Uwch Gynorthwydd Clercaidd

3 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru, gan gynnig cyfle i weithwyr cymdeithasol weithio gyda phoblogaeth hynod amrywiol sydd ag amrywiaeth o anghenion gofal a chymorth. Fel yr awdurdod lleol mwyaf yng Nghymru rydym yn cefnogi bron i 5000 o unigolion i fyw’n dda, gan gynnig strwythur cymorth sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn er mwyn sicrhau eu bod yn gallu bodloni eu hanghenion a’u canlyniadau eu hunain.

Mae ein Gwasanaethau Iechyd Meddwl a Chymorth Arbenigol yn cefnogi amrywiaeth o unigolion gan gynnwys pobl sy'n profi anawsterau iechyd meddwl, problemau camddefnyddio cyffuriau ac alcohol a digartrefedd. Mae’r timau’n gweithio ar y cyd â nifer o bartneriaid gan gynnwys CAVUHB a sefydliadau trydydd sector i ddarparu gwasanaethau i unigolion a theuluoedd i’w helpu i drafod yr heriau y maent yn eu hwynebu a darparu cymorth parhaus lle bo angen.

Mae’r timau o fewn ein gwasanaeth yn cynnwys:

- Timau Iechyd Meddwl Cymunedol (TIMC)
- Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Bobl Hŷn (MHSOP)
- Tîm Dyletswydd Argyfwng
- Tîm Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid (DoLS).
- Tîm Fforensig
- Y Tîm Niwroseiciatreg
- Tîm Alcohol a Chyffuriau Caerdydd/Tîm Gwaith Cymdeithasol Canol y Ddinas, Gwasanaeth Pontio/Tîm Niwroamrywiol
- Diwrnod Ty Canna

**Am Y Swydd**
Mae swydd Cefnogi Tîm gweithredol allweddol yn bodoli o fewn y tîm Iechyd Meddwl.

Bydd y prif gyfrifoldebau yn cynnwys:

- Prosesu gwybodaeth aml-asiantaeth.
- Rheoli'r rhyngwyneb rhwng cronfeydd data iechyd a gwasanaethau cymdeithasol
- Rheoli galwadau ffôn sy'n dod i mewn
- Prosesu geiriau
- Cynnal a diweddaru cronfeydd data cyfrifiadurol
- Cefnogaeth i gyfarfodydd
- Cefnogaeth weithredol gyffredinol i'r tîm

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus ddangos sgiliau gofal cwsmer rhagorol, sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig clir a sgiliau bysellfwrdd a chronfa ddata profedig. Byddwch hefyd angen sgiliau ffôn a rhifedd rhagorol a'r gallu i gynhyrchu gwaith cywir o ansawdd uchel, yn ogystal â sgiliau trefnu profedig.

Mae'r swydd yn cynnwys ystod eang ac amrywiol o dasgau sy'n newid yn aml, felly byddai angen i chi ddefnyddio'ch menter, gallu gweithio dan bwysau mewn amgylchedd prysur, a bod yn ymrwymedig i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i gwsmeriaid a chydweithwyr. Byddwch yn gweithio mewn tîm amlddisgyblaethol.

Mae angen i chi fod ag agwedd anfeirniadol at bobl sy'n defnyddio gwasanaethau a rhaid ichi fod yn barod i weithio'n hyblyg fel rhan o dîm i ddiwallu anghenion newidiol cwsmeriaid, a all gynnwys gweithio o ganolfannau tîm eraill.

Byddai'r gallu i siarad ieithoedd eraill, yn enwedig y Gymraeg, ac Ieithoedd Cymunedol yn fantais.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Cyfeiriwch at y Swydd Ddisgrifiad a’r fanyleb person a dywedwch wrthym sut yr ydych yn bodloni’r meini prawf a nodir yn y rhain wrth gwblhau eich cais, a nodwch nad ydym yn derbyn CV fel cais am y swydd.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg ac ni fydd ceisiadau Cymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol.

Fel arfer cynhelir cyfweliadau ar Dimau ond os byddai'n well gennych gael cyfweliad wyneb yn wyneb, rhowch wybod i ni.

Mae'r swydd hon yn amodol ar wiriad safonol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Rhaid i ymgeiswyr mewnol sy'n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar secondiad gael cymeradwyaeth cyn gwneud cais gan ddefnyddio Ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y Cyfarwyddwr perthnasol neu uwch swyddog enwebedig ar radd dim is na OM2 neu'r Pennaeth / Corff Llywodraethu yn achos staff mewn ysgolion all gymeradwyo ceisiadau.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO02621



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Tîm Rheoli Plâu yn darparu gwasanaeth rheng flaen prysur i bob trigolyn a busnes yng Nghaerdydd. Rydym yn chwilio am Uwch Gynorthwy-ydd Clercaidd sy’n siarad Cymraeg i gynorthwyo gyda’r gwaith o ddelio gydag ymholiadau am y gwasanaeth, cymryd archebion a rhoi cyngor i'r cyhoedd. Mae'r rôl hefyd yn gyfrifol am archebu...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Tîm Rheoli Plâu yn darparu gwasanaeth rheng flaen prysur i bob trigolyn a busnes yng Nghaerdydd. Rydym yn chwilio am Uwch Gynorthwy-ydd Clercaidd i gynorthwyo gyda’r gwaith o ddelio gydag ymholiadau am y gwasanaeth, cymryd archebion a rhoi cyngor i'r cyhoedd. Mae'r rôl hefyd yn gyfrifol am archebu cyflenwadau, anfonebu...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Yr Hyb Diogelu Amlasiantaethol (y MASH) yw'r pwynt cyswllt cyntaf i unrhyw un a allai fod yn poeni am les plentyn yng Nghaerdydd. Mae'r MASH yn ymateb i aelodau'r cyhoedd, ac i weithwyr proffesiynol a allai fod angen cyngor neu sydd eisiau adrodd am bryderon. Mae ansawdd ac amseroldeb y wybodaeth a gesglir ac a gofnodir yn helpu i lunio...