Pennaeth Cynorthwyol Datblygu Cwricwlwm Technoleg

2 months ago

Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

**Swydd Wag Fewnol / Allanol**

**Teitl y Swydd**:Pennaeth Cynorthwyol Datblygu Cwricwlwm Technoleg**

**Contract**:Llawn Amser, Parhaol**

**Cyflog**:O £81,000 (Yn ddibynnol ar brofiad)**

**Oriau**: 37 awr yr wythnos**

**Lleoliad**:Ar draws y Coleg**

Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn awyddus i benodi Pennaeth Cynorthwyol i arwain y gwaith o ddatblygu a gweithredu cwricwlwm technoleg arloesol yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, a fydd yn canolbwyntio’n arbennig ar ddatblygu campws Canolfan Technoleg Uwch newydd y Coleg ym Mro Morgannwg.

Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am ddylunio cwricwlwm sy’n bodloni anghenion cyflogwyr a chymunedau lleol ac sy’n sail i nod y Ganolfan Technoleg Uwch, sef paratoi dysgwyr ifanc ac oedolion sydd eisoes yn gweithio ar gyfer y byd gwaith newidiol, gan ganolbwyntio ar feysydd twf allweddol fel cyfansoddion, prototeipio cyflym, dylunio uwch, electroneg, deallusrwydd artiffisial a thechnolegau adnewyddadwy sero net.

Mae'r swydd yn cynnig cyfle rhagorol i ddatblygu ar gyfer arweinwyr yn y byd addysg sydd ag awydd mynd ymlaen i swydd ar lefel weithredol mewn sefydliad mawr, arloesol.

Anogir ceisiadau hefyd gan unigolion sy’n gweithio yn y sectorau peirianneg/technoleg ar hyn o bryd ac sy’n ystyried newid cyfeiriad i’r byd addysg a hyfforddiant.

Bydd gennych brofiad proffesiynol helaeth yn y sectorau peirianneg a/neu weithgynhyrchu uwch ac yn meddu ar wybodaeth ragorol a chefndir llwyddiannus o ddatblygu darpariaeth ac opsiynau newydd, a phrofiad o arwain prosiectau cymhleth.

Byddai'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg o fantais i’r swydd hon, ond nid yw’n hanfodol.

Yn gyfnewid am eich gwaith caled a’ch ymroddiad i’n staff a’n dysgwyr, rydym yn cynnig buddion arbennig, gan gynnwys 42 diwrnod o wyliau a gwyliau banc, cynllun pensiwn buddion diffiniedig hael, cynllun arian parod, rhaglen cymorth i weithwyr, cynllun Beicio i’r Gwaith, ap Headspace, a mynediad at dechnegau arbed arian drwy’r cynllun Porth Gwobrwyo.

Rhaid cyflwyno ceisiadau gan ddefnyddio ffurflen gais Coleg Caerdydd a'r Fro yn unig. Mae’r coleg yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn y Saesneg. Os ydym yn eich gwahodd i gyfweliad, rhowch wybod i ni os hoffech i ni gynnal y cyfweliad a’r broses asesu yn y Gymraeg.

**Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau wedi'u cwblhau yw 15/03/2024 erbyn 12pm**

Mae'r holl swyddi gwag yn destun gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac ni fydd cyflogaeth yn dechrau heb wiriad DBS cyfredol, dilys. Mae hwn yn gontract cytundebol y mae'n rhaid iddo fod ar waith cyn bod eich cyflogaeth yn dechrau. Mae gweithdrefn y Coleg ar gyfer Addasrwydd Cyn-droseddwyr ar gyfer Cyflogaeth ar gael ar gais.

Bydd eich cyflogaeth gyda Choleg Caerdydd a'r Fro hefyd yn ddibynnol ar wiriadau geirdaon addas. Cyn i chi allu dechrau eich cyflogaeth, rhaid i Goleg Caerdydd a'r Fro gael dau eirda, un gan eich cyflogwr presennol neu gyflogwr mwyaf diweddar. Byddwn yn cysylltu â’ch canolwyr ar eich penodiad.

**Mae'r rhain yn gontractau cytundebol y mae'n rhaid iddynt fod ar waith cyn y gall eich cyflogaeth ddechrau.**

Rydym yn gyflogwr sy’n rhan o’r cynllun Hyderus o ran Anabledd. Rydym hefyd yn ymrwymedig i ddatblygu gweithlu amrywiol ac mae gennym ddiddordeb arbennig mewn ceisiadau gan unigolion o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig.

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **Swydd Wag Fewnol / Allanol** **Cyf: 12341** **Teitl y Swydd: Pennaeth TEL (Dysgu wedi’i Wella gan Dechnoleg)** **Cytundeb: Cyfnod Mamolaeth tan fis Rhagfyr 2024** **Oriau: 37** **Cyflog: £54,563 y flwyddyn** Mae cyfle cyffrous wedi codi yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro ar gyfer Pennaeth Dysgu a Gyfoethogir gan Dechnoleg. Gan adrodd i’r Pennaeth...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **Swydd Wag Fewnol / Allanol** **Cyf**:AHOF2024** **Teitl y Swydd: Pennaeth Gweithrediadau** **Contract**:Llawn amser, Parhaol** **Cyflog: £37,228 - £39,434 y flwyddyn** **Oriau**:37 awr yr wythnos** **Lleoliad**:Caerdydd a'r Fro** Mae swydd wag gyffrous ar gael fel Pennaeth Cynorthwyol Gweithrediadau (Cyfleusterau a Logisteg) yn yr adran Ystadau...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Bargen Ddinesig gwerth £1.3 biliwn Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn torri tir newydd ymysg rhanbarthau’r Deyrnas Unedig o ran hyrwyddo clystyrau diwydiannol blaenoriaethol sy’n cyflawni ar uchelgais ac sydd o safon orau’r byd. Rydym wedi cyflawni llawer yn barod mewn Technoleg Ariannol, Technoleg Feddygol, Seiberddiogelwch,...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymrwymedig ymuno â’n tîm deinamig. Yn gweithio yn y Tîm Datblygu a Gwella Gwasanaeth yn yr adran Tai a Chymunedau, mae’r Swyddog Strategaeth Tai (Polisi) yn gyfrifol am ddatblygu, gweithredu a monitro Polisïau a Strategaethau Tai a Chynlluniau Gweithredu cysylltiedig **Am Y Swydd** Byddwch...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Swydd Cydlynydd Sipsiwn a Theithwyr - Y Gwasanaeth Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig a Theithwyr (EMTAS)** Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â'r Gwasanaeth Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig a Theithwyr (EMTAS). Mae’r gwasanaeth yn rhan o’r Gyfarwyddiaeth Addysg a Dysgu Gydol Oes Rydym yn chwilio am arweinydd canol profiadol,...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn y gwasanaeth Cymorth Cynnar Tai a Chymunedau ar gyfer Asesydd Datblygu’r Gweithlu. Byddwch yn gweithio fel aelod o dîm Datblygu ac Achredu’r Gweithlu sy’n meddu ar brofiad o gyflwyno rhaglenni hyfforddi a datblygu i amrywiaeth o weithwyr proffesiynol a’r teuluoedd y mae’r timau yn gweithio...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle llawn amser ar gael gyda Caerdydd ar Waith. **Am Y Swydd** Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer unigolyn ymrwymedig sydd â sgiliau trefnu a rhyngbersonol gwych i ymuno â Caerdydd ar Waith. Caerdydd ar Waith yw’r asiantaeth recriwtio fewnol ar gyfer Cyngor Caerdydd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am y gwaith o...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig gyda sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol i ymuno â thîm Powerhouse/Llanrumni. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rheoli a chydlynu gwasanaeth wyneb yn wyneb proffesiynol, gan gynnwys darpariaeth llyfrgell lawn a chynllunio digwyddiadau. **Am Y Swydd** Mae'r gwasanaethau a ddarperir...

  • Swyddog Tenantiaeth

    1 month ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymrwymedig ymuno â’n tîm Rheoli Tenantiaeth ar sail contract 2 flynedd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn bwrw ati i sicrhau bod tenantiaid a lesddeiliaid yn cydymffurfio ag amodau eu tenantiaeth neu les, yn cynnig cyngor ac arweiniad i denantiaid a lesddeiliaid ac yn rhoi camau gorfodi ar waith...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Cymorth a Llety Cynghorau Caerdydd yn darparu llety, cyngor a chefnogaeth i bobol ddiamddiffyn sengl sydd mewn tai mewn angen.** **Mae'r gwasanaeth yn rhedeg 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn.** **Ers Covid-19, mae'r gwasanaeth wedi gorfod creu llawer o newidiadau.Fydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cyfrannu tuag at yr...

  • Swyddog Tenantiaeth

    2 days ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymrwymedig ymuno â’n tîm Rheoli Tenantiaeth. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn bwrw ati i sicrhau bod tenantiaid a lesddeiliaid yn cydymffurfio ag amodau eu tenantiaeth neu les, yn cynnig cyngor ac arweiniad i denantiaid a lesddeiliaid ac yn rhoi camau gorfodi ar waith pan fo angen. **Am Y...

  • Swyddog Tenantiaeth

    4 weeks ago

  • Llysgennad Cymraeg

    1 day ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **Swydd Wag Fewnol / Allanol** **Cyf**:11998** **Teitl y Swydd**:Llysgennad Cymraeg (swydd i ddysgwyr)** **Contract: Cyfnod Penodol tan fis Mehefin 2023** **Oriau: 37** **Cyflog: £10.90 yr awr** Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer llysgennad Cymraeg yn adran Cwricwlwm i Gymru Coleg Caerdydd a'r Fro. Bydd y swydd hon wedi’i lleoli ar draws gwahanol...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **Swydd Wag Fewnol / Allanol** **Cyf: 12317** **Teitl y Swydd**:Dirprwy Bennaeth Iechyd a Gofal** **Contract**:Llawn Amser, Parhaol** **Cyflog**:£49,486 per annum** **Oriau: 37** **Lleoliad**:Traws-gampws** Mae swydd wag gyffrous ar gael fel Dirprwy Bennaeth Iechyd a Gofal yn yr adran Iechyd a Gofal yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro. Bydd y swydd hon...

  • Welsh Headings

    1 month ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith yn rhoi cymorth i bobl ledled y ddinas sydd wrthi'n chwilio am waith neu'n ceisio gwella'u sgiliau; mae'r tîm yn gallu cynnig cymorth a mentora dwys drwy brosiect a ariennir yn allanol, cyfleoedd gwirfoddoli a mynediad i gyrsiau digidol a hyfforddiant sgiliau gwaith am ddim. Mae'r Gwasanaeth Cyngor...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r adran TGCh yn rhan o Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cwsmeriaid a Digidol y Cyngor. Prif swyddogaethau’r adran yw: - darparu systemau a chymorth TG o safon uchel, a chynnal a chadw’r systemau TG, ym mhob rhan o’r sefydliad - rhoi cyngor ac arweiniad strategol i’r gwasanaethau a’u cyfarwyddiaethau - cyfrannu at y gwaith o...

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â'r gwasanaeth cynghori i mewn i waith. Mae'r gwasanaeth cynghori i mewn i waith yn cefnogi unigolion sy'n chwilio am waith neu i uwchsgilio. Mae'r tîm wedi'i wasgaru ar draws y ddinas gan gefnogi cwsmeriaid sydd angen cymorth cyflogaeth personol un i un. **Am Y Swydd** Bydd y swydd hon yn gweithio o...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn gwasanaethau Cymorth Cynnar Tai a Chymunedau ar gyfer Hyfforddwr Datblygu’r Gweithlu. Swydd dros dro i gyflenwi dros gyfnod mamolaeth yw hon, tan 31 Mawrth 2024, neu tan i ddeiliad parhaol y swydd ddychwelyd. Byddwch yn aelod o dîm Datblygu’r Gweithlu a’r Ganolfan Achrededig sefydledig sy’n...