Cynorthwyydd Gwasanaethau Gwybodaeth

3 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

**Swydd Wag Fewnol / Allanol**

**Teitl y Swydd**: Cynorthwyydd Gwasanaethau Gwybodaeth

**Contract**: Llawn amser, Parhaol

**Lleoliad**: Caerdydd a'r Fro

**Cyflog**: £21,030 - £22,469 y flwyddyn

Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Cynorthwyydd Gwasanaethau Gwybodaeth o fewn yr Adran Gwasanaethau Gwybodaeth yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro. Bydd y swydd hon wedi’i lleoli ar draws campysau.

Byddwch yn atebol i’r Rheolwr Gwasanaethau Gwybodaeth, a byddwch yn gyfrifol am ddarparu cymorth ar bob agwedd ar yr adran, yn cynnwys y canlynol:

- Cyflawni dyletswyddau swyddfa cyffredinol, yn cynnwys cofrestru myfyrwyr ac ymholiadau cyffredinol gan staff a myfyrwyr pan fydd hyn yn ofynnol, yn enwedig yn ystod cofrestru, cyfnodau o lwyth gwaith sylweddol neu absenoldeb staff.
- Cynorthwyo gyda chofrestru wyneb yn wyneb yn ôl y gofyn, yn ystod y flwyddyn.
- Diweddaru’r system myfyrwyr fewnol i sicrhau nad yw’r dysgwyr sydd wedi tynnu’n ôl/symud wedi cofrestru ar eu cwrs, a bod dysgwyr gorffenedig yn cael eu prosesu’n gywir.
- Newid amserlenni’r coleg ac e-gofrestrau ar y system amserlennu fewnol.
- Sicrhau bod e-gofrestrau’n cael eu marcio’n brydlon ac y llunnir adroddiadau ar unrhyw e-gofrestrau nad ydynt wedi’u marcio ar gyfer Rheolwr Busnes Cwricwlwm. Cynnal archwiliadau dirybudd i sicrhau bod y cofrestrau’n cyd-fynd â nifer y dysgwyr yn y dosbarth o leiaf unwaith bob tymor.
- Diweddaru e-gofrestrau gydag unrhyw wersi sy’n cael eu canslo, neu wersi sy’n cael eu darparu gan staff addysgu eraill.
- Byddai sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus gefndir addysgol cadarn neu brofiad cymesur amlwg. Mae’n rhaid i’r ymgeisydd delfrydol feddu ar hanes amlwg o ddarparu yn y sector addysg bellach a’r gallu i gyfathrebu materion cymhleth i amrywiaeth eang o gynulleidfaoedd.

Rhaid cyflwyno ceisiadau gan ddefnyddio ffurflen gais Coleg Caerdydd a'r Fro yn unig. Mae’r coleg yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg. Ni chaiff ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg. Os ydym yn eich gwahodd i gyfweliad, rhowch wybod i ni os hoffech i ni gynnal y cyfweliad a’r broses asesu yn y Gymraeg.

**Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau wedi'u cwblhau yw 09/06/2023 am 12:00**

Mae'r holl swyddi gwag yn destun gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac ni fydd cyflogaeth yn dechrau heb wiriad DBS cyfredol, dilys. Mae hwn yn gontract cytundebol y mae'n rhaid iddo fod ar waith cyn bod eich cyflogaeth yn dechrau. Mae gweithdrefn y Coleg ar gyfer Addasrwydd Cyn-droseddwyr ar gyfer Cyflogaeth ar gael ar gais.

Bydd eich cyflogaeth gyda Choleg Caerdydd a'r Fro hefyd yn ddibynnol ar wiriadau geirdaon addas. Cyn i chi allu dechrau eich cyflogaeth, rhaid i Goleg Caerdydd a'r Fro gael dau eirda, un gan eich cyflogwr presennol neu gyflogwr mwyaf diweddar. Byddwn yn cysylltu â'ch canolwyr ar eich penodiad.

Mae cofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer Cymru (CGA Cymru) yn ofyniad gorfodol ar gyfer y swydd

**Mae'r rhain yn gontractau cytundebol y mae'n rhaid iddynt fod ar waith cyn y gall eich cyflogaeth ddechrau.**

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio a chadw pobl anabl, ac rydym yn gyflogwr sy'n rhan o'r cynllun Hyderus o ran Anabledd.



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r Gwasanaethau Plant wedi creu tîm newydd i ganolbwyntio ar ehangu a chryfhau'r gweithlu presennol a gweithlu’r dyfodol. **Am Y Swydd** Bydd deiliad y swydd yn dylunio ac yn darparu amrywiaeth eang o raglenni hyfforddi gan gynnwys platfformau E-Ddysgu sy'n diwallu anghenion hyfforddi a datblygu timau'r Gwasanaethau Plant. Bydd...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Cyfeirnod**: PEO03735 **Swydd**:Swyddog Gwybodaeth Reoli / Dadansoddwr Data (Gradd 5)** **Lleoliad**: Caerdydd - Canolfan John Kane (hybrid) **Cyflog**: £25,979 - £29,777 (gan ddibynnu ar brofiad a hyd gwasanaeth) **Oriau**: Llawn-amser Dyddiad cau: 13 Chwefror 2024 Mae gennym gyfle cyffrous ar gyfer Dadansoddwr Data i gyfrannu at...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae CDL Caerdydd yn rhan o’r Gwasanaethau 24/7, ac mae'n gweithredu fel Canolfan Derbyn Larymau ac ystafell reoli teledu cylch cyfyng y Cyngor, gyda'r nod o gadw ein trigolion yn ddiogel yn eu hardaloedd lleol. Byddwch yn gweithio gyda’r Tîm Prosiect CDL sy'n cydlynu a hwyluso mentrau newydd yn yr uned. **Am Y Swydd** Bydd eich...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion Cyngor Caerdydd yn chwilio am 5 Cynorthwyydd Adnoddau Gwaith Cymdeithasol llawn amser ar gontractau o 12 mis. Mae'r swyddi yn rhan o'r gwasanaeth Pobl Hŷn ac Anableddau Corfforol ac yn helpu i sicrhau bod dinasyddion yn ddiogel ac yn byw'n dda yn eu cymunedau. Mae Gwasanaethau Oedolion Cyngor...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Byddwch yn ennill £21,029 y flwyddyn gan weithio'n llawn amser (37 awr), neu £10.90 yr awr pro-rata, gan ein bod yn Gyflogwr Cyflog Byw Gwirfoddol. Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wahanol wasanaethau i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y Ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i...

  • Welsh Headings

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â Gwasanaeth Cynghori Tai a Chymunedau. Mae Gwasanaeth Cynghori'r Cyngor yn cynnwys y Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith, y tîm Datrysiadau Tai ac Atal, y tîm Cyngor Ariannol a'r Llinell Gymorth Cyngor a Thai. Gyda'i gilydd, mae'r timau yn darparu pecyn cyflawn o gymorth, gwybodaeth ac arweiniad...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae gan Dîm Comisiynu Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Caerdydd rôl allweddol o ran prynu gwasanaethau a rheoli a monitro'n gyffredinol y gwasanaethau hyn i gefnogi oedolion a phlant sy'n agored i niwed, ar draws y swyddogaeth Gwasanaethau Cymdeithasol. Ar hyn o bryd mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn prynu tua £140 miliwn o...

  • Cynorthwyydd Dysgu

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Bryn y Deryn yn Uned Cyfeirio Disgyblion (UCD) CA4 ar gyfer 90 o ddisgyblion sydd ag anawsterau ymddygiadol, emosiynol, iechyd meddwl a chymdeithasol. Rydyn ni'n ehangu ym mis Medi - Ydych chi eisiau bod yn rhan o'r cynnig newydd cyffrous hwn? Rydym yn bwriadu recriwtio tîm o athrawon ar gyfer ein darpariaeth CA3 newydd a fydd yn...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn Nhîm Llywodraethu Gwybodaeth y Cyngor i helpu i gyflawni arferion Llywodraethu Gwybodaeth y Cyngor a’i helpu i ddatblygu yn barod ar gyfer cam nesaf ein hymateb i ddarparu gwasanaethau i’r dinasyddion yr ydym yma i’w helpu. Dewch i ymuno â thîm sy’n tyfu a datblygu drwy weithio ochr yn ochr â...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Oherwydd ail-strwythuro gwasanaeth mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn y Tîm Dylunio, Adeiladu a Chynnal a Chadw (DAChC) newydd ar gyfer Rheolwr Gwasanaeth Mesur Meintiau cymwys i arwain, rheoli a datblygu tîm o syrfëwr meintiol. Mae'r Tîm newydd ei sefydlu yn gyfrifol am ddylunio a chyflawni amrywiaeth eang o brosiectau sy’n...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous ar gael yn ein lleoliad Gofal Plant Dechrau'n Deg, i weithio dan ddarpariaethau gofal plant Cyngor Caerdydd. Rydym yn chwilio am dau Gynorthwyydd Chwarae i ymuno â'n tîm yn Twinkle Stars. Mae lleoliad gofal plant Dechrau'n Deg, Twinkle Stars, yn gwasanaethu cymunedau’r Sblot, Tremorfa, Adamsdown a'r Rhath. Rydym yn...

  • Cydlynydd Achosion

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Llety â Chymorth Cyngor Caerdydd yn cynnig llety, cyngor a chymorth i unigolion a theuluoedd agored i niwed sydd angen tai. Mae ein gwasanaethau ar gael 24/7 365 diwrnod y flwyddyn. **Am Y Swydd** Swydd dros dro yw hon i gyflenwi dros gyfnod mamolaeth tan 23.8.2024. Mae'r tîm Llety â Chymorth i deuluoedd wedi'i leoli...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn sefydliad llywodraeth leol sy’n gyfrifol am ddarparu dros 700 o wahanol wasanaethau i’n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled Caerdydd. Mae'r Tîm Ystadegau a Chymorth yn darparu ystadegau ar gyfer pob maes o fewn y timau gwasanaethau cwsmeriaid a digidol, yn amrywio o brif ganolfan gyswllt Cyngor Caerdydd...

  • Swyddog Cyswllt

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y Gwasanaeth Cymunedau a Thai ar gyfer Swyddog Cyswllt o fewn y Gwasanaethau Byw'n Annibynnol. Mae’r Gwasanaethau Byw’n Annibynnol yn cynorthwyo oedolion sy’n agored i niwed i fyw yn annibynnol gartref a bod yn gysylltiedig yn eu cymunedau eu hunain trwy wybodaeth, cyngor a chefnogaeth wedi'i...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r adran TGCh yn rhan o Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cwsmeriaid a Digidol y Cyngor. Prif swyddogaethau’r adran yw: - darparu systemau a chymorth TG o safon uchel, a chynnal a chadw’r systemau TG, ym mhob rhan o’r sefydliad - rhoi cyngor ac arweiniad strategol i’r gwasanaethau a’u cyfarwyddiaethau - cyfrannu at y gwaith o...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae gwasanaethau Cwsmeriaid a Digidol yn rhan o’r Gyfarwyddiaeth Adnoddau. Mae’r gwasanaeth yn gartref i ganolfan gyswllt y Cyngor C2C sy’n trin galwadau ffôn, sgyrsiau gwe, cysylltiadau ar y cyfryngau cymdeithasol a ffurflenni ar-lein gan y cyhoedd ar ran gwasanaethau eraill y cyngor. Mae’r gwasanaeth yn gosod safonau gwasanaeth...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r adran TGCh yn rhan o Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cwsmeriaid a Digidol y Cyngor. Prif swyddogaethau’r adran yw: - darparu systemau a chymorth TG o safon uchel, a chynnal a chadw’r systemau TG, ym mhob rhan o’r sefydliad - rhoi cyngor ac arweiniad strategol i’r gwasanaethau a’u cyfarwyddiaethau - cyfrannu at y gwaith o...

  • Welsh Headings

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous gennym ar hyn o bryd ar gyfer hyfforddwr profiadol i ymuno â’n Tîm Gwasanaethau 24/7. Mae gwasanaethau 24/7 yn cynnig cyfle cyffrous i gefnogi pobl i fyw bywydau llawn ac annibynnol yn eu cymunedau, gan ymrymuso pobl i aros yn annibynnol gartref trwy ddatblygu a darparu ystod o Wasanaethau Atal. Ar ben hynny,...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous a heriol wedi codi i unigolyn brwdfrydig ac ymroddedig ymuno â'r Tîm Arlwyo, Cynhadledd a Digwyddiadau. **Am Y Swydd** Bydd y rôl yn helpu i ddarparu gweithrediad Arlwyo effeithlon ac effeithiol yn Neuadd y Ddinas, Castell Caerdydd a'r Plasty. Byddwch yn cysylltu â chleientiaid i sicrhau bod eu gofynion yn cael eu...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru, gan gynnig cyfle i weithwyr cymdeithasol weithio gyda phoblogaeth hynod amrywiol sydd ag amrywiaeth o anghenion gofal a chymorth. Fel yr awdurdod lleol mwyaf yng Nghymru rydym yn cefnogi bron i 5000 o unigolion i fyw’n dda, gan gynnig strwythur cymorth sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn er...