Gosodwr Cerbydau Nwyddau Mawr/trwm

3 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Ydych chi'n Fecanydd Cerbydau Nwyddau Mawr/Trwm sy’n chwilio am her newydd?

Rydym yn recriwtio gosodwr Cerbydau Nwyddau Mawr/Trwm llawn amser yn ein Gwasanaethau Trafnidiaeth Canolog, sydd wedi'u lleoli yn ein cyfleuster modern yn Coleridge Road, Grangetown, Caerdydd.

Mae Gwasanaeth Fflyd y Cyngor yn cynnal fflyd gymysg o tua 900 o gerbydau, o geir a faniau bach i gerbydau nwyddau trwm mawr o bob math - Tipwyr, Gwelyau Fflat, Luton, Llwyfannau Mynediad, Graeanwyr, Gylïau, Craeniau, Llwythwyr Bachyn a Cherbydau Gwastraff hyd at 32 tunnell GVW. Mae gan y Cyngor yr uchelgais o dyfu ei wasanaeth cynnal a chadw fflyd drwy gynnig gwasanaethau i sefydliadau allanol tra’n sicrhau bod ein rhanddeiliaid mewnol yn cael gwasanaeth o'r radd flaenaf.

**Am Y Swydd**

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:

- cynnal archwiliadau, gwaith cynnal a chadw a gwaith atgyweirio cyffredinol ar bob cerbyd a threlar i safon yr Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr;
- cynnal ystod eang o waith atgyweirio diffygion, gan gynnwys disodli bylbiau a disodli disgiau a phadiau breciau;
- cadw cofnodion o'r holl waith a wneir i sicrhau bod gofynion statudol yn cael eu bodloni; ac
- yn barod i ymgymryd â'r holl hyfforddiant perthnasol er mwyn sicrhau bod gwasanaeth o'r radd flaenaf yn cael ei ddarparu i'n cwsmeriaid.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus:

- yn dechnegydd cymwys i o leiaf City & Guilds Level I a II neu NVQ cyfatebol;
- wedi cwblhau prentisiaeth Cerbydau Nwyddau Trwm NVQ Lefel 3;
- â phrofiad masnachol profedig yn gweithio fel technegydd cerbydau nwyddau mawr/trwm cwbl gymwys mewn gweithdy prysur;
- â thrwydded yrru cerbydau nwyddau mawr; ac
- ag ymrwymiad cryf i ragoriaeth wrth ddarparu gwasanaethau a sicrhau boddhad cwsmeriaid.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Mathew Hallam (Goruchwylydd Gweithdy) ar 02922 330070.

Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: RES01002



  • Cardiff, United Kingdom Transport for Wales Full time

    **Shift Skilled Fitter** **Location**:Cardiff **Salary**: £16.56/h (inclusive of 20% shift allowance) **Working hours**: 36h/ week (any hours worked above 36h/week will be classed as overtime and paid accordingly) **Work schedule**: - Week one: Monday - Thursday 6:00am - 2:00pm; Friday 6:00am - 12:00pm - Week two: Monday - Thursday 2:00pm - 10:00pm;...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn tyfu'n gyflymach nag unrhyw brifddinas arall yn Ewrop ac mae gennym gyfleoedd cyffrous i ymuno â’r Gwasanaethau Strydlun, yn darparu gweithrediadau gwastraff rheng flaen o safon uchel i fusnesau Caerdydd. **Am Y Swydd** Fel Gyrrwr/Llwythwr Penwythnos o fewn y Tîm Masnach, byddwch yn gyfrifol am gasglu deunyddiau...

  • Ecologist

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Network Rail Full time

    Ecologist **Location**: Cardiff, GB **Department Name**: Wales & Western Region **About Network Rail**: **About Network rail** At Network Rail, we’re part of a large family serving millions of passengers and freight users throughout the UK every day. Our service impacts millions of people and we strive to become more efficient as we enhance, maintain...


  • Cardiff, United Kingdom Network Rail Full time

    Liability Negotiations Adviser **Location**: Cardiff, GB **Department Name**: Wales & Western Region **About Network Rail**: OAt Network Rail, we’re part of a large family serving millions of passengers and freight users throughout the UK every day. Our service impacts millions of people and we strive to become more efficient as we enhance, maintain and...


  • Cardiff, United Kingdom Network Rail Full time

    Information Controller [Info Mgmt] (12 month maternity cover) **Location**: Cardiff, GB **Department Name**: Wales & Western Region **About Network Rail**: At Network Rail, we’re part of a large family serving millions of passengers and freight users throughout the UK every day. Our service impacts millions of people and we strive to become more...


  • Cardiff, United Kingdom Network Rail Full time

    Workforce Health, Safety & Environment Advisor **Location**: Cardiff, GB **Department Name**: Wales Route Managing Director **About Network Rail**: At Network Rail, we’re part of a large family serving millions of passengers and freight users throughout the UK every day. Our service impacts millions of people and we strive to become more efficient as we...

  • Rheolwr Gwasanaeth

    7 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle gwych wedi codi i unigolyn uchelgeisiol a brwdfrydig chwarae rhan allweddol wrth gyflawni gwelliant parhaus yn ein Gwasanaethau Trafnidiaeth Canolog, wedi'i leoli yn ein cyfleuster 'o'r radd flaenaf' yn Coleridge Road, Grangetown, Caerdydd. Mae Gwasanaeth Fflyd y Cyngor yn cynnal fflyd cymysg o tua 900 o gerbydau, o geir a...


  • Cardiff, United Kingdom Network Rail Full time

    Brief Description You will manage the safe and effective delivery of Route Engineering Access plans through all aspects of pre, real time and post possession delivery and associated activities, minimising Route exposure to Schedule 8. You will lead the first response and subsequent investigation into all possession related incidents, providing...