Cydlynydd Achosion

1 month ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae Gwasanaeth Llety â Chymorth Cyngor Caerdydd yn cynnig llety, cyngor a chymorth i unigolion a theuluoedd agored i niwed sydd angen tai.

Mae ein gwasanaethau ar gael 24/7 365 diwrnod y flwyddyn.

**Am Y Swydd**
Swydd dros dro yw hon i gyflenwi dros gyfnod mamolaeth tan 23.8.2024.

Mae'r tîm Llety â Chymorth i deuluoedd wedi'i leoli mewn 4 ardal leol yn y ddinas sef Trelái, Gabalfa, Grangetown a Butetown a bydd datblygiadau eraill yn agor y flwyddyn nesaf.

Mae’r rôl yn cynnwys darparu gwasanaeth cymorth pendant sy’n seiliedig ar drawma i gleientiaid a'u teuluoedd mewn llety dros dro, gan arwain y cleientiaid tuag at sicrhau a chynnal llety hirdymor, diogel a phriodol.

Fel Cydlynydd Achosion, byddwch yn gyfrifol am reoli eich llwyth achosion eich hun, am gefnogi cleientiaid i nodi’r gwasanaethau sydd fwyaf addas i’w hanghenion nhw a rhai eu teuluoedd ac am gefnogi cleientiaid i ymgysylltu â’r gwasanaethau hynny

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Rydym yn chwilio am unigolion dynamig a chreadigol a all feithrin perthnasoedd cadarnhaol.

Mae hwn yn gyfle cyffrous ac rydym yn chwilio am amrywiaeth o bobl o gefndiroedd gwaith gwahanol i wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Byddai profiad o weithio gyda phobl ag ymddygiadau cymhleth a dealltwriaeth o’r problemau a wynebir gan unigolion a/neu deuluoedd digartref yn fanteisiol.

Bydd gennych brofiad o weithio gyda chwsmeriaid wyneb yn wyneb a gwybodaeth ymarferol dda am gynllunio cymorth a diogelu.

Bydd gennych sgiliau cyfathrebu, gweinyddu a TG da a byddwch yn gallu datrys cwynion gan

gwsmeriaid mewn modd cadarnhaol ac adeiladol.

Byddai’r gallu i siarad iaith gymunedol o fantais.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO03100


  • Hyfforddwr Dyfodol

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **Swydd Wag Fewnol / Allanol** **Cyf**:11907** **Teitl y Swydd**:Hyfforddwr Dyfodol** **Nifer y swyddi: 2** **Contract: Llawn Amser 1.0 cyfwerth â llawn amser - Tymor Penodol tan Gorffennaf 2023** **Oriau: 37** **Cyflog: £25,565 - £27,747 pro rata** Rydym yn chwilio am aelod o staff profiadol a brwdfrydig i ymuno â’r Tîm Gwasanaethau Myfyrwyr....