Arweinydd Is-adran Trafnidiaeth Gyhoeddus/ Teithwyr

2 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae'r Tîm Trafnidiaeth Teithwyr yn dîm bach o 9 swyddog sy'n rheoli pob agwedd ar ofynion Trafnidiaeth Teithwyr y Cyngor, gan gynnwys trafnidiaeth brif ffrwd o’r cartref i’r ysgol, Trafnidiaeth Anghenion Addysgol Ychwanegol, trafnidiaeth y Gwasanaethau Plant ac Oedolion ac unrhyw drafnidiaeth ad-hoc y mae’r cyngor ei hangen. Mae'r tîm yn cydlynu'r gwaith o asesu hawliau i drafnidiaeth am ddim, yn cynllunio a chydlynu’r ddarpariaeth trafnidiaeth, ac yn contractio a rheoli contractwyr allanol i wneud y gwaith ar ran y Cyngor.

Mae'r Tîm hefyd yn cefnogi'r rhwydwaith gwasanaeth bws Trafnidiaeth Gyhoeddus sy'n gweithredu ar draws Dinas, gan weithio gyda gweithredwyr bysus masnachol i sicrhau bod y gwasanaeth yn cwmpasu cymaint o’r ddinas â phosib, rhoi cyhoeddusrwydd i wasanaethau yn ogystal â nodi mesurau a chynlluniau blaenoriaeth bysus i wneud y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus yn haws.
**Am Y Swydd**
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am arwain ar a threfnu’r gwaith o reoli’r tîm o ddydd i ddydd, gan gynnwys asesu’r hawl i drafnidiaeth brif ffrwd ac ADY o’r cartref i’r ysgol, caffael a rheoli contractau/ monitro trafnidiaeth ysgol brif ffrwd ac ADY a gwasanaethau bws cyhoeddus a gefnogir, cysylltu â'r holl randdeiliaid gan gynnwys ysgolion, rhieni, disgyblion, gweithredwyr trafnidiaeth, uwch swyddogion ac aelodau’r cabinet/ cynghorwyr, cydweithwyr rhanbarthol a chenedlaethol. Bydd y rôl yn cynnwys delio ag apeliadau trafnidiaeth a chwynion mewn perthynas â'r gwasanaethau a ddarperir, materion diogelu a mynychu cyfarfodydd strategaeth broffesiynol, gwrthlofnodwr GDG, cydlynu, darparu a datblygu hyfforddiant ar gyfer y tîm a darparwyr trafnidiaeth allanol a'u staff, gweithio i derfynau amser tynn, rheoli cyllidebau mawr, rheoli staff a dehongli a chymhwyso deddfwriaeth. Mae'r swydd hefyd yn arwain ar y cynllun Pàs Bws Consesiynol y mae'r Cyngor yn ei reoli ar ran Llywodraeth Cymru, gan oruchwylio'r broses ad-daliadau a’r broses o ymgeisio am bàs.
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Unigolyn brwdfrydig sydd â sgiliau gwaith tîm rhagorol a’r gallu i weithio’n unigol. Profiad o ddeddfwriaeth Trafnidiaeth Gyhoeddus a gofynion trwyddedu gweithredwyr trafnidiaeth, yn ogystal â gwybodaeth am Fesur Teithio gan Ddysgwyr Cymru. Y gallu i reoli nifer o brosiectau a materion gwahanol ar yr un pryd. Profiad o reoli staff a monitro cyllidebau.
**Gwybodaeth Ychwanegol**

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â_ _._

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PLA00363



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Tîm Trafnidiaeth Teithwyr yn dîm bach o 9 swyddog sy'n rheoli pob agwedd ar ofynion Trafnidiaeth Teithwyr y Cyngor, gan gynnwys trafnidiaeth brif ffrwd o’r cartref i’r ysgol, Trafnidiaeth Anghenion Addysgol Ychwanegol, trafnidiaeth y Gwasanaethau Plant ac Oedolion ac unrhyw drafnidiaeth ad-hoc y mae’r cyngor ei hangen. Mae'r...

  • Arweinydd Is-adran

    8 hours ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn tyfu’n gyflymach nag unrhyw ddinas fawr arall yn y DU y tu allan i Lundain, a disgwylir iddi dyfu’n fwy na phob awdurdod lleol arall yng Nghymru gyda’i gilydd. Mae Papur Gwyn Trafnidiaeth Cyngor Caerdydd yn nodi cynllun 10 mlynedd uchelgeisiol i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, lleihau tagfeydd a gwella...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Tîm Gweledigaeth, Polisi a Strategaeth Trafnidiaeth y Cyngor yn chwarae rôl bwysig wrth reoli twf cyflym Caerdydd ac ymateb i’r argyfwng hinsawdd. Ar hyn o bryd rydym yn bwrw ymlaen ag ystod o brosiectau sy’n gynwysedig yn y Papur Gwyn Trafnidiaeth a gyhoeddwyd yn ddiweddar sydd â’r nod o weddnewid system drafnidiaeth...

  • Arweinydd Adran

    7 hours ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn tyfu’n gyflymach nag unrhyw ddinas fawr arall yn y DU y tu allan i Lundain, a disgwylir iddi dyfu’n fwy na phob awdurdod lleol arall yng Nghymru gyda’i gilydd. Mae Papur Gwyn Trafnidiaeth Cyngor Caerdydd yn nodi cynllun 10 mlynedd uchelgeisiol i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, lleihau tagfeydd a gwella...

  • Prif Swyddog

    2 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r Gyfarwyddiaeth Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd yn chwarae rhan bwysig yn rheoli twf cyflym Caerdydd ac yn ymateb i'r argyfwng hinsawdd. Ar hyn o bryd rydym yn bwrw ymlaen ag ystod o brosiectau sydd â’r nod o weddnewid system drafnidiaeth Caerdydd, cynyddu teithio cynaliadwy, sicrhau aer glanach a gwella iechyd a lles...

  • Rheolwr Gweithredol

    7 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mewn ymgynghoriad â thrigolion y ddinas, arbenigwyr iechyd a thrafnidiaeth, mae Cynllunio, Trafnidiaeth a'r Amgylchedd wedi llunio cynllun deng mlynedd uchelgeisiol i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, lleihau tagfeydd a gwella ansawdd aer ym Mhrifddinas Cymru. Bydd y rôl hon yn gyfle cyffrous ac unigryw i gefnogi a chydlynu'r...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn Strategaeth ac Angen Tai am Arweinydd Tîm Gosod o fewn yr Uned Gosod ac Ailgartrefu **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn arwain ac yn rheoli’r Tîm Dyraniadau sy’n gyfrifol am ddyrannu tai cymdeithasol y Cyngor i ymgeiswyr ar y Rhestr Aros Tai, gan sicrhau bod llety’r cyngor yn cael...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn y Tîm Cynnal Gweithrediadau Priffyrdd ar Gyrrwr Peiriant Draenio **Am Y Swydd** Prif swyddogaeth y rôl rheng flaen hon yw cadw’r briffordd yn rhydd rhag dŵr wyneb drwy wneud gwaith a gynllunnir ac ymatebol i lanhau gylïau a sicrhau eu bod yn cael eu gwagio a bod cysylltiadau’n rhydd o...

  • Prif Beiriannydd

    7 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle wedi codi i Brif Beiriannydd weithio o fewn yr Adran Dylunio, Contractau a Chyflenwi, gan ddarparu cefnogaeth i'r arweinydd tîm drwy arwain a chefnogi’r adran wrth ddarparu amrywiaeth o brosiectau seilwaith ledled Caerdydd.** **Am Y Swydd** Mae Contractau, Dylunio a Chyflenwi yn dîm sy'n ehangu'n gyflym ac maen nhw'n...

  • Prif Beiriannydd

    1 day ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle wedi codi i Brif Beiriannydd weithio o fewn yr Adran Dylunio, Contractau a Chyflenwi, gan ddarparu cefnogaeth i'r arweinydd tîm drwy arwain a chefnogi’r adran wrth ddarparu amrywiaeth o brosiectau seilwaith ledled Caerdydd.** **Am Y Swydd** Mae Contractau, Dylunio a Chyflenwi yn dîm sy'n ehangu'n gyflym ac maen nhw'n...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r Gwasanaethau Plant yn chwilio am unigolyn deinamig, rhagweithiol sydd â phrofiad o reoli prosiectau a diddordeb mewn cefnogi'r ystod o ddatblygiadau sy'n mynd rhagddynt yng ngwasanaeth rhanbarthol Ar Ffiniau Gofal ARC. Byddai'r rôl yn canolbwyntio ar ddarpariaeth Bro Morgannwg ac yn cynorthwyo gyda'r gwaith o oruchwylio a...

  • Swyddog Cyllid

    1 day ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Nod Cyngor Caerdydd yw darparu gwasanaeth hygyrch o ansawdd uchel. Ar hyn o bryd, mae gan y gwasanaeth 2 swydd wag amser llawn, dros dro hyd nes 31.3.23 ar gyfer swyddogion cyllid o fewn y tîm cyllid. **Am Y Swydd** Prif swyddogaeth y swydd yw bod yn gyfrifol am adennill ôl-ddyledion rhent ardal yn y ddinas a chymryd pob cam adfer...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae GTC yn gyfrifol am fflyd o dros 900 o gerbydau a thua 600 darn o offer peirianyddol bach. Mae tua 100 o'r cerbydau hyn yn gerbydau trwyddedig Gweithredwyr, RCVau yn bennaf ac yn cefnogi gweithrediadau glanhau'r ddinas. Er mwyn cefnogi'r holl asedau hyn mae gan y cyngor brif weithdy mawr yn Grangetown a 2 weithdy lloeren llai mewn...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae gan Gyngor Caerdydd Ganolfan Derbyn Larymau a Theledu Cylch Cyfyng achrededig sy'n llawn offer ac sy'n cynnig gwasanaeth 24/7 365 diwrnod y flwyddyn i lawer o'r adeiladau uchel a safleoedd y cyngor ledled y Ddinas. Yn gysylltiedig â Chanolfan Derbyn Larymau'r Cyngor mae'r tîm Wardeiniaid Ardal. Mae'r wardeiniaid yn gweithredu fel...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ydych chi'n Fecanydd Cerbydau Nwyddau Mawr/Trwm sy’n chwilio am her newydd? Rydym yn recriwtio gosodwr Cerbydau Nwyddau Mawr/Trwm llawn amser yn ein Gwasanaethau Trafnidiaeth Canolog, sydd wedi'u lleoli yn ein cyfleuster modern yn Coleridge Road, Grangetown, Caerdydd. Mae Gwasanaeth Fflyd y Cyngor yn cynnal fflyd gymysg o tua 900 o...

  • Arolygwr (Arholiadau)

    8 hours ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **Swydd Wag Fewnol / Allanol** **Teitl y Swydd**:Arolygwr (Arholiadau)** **Contract**: Rhan-amser, tâl fesul awr** **Oriau**:Yn amrywio fesul Wythnos** **Lleoliad: Campws Canol y Ddinas a Heol Colcot ond gyda'r disgwyliad i gyflenwi yn holl safleoedd CCAF os bydd angen** **Cyflog**:£12.00 yr awr** Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Goruchwyliwr...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r tîm yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth rheng flaen. Rydym yn darparu amrywiaeth o fentrau diogelwch ar y ffyrdd a theithio llesol i blant, pobl ifanc ac oedolion sy'n byw, yn gweithio neu'n astudio yng Nghaerdydd. **Am Y Swydd** Diben y swydd yw cynllunio, cefnogi a chyflwyno hyfforddiant teithio annibynnol i blant, pobl ifanc ac...

  • Prif Weithredwr

    7 hours ago


    Cardiff, United Kingdom Synergie Full time

    Acorn yn falch o fod yn bartner gyda Cwmpas i chwilio am eu Prif Weithredwr newydd. Mae Cwmpas yn credu y dylai ein heconomi a'n cymdeithas weithio'n wahanol, gan roi pobl a'r blaned yn gyntaf. Rydym yn asiantaeth gydweithredol a datblygu, yn gweithiodros newid economaidd a chymdeithasol. Gan weithio gyda'r Bwrdd, mae'r Prif Weithredwr yn gyfrifol am bennu...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Addysg Gerdd Caerdydd a'r Fro yn darparu hyfforddiant a gweithgareddau i 190 o ysgolion a lleoliadau sy'n gweithio gyda thua 7000 o blant yr wythnos. Mae ein tîm yn cynnwys athrawon brwdfrydig a medrus, ac yn cael cymorth gan ein tîm cymorth busnes sydd wedi'i leoli yng nghanolfan Celfyddydau Chapter yng Nghaerdydd. Rydym yn...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Caerdydd yw un o’r dinasoedd mwyaf medrus ac sy’n tyfu gyflymaf ym Mhrydain gyda Gwasanaeth Cyfreithiol mewnol ag achrediad Lexcel. Mae gennym gyfle gwych i ymarferydd cyfreithiol diwyd, hyblyg a llawn cymhelliant ymuno â Gwasanaeth Cyfreithiol Cyngor Caerdydd yn Neuadd y Sir yng nghanol Bae Caerdydd gyda chysylltiadau trafnidiaeth a...