Uwch Hwylusydd Grŵp RHieni Noddfa

2 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Ynglŷn â'r gwasanaeth**
Mae Gwasanaethau Rhianta Caerdydd yn rhan o Cymorth Cynnar Caerdydd. Mae Gwasanaethau Rhianta Caerdydd yn cael eu harwain yn strategol gan Uwch Seicolegydd Addysg ac yn cynnwys timau sy'n darparu rhaglenni rhianta grwp ac unigol ac ymyriadau, a hynny ledled Caerdydd. Rydym yn gweithio mewn lleoliadau cymunedol, cartrefi teuluoedd ac mewn lletyau fel hosteli. Mae'r swydd wag bresennol o fewn rhan gynyddol o'r gwasanaeth, lle rydym wedi bod yn ymateb i anghenion sy’n datblygu yng Nghaerdydd, gan gefnogi teuluoedd sy'n ceisio lloches neu sy'n ffoaduriaid.

Gellir dod o hyd i wybodaeth am ein Gwasanaethau Rhianta ar-lein:
Rhianta Caerdydd 0-18 - Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd: Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd (teuluoeddcaerdydd.co.uk)

Rydym hefyd yn postio ar ein tudalennau Twitter a Facebook - chwiliwch am Cardiff Parenting - Rhianta Caerdydd i gael gwybod mwy.

Ar ôl gweithio gyda ni, mae rhieni wedi dweud: '_Mae hwn yn lle diogel i fi a fy mhlant chwarae, gallwn ni fod yn hapus yma ac ymlacio. Mae'r merched yn garedig iawn ac yn gymwynasgar.'_

**Ynglŷn â’r swydd**
Rydym yn edrych i ehangu a datblygu ein gwaith gyda chymunedau sy'n ceisio noddfa a lloches ledled Caerdydd. Ar hyn o bryd, mae Tîm Grwpiau Dechrau'n Deg Caerdydd yn darparu sesiynau galw heibio anffurfiol i deuluoedd mewn llety pontio dros dro ledled y ddinas. Rydym yn ceisio adeiladu ar y cynnig hwn. Mae ein gwaith ehangach yn cynnwys cyflwyno bwydlen o Raglenni Rhianta.

Ar y cyd â’r Arweinydd Tîm Ardal, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cynllunio, darparu, monitro, a gwerthuso, rhaglenni effeithiol o gefnogaeth ac ymyrraeth, sy'n arbennig o gynhwysol o ran teuluoedd sy'n ceisio lloches, neu sy'n ffoaduriaid. Byddant yn cyfrannu'n rhagweithiol at greu amgylchedd croesawgar a chynhwysol sy'n sensitif i anghenion oedolion a phlant sy'n defnyddio'r gwasanaeth hwn. Byddant yn meithrin lle diogel i rieni a phlant chwarae a rhyngweithio, i gefnogi llesiant a gwella sgiliau rhianta cadarnhaol.

**Yr hyn rydym yn ei ddisgwyl gennych chi**
Mae cymhwyster L3 mewn Gofal Plant, Dysgu, Chwarae a Datblygu yn hanfodol (gweler y disgrifiad swydd a’r manyleb person i gael rhagor o fanylion am gymwysterau). Wrth wneud cais, cyfeiriwch at sut rydych chi'n bodloni meini prawf hanfodol y manyleb person sydd ynghlwm.

Bydd deiliad y swydd yn cynllunio a darparu gwasanaethau sy'n hyrwyddo rhyngweithio rhwng rhieni a phlant, meithrin a chefnogi datblygiad plant a chynnig lle diogel i rieni a phlant chwarae a rhyngweithio i gefnogi llesiant a gwella sgiliau magu plant cadarnhaol. Bydd deiliad y swydd yn gweithio gyda defnyddwyr gwasanaeth sy'n profi trawma a gofid felly bydd angen bod yn greadigol yn eu hymagwedd tuag at eu cefnogi. Mae'n rhaid bod ganddyn nhw ymagwedd nad yw’r barnu, gan ddangos empathi a dealltwriaeth.

Rhaid i ymgeiswyr fod â gwybodaeth gynhwysfawr am anghenion datblygiadol plant ac yn gallu cyflwyno gwybodaeth i rieni am ddatblygiad eu plentyn neu ddulliau magu plant mewn modd sensitif. Bydd deiliad y swydd yn cyfrannu at gynllunio a darparu gwasanaethau sy'n hyrwyddo rhyngweithio rhwng rhieni a phlant, meithrin a chefnogi datblygiad plant a chynnig lle diogel i rieni a phlant chwarae a rhyngweithio i gefnogi llesiant a gwella sgiliau magu plant cadarnhaol.

Bydd deiliad y swydd yn derbyn ac angen datrys problemau ac ymateb yn briodol i ddatgeliadau gan ddefnyddwyr gwasanaeth sy'n ymwneud â phlant a/neu oedolion sy’n agored i niwed, amddiffyn plant a/neu gam-drin domestig. Bydd angen iddynt gynghori a gweithredu'n briodol gan ddilyn protocolau a gweithdrefnau yn ôl yr angen

Mae’n rhaid cael trwydded yrru lân a cherbyd i’w ddefnyddio oherwydd bydd gofyn teithio trwy holl ardaloedd y ddinas fel rhan o’r rôl.

Job Reference: PEO02680



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Cyf.**PEO02929 **Swydd**:Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl **Gradd**:6 **Cyflog**:£27,852 - £32,020 **Statws**: parhaol a llawn amser **Ynglŷn â'r gwasanaeth** Mae gennym gyfle cyffrous i Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl weithio gyda rhai o'n plant a'n pobl ifanc mwyaf bregus yng Nghaerdydd. Rydym yn chwilio am Uwch Swyddog...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Cyf.**PEO02929 **Swydd**:Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl **Gradd**:6 **Cyflog**:£27,852 - £32,020 **Statws**: parhaol a llawn amser **Ynglŷn â'r gwasanaeth** Mae gennym gyfle cyffrous i Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl weithio gyda rhai o'n plant a'n pobl ifanc mwyaf bregus yng Nghaerdydd. Rydym yn chwilio am Uwch Swyddog...

  • Arweinydd Grŵp

    1 week ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth yn helpu i gefnogi'r gwaith o gyflawni blaenoriaethau corfforaethol ehangach megis ymateb i'r argyfwng hinsawdd a chynorthwyo gyda mentrau adfer ar ôl y pandemig. Mae hefyd yn arwain y gwaith o weithredu'r dull o greu lleoedd fel y'i nodwyd gan Lywodraeth Cymru drwy ein swyddogaethau llunio polisïau a Rheoli Datblygu ac...

  • Ymarferydd RHianta

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Rhianta Caerdydd 0-18 yn rhan o wasanaethau Cymorth Cynnar Cyngor Caerdydd, sydd ar gael i’r holl deuluoedd sy'n byw ar draws Caerdydd gyda phlentyn neu berson ifanc dan 18 oed. Mae Rhianta Caerdydd 0-18 yn cael ei ariannu gan grant gan Lywodraeth Cymru ac mae'n ategu'r gwasanaethau rhianta a gynigir yn ardaloedd Dechrau'n Deg...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Tîm Trafnidiaeth Teithwyr yn dîm bach o 9 swyddog sy'n rheoli pob agwedd ar ofynion Trafnidiaeth Teithwyr y Cyngor, gan gynnwys trafnidiaeth brif ffrwd o’r cartref i’r ysgol, Trafnidiaeth Anghenion Addysgol Ychwanegol, trafnidiaeth y Gwasanaethau Plant ac Oedolion ac unrhyw drafnidiaeth ad-hoc y mae’r cyngor ei hangen. Mae'r...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru ac yn ddinas sy'n tyfu gyda phoblogaeth amrywiol. Mae plant Caerdydd angen gweithwyr cymdeithasol sy'n gallu ymateb i'r amrywiaeth o anghenion a phrofiadau sydd yn ei dro yn rhoi cyfle i weithwyr cymdeithasol ddatblygu arbenigedd ac i arwain ymarfer yng Nghymru. Mae Caerdydd yn...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru ac yn ddinas sy'n tyfu gyda phoblogaeth amrywiol. Mae plant Caerdydd angen gweithwyr cymdeithasol sy'n gallu ymateb i'r amrywiaeth o anghenion a phrofiadau sydd yn ei dro yn rhoi cyfle i weithwyr cymdeithasol ddatblygu arbenigedd ac i arwain ymarfer yng Nghymru. Mae Caerdydd yn cynnig y...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd yn wasanaeth arloesol a blaengar yn y gyfarwyddiaeth Oedolion, Tai a Chymunedau yng Nghyngor Caerdydd. Mae’r gwasanaeth, a enillodd Wobr Ansawdd Teuluoedd yn Gyntaf yn ddiweddar, yn rhoi gwybodaeth, cyngor a chymorth o ansawdd i blant, pobl ifanc, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol ledled y...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ydych chi'n Fyfyriwr Gwaith Cymdeithasol yn eich blwyddyn olaf yn y brifysgol? Mae gwasanaethau Plant Cyngor Caerdydd yn cynnig cyfle unigryw i sicrhau swydd Gweithiwr Cymdeithasol parhaol yn barod ar gyfer pan fyddwch yn cymhwyso y flwyddyn nesaf. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw cyflwyno cais; byddwn yn gwarantu cyfweliad i chi yn...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn un o ddinasoedd gwyrddaf y Deyrnas Unedig, ac mae ein rhwydwaith helaeth o barciau a mannau gwyrdd y mae gan ein trigolion gysylltiad agos â llunio’i chymeriad, gan roi blas ar ein prifddinas. Mae'r Cyngor yn cydnabod y cyfraniad y mae'r mannau hyn yn ei wneud i les amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol y ddinas, y...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â Thîm Gwasanaethau Byw'n Annibynnol (GBA) Caerdydd. Mae'r Gwasanaeth yn gweithio mewn partneriaeth ag oedolion sy'n agored i niwed i’w cefnogi i fyw’n annibynnol gartref a bod yn gysylltiedig â’u cymunedau eu hunain trwy wybodaeth, cyngor a chefnogaeth wedi'u teilwra - gan alluogi pobl i...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous yng Ngwasanaethau Plant Cyngor Caerdydd, ac rydym yn recriwtio tîm newydd o weithwyr Gofal Plant Preswyl ar gyfer ein cartref newydd i Blant dan Asesiad, yn gweithio gyda rhai o'n plant a'n pobl ifanc mwyaf agored i niwed. Mae hwn yn amser cyffrous i ymuno â gwasanaeth sy’n rhoi’r unigolyn wrth wraidd ei waith....

  • Project Manager

    2 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Sustrans Full time

    £32,145 y flwyddyn (pro rata ar gyfer oriau rhan-amser) Oriau Llawn-amser 37.5 awr yr wythnos – yn fodlon trafod gweithio’n hyblyg. Cytundeb llawn amser hyd fis Mawrth 2027, gydag estyniad posibl yn dibynnu arariannu. Lleoliad: Hwb Caerdydd, o fewn polisi gweithio hybrid. Ynglŷn â’r rôl  Mae gennym gyfle newydd gwerth chweil i Reolwr Prosiect...

  • Rheolwr Tîm Ardal

    2 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r swydd ar agor i'r rhai sy'n ceisio dychwelyd i Gaerdydd i weithio a'r rhai sydd am weithio i Gaerdydd am y tro cyntaf. Mae ymdeimlad o gyffro o fewn gweithlu'r Gwasanaethau Plant wrth i Gaerdydd symud drwy ei thaith newid gydag arweinyddiaeth gref gan dîm rheoli ymroddedig. Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru ac yn un...