Hyfforddai Corfforaethol

1 month ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Byddwch yn ennill £21,029 y flwyddyn gan weithio'n llawn amser (37 awr), neu £10.90 yr awr pro-rata, gan ein bod yn Gyflogwr Cyflog Byw Gwirfoddol.

Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wahanol wasanaethau i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y Ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i ddarparu ein gwasanaethau hanfodol bob dydd a, ph'un a yw ein gweithwyr wedi’u cyflogi mewn rôl sy'n delio â chwsmeriaid, rôl dechnegol, masnachol neu gymorth, maen nhw’n ein helpu i wneud gwahaniaeth i'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu ledled Caerdydd.

Mae ein Tîm Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith yn awyddus i gyflogi **Hyfforddai Corfforaethol** wedi'i leoli yn Hyb y Llyfrgell Ganolog, Yr Ais, CF10 1FL i gyfrannu at ein Gwasanaeth gan ein helpu i ddarparu cymorth sy'n gysylltiedig â chyflogaeth i ystod o geiswyr gwaith yng Nghaerdydd. Bydd yr Hyfforddai Corfforaethol yn cynorthwyo gyda CVau, ceisiadau am swyddi, gwneud cais am Gredyd Cynhwysol ac yn cynorthwyo'r Tîm Ymgysylltu i drefnu a chyflawni digwyddiadau.

**Am Y Swydd**
Yn y rôl **Hyfforddai Corfforaethol** hon byddwch yn cefnogi ein gwasanaeth a byddwch yn dysgu sut i:

- Ysgrifennu CV
- Cynorthwyo ceiswyr gwaith i chwilio am waith ar-lein
- Hawlio budd-daliadau lles ar-lein
- Cwblhau ceisiadau am swyddi
- Helpu gyda hawliadau Credyd Cynhwysol
- Cymorth gydag ymholiadau digidol sylfaenol
- Cynorthwyo gyda galwadau ac e-byst i'n defnyddwyr gwasanaeth
- Cynorthwyo gyda threfnu a chynnal digwyddiadau

Caiff hyfforddiant llawn ei roi gan ein tîm a fydd yn eich helpu a'ch annog i ddatblygu yn y rôl a byddwch yn cael eich annog i gyflawni amrywiaeth o ddyletswyddau. Cewch eich goruchwylio a’ch hyfforddi yn y swydd a bydd gennych fentor penodol i'ch cefnogi i ddarparu gwasanaeth effeithlon ac effeithiol gan ddefnyddio dull cadarnhaol sy’n canolbwyntio ar y cwsmer.

Mae'r Cynllun Prentisiaethau a Hyfforddeion Corfforaethol hefyd yn cynnig cyfleoedd i wella eich sgiliau trosglwyddadwy i’ch helpu i ddatblygu yn eich gyrfa.

Mae llawer o'n timau wedi symud i weithio ar-lein a gweithio gartref, a byddwch yn cael eich annog i ddatblygu'r sgiliau er mwyn cefnogi hyn. Pan fo angen gweithio gartref, bydd yr offer angenrheidiol yn cael ei roi i chi. Fodd bynnag, bydd angen i chi drefnu eich cysylltedd rhyngrwyd eich hun (efallai y bydd rhywfaint o gymorth ar gael i helpu gyda hyn).

Efallai bydd angen gweithio gyda’r nos ac ar benwythnosau ar sail rota.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i barhau i ddarparu gwasanaethau hyd yn oed yn ystod y cyfnodau mwyaf heriol. Rydym yn chwilio am unigolion sydd â diddordeb yn ein gwaith ac sy’n awyddus i ddysgu yn y rôl ac i’n helpu i wneud gwahaniaeth i'n cwsmeriaid trwy ddarparu gwasanaethau cyhoeddus rhagorol yng Nghaerdydd.

Mae ein **Hyfforddeion** Corfforaethol yn ennill profiad gwerthfawr wrth weithio i'r Cyngor mwyaf yng Nghymru. Er na allwn warantu y bydd yr ymgeisydd a benodir yn mynd ymlaen i sicrhau rôl arall ar ddiwedd y contract cychwynnol hwn, caiff ei gefnogi a'i annog i achub ar y cyfleoedd niferus sydd ar gael yn ein sefydliad er mwyn datblygu ei yrfa.

**Gwybodaeth Ychwanegol**

Nid yw’r swydd hon yn addas i’w rhannu.

Dyma swydd dros dro am 6 mis os caiff ei gweithio'n llawn amser neu'n hirach os caiff ei gweithio'n rhan amser. Mae'r rhan fwyaf o rolau yn seiliedig ar wythnos waith 37 awr, er y gellir gweithio llawer o rolau'n rhan amser.

Mae Tâl Atodol y Cyflog Byw’n berthnasol i’r cyflog hwn sy’n dod â’r gyfradd tâl sylfaenol i £10.90 yr awr. Bydd y tâl atodol yn cael ei adolygu bob mis Ebrill. Ceidw Cyngor Caerdydd yr hawl i wneud unrhyw newidiadau i dâl atodol y Cyflog Byw neu ei ddileu.

Wrth gwblhau eich cais ar-lein, dylech deilwra eich cais i'r rôl yn yr adran **Gwybodaeth Ategol**, gan nodi sut rydych yn bodloni pob un o'r meini prawf hanfodol a restrir ar y Fanyleb Person. Dylech hefyd nodi sut rydych yn bodloni'r meini prawf dymunol gan y gallem ddefnyddio'r rhain i lunio'r rhestr fer os bydd nifer fawr o ymgeiswyr yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol. Mae adran Gwybodaeth Ategol y ffurflen gais ar-lein wedi'i chyfyngu i 4,000 o nodau - gallwch lanlwytho Gwybodaeth Ategol ychwanegol ond peidiwch â chyflwyno CV gan nad yw’n debygol o gynnig y wybodaeth sydd ei hangen. Darllenwch y canllaw ar sut i wneud cais ac ewch i.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Os oes angen help arnoch gyda'ch cais, cysylltwch â'n Hafan - Into Work (intoworkcardiff.co.uk)

Job Reference: PEO03460