Prif Weithredwr

3 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Synergie Full time

Acorn yn falch o fod yn bartner gyda Cwmpas i chwilio am eu Prif Weithredwr newydd. Mae Cwmpas yn credu y dylai ein heconomi a'n cymdeithas weithio'n wahanol, gan roi pobl a'r blaned yn gyntaf. Rydym yn asiantaeth gydweithredol a datblygu, yn gweithiodros newid economaidd a chymdeithasol.
Gan weithio gyda'r Bwrdd, mae'r Prif Weithredwr yn gyfrifol am bennu cyfeiriad strategol Cwmpas, arwain y gwaith o ddatblygu a gweithredu strategaethau a chynlluniau busnes i gefnogi'r weledigaeth a'r cenadaethau, ac ysgogi ac ysbrydoli pobl i gyflawni'r rhainyn llwyddiannus.
Manylion Allweddol:

- Cyflog: Tua £80,000 y flwyddyn.
- Lleoliad: Nid oes gan Gwmpas swyddfeydd sefydlog bellach. Er y gellir cyflawni llawer o'r rôl trwy weithio gartref neu fan hwb hyblyg y gellir ei drefnu gyda'r ymgeisydd llwyddiannus, erys gofyniad i deithio'n aml ledled Cymru (yn enwedig De-ddwyrain Cymru)a theithio rheolaidd i rannau eraill o'r DU a yn achlysurol ymhellach i ffwrdd.Mae Cwmpas yn talu lwfans gweithio o gartref CThEM ac yn darparu offer gwaith hanfodol, fel gliniadur a monitor, yn rhad ac am ddim.
- Mae buddion a gwybodaeth eraill i'w gweld yn y pecyn ymgeisydd llawn sydd ynghlwm ar wefan Acorn.
Cyfrifoldebau Allweddol:

- Arwain datblygiad a gweithrediad strategaethau a chynlluniau busnes sy'n cefnogi'r weledigaeth a'r cenadaethau strategol.
- Arwain, cymell ac ysbrydoli uwch arweinwyr yn ogystal â thîm ehangach Cwmpas i gyflawni amcanion strategol y sefydliad ac i greu tîm ymgysylltu ac effeithiol.
- Bod yn atebol i'r Cadeirydd, y Bwrdd a'r aelodaeth am berfformiad Cwmpas ac ansawdd y gwasanaethau sy'n gyson â diben, cenadaethau, nodau a gwerthoedd.
- Nodi cyfleoedd busnes a phartneriaethau newydd a goruchwylio datblygiad a gweithrediad cynlluniau i wireddu'r cyfleoedd hyn.
- Gweithredu fel gwarcheidwad ar gyfer gwerthoedd a diwylliant Cwmpas, gan adeiladu diwylliant sy'n gadarnhaol, yn deg, yn gefnogol ac yn gydweithredol.
- Sefydlu a chynnal perthnasoedd cynhyrchiol cadarnhaol ag uwch randdeiliaid, gan gynnwys gweinidogion Llywodraeth Cymru a'r DU, Prif Weithredwyr awdurdodau lleol, arweinwyr y trydydd sector, cyllidwyr ac arweinwyr busnes er mwyn dylanwadu ar gyfeiriad polisia gwneud y mwyaf o gyfleoedd ar gyfer twf busnes.
- Arwain trwy esiampl, gan ddangos angerdd a brwdfrydedd dros ddiben Cwmpas a gweithredu fel hyrwyddwr gweladwy dros werthoedd y sefydliad a thros gyraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn fewnol ac yn allanol.
Manyleb Person:

- Profiad o weithio mewn rôl uwch arweinydd mewn busnes cymhleth, yn arwain newid trawsnewidiol ac ddatblygu strategaeth a chynllun busnes.
- Arwain timau mawr, uchel eu perfformiad ac adeiladu diwylliant cryf a chefnogol.
- Rheoli adnoddau cymhleth a chyllidebau sylweddol ar lefel uwch i gyflawni targedau ariannol a gweithredol.
- Datblygu a chynnal perthnasoedd a phartneriaethau llwyddiannus gydag ystod eang o randdeiliaid ar y lefelau uchaf oll.
- Goruchwylio cyfleoedd masnachol a thwf busnes ac rheoli risg.
- Datblygu a dylanwadu ar bolisi ac siarad yn gyhoeddus ac yn y cyfryngau.
- Cyd-destun cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd yng Nghymru ac yn y DU.
- Byddai'r gallu i gyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg yn fanteisiol ond nid yn hanfodol.
Am y rhestr lawn o gyfrifoldebau a gofynion, ewch i'r pecyn ymgeisydd llawn ar wefan Acorn.
Proses Ymgeisio
Gwnewch gais ar-lein gydag Acorn Recruitment a fydd yn cysylltu â chi i ddweud mwy wrthych a thrafod y camau nesaf. Fel rhan o'ch cais, bydd gofyn i chi ddarparu:

- CV wedi'i ddiweddaru
- Datganiad Ategol yn nodi pam yr hoffech ymuno â Chwmpas a pham yr ydych yn credu eich bod yn ymgeisydd credadwy, gan gyfeirio at y fanyleb person
- Cwblhewch yr holiadur Monitro E&D mewn y pecyn gwybodaeth ymgeisydd
Bydd penodiad yr ymgeisydd llwyddiannus yn amodol ar ddau weithiwr proffesiynol / cyfeiriadau personol, er boddlonrwydd Cwmpas. Yn ogystal, bydd yn ofynnol i Gwmpas weld tystiolaeth o hawl i weithio yn y DU.
Dyddiad cau: Hanner nos 5 Chwefror 2023
Acorn by Synergie acts as an employment agency for permanent recruitment.


  • Board Secretary

    3 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Amgueddfa Cymru – Museum Wales Full time

    Category: Management Hours: 21 hours per week Welsh Language Level Requirement: None Job Summary Ability to communicate through the medium of Welsh or a desire to learn Welsh is desirable. This role is integral to providing direction, advice and support to The Chair and  Board of Trustees and the Chief Executive as Accounting officer on Corporate...

  • Board Secretary

    3 weeks ago


    Cardiff, Cardiff, United Kingdom Amgueddfa Cymru – Museum Wales Full time

    Category: ManagementHours: 21 hours per weekWelsh Language Level Requirement: NoneJob SummaryAbility to communicate through the medium of Welsh or a desire to learn Welsh is desirable.This role is integral to providing direction, advice and support to The Chair and Board of Trustees and the Chief Executive as Accounting officer on Corporate Governance.To...