2 X Swydd Cynllunio Myfyrwyr: Blwyddyn Academaidd

2 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**

Mae Caerdydd yn un o’r dinasoedd sy’n tyfu gyflymaf a mwyaf medrus yng Ngwledydd Prydain. Mae economi’r ddinas yn tyfu, mae swyddi a busnesau yn cael eu creu ac mae disgwyl i boblogaeth y ddinas barhau i dyfu.

Mae’r Gwasanaeth cynllunio yn cynnwys tri Thîm. Polisi Cynllunio; Rheoli Datblygu a Chreu Lle; a Rheoli Datblygu An-strategol a Gorfodaeth. Gyda’n gilydd, rydym yn chwarae rhan allweddol yn cyflawni a rheoli twf y ddinas drwy gyfrwng y gwaith canlynol:

- rhoi fframwaith polisi yn seiliedig ar gynllun ar waith - paratoi cynlluniau a chanllawiau;
- cyflawni datblygiadau newydd drwy ymagwedd o uwch-gynllunio a chreu lle;
- cynnig gwasanaeth rheoli datblygu effeithiol - i bob pwrpas yn prosesu’r nifer fwyaf o geisiadau cynllunio yng Nghymru; a
- gweithio’n barhaus i wella perfformiad ac effeithlonrwydd.

Mae canlyniadau cadarnhaol y Gwasanaeth yn cynnwys:

- creu’r cartrefi sydd eu hangen ar bobl, yn enwedig tai fforddiadwy;
- cynhychu buddsoddiad sylweddol yn y ddinas a chefnogi’r economi leol;
- cymeradwyo cynlluniau newydd sy’n creu ystod eang o swyddi;
- sicrhau seilwaith newydd allan o gynigion datblygu;
- cymeradwyo cynlluniau sy’n cefnogi rôl canol y ddinas a chanolfannau lleol;
- sicrhau fod datblygiadau newydd yn ymateb yn gadarnhaol i gyd-destun lleol;
- creu llefydd lle mae pobl yn dymuno byw, gweithio ac ymweld â nhw; a
- cadw a gwella’r amgylchedd adeiledig a naturiol.

**Am Y Swydd**
Bydd myfyrwyr lleoliad yn ennill profiad ar draws amrywiaeth o swyddogaethau a gyflawnir gan y gwasanaeth cynllunio; gan gynnwys monitro defnydd tir, cynllunio safle / uwchgynllunio, olrhain gweithgaredd datblygu, gwaith modelu (Sketchup), ymdrin â cheisiadau cynllunio, cofrestru ceisiadau cynllunio, mewnbwn i gwaith safle strategol, gwaith adolygu'r CDLl a monitro ardaloedd cadwraeth.

Mae manylion llawn ar ddyletswyddau a chyfrifoldebau’r swydd i’w cael yn y Disgrifiad Swydd.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Rydym yn chwilio am ddau myfyriwr cynlluniwr talentog, llawn cymhelliant a brwdfrydig (wedi cofrestru ar gwrs gradd a achredir gan RTPI) i'n helpu i gyflawni ein gweledigaeth i ‘gynorthwyo twf a gynllunnir y ddinas a chreu cymdogaethau integredig, cynaliadwy y gellir byw ynddynt drwy ragoriaeth o ran Creu Lle, Polisi Cynllunio a Rheoli Datblygiadau, gan gadw a gwella'r amgylchedd adeiledig a naturiol’.

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn meddu ar ymwybyddiaeth dda o faterion cynllunio cyfoes ac arfer gorau cyfredol, ynghyd â sgiliau cyfathrebu ardderchog ar lafar ac yn ysgrifenedig, a’r gallu i reoli llwyth gwaith amrywiol.

Bydd y swyddi hyn yn cynnig cyfleoedd cyffrous i helpu i lunio dyfodol prifddinas ddeinamig, a phrofiad gwerthfawr ac amrywiol ar draws y timau yn gwneud gwaith achos rheoli datblygu, paratoi polisi/monitro a chreu lle.

Gellir gweld manylion llawn y gofynion yn y Fanyleb Person.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Wrth gwblhau’r ffurflen gais, sicrhewch fod eich datganiad yn dangos tystiolaeth eich bod yn bodloni pedwar Cymhwysedd Ymddygiadol craidd y Cyngor, yngyd â’r sgiliau a’r profiadau hanfodol/dymunol yn y Disgrifiad Swydd a’r Fanyleb Person.

Mae'r swyddi hyn dros dro tan 29 Awst 2025 fan bellaf. Mae hyblygrwydd o ran dyddiadau dechrau a gorffen.

Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â_ _._

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PLA00346



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **Swydd Wag Fewnol / Allanol** *** **Cyf: CR2302** **Teitl y Swydd**:Darlithydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol** **Contract: Parhaol, Llawn Amser** **Oriau: 37** **Cyflog: £22,905 - £45,079 y flwyddyn (yn dibynnu ar brofiad)** Mae swydd wag gyffrous ar gael fel Darlithydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn yr adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngholeg...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **Swydd Wag Fewnol / Allanol** **Cyf: 12322** **Teitl y Swydd**:Darlithydd mewn Gofal Plant** **Contract**:0.5 Cyfwerth â llawn amser, Cytundeb Cyfnod Penodol o fis Awst 2024 tan fis Gorffennaf 2025** **Cyflog: £24,051 - £47,333 pro rata, (yn ddibynnol ar brofiad)** **Oriau**: 18.5 awr yr wythnos** **Lleoliad**:Caerdydd** Mae swydd wag gyffrous ar...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Caerdydd yw un o’r dinasoedd mwyaf medrus ac sy’n tyfu gyflymaf ym Mhrydain gyda Gwasanaeth Cyfreithiol mewnol ag achrediad Lexcel. Mae gennym gyfle gwych i ymarferydd cyfreithiol diwyd, hyblyg a llawn cymhelliant ymuno â Gwasanaeth Cyfreithiol Cyngor Caerdydd yn Neuadd y Sir yng nghanol Bae Caerdydd gyda chysylltiadau trafnidiaeth a...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **Swydd Wag Fewnol / Allanol** **Cyf**:12218** **Teitl y Swydd**:Darlithydd mewn Peirianneg Awyrofod (Mecanyddol)** **Cytundeb: Parhaol, Llawn Amser** **Oriau: 37** **Cyflog: Hyd at £41,916** Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Darlithydd mewn Peirianneg Awyrofod (Mecanyddol) yn yr adran Awyrofod yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro. Lleolir y rôl hon yng...

  • Rheolwr RHaglen X 2

    5 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â thîm Datblygu Cyngor Caerdydd. Rydym yn gweithredu rhaglen adeiladu newydd fawr lwyddiannus sydd â’r gallu i ddarparu 4,000 o gartrefi newydd a buddsoddi'n sylweddol yn ein cymunedau presennol. I wneud hyn mae gennym Gyllideb Cyfalaf gwerth dros £800 miliwn a phiblinell ddatblygu o dros 60 o...

  • Swyddog Cyfathrebu

    3 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **Swydd Wag Fewnol / Allanol** **Cyf**:CO2023** **Teitl y Swydd**:Swyddog Cyfathrebu** **Contract: Parhaol, Llawn Amser** **Oriau: 37** **Cyflog: £28,648 - £30,599 y flwyddyn** Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn awyddus i benodi Swyddog Cyfathrebu wedi’i leoli o fewn tîm Marchnata a Chyfathrebu mewnol deinamig y Coleg. Byddwch yn gweithio â’r...

  • Senior Lecturer

    Found in: beBee S GB - 7 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Metropolitan University Full time

    Disgrifiad Swydd Uwch Ddarlithydd – Cydlynydd Lleoliadau Clinigol Rhyngbroffesiynol.pdf Job Description Senior Lecturer - Interprofessional Clinical Placement Co-ordinator.pdf Job description Cardiff School of Sport and Health Sciences is a recognised centre of excellence in the UK and has established a national and international reputation for the quality...

  • Senior Lecturer

    Found in: beBee jobs GB - 7 days ago


    Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Metropolitan University Full time

    Disgrifiad Swydd Uwch Ddarlithydd – Cydlynydd Lleoliadau Clinigol Job Description Senior Lecturer - Interprofessional Clinical Placement Co-Job descriptionCardiff School of Sport and Health Sciences is a recognised centre of excellence in the UK and has established a national and international reputation for the quality of its academic and research work in...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **Swydd Wag Fewnol / Allanol** **Cyf**:EE2301** **Teitl y Swydd**:Darlithydd mewn Peirianneg Fodurol (Atgyweirio Cyrff Cerbydau)** **Contract: Llawn Amser, Parhaol** **Oriau: 37** **Cyflog: £22,583 - £44,444 y flwyddyn** Dyma gyfle cyffrous i ymuno â thîm llwyddiannus Cyrff a Phaent Cerbydau yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro. Edrychwn ymlaen at...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **Swydd Wag Fewnol / Allanol** **Teitl y Swydd**:Darlithydd mewn Peirianneg Fecanyddol** **Cytundeb: Parhaol, Llawn Amser** **Oriau: 37 yr wythnos** **Cyflog: £22,905 - £45,079** Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Darlithydd mewn Peirianneg Fecanyddol o fewn yr adran Beirianneg yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro. Bydd y swydd hon wedi’i lleoli ar...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnig amrywiaeth o ddarpariaethau ledled y ddinas i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed. Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnwys tîm dawnus a brwdfrydig o weithwyr ieuenctid proffesiynol a gweithwyr cymorth ieuenctid sy’n gweithredu ledled y ddinas. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys canolfannau...

  • Athro Cynhwysiant

    3 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Gyfarwyddiaeth Addysg a Dysgu Gydol Oes yn darparu cymorth strategol, proffesiynol a gweithredol i alluogi'r Cyngor i gyflawni ei gyfrifoldebau am addysg blynyddoedd cynnar, addysg oedran ysgol statudol, addysg mewn chweched dosbarth ysgolion ac opsiynau Ôl-16, yn ogystal â gwasanaeth ieuenctid.Mae gwaith y Gyfarwyddiaeth wedi'i...

  • Darlithydd Esol

    2 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **Swydd Wag Fewnol / Allanol** **Cyf: ESOL2312** **Swyddi: Darlithydd ESOL** **Contract: 2 x FTE parhaol** **Lleoliad: Caerdydd a'r Fro** **Cyflog: £22,905 - £45,079 (Pro-Rata)** Mae cyfle yn bodoli yn yr adran ESOL i benodi dau Ddarlithydd llawn amser - Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill. Bydd ceisiadau am ffracsiynau hefyd yn cael eu...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **Swydd Wag Fewnol / Allanol** **Cyf**:ADT2024** **Teitl y Swydd**:Technegydd Celf a Dylunio** **Contract**:Contract Cyfnod Penodol tan Gorffennaf 2025, yn ystod Tymor Ysgol yn unig** **Cyflog: £23,152 pro rata** **Oriau**: 37** **Lleoliad**:Campws Canol y Ddinas Caerdydd** Mae swydd wag gyffrous ar gael ar gyfer Technegydd Celf a Dylunio yn yr adran...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn awyddus i recriwtio 2 Gweithiwr Cymdeithasol profiadol a pharhaol i ymuno â'n tîm newydd ac arloesol a fydd yn adolygu Cynlluniau Gofal a Chymorth yn annibynnol ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghaerdydd.** Byddwch yn ymuno â Hyb Adolygu gwell a diwygiedig, yn eistedd ochr yn ochr â Chadeiryddion Cynadleddau...

  • Rheolwr Technegol

    1 day ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y Gwasanaeth Tai a Chymunedau ar gyfer Rheolwr Technegol yn yr Uned Gwella Adeiladau, y Tîm Cynnal a Chadw wedi’i Gynllunio. **Am Y Swydd** Bydd deiliad y swydd yn cynllunio, datblygu a rheoli gwaith cynnal a chadw wedi'i gynllunio ac yn goruchwylio gwaith contractwyr o ddydd i ddydd gan sicrhau bod y...

  • Swyddog Llety

    3 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **Swydd Wag Fewnol / Allanol** **Cyf**:12027** **Teitl y Swydd**:Swyddog Llety CAVC** **Contract: Rhan amser 0.4 Cyfwerth â Llawn Amser, Contract Cyfnod Penodol tan 31 Rhagfyr 2023** **Oriau: 14.8 awr yr wythnos** **Cyflog: £21,030 per annum (pro rata)** Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Swyddog Llety o fewn yr adran Ryngwladol yng Ngholeg...

  • Swyddog Gweinyddol

    4 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle gwych wedi codi i ymuno â'r tîm yng Nghastell Caerdydd fel swyddog gweinyddol. Mae Castell Caerdydd, sy’n croesawu miloedd o bobl bob blwyddyn, yn un o brif atyniadau treftadaeth Cymru ac yn safle o bwysigrwydd rhyngwladol. **Am Y Swydd** Bydd y Swyddog Gweinyddol yn cynnig gwasanaeth cymorth busnes a gweinyddol effeithiol...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r gwasanaeth** Mae Gwasanaethau Rhianta Caerdydd yn rhan o Cymorth Cynnar Caerdydd. Mae Gwasanaethau Rhianta Caerdydd yn cael eu harwain yn strategol gan Uwch Seicolegydd Addysg ac yn cynnwys timau sy'n darparu rhaglenni rhianta grwp ac unigol ac ymyriadau, a hynny ledled Caerdydd. Rydym yn gweithio mewn lleoliadau cymunedol, cartrefi teuluoedd...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff University Full time

    **Advert** **The ability to work through the medium of Welsh is essential to this role.** **Cyfarwyddwr Dysgu Cymraeg Caerdydd** Mae Ysgol y Gymraeg yn chwilio am unigolyn rhagweithiol a brwdfrydig i arwain a rheoli holl weithgarwch darpariaeth Dysgu Cymraeg Caerdydd. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am gyrraedd targedau perfformiad ac ansawdd, gweithredu...