Pennaeth Arloesi a Datblygu Clwstwr

2 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae Bargen Ddinesig gwerth £1.3 biliwn Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn torri tir newydd ymysg rhanbarthau’r Deyrnas Unedig o ran hyrwyddo clystyrau diwydiannol blaenoriaethol sy’n cyflawni ar uchelgais ac sydd o safon orau’r byd.

Rydym wedi cyflawni llawer yn barod mewn Technoleg Ariannol, Technoleg Feddygol, Seiberddiogelwch, Lled-ddargludyddion Cyfansawdd a Diwydiannau Creadigol: dan arweiniad arloesi, tyfu grwpiau o fusnesau a sefydliadau ymchwil sy’n gweithio’n gydweithredol ac yn llwyddiannus, gan harneisio nerth a dyfeisgarwch entrepreneuriaid, y byd academaidd a’r sector cyhoeddus - gan gyflawni amcanion ‘twf da’ ar y cyd yn y ffordd fwyaf cynaliadwy i drawsnewid bywyd mewn Rhanbarth sy’n gartref i 50% o economi a phoblogaeth Cymru.

Awn o nerth i nerth ac mae’r gorau eto i ddod. Y cwestiwn yw, ai chi yw’r arweinydd ysbrydoledig a’r hyrwyddwr clystyrau i ddarparu’r cyfeiriad strategol - a momentwm mewn cyflenwi - sy’n mynd â ni i’r lefel nesaf: creu’r strategaeth, a chyflenwi ‘y cynllun’ ar gyfer pob un clwstwr, ym mhob sector?

**Am Y Swydd**
A fyddech yn arwain y ffordd mewn gwireddu potensial anhygoel ecosystemau sy’n ailysgrifennu’r dyfodol, ar gyfer rhanbarth sy’n cwmpasu’r deg awdurdod lleol, sef Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerdydd, Caerffili, Casnewydd, Merthyr, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Sir Fynwy, a Thorfaen?

Ai chi a allai fod yn weledydd, yn sbardunwr, yn gysylltwr, yn arbenigwr pwnc ac yn rheolwr rhanddeiliaid - yn ogystal â bod yn aelod gwerthfawr o dîm gweithredol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd sy’n ymrwymedig i gynyddu Gwerth Ychwanegol Gros ein Rhanbarth drwy ddarparu 25,000 o swyddi newydd sydd angen medrau cywrain, a throsoli £4 biliwn mewn buddsoddiad preifat?

A allwch weld y posibiliadau anhygoel a gwireddu’u potensial - harneisio cryfderau arloesi Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i greu ecosystemau ar raddfa ddiwydiannol lle mae ymchwil, syniadau a doniau’n cyd-daro, gan ddarparu’r clystyrau sy’n rhan mor allweddol o’n strategaeth ddiwydiannol?

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Os oes gennych ddealltwriaeth draws-sector hynod ddatblygedig o’r dirwedd ymchwil, sylfaen sgiliau, cwmnïau allweddol a chyfryngau ariannu/buddsoddi ein Rhanbarth - a’r gallu pendant i lunio a gweithredu ymagwedd o ddatblygu clystyrau, arloesi a herio sy’n tyfu’n heconomi gwybodaeth, sy’n denu mewnfuddsoddiad, sy’n crychdonni i fod yn gadwyni cyflenwadau, ac sy’n darparu canlyniadau mesuradwy.

Dowch â’r rhinweddau a’r priodoleddau hyn i ni, ac fe gynigiwn y rhyddid a’r gefnogaeth i chi y mae arnoch eu hangen i gyflawni’r weledigaeth - a phob cyfle i ddatblygu’ch rôl a’ch gyrfa eich hun mewn sefydliad unigryw sy’n hollol ymrwymedig i’w bobl - gan fwynhau gweithio hyblyg a gwobrau ardderchog, gyda thîm sydd wedi’i leoli yn Sbarc, amgylchedd sydd ymysg y gorau yn y byd a’r cyntaf yn y byd, yng Nghaerdydd.

Mae’r rôl yn addas ar gyfer rhannu swydd, a chroesawn geisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg, fel ei gilydd. Ni fydd ceisiadau a dderbynnir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau yn Saesneg.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: RES00997



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **Swydd Wag Fewnol / Allanol** **Teitl y Swydd**:Pennaeth Cynorthwyol Datblygu Cwricwlwm Technoleg** **Contract**:Llawn Amser, Parhaol** **Cyflog**:O £81,000 (Yn ddibynnol ar brofiad)** **Oriau**: 37 awr yr wythnos** **Lleoliad**:Ar draws y Coleg** Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn awyddus i benodi Pennaeth Cynorthwyol i arwain y gwaith o ddatblygu a...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **About The Service** Mae ein Tîm Academi Caerdydd yn awyddus i gyflogi **Hyfforddwr Dysgu a Datblygu** a fydd yn gweithio mewn modd hybrid, gyda lleoliad gwaith yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd, CF10 3ND, tra hefyd yn gweithio gartref am gyfran o'i amser. Mae Academi Caerdydd yn rhan o'n Gwasanaeth Adnoddau Dynol, yn cynnig cyfleoedd hyfforddiant i weithwyr y...


  • Cardiff, United Kingdom Arts Council Of Wales Full time

    Pennaeth Cyfathrebu Llawn amser, 37 awr yr wythnos ParhaolGradd E: Cyflog cychwynnol o £53,606 Lleoliad : Gellir lleoli'r rôl hon yn unrhyw un o swyddfeydd Cyngor Celfyddydau Cymru ym Mae Caerdydd, Caerfyrddin neu Bae Colwyn. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio mewn ffordd hybrid. Mae ein buddion yn cynnwys 30 diwrnod o wyliau blynyddol, 2.5 diwrnod...


  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Arts Council Of Wales Full time

    Pennaeth Cyfathrebu Llawn amser, 37 awr yr wythnosParhaolGradd E:Cyflog cychwynnol o £53,606Lleoliad: Gellir lleoli'r rôl hon yn unrhyw un o swyddfeydd Cyngor Celfyddydau Cymru ym Mae Caerdydd, Caerfyrddin neu Bae Colwyn. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio mewn ffordd hybrid. Mae ein buddion yn cynnwys 30 diwrnod o wyliau blynyddol, 2.5 diwrnod braint,...


  • Cardiff, United Kingdom Arts Council Of Wales Full time

    Pennaeth Cyfathrebu Llawn amser, 37 awr yr wythnos ParhaolGradd E: Cyflog cychwynnol o £53,606 Lleoliad : Gellir lleoli'r rôl hon yn unrhyw un o swyddfeydd Cyngor Celfyddydau Cymru ym Mae Caerdydd, Caerfyrddin neu Bae Colwyn. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio mewn ffordd hybrid. Mae ein buddion yn cynnwys 30 diwrnod o wyliau blynyddol, 2.5...


  • Cardiff, United Kingdom Arts Council Of Wales Full time

    Pennaeth Cyfathrebu Llawn amser, 37 awr yr wythnosParhaolGradd E:Cyflog cychwynnol o £53,606Lleoliad: Gellir lleoli'r rôl hon yn unrhyw un o swyddfeydd Cyngor Celfyddydau Cymru ym Mae Caerdydd, Caerfyrddin neu Bae Colwyn. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio mewn ffordd hybrid. Mae ein buddion yn cynnwys 30 diwrnod o wyliau blynyddol, 2.5 diwrnod braint,...

  • Rheolwr Tîm Ardal

    13 hours ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r swydd ar agor i'r rhai sy'n ceisio dychwelyd i Gaerdydd i weithio a'r rhai sydd am weithio i Gaerdydd am y tro cyntaf. Mae ymdeimlad o gyffro o fewn gweithlu'r Gwasanaethau Plant wrth i Gaerdydd symud drwy ei thaith newid gydag arweinyddiaeth gref gan dîm rheoli ymroddedig. Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru ac yn un...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig â sgiliau gofal cwsmeriaid ardderchog ymuno â'n Tîm Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn rhan o'n Prosiect Lluosi, sy'n rhan o'r Tîm Llwybr i Mewn i Waith. Nod Prosiect Lluosi yw cefnogi dinasyddion anodd eu cyrraedd i uwchsgilio, gan ganolbwyntio ar...

  • Cydlynydd Ymgysylltu

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith yn rhoi cymorth i bobl ledled y ddinas sydd wrthi'n chwilio am waith neu'n ceisio gwella'u sgiliau; mae'r tîm yn gallu cynnig cymorth a mentora dwys drwy brosiect a ariennir yn allanol, cyfleoedd gwirfoddoli a mynediad i gyrsiau digidol a hyfforddiant sgiliau gwaith am ddim. Mae'r Gwasanaeth Cyngor...

  • Rheolwr Prosiectau

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymrwymedig ymuno â’n Tîm Cyfranogiad Tenantiaid. Nod y tîm yw dod â chyfleoedd trawsnewid ac ariannu at ei gilydd a defnyddio deallusrwydd a gwybodaeth leol i gynllunio gwasanaethau i ddiwallu anghenion ein dinasyddion. Mae'r Tîm Cyflenwi Partneriaeth Tai yn rheoli amrywiaeth o Grantiau...

  • Diogelwch Cymunedol

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Bydd y rôl hon yn chwarae rhan hanfodol wrth arwain ar brosiectau diogelwch cymunedol cymhleth sy'n helpu i gefnogi ein cymunedau a gwneud iddynt deimlo'n ddiogel. Bydd cyfrifoldebau'r swydd o ddydd i ddydd yn cynnwys arwain tîm o Swyddogion Diogelwch Cymunedol i gydlynu Grwpiau Datrys Problemau. Mae'r Grwpiau Datrys Problemau yn dwyn...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Llety a Reolir yn rhan o'r Adran Tai Arbenigol ac yn darparu llety fforddiadwy hirdymor o ansawdd uchel i'r rheiny sydd wedi wynebu neu brofi digartrefedd. Trwy gyfrwng nifer o leoliadau ledled Caerdydd, mae’r rheolwyr safle yn darparu’r canlynol: - Gwasanaeth rheoli tai pwrpasol - Gwasanaeth atgyweirio a...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r adran TGCh yn rhan o Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cwsmeriaid a Digidol y Cyngor. Prif swyddogaethau’r adran yw: - darparu systemau a chymorth TG o safon uchel, a chynnal a chadw’r systemau TG, ym mhob rhan o’r sefydliad - rhoi cyngor ac arweiniad strategol i’r gwasanaethau a’u cyfarwyddiaethau - cyfrannu at y gwaith o...

  • Digital Manager

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Social Care Wales Full time

    **Rheolwr Digidol** Caerdydd neu Lanelwy (gyda gwaith hybrid) **Y cwmni** Yn Gofal Cymdeithasol Cymru, rydym yn darparu arweinyddiaeth genedlaethol ac arbenigedd mewn gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar yng Nghymru. Ein gweledigaeth yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal a chymorth i blant, oedolion a’u teuluoedd a’u gofalwyr. I wneud hyn, rydym yn...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Llety â Chymorth Cyngor Caerdydd yn cynnig llety, cyngor a chymorth i unigolion a theuluoedd sy’n agored i niwed y mae ganddynt anghenion tai. Mae ein gwasanaethau ar gael 24/7 365 diwrnod y flwyddyn. Bu'n rhaid i'n gwasanaeth wneud newidiadau mawr a bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cyfrannu at y gwaith o ehangu’r...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Fel ymdrech hirdymor, mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi’i seilio ar ddaearyddiaeth economaidd weithredol, sy’n cwmpasu deg Awdurdod Lleol De-ddwyrain Cymru, sy’n addasu’n gyson i fynd i’r afael â heriau diwydiannol, polisi cyhoeddus a chymdeithasol mawr y dydd. Mae ein Cynllun Twf Economaidd a Diwydiannol sydd newydd ei...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn Nhîm Llywodraethu Gwybodaeth y Cyngor i helpu i gyflawni arferion Llywodraethu Gwybodaeth y Cyngor a’i helpu i ddatblygu yn barod ar gyfer cam nesaf ein hymateb i ddarparu gwasanaethau i’r dinasyddion yr ydym yma i’w helpu. Dewch i ymuno â thîm sy’n tyfu a datblygu drwy weithio ochr yn ochr â...

  • Mentor Ieuenctid

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnig ystod o ddarpariaethau ar gyfer pobl ifanc 11 i 25 oed ac mae’n cynnwys tîm o weithwyr ieuenctid proffesiynol ymroddgar sy’n gweithredu ledled y ddinas. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys canolfannau ieuenctid, darpariaethau arbenigol, timau mentora ieuenctid a gwaith ieuenctid stryd ac mae pob...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â Thîm Gwasanaethau Byw'n Annibynnol (GBA) Caerdydd. Mae'r Gwasanaeth yn gweithio mewn partneriaeth ag oedolion sy'n agored i niwed i’w cefnogi i fyw’n annibynnol gartref a bod yn gysylltiedig â’u cymunedau eu hunain trwy wybodaeth, cyngor a chefnogaeth wedi'u teilwra - gan alluogi pobl i...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous yng Ngwasanaethau Plant Cyngor Caerdydd, ac rydym yn recriwtio tîm newydd o weithwyr Gofal Plant Preswyl ar gyfer ein cartref newydd i Blant dan Asesiad, yn gweithio gyda rhai o'n plant a'n pobl ifanc mwyaf agored i niwed. Mae hwn yn amser cyffrous i ymuno â gwasanaeth sy’n rhoi’r unigolyn wrth wraidd ei waith....