Caerdydd yn brifddinas fywiog, amrywiol a chyffrous i bawb. Nid nepell o lan y môr, y cymoedd a’r mynyddoedd, siopa penigamp a bywyd nos neu leoliadau pentrefol llonydd.

Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â Chaerdydd, sy’n Awdurdod ar daith weithredu drwy ddefnyddio’r dull Arwyddion Diogelwch i ganolbwyntio ar gynorthwyo ein plant. Rydym yn credu y dylai plant, pobl ifanc a’u teuluoedd gael y math cywir o gymorth ar yr adeg y mae arnynt ei angen.

**Am Y Swydd**
Dewch i ymuno â ni i fod yn rhan o dîm newydd ei sefydlu sy’n canolbwyntio ar gymorth cynnar ac atal. Mae’r Tîm Cefnogaeth i Deuluoedd yn hanfodol o ran helpu teuluoedd i gael y cymorth cywir ar yr adeg gywir. Dyna pam rydym yn datblygu ein gwasanaethau atal ac ymyrryd yn gynnar i sicrhau y gall teuluoedd ddefnyddio ystod o wasanaethau a chymorth ar wahanol lefelau i osgoi’r angen am ymyrraeth gwaith cymdeithasol statudol.

Gan weithio yn y Gwasanaethau Cymorth i Deuluoedd, byddwch yn cynnig cymorth trwy’r isadran, yn gweithio ar y cyd a chydweithwyr a’r holl bartneriaid ac yn rhoi cymorth ymarferol sy’n galluogi dull person canolog o gynllunio a pharatoi at bontio.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd gennych brofiad o weithio gyda phlant a phobl ifanc, profiad o weithio gyda gweithwyr proffesiynol aml-asiantaeth, sgiliau asesu a chynllunio ac agwedd hyblyg wrth i’r gwasanaeth ddatblygu. Byddai’n fantais deall deddfwriaeth berthnasol am blant, gan gynnwys trosolwg o’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant ac ychydig o wybodaeth am Arwyddion Diogelwch.

Byddwch yn gallu asesu anghenion unigolion ar sail risg, trwy ddefnyddio systemau i gofnodi gwybodaeth a chynnig cynlluniau gofal. Byddwch yn gyfrifol am adolygu ansawdd gofal a sefydlu cynlluniau sy’n canolbwyntio ar y person ac sy’n galluogi. Dylech fod yn barod i ddilyn hyfforddiant priodol i’ch cefnogi yn eich rôl a gallu gweithio mewn tîm.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
I gael sgwrs anffurfiol ynglŷn â’r swydd hon, cysylltwch â Luke Harrison drwy ffonio: 029 20873830

Mae’r swyddi yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn brif flaenoriaethau i’r Cyngor. Ein nod yw cynorthwyo plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Maent yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi yn ethos cyffredinol y Cyngor a’r holl ysgolion.

Mae’r swyddi hyn yn addas i’w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg a Saesneg. Ni chaiff ceisiadau a dderbynnir yn Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO03063

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn brifddinas fywiog, amrywiol a chyffrous i bawb. Nid nepell o lan y môr, y cymoedd a’r mynyddoedd, siopa penigamp a bywyd nos neu leoliadau pentrefol llonydd. Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â Chaerdydd, sy’n Awdurdod ar daith weithredu drwy ddefnyddio’r dull Arwyddion Diogelwch i ganolbwyntio ar gynorthwyo ein...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnig ystod o ddarpariaethau ar gyfer pobl ifanc 11 i 25 oed ac mae’n cynnwys tîm o weithwyr ieuenctid proffesiynol ymroddgar sy’n gweithredu ledled y ddinas. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys canolfannau ieuenctid, darpariaethau arbenigol, timau mentora ieuenctid a gwaith ieuenctid stryd ac mae pob...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn aml ar frig rhestrau o ddinasoedd gorau'r DU i fyw ynddynt, felly ymunwch â ni i weld beth y gallwn ei gynnig. - Gwyliau blynyddol hael yn dechrau ar 28 diwrnod y flwyddyn i uchafswm o 33 diwrnod y flwyddyn ar ôl 5 mlynedd gydag opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol o hyd at 10 diwrnod. - Mae ein diwylliant...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru, gan gynnig cyfle i weithwyr cymdeithasol weithio gyda phoblogaeth hynod amrywiol gydag amrywiaeth o anghenion gofal a chymorth. Fel yr awdurdod lleol mwyaf yng Nghymru rydym yn cefnogi bron i 5000 o unigolion i fyw'n dda, gan gynnig strwythur cymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn iddynt i...

  • Gweithiwr Cymorth

    2 days ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle wedi codi i ymuno â'r Tîm Byw â Chymorth Caerdydd. Rydym yn chwilio am weithwyr cymorth i roi cymorth i unigolion ag anabledd dysgu. Rydym yn ymrwymedig i gynnig gwasanaeth o safon uchel sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae gweithio yn y Gwasanaethau Oedolion yn cynnig gwaith prysur a diddorol y byddech yn ei ddisgwyl mewn...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru, gan gynnig cyfle i weithwyr cymdeithasol weithio gyda phoblogaeth hynod amrywiol gydag amrywiaeth o anghenion gofal a chymorth. Fel yr awdurdod lleol mwyaf yng Nghymru rydym yn cefnogi bron i 5000 o unigolion i fyw'n dda, gan gynnig strwythur cymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn iddynt i...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru, gan gynnig cyfle i weithwyr cymdeithasol weithio gyda phoblogaeth hynod amrywiol gydag amrywiaeth o anghenion gofal a chymorth. Fel yr awdurdod lleol mwyaf yng Nghymru rydym yn cefnogi bron i 5000 o unigolion i fyw'n dda, gan gynnig strwythur cymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn iddynt i...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Dydd Caerdydd yn Wasanaeth Dydd arbenigol sy’n cynnig cymorth i oedolion ag anableddau dysgu sydd ag anghenion cymorth cymhleth. Caiff pobl eu cynorthwyo gan y gwasanaeth i fanteisio ar amrywiaeth eang o weithgareddau a chyfleoedd gwerthfawr yn y gymuned leol â’r nod o gyflawni’r canlyniadau a nodwyd. **Am Y...

    **Am Y Gwasanaeth** Ydych chi'n Fyfyriwr Gwaith Cymdeithasol yn eich blwyddyn olaf yn y brifysgol? Mae gwasanaethau Plant Cyngor Caerdydd yn cynnig cyfle unigryw i sicrhau swydd Gweithiwr Cymdeithasol parhaol yn barod ar gyfer pan fyddwch yn cymhwyso y flwyddyn nesaf. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw cyflwyno cais; byddwn yn gwarantu cyfweliad i chi yn...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn recriwtio ar gyfer rôl newydd gyffrous yn ein Tîm y Tu Allan i Oriau newydd. **Y buddion a gynigir** Mae Caerdydd yn aml ar frig rhestrau o ddinasoedd gorau'r DU i fyw ynddynt, felly ymunwch â ni i weld beth y gallwn ei gynnig. - Gwyliau blynyddol hael yn dechrau ar 27 diwrnod y flwyddyn i uchafswm o 32 diwrnod...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r gwasanaeth Niwroamrywiaeth yn wasanaeth newydd sy'n datblygu ac yn rhan o Wasanaethau Cymdeithasol Oedolion. Byddwn yn gweithio gydag oedolion sydd â diagnosis o niwroamrywiaeth gan gynnwys Awtistiaeth, Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd a Syndrom Tourette’s sydd ag anghenion gofal a chymorth. Mae'r tîm yn...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Fel Cyfarwyddiaeth, rydym yn cydnabod bod gweithwyr cymdeithasol yn weithwyr proffesiynol medrus sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a materol i fywydau pobl bob dydd. Rydym am ddatblygu ein gwasanaethau a chryfhau ein dull o ymdrin ag arferion gwaith cymdeithasol yng Nghaerdydd. Mae Tîm Gwaith Cymdeithasol Canol y Ddinas yn rhan o...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Bydd y rôl hon yn cael Taliad Atodol ar Sail y Farchnad o £3,000 (cyfwerth ag amser llawn) a adolygir yn flynyddol.** Mae'r gwasanaeth Niwroamrywiaeth yn wasanaeth newydd sy'n datblygu ac yn rhan o’r Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion. Byddwn yn gweithio gydag oedolion sydd wedi cael diagnosis o niwroamrywiaeth gan gynnwys...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r swydd hon yn cynnwys atodiad marchnad gwerth £3,000 yn ychwanegol at y cyflog rhestredig. Mae'r gwasanaeth Niwroamrywiaeth yn wasanaeth newydd sy'n datblygu ac yn rhan o Wasanaethau Cymdeithasol Oedolion. Byddwn yn gweithio gydag oedolion sydd â diagnosis o niwroamrywiaeth gan gynnwys Awtistiaeth, Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru ac yn ddinas sy'n tyfu gyda phoblogaeth amrywiol. Mae plant Caerdydd angen gweithwyr cymdeithasol sy'n gallu ymateb i'r amrywiaeth o anghenion a phrofiadau sydd yn ei dro yn rhoi cyfle i weithwyr cymdeithasol ddatblygu arbenigedd ac i arwain ymarfer yng Nghymru. Mae Caerdydd yn cynnig y...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous ar gael yn ein lleoliad Gofal Plant Dechrau'n Deg, i weithio dan ddarpariaethau gofal plant Cyngor Caerdydd. Rydym yn chwilio am dau Gynorthwyydd Chwarae i ymuno â'n tîm yn Twinkle Stars. Mae lleoliad gofal plant Dechrau'n Deg, Twinkle Stars, yn gwasanaethu cymunedau’r Sblot, Tremorfa, Adamsdown a'r Rhath. Rydym yn...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **About The Service** Deiliad y swydd fydd yn bennaf gyfrifol am reoli o ddydd i ddydd a monitro perfformiad effeithiol y tîm ymweliadau Ymgynghorwyr Helpu Teuluoedd. Bydd yn arwain, datblygu, cefnogi a chyfathrebu â grŵp staff o faint sylweddol sy'n gweithio'n agos gyda rheolwr Porth Teuluoedd a’r Gwasanaethau Cymorth Cynnar i barhau i ddatblygu'r...

  • Cydlynydd Achosion

    4 weeks ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Llety â Chymorth Cyngor Caerdydd yn cynnig llety, cyngor a chymorth i unigolion a theuluoedd agored i niwed sydd angen tai. Mae ein gwasanaethau ar gael 24/7 365 diwrnod y flwyddyn. **Am Y Swydd** Swydd dros dro yw hon i gyflenwi dros gyfnod mamolaeth tan 23.8.2024. Mae'r tîm Llety â Chymorth i deuluoedd wedi'i leoli...