Gweithiwr Pontio Cynhwysiant

4 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae'r Tîm Cynhwysiant yn gweithio gyda gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol ac anableddau, eu teuluoedd a'u lleoliadau addysg gan eu cefnogi a chydlynu i sicrhau bod dysgwyr yn cael mynediad i'w hawl gyda phontio di-drafferth i ystod o leoliadau. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â rhieni/gofalwyr, gwasanaethau addysg, a gweithwyr proffesiynol eraill ar draws addysg, gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd.

Mae'r Tîm Cynhwysiant yn monitro ac yn cefnogi lleoliadau addysg i gynnwys pob plentyn a pherson ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol ac anableddau i gael mynediad i'w hawl, eu hamgylchedd a gwneud cynnydd.

**Am Y Swydd**
Mae cyfle cyffrous wedi codi i Weithiwr Pontio weithio gyda'r Tîm ADY ôl-16, fel rhan o'r Tîm Cynhwysiant ehangach o fewn y Gwasanaeth Addysg a gyda phartneriaid mewn llawer o wahanol asiantaethau.

Mae'r rôl yn canolbwyntio ar weithio gyda phlant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol (a'u rhieni/gofalwyr). Byddwch yn gweithio ar draws lleoliadau addysg uwchradd ac addysg bellach, a chartrefi ledled Caerdydd ac allan o awdurdod i gefnogi eu pontio i addysg bellach ac uwch, hyfforddiant, cyflogaeth neu wasanaethau yn y gymuned fel y bo'n briodol. Byddwch yn sicrhau eu bod yn cael mynediad i'w hawliau statudol o fewn terfynau amser gorfodol ac yn cael cyfle i wneud cynnydd da tuag at gyflawni eu nodau a'u dyheadau ar gyfer y dyfodol.

Byddwch yn ymarferydd annibynnol sydd â'r sgiliau a'r gallu i weithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd fel rhan o dîm amlddisgyblaethol. Byddwch yn datblygu rhwydweithiau effeithiol ac yn cynnal partneriaethau cydweithredol ârhanddeiliaid ym maes iechyd, addysg, gofal cymdeithasol a sefydliadau trydydd sector.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Rydym yn chwilio am unigolyn trefnus, llawn cymhelliant ac angerddol a all ymuno â'n tîm blaengar deinamig i wella canlyniadau i blant a phobl ifanc trwy weithio mewn partneriaeth.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Mae’r swydd hon yn destun Gwiriad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles, ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a phob ysgol.

Swydd dros dro yw hon tan 31 Awst 2023.

Rhaid i ymgeiswyr mewnol sy'n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar sail secondiad gael cymeradwyaeth cyn gwneud cais gan ddefnyddio Ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y Cyfarwyddwr / Cyfarwyddwr Cynorthwyol / Prif Swyddog neu uwch swyddog enwebedig perthnasol ar radd nad yw’n is na RhG2, neu yn achos staff mewn ysgolion, y Pennaeth / Corff Llywodraethu, all gymeradwyo ceisiadau.

Mae hon yn swydd lawn amser a bydd deiliad y swydd yn gweithio 37 awr yr wythnos dros 52 wythnos (nid amser tymor).

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Nodwch nad yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:
Canllaw ar Wneud Cais

Ymgeisio am swyddi gyda ni

Fframwaith Cymwyseddau Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter Cyflogeion

Recriwtio Cyn-Droseddwyr

Hysbysiad Preifatrwydd

Atodiadau

Manyleb Person

Disgrifiad Swydd

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: EDU00682



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r gwasanaeth Niwroamrywiaeth yn wasanaeth newydd sy'n datblygu ac yn rhan o Wasanaethau Cymdeithasol Oedolion. Byddwn yn gweithio gydag oedolion sydd â diagnosis o niwroamrywiaeth gan gynnwys Awtistiaeth, Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd a Syndrom Tourette’s sydd ag anghenion gofal a chymorth. Mae'r tîm yn...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r swydd hon yn cynnwys atodiad marchnad gwerth £3,000 yn ychwanegol at y cyflog rhestredig. Mae'r gwasanaeth Niwroamrywiaeth yn wasanaeth newydd sy'n datblygu ac yn rhan o Wasanaethau Cymdeithasol Oedolion. Byddwn yn gweithio gydag oedolion sydd â diagnosis o niwroamrywiaeth gan gynnwys Awtistiaeth, Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Bydd y rôl hon yn cael Taliad Atodol ar Sail y Farchnad o £3,000 (cyfwerth ag amser llawn) a adolygir yn flynyddol.** Mae'r gwasanaeth Niwroamrywiaeth yn wasanaeth newydd sy'n datblygu ac yn rhan o’r Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion. Byddwn yn gweithio gydag oedolion sydd wedi cael diagnosis o niwroamrywiaeth gan gynnwys...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i Weithiwr Cymdeithasol cymwys ymuno â’r Tîm Gofal Maeth fel Gweithiwr Cymdeithasol Asesiadau Pontio GGA (Gorchymyn Gwarcheidiaeth Arbennig). Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â Chaerdydd, sy’n Awdurdod ar daith weithredu sy’n defnyddio’r dull Arwyddion Diogelwch i ganolbwyntio ar gynorthwyo ein...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru, gan gynnig cyfle i weithwyr cymdeithasol weithio gyda phoblogaeth hynod amrywiol gydag amrywiaeth o anghenion gofal a chymorth. Fel yr awdurdod lleol mwyaf yng Nghymru rydym yn cefnogi bron i 5000 o unigolion i fyw'n dda, gan gynnig strwythur cymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn iddynt i...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru, gan gynnig cyfle i weithwyr cymdeithasol weithio gyda phoblogaeth hynod amrywiol gydag amrywiaeth o anghenion gofal a chymorth. Fel yr awdurdod lleol mwyaf yng Nghymru rydym yn cefnogi bron i 5000 o unigolion i fyw'n dda, gan gynnig strwythur cymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn iddynt i...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnig ystod o ddarpariaethau ar gyfer pobl ifanc 11 i 25 oed ac mae’n cynnwys tîm o weithwyr ieuenctid proffesiynol ymroddgar sy’n gweithredu ledled y ddinas. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys canolfannau ieuenctid, darpariaethau arbenigol, timau mentora ieuenctid a gwaith ieuenctid stryd ac mae pob...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **About The Service** Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnig ystod o ddarpariaethau ar gyfer pobl ifanc 11 i 25 oed ac mae’n cynnwys tîm o weithwyr ieuenctid proffesiynol ymroddgar sy’n gweithredu ledled y ddinas. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys canolfannau ieuenctid, darpariaethau arbenigol, timau mentora ieuenctid a gwaith ieuenctid stryd ac mae...