Technegydd Celf a Dylunio

2 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

**Swydd Wag Fewnol / Allanol**

**Cyf**:ADT2024**

**Teitl y Swydd**:Technegydd Celf a Dylunio**

**Contract**:Contract Cyfnod Penodol tan Gorffennaf 2025, yn ystod Tymor Ysgol yn unig**

**Cyflog: £23,152 pro rata**

**Oriau**: 37**

**Lleoliad**:Campws Canol y Ddinas Caerdydd**

Mae swydd wag gyffrous ar gael ar gyfer Technegydd Celf a Dylunio yn yr adran Greadigol yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro. Bydd y swydd hon wedi’i lleoli ar Gampws Canol y Ddinas.

**Mae'r cyfrifoldebau yn cynnwys**:

- Gwaith cynnal a chadw cyffredinol yn y gweithdai Celf a Dylunio a’r ystafelloedd dosbarth a glanhau, trefnu ac adleoli offer yn yr ardaloedd gwaith arbenigol.
- Cynorthwyo’r staff darlithio yn ystod gwersi ymarferol, arholiadau ac arddangosfeydd trwy baratoi offer a goruchwylio gwaith technegol ac arddangos lle bo hynny'n briodol.
- Cadw ty yn dda yn yr ardaloedd dan sylw trwy sicrhau bod yr holl offer yn cael ei adael mewn cyflwr glân a diogel a chwblhau amserlenni ac asesiadau COSHH yn ôl yr angen.
- Cwblhau gwiriadau cynnal a chadw ac offer rheolaidd fel y'u rhestrir mewn amserlenni neu yn unol â chyfarwyddyd y darlithydd sy’n gyfrifol, cynorthwyo i wirio stocrestrau yn flynyddol, ac archebu a derbyn nwyddau. Yn gyfrifol am Reoli Stoc yn yr adran Celf a Dylunio, monitro, archebu, storio'n ddiogel a chynnal stoc a chofnodion stoc.
- Gweithio fel rhan o dîm a chynorthwyo staff eraill, staff darlithio a technegol, yn ôl yr angen.
- Monitro a threfnu systemau archebu ar gyfer ardaloedd gweithio ac offer a threfnu mannau arddangos ar gyfer arddangosfeydd diwedd blwyddyn y myfyrwyr.
- Sicrhau bod pob agwedd ar Gyfarwyddiadau Ariannol ac Archebion Sefydlog y Coleg yn cael eu dilyn.
- Nid yw sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol, ond byddai’n ddymunol eu cael ar gyfer y swydd hon

Rhaid cyflwyno ceisiadau gan ddefnyddio ffurflen gais Coleg Caerdydd a'r Fro yn unig. Mae’r coleg yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn y Saesneg. Os ydym yn eich gwahodd i gyfweliad, rhowch wybod i ni os hoffech i ni gynnal y cyfweliad a’r broses asesu yn y Gymraeg.

**Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau wedi'u cwblhau yw 15/05/2024 am 12:00pm.**

Mae'r holl swyddi gwag yn destun gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac ni fydd cyflogaeth yn dechrau heb wiriad DBS cyfredol, dilys. Mae hwn yn gontract cytundebol y mae'n rhaid iddo fod ar waith cyn bod eich cyflogaeth yn dechrau. Mae gweithdrefn y Coleg ar gyfer Addasrwydd Cyn-droseddwyr ar gyfer Cyflogaeth ar gael ar gais.

**Mae'r rhain yn gontractau cytundebol y mae'n rhaid iddynt fod ar waith cyn y gall eich cyflogaeth ddechrau.**

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio a chadw pobl anabl, ac rydym yn gyflogwr cadarnhaol sy'n rhan o'r cynllun Hyderus o ran Anabledd.