Athro Cynhwysiant

2 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae'r Gyfarwyddiaeth Addysg a Dysgu Gydol Oes yn darparu cymorth strategol, proffesiynol a gweithredol i alluogi'r Cyngor i gyflawni ei gyfrifoldebau am addysg blynyddoedd cynnar, addysg oedran ysgol statudol, addysg mewn chweched dosbarth ysgolion ac opsiynau Ôl-16, yn ogystal â gwasanaeth ieuenctid.Mae gwaith y Gyfarwyddiaeth wedi'i drefnu'n chwe maes gwasanaeth: Partneriaethau a Pherfformiad, Gwasanaethau Cynhwysiant, Gwasanaethau wedi'u Targedu, Grwpiau Allweddol, Gwasanaethau i Ysgolion, a Threfniadaeth Ysgolion a Mynediad a Chynllunio.
**Am Y Swydd**
Mae swydd dros dro blwyddyn gyffrous neu gyfle secondiad wedi codi ar gyfer Swyddog Cynhwysiad o fewn y Gwasanaeth Cynhwysiad Addysg. Mae'r rôl yn canolbwyntio ar gefnogi ysgolion a lleoliadau gyda gweithrediad y systemau a phrosesau Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd, yn ogystal â'r pontio o'r system Anghenion Addysgol Arbennig.Mae'r rôl yn cyfuno datblygiad strategol, arweinyddiaeth, a chyflawniad gweithredol dyletswyddau statudol. Fel aelod o’r Gwasanaeth Cynhwysiant bydd deiliad y swydd yn gwneud cyfraniad pwysig at ethos o gydweithio cadarnhaol gyda gweithwyr proffesiynol eraill o fewn y Gwasanaeth Cynhwysiant, gan gynnwys y timau Seicoleg Addysg, Athro Arbenigol, Plant sy’n Derbyn Gofal, Addysg Ddewisol Gartref ac EOTAS. Yn ogystal â bod yn rheolwr llinell i rai o'n Swyddogion Partneriaeth Rhieni a Gweithwyr Pontio Cynhwysiant. Gweler y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person am ragor o wybodaeth.
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn athro cymwysedig ac wedi cael rhywfaint o brofiad arwain. Mae cefndir o weithio gyda dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) a’u teuluoedd yn hanfodol. Bydd disgwyl iddynt weithredu fel ffynhonnell arbenigedd ar gyfer ysgolion a lleoliadau i alluogi’r Awdurdod Lleol i gyflawni ei ddyletswyddau statudol mewn perthynas â phlant ag ADY.Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus hybu gwybodaeth, dealltwriaeth a gweithrediad y Cod ADY a chefnogi Cydlynwyr ADY i ddatblygu Cynlluniau Datblygu Unigol, gan fabwysiadu dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Bydd yn cynnwys cynllunio, monitro ac adolygu'r Ddarpariaeth Dysgu Ychwanegol ar gyfer grwpiau penodol o ddysgwyr fel y nodir yn y Cod ADY ledled Caerdydd a thu hwnt.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
- Swydd dros dro yw hon tan 31 Awst 2025._
- Rhaid i ymgeiswyr mewnol sy'n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar secondiad gael cymeradwyaeth cyn gwneud cais gan ddefnyddio Ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y Cyfarwyddwr/Cyfarwyddwr Cynorthwyol/Prif Swyddog perthnasol neu uwch swyddog enwebedig ar raddfa heb fod yn is na OM2 neu'r Pennaeth / Corff Llywodraethu yn achos staff mewn ysgolion all gymeradwyo ceisiadau._

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: EDU00765